Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Davies-Cooke gysylltiad personol yn yr ystyr ei bod wedi ymgymryd â thrafodiad busnes gyda chynrychiolydd yr ymgeisydd a darpar gyflogwr y dyfodol, Mr Davies.  Roedd hi wedi cael cyngor cyfreithiol ac nid oedd y cysylltiad yn rhagfarnu.   

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr y dyfodol i’r cyfarfod.  Cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).  Y rheswm bod y cais gerbron yr Is-bwyllgor oedd oherwydd y troseddu parhaus, er gwaethaf pwl o dros 10 mlynedd ers yr euogfarn diwethaf.

 

Gofynnodd y Cadeirydd ac aelodau o’r Is-bwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd, yn ymwneud yn benodol ag euogfarnau penodol, ac fe ymatebodd yntau.  Gofynnodd y Cyfreithiwr gwestiynau penodol yn ymwneud â phob euogfarn hefyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i wneud sylwadau.  Rhoddodd fanylion am y cefndir a arweiniodd at y troseddau a gyflawnwyd, gan egluro ei fod yn gymeriad hollol wahanol yn ystod 1992 a 1997 adeg y troseddau.  Roedd wedi symud o'r ardal a'r rhwydwaith cymdeithasol a oedd ganddo yno ac wedi gwneud bywyd newydd iddo'i hun. Nid oedd wedi bod mewn unrhyw drafferth ers hynny, a oedd dros 20 mlynedd yn ôl.  Diolchodd y Cadeirydd i Mr Hughes am ei onestrwydd wrth ateb y cwestiynau.

 

Gwahoddwyd Mr Davies i annerch yr Is-bwyllgor a dywedodd fod Mr Edwards yn chwaraewr tîm da a'i fod wedi bod yn onest ac yn agored gydag ef ers iddo wneud cais am swydd gyda’i gwmni.  Roedd yn ymddiried yn Mr Hughes a dywedodd ei fod yn dod ymlaen yn dda gyda'r gweithwyr eraill.

 

Dywedodd yr ymgeisydd hwn ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd, ei ddarpar gyflogwr yn y dyfodol a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad. 

 

Penderfyniad

                      

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau a wnaed a'r troseddau niferus a ddigwyddodd, gan nodi nad oedd unrhyw droseddu wedi digwydd mewn dros 20 mlynedd.  Teimlai’r Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod a rhoi gwybod am y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.