Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Reece gysylltiad personol gan ei fod yn adnabod un o ganolwyr a oedd wedi’u rhestru yn y cais. Cafodd gyngor cyfreithiol a nid oedd y cysylltiad yn rhagfarnus.   

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i'r cyfarfod.  Cyflwynodd aelodau’r panel ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu arno.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).  Y rheswm bod y cais gerbron yr Is-bwyllgor oedd oherwydd troseddu mynych er bod cyfnod o dros 10 mlynedd ers yr collfarn diwethaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd ac aelodau’r Is-bwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd, yn arbennig mewn perthynas â chollfarnau penodol, ac ymatebodd yr ymgeisydd.  Hefyd gofynnodd y Cyfreithiwr gwestiynau penodol mewn perthynas â phob collfarn.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi sylwadau.  Rhoddodd fanylion ar y cefndir a arweiniodd at y troseddau sydd wedi digwydd, gan egluro ei bod yn unigolyn gwbl wahanol yn ystod y cyfnod 2003 a 2006 pan cyflawnwyd y troseddau.  Roedd wedi symud o’r ardal, ac wedi cael cwmni newydd a gwneud bywyd newydd iddi ei hun ac wedi cael dau fab, sydd yn oedran ysgol bellach.  Roedd eisiau gallu darparu iddynt, a roedd hyn yn gyfle da i weithio oriau hyblyg a fyddai’n gweddu ei bywyd cartref gyda theulu.   Rhoddodd fanylion am y cyfnod anodd hwn yn ei bywyd a'r rhesymau yr oedd yn teimlo ei bod yn cymryd cyffuriau.

 

Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn unigolyn cymwys ac addas.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad. 

 

Penderfyniad

                      

Wrth benderfynu ar y cais, roedd yr is-bwyllgor wedi ystyried y sylwadau a wnaethpwyd a bod troseddu mynych wedi digwydd, gan nodi nad oedd unrhyw drosedd wedi digwydd ers dros 12 mlynedd.  Cytunodd yr Is-Bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod ac i’w hysbysu o’u penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.