Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

To receive any Declarations and advise Members accordingly.

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Y byddai’r wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

3.

Ymddygiad a Chosfarnau am Drwydded Yrru / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) Preifat

Pwrpas: I'rAelodau ystyried ymddygiad a gollfarnau diweddar Gyrrwr Hurio / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd), a phenderfynu a yw'n parhau i fod yn berson addas a phriodol i barhau i ddal y drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried ymddygiad a dedfrydau diweddar Gyrrwr Cerbydau Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd) ac i benderfynu a oedd yn parhau i fod unigolyn cymwys ac addas i barhau i ddal trwydded o’r fath.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd gan y Cadeirydd i wneud sylwadau, a darparodd wybodaeth ar ei ddedfryd goryrru diweddar, gan egluro’r rhesymeg y tu ôl i’w benderfyniad dros dderbyn gwaharddiad gyrru byr yn hytrach na phwyntiau cosb ychwanegol.  Esboniodd sut y bu ar frys i godi teithiwr rheolaidd yr oedd angen cymorth arni o ganlyniad i’w hanabledd.  Esboniodd ei fod wedi lleihau nifer yr oriau a’r dyddiau a weithiai ers y ddedfryd er mwyn sicrhau na fyddai effaith ar ei allu i ganolbwyntio yn y dyfodol.

   

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd wedi eu cynnwys ar y rhaglen a rhannodd wybodaeth gefndirol ar y cwynion a wnaed yn ei erbyn.  Ymatebodd i gwestiynau a godwyd gan y panel.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r panel, darparodd yr ymgeisydd eglurhad ynghylch amrywiol agweddau ar y cwynion ac hefyd ar ei gefndir mewn cyflogaeth, gan nodi iddo gael ei gynghori i osod camera ar banel flaen y cerbyd er mwyn ei amddiffyn ei hun rhag unrhyw gwynion yn y dyfodol.

 

Cafwyd cais gan y Cyfreithiwr am eglurhad ar sylwadau a wnaed gan yr ymgeisydd ar waith diweddar yr oedd wedi ymgymryd ag o.  Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi siarad ag aelod o Dîm Trwyddedu’r Cyngor a oedd wedi ei hysbysu y gallai barhau i weithio nes y byddai’r Is-Bwyllgor Trwyddedu wedi cyfarfod i benderfynu a fyddai’n cael cadw ei drwydded. 

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod y panel yn cyrraedd penderfyniad. 

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

  Wrth ddod i benderfyniad ar y cais, ystyriodd y panel ganllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth â dedfrydau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Rhoddwyd ystyriaeth i’r amgylchiadau ym mhob achos yn ogystal â’r camau rhagofalus yr oedd yr ymgeisydd yn eu cymryd, gan ddod i’r canlyniad fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cytunodd y panel y byddai’n briodol i ddeiliad y drwydded sefyll a phasio’r prawf gwybodaeth yr oedd disgwyl i bob ymgeisydd newydd ei basio cyn bod yn drwyddedig, o fewn chwe wythnos i’r cyfarfod.

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

4.2       Penderfyniad

 

Hysbysodd y Cadeirydd fod y panel wedi cytuno, wedi ystyried y sylwadau a wnaeth, y gallai’r ymgeisydd barhau i ddal trwydded i yrru Cerbydau Hurio Preifat / Cerbyd Hacni.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded             Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth        Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu iddo’r drwydded; ac

 

 (b)      y dylai’r ymgeisydd sefyll a phasio’r prawf gwybodaeth y mae’n rhaid i bob  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Ymddygiad a Chosfarnau o Gyrrwr Hurio Preifat / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) trwyddedig

Pwrpas: I'rAelodau ystyried ymddygiad ac argyhoeddiad diweddar Cyd-yrrwr

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd), ac i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys ac addas i barhau fel deiliad trwydded o’r fath.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd gan y Cadeirydd i wneud sylwadau, gan holi pam ei fod wedi methu â datgelu ei ddedfryd i’r Adain Drwyddedu.  Ymddiheurodd yr ymgeisydd, gan egluro ei fod wedi rhoi gwybod i’w gyflogwr ar unwaith, ond mai esgeulustod ar ei ran oedd peidio â rhoi gwybod i’r Adain Drwyddedu.

   

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd wedi eu cynnwys ar y rhaglen a rhannodd wybodaeth gefndirol ar ei ddedfryd a chwynion a wnaed yn ei erbyn.  Ymatebodd i gwestiynau a godwyd gan y panel.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd eglurhad ynghylch amrywiol agweddau ar ei ddedfrydau ac ar ei gefndir mewn cyflogaeth.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a fyddai’n gwrthwynebu ymgymryd â phrawf seiciatryddol, a chadarnhaodd yr ymgeisydd na fyddai'n wrthwynebus i hyn.

 

Gofynnwyd i berchennog y cwmni tacsi – oedd yn cyflogi’r ymgeisydd ac a oedd wedi dod gydag o i’r cyfarfod – a oeddent yn ystyried fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded. Cafwyd ymateb ganddynt yn nodi eu bod yn credu ei fod.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gwnaeth gais i’r ymgeisydd, ei gynrychiolydd, a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod y panel yn cyrraedd penderfyniad.

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Wrth ddod i benderfyniad ar y cais, ystyriodd y panel ganllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth â dedfrydau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.  Rhoddwyd ystyriaeth i’r amgylchiadau cysylltiedig, gan ddod i’r canlyniad fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cytunodd y panel y byddai’n briodol i’r Adain Drwyddedu dderbyn adroddiadau chwarterol â’r wybodaeth ddiweddaraf gan feddyg teulu’r ymgeisydd, ac y dylid gofyn i’r meddyg teulu atgyfeirio’r ymgeisydd am brawf seiciatryddol. 

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

4.2       Penderfyniad

 

Hysbysodd y Cadeirydd fod y panel wedi cytuno, wedi ystyried y sylwadau a wnaeth, y gallai’r ymgeisydd barhau i ddal trwydded i yrru Cerbydau Hurio Preifat / Cerbyd Hacni.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i fod â Thrwydded            Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol          (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid caniatáu iddo’r drwydded;   ar yr amod llym fod yr ymgeisydd yn derbyn adroddiadau chwarterol gan         ei feddyg teulu, a’i fod yn gwneud cais i’w feddyg teulu am atgyfeiriad i             dderbyn prawf seiciatryddol.