Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan eu bod yn cael eu hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
|
|
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu sawl euogfarn flaenorol a nodwyd ar hen ddogfen datgeliad. Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd yr holl euogfarnau a throseddau. Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau, a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau a gyflawnodd yn ystod ei ieuenctid. Ymatebodd i'r cwestiynau a godwyd o ran ei amgylchiadau personol a theuluol a darparodd fanylion am ei gefndir cyflogaeth a’i rôl bresennol yn gweithio ar gyfer sefydliad elusennol.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarnau. Nododd yr ymgeisydd ei fod yn llwyr ddifaru ei holl droseddau ac eglurodd eu bod oll wedi digwydd yn ystod cyfnod o broblemau personol gyda chamddefnyddio sylweddau. Ailadroddodd yr amgylchiadau a arweiniodd atynt a phwysleisiodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw droseddau ers sawl blwyddyn. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi newid ac wedi defnyddio profiad ei orffennol i gynorthwyo pobl sydd mewn amgylchiadau anodd tebyg i newid eu bywydau er gwell.
Pan ofynnwyd iddo, ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn ystyried eu hun yn unigolyn cymwys a phriodol i dderbyn trwydded ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog, cofnod cyflogaeth da a dyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
3.1 Penderfyniad ar y Cais
Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd. Cytunodd y Panel bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
3.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu euogfarn o'r gorffennol. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau gyda throseddau ar wahân. Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd egluro amgylchiadau ei euogfarnau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd yr ymgeisydd fod rhai o’r troseddau wedi’u cyflawni yn ystod ei ieuenctid ac fe gyfeiriodd at ei amgylchiadau personol a theuluol ar y pryd.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei hanes cyflogaeth a gofynnodd iddo egluro pam nad oedd wedi datgelu ei holl euogfarnau ar y cais. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi camddeall ac yn credu nad oedd angen iddo ddatgan ei euogfarnau cynharach gan y cyflawnwyd y rhain sawl blwyddyn ynghynt. Ceisiodd y Cyfreithiwr ragor o eglurhad gan yr ymgeisydd am yr amgylchiadau a’r dedfrydau a roddwyd iddo am ei euogfarnau. Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei ddealltwriaeth a difrifoldeb ei euogfarn am "Ddweud celwydd yn y Llys” a cheisiodd rhagor o wybodaeth am amgylchiadau’r drosedd honno.
Pan ofynnwyd iddo, ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys a phriodol i dderbyn trwydded ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog a’i gofnod cyflogaeth. Dywedodd ei fod eisiau gweithio i gefnogi ei deulu.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
4.1 Penderfyniad ar y Cais
Ar ôl ystyried y cais roedd yr Is-bwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys a phriodol o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd). Fodd bynnag, oherwydd pryderon y panel o ran natur y troseddau, cytunwyd y dylid rhoi trwydded am gyfnod prawf o 12 mis. Byddai’n ofynnol i’r Ymgeisyddymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar ei draul ei hun ac ar adeg briodol a bennir gan yr Adain Drwyddedu.
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
4.2 Penderfyniad
Cynghorodd y Cadeirydd yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod yn unigolyn cymwys a phriodol i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni ac fe’i gymeradwywyd am drwydded am gyfnod prawf o ddeuddeg mis. Eglurodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd y byddai’n ofynnol iddo ymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) Pwrpas:Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu dwy drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus. Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), dangoswyd y ddau euogfarn. Nododd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu eglurhad ysgrifenedig o’i euogfarnau ac roedd hyn wedi’i atodi i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Defnyddiodd yr ymgeisydd y cyfle i ddarparu copïau o eirdaon cymeriad i’r Panel er gwybodaeth. Cyfeiriodd at ei eglurhad o'i euogfarnau a oedd wedi'i atodi at yr adroddiad a darparodd rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau a arweiniodd at gyflawni'r troseddau. Nododd ei fod yn difaru ei euogfarnau a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl a nododd eu bod yn ddigwyddiadau unigol. Pan holodd y Panel yr ymgeisydd darparodd wybodaeth gefndir am ei amgylchiadau personol a’i hanes cyflogaeth ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog a'i gyflogaeth bresennol.
Siaradodd cyflogwr presennol yr ymgeisydd o blaid yr ymgeisydd a darparu trosolwg o natur ei waith. Dywedodd ei fod yn croesawu’r cyfle i gyflogi’r ymgeisydd mewn capasiti pellach a’i fod yn ei ystyried yn ‘ased’ i’w fusnes.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarnau a cheisiodd eglurhad pellach o'r amgylchiadau a arweiniodd at yr ail euogfarn a'r ddirwy a dderbyniodd.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r parti cysylltiedig adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
5.1 Penderfyniad ar y Cais
Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd. Cytunodd y Panel bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd a'r parti cysylltiedig yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
5.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais. PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo’r Drwydded.
(Dechreuodd y trydydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |