Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

 

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai’r wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn ystod yr eitemau canlynol gan yr ystyried eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol1972 (fel y’i diwygiwyd).     

 

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd Aelodau’r Is Bwyllgor a swyddogion y Cyngor. Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd a oedd yn dymuno gohirio’r gwrandawiad fel y gallai gael cymorth gwasanaethau cyfieithydd. Dywedodd yr ymgeisydd nad oedd angen cyfieithydd arno a chadarnhaodd ei fod yn gallu clywed a deall yr achos. Esboniodd y Cadeirydd drefn y gwrandawiad, yn cynnwys sub byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru (Ar y Cyd) ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni, sy’n cael ei drwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol, fodd bynnag, nid oedd yr ymgeisydd wedi llenwi’r rhan hon o’r ffurflen gais.  Wedi derbyn cofnodion uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar yr ymgeisydd, gwelwyd euogfarn am guro. Atodwyd manylion yr euogfarn i’r adroddiad Gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu eglurhad ysgrifenedig o’r euogfarn a hefyd pam y methodd lenwi adran 5 y ffurflen gais. Atodwyd ymateb yr ymgeisydd fel atodiad C i’r adroddiad. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is Bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn am ei euogfarn flaenorol fel y manylwyd arni ar ddatgeliad cofnodion troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei eglurhad ysgrifenedig oedd yn manylu ar ei euogfarn a rhoddodd wybodaeth gefndir am sut y cyflawnwyd y drosedd. Atebodd y cwestiynau ynghylch pa mor hir roedd wedi byw yn y Deyrnas Unedig, ei amgylchiadau personol a theuluol, a’i gefndir gwaith.

 

Holodd y Cyfreithwyr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarn am guro a’i fethiant i ddatgelu hynny ar adran 5 y ffurflen gais. Dywedodd yr ymgeisydd fod arno gywilydd am ei drosedd ond nad oedd yn credu ei fod yn euog ac esboniodd ei fod yn groes i’w gymeriad ac wedi digwydd ar adeg o anghydweld domestig.  Ailadroddodd yr amgylchiadau a oedd wedi arwain at a dywedodd, er gwaetha’r euogfarn, ei fod yn parhau i gael bywyd teuluol sefydlog. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â rhoi manylion ei euogfarn ar y ffurflen ond roedd o’r farn nad troseddwr mohono.

 

Cyn holi ymhellach gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a oedd yn deall yn llawn y cwestiynau oedd yn cael eu gofyn a thrafodion y gwrandawiad ac a oedd angen gwasanaeth cyfieithydd. Atebodd yr ymgeisydd ei fod yn gallu clywed a deall ac nad oedd angen cymorth gan gyfieithydd.

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am adran 7 y ffurflen gais a oedd yn gofyn am eirda a gofynnod pam nad oedd wedi rhoi manylion ei gyflogwr diwethaf fel canolwr. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr hefyd at adran 4 a oedd yn gofyn am fanylion cyflogaeth a hefyd eglurhad am y rheswm dros adael. Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd mewn manylder am ei gyflogaeth flaenorol a’i reswm dros adael. Esboniodd yr ymgeisydd ei fod wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr diwethaf  a rhoddodd fanylion yr amgylchiadau a arweiniodd at ei ddiswyddiad. Yn y fan hon, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ysgrifenedig a oedd yn rhoi manylion ei euogfarn am ymosodiad ar weithiwr arall a oedd wëid digwydd yn ei weithle. Datgelodd yr ymgeisydd hefyd ei fod wedi bod yn y llys yn ddiweddarach wedi derbyn dirwy a dedfryd ohiriedig, ac wedi cael  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

GWRANDAWIAD DAU

 

YN BRESENNOL: Cynghorydd Tony Sharps (Cadeirydd)

Cynghorwyr: David Cox a Mike Reece

 

SWYDDOGION CYNGOR SIR Y FFLINT

Cyfreithiwr, Arweinydd y Tîm Trwyddedu a Swyddog Pwyllgor Sir y Fflint

 

Yr Ymgeisydd

 

 

Cyn dechrau’r cyfarfod esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi gofyn i’w gyflogwr cyfredol gael bod yn bresennol yn y cyfarfod. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod yn dymuno i’w gyflogwr fod yn bresennol a gofynnodd am ganiatâd iddo siarad ar ei ran os oedd angen.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’r Parti a Diddordeb a chyflwynodd Aelodau’r Is-Bwyllgor a swyddogion y Cyngor. Eglurordd beth fyddai trefn y gwrandawiad, yn cynnwys sut byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

4.         CAIS AM DRWYDDED YRRU (AR Y CYD) CERBYD HURIO PREIFAT  CERBYD HACNI

 

                        Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru (Ar y Cyd) ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni, wedi’i drwyddedu gan yr Awdurdod.

 

Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol, fodd bynnag nid oedd yr ymgeisydd wedi llenwi’r rhan hon o’r ffurflen. Wedi derbyn datgeliad troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), daeth euogfarn i’r amlwg. Atodwyd manylion llawn yr euogfarn at yr adroddiad. Gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu esboniad ysgrifenedig am yr euogfarn a’i fethiant i gwblhau adran 5 o’r cais ac atodwyd hwn hefyd at yr adroddiad. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is Bwyllgor Trwyddedu iddynt benderfynu a oedd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru (Ar y Cyd)

 

                        Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd egluro amgylchiadau ei euogfarn fel y manylwyd arni yn yr adroddiad. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi cyrraedd y Derynas Unedig yn 2005 ac wedi rhoi manylion ei amgylchiadau personol yr adeg honno a’i angen i ddod o hyd i waith taladwy ar frys. Dywedodd ei fod wedi cael cerdyn cofrestru drwy gyswllt iddo a oedd yn delio â’r materion hyn a bod y cerdyn wedi’i alluogi i ddod o hyd i waith. Fodd bynnag, yn dilyn ymweliad ac ymholiadau gan swyddogion mewnfudo yn ei le gwaith, daeth i’r amlwg fod ei gerdyn cofrestru yn anghyfreithlon ac yn sgil hynny fe’i cafwyd yn euog o ddefnyddio cerdyn cofrestru wedi’i newid gyda’r bwriad o dwyllo.

 

                        Cwestiynodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei hanes cyflogaeth a gofynnodd iddo egluro pam nad oedd wedi datgelu ei euogfarn ar ei gais. Eglurodd yr ymgeisydd nad oedd wedi sylweddoli fod y cerdyn cofrestru yn ffug. Dywedodd ei fod wedi bod o dan y camargraff nad oedd angen iddo ddatgelu ei euogfarn gan iddi gael ei chyflawni yn 2009 a hefyd nad oedd yn si?r a oedd yn berthnasol i’w gais fel trosedd. Gofynnodd y Cyfreithiwr am wybodaeth bellach gan yr ymgeisydd ynghylch sut roedd wedi dod i hyd i waith yn dilyn ei euogfarn. Eglurodd yr ymgeisydd, pan oedd yn y ddalfa, ei fod wedi gwneud cais, gyda chymorth swyddogion mewnfudo, am gerdyn cofrestru newydd a gafodd ei  ...  view the full Cofnodion text for item 4.