Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyriwyd fod yr eitem yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

3.

Cais i Drosglwyddo Trwydded Gweithredwr Llogi Preifat

I'r Aelodau ystyried cais i drosglwyddo trwydded gweithredydd llogi preifat a phenderfynu a yw'r ymgeiswyr yn addas ac yn briodol i ddal y drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais i drosglwyddo Trwydded y Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat. Dangoswyd y cais yn Atodiad A. Roedd deiliaid presennol y drwydded wedi darparu eu caniatâd ysgrifenedig i’r trosglwyddo a dangoswyd hyn yn Atodiad B ac Atodiad C.

 

            Dechreuodd y Cyfreithiwr ar ei gwestiynau i’r Ymgeiswyr a gofynnodd am ba hyd yr oedden nhw wedi dal eu trwyddedau.

 

            Rhoddodd yr ymgeiswyr fanylion yngl?n â hanes eu trwydded, ond roedd yna beth dryswch fodd bynnag yn ymwneud â’r dyddiadau y rhoddwyd y drwydded flaenorol i Ymgeisydd (b) a gofynnwyd i Arweinydd y Tîm Trwyddedu gael eglurhad yngl?n â hyn.  Gohiriwyd y cyfarfod ar 2.22 pm

 

Ail ddechreuodd y cyfarfod am 2.29 pm a rhoddodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu eglurhad yngl?n â’r wybodaeth oedd ar y system drwyddedu yngl?n ag Ymgeisydd (b). 

 

            Yna gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Ymgeiswyr pam y dylai’r Panel gefnogi’r cais hwn.

          Mewn ymateb cyfaddefwyd y camgymeriadau oedd wedi'u gwneud yn y gorffennol. Ond roeddent wedi dysgu ohonynt ac yn hyderus gyda chymorth deiliad presennol y drwydded na fyddent yn gwneud yr un camgymeriadau eto.

 

            Gofynnwyd i'r Ymgeiswyr ddarllen eu negeseuon e-bost ar dudalen 15 a 17 ac fe wnaed hynny.

           Mewn ymateb i nifer o gwestiynau a godwyd gan y Cyfreithiwr rhoddodd yr Ymgeiswyr eglurhad ar y digwyddiad a arweiniodd at dderbyn yr 17 pwynt ar Drwydded y Gweithredwr.

           

            Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y troseddau'n ymwneud â gyrru heb yswiriant a gofynnodd sut yr oedd hyn wedi digwydd.

            Mewn ymateb cyfeiriodd yr Ymgeiswyr at fwrgleriaeth a ddigwyddodd yn y swyddfa a rhoddwyd gwybodaeth gefndir yn ymwneud â'r amgylchiadau a arweiniodd at yr erlyn.  Ychwanegodd ei fod wedi cael cadw ei drwydded ar sail caledi eithriadol ond cafodd ei wahardd rhag gyrru am 8 diwrnod.

 

            Yna gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad ar eu swyddogaethau yn y cwmni tacsi blaenorol.  Cadarnhawyd mai dim ond gyrwyr oeddent.

 

            Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y cais ac at dudalen 4 a gofynnodd pam y gwrthodwyd y drwydded ond gwrthodwyd yr apêl yn y Llys Ynadon.              Atebodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu drwy ddweud nad oedd yn sicr beth oedd y polisi ar y pryd a’i fod yn wahanol i’r polisi sydd mewn grym erbyn hyn. Rhoddodd eglurder ar linell amser y drwydded. 

 

            Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at dudalen 8, rhan 6 manylion yr ymgeisydd “a oes unrhyw unigolyn yn 1 uchod erioed wedi eu gwrthod o ran trwydded cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni neu fod trwydded o’r fath wedi ei atal / diddymu” a gofynnodd pam ei fod wedi croesi ‘do a na’ ac wedi ysgrifennu ‘na’ oddi tano.


           
Wrth ymateb dywedodd Ymgeisydd (a) nad oedd ei drwydded erioed wedi ei diddymu a dywedodd Ymgeisydd (b) ei fod wedi bod i’r llys a bod y drwydded wedi ei rhoi.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yna fwriad i gamarwain ac ymatebodd y ddau nad oedd yna fwriad.

 

            Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at yr un dudalen (b) euogfarnau neu rybuddion – a gofynnodd pam fod  ...  view the full Cofnodion text for item 3.