Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cais i drwyddedu cerbyd nad yw’n cwrdd manyleb y cerbyd pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I Aelodau ystyried cais gan Weithredwr Cerbydau Hurio Preifat I wyro oddi wrth ein manyleb cerbyd benodol er mwyn galluogi trwyddedu Renault Master wedi’I addasu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd, cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y weithdrefn ar gyfer y gwrandawiad.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i Aelodau ystyried cais gan Weithredwr Cerbydau Hurio Preifat trwyddedig i ymadael â’r manyleb cerbyd a gytunwyd fel y gellid trwyddedu’r cerbyd nad oedd yn cwrdd â lleiafswm y gofynion.

 

Roedd gan y Cyngor Fanyleb Cerbyd Hurio Preifat a oedd yn galluogi ymgeiswyr i ddeall beth oedd ei angen wrth ymgeisio i drwyddedu cerbyd ar gyfer Hurio Preifat ac roedd manylion hyn yn Atodiad A i'r adroddiad. Roedd y fanyleb yn cynnwys lleiafswm o ran gofynion ar gyfer cerbydau a’u bwriad oedd i sicrhau diogelwch teithwyr a’u bod yn teithio’n gyfforddus.

 

Yn ddiweddar roedd Renault Master gwyn wedi ei gyflwyno ar gyfer MOT a phrawf cydymffurfedd yn un o’r modurdai a enwebwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â phrofi Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni. Cysylltodd y sawl oedd yn profi â’r Adran Drwyddedu i roi gwybod nad oedd rhai o’r seddi yn cwrdd â’r gofyniad o isafswm maint o 400mm ac felly o ganlyniad nid oedd y cerbyd yn gallu pasio'r prawf.

 

Roedd y cerbyd yn y gorffennol wedi ei ddefnyddio fel ambiwlans ac roedd ei du mewn ar y ffurf hwnnw. Roedd yna ddwy gadair a oedd hefyd yn gweithredu fel pwyntiau angori cadeiriau olwyn. Roedd y gadair yn datgysylltu o gefn y gadair, a chai’r defnyddiwr cadair olwyn ei angori i gefn y sedd. Nid oedd y ddau bwynt hwn, wrth gael eu defnyddio fel seddi, yn cwrdd â lleiafswm y gofyniad o 400mm. Roedd rhai o’r seddi sefydlog eraill hefyd ychydig yn is na lleiafswm y gofyniad.

 

Roedd y Gweithredwr wedi gofyn i’r Is-bwyllgor Trwyddedu edrych ar y cerbyd gyda’r bwriad o ymadael â lleiafswm y gofynion i alluogi’r cerbyd i gael ei brofi a'i drwyddedu fel Cerbyd Hurio Preifat.  Dangoswyd ei gais ysgrifenedig a lluniau o’r cerbyd fel Atodiadau B ac C i’r adroddiad.

 

Gofynnwyd i Aelodau edrych ar y cerbyd a defnyddio'r seddi, gan sicrhau mai diogelwch ac esmwythdra defnyddwyr oedd eu prif ystyriaeth.

 

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gwerthfawrogi nad oedd y cerbyd yn cwrdd â’r safonau gofynnol, ond ei fod eisiau defnyddio'r cerbyd fel un a allai gynnig mynediad i gadeiriau olwyn, a theimlai fod y cyflenwad o gerbydau o’r fath yn brin yn yr ardal. Roedd yn ymgymryd â gwaith ysbyty ar gyfer BIPBC ac fe wnaeth sylw ar yr amser yr oedd cleifion yn aros am gerbydau addas i'w cludo.  Nid ar gyfer gwaith gyda’r nos roedd prif ddefnydd y cerbyd.

 

Roedd ei gerbyd yn cwrdd â holl ofynion diogelwch VOSA.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu mai dim ond ar gyfer uchafswm o 8 teithiwr y gallai unrhyw gerbyd gael ei drwyddedu, a oedd yn gyfanswm o 9 unigolyn gan gynnwys y gyrrwr.

 

Fe aeth aelodau o’r Is-bwyllgor i weld y cerbyd gan eistedd ymhob un o’r seddi. Dangosodd yr ymgeisydd y pwyntiau angori cadeiriau olwyn a  ...  view the full Cofnodion text for item 2.