Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

 

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan ei bod yn cael eu hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).         

 

GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor a swyddogion y Cyngor a’r Awdurdod Cyfrifol. Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei bennu. 

3.

Cais am Drwydded Personol

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Personol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu'r adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Bersonol gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu bod y datgeliad sylfaenol yr oedd ei angen yn ôl deddfwriaeth yn rhan o’r broses ymgeisio wedi datgelu euogfarn. Gan fod y trosedd yn euogfarn berthnasol dan Ddeddf Trwyddedu 2003, atgyfeiriwyd y cais at Heddlu Gogledd Cymru i'w ystyried. Gwrthwynebodd Heddlu Gogledd Cymru’r cais gan y gallai fod yn groes i Amcanion Trwyddedu Trosedd ac Anrhefn Deddf Trwyddedu 2003.  Datgelodd Heddlu Gogledd Cymru hefyd bod yr ymgeisydd wedi’i chael yn euog o drosedd yn 2008.  Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor bennu a oedd yr ymgeisydd yn berson addas i ddal Trwydded Bersonol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd pam nad oedd wedi datgelu'r trosedd blaenorol ar ei chais gan ei gwahodd i egluro ei heuogfarn flaenorol. Eglurodd yr ymgeisydd ei bod wedi deall bod ei heuogfarn a ddigwyddodd yn 2008 wedi’i ‘threulio’ ac felly nad oedd angen ei datgan. Eglurodd Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru, mewn perthynas â throseddau traffig ffordd, y gallai gwybodaeth gael ei datgelu hyd at 11 mlynedd ar ôl yr euogfarn.  

 

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd, rhoddodd yr ymgeisydd wybodaeth gefndir ac amlinellodd yr amgylchiadau personol yng nghyd-destun y troseddau a gyflawnwyd. Dywedodd ei bod yn llwyr edifarhau ei hymddygiad yn y gorffennol a dywedodd bod y digwyddiadau a oedd wedi arwain at ei dau drosedd yn unigryw ac yn groes i’w chymeriad. Pwysleisiodd ei bod wedi datblygu’n berson cyfrifol, gonest a gweithgar oherwydd ei phrofiadau ac roedd yn ystyried ei bod yn unigolyn cymwys ac addas yn enwedig i ddal Trwydded Bersonol pe bai ei chais yn llwyddiannus.  

 

Atebodd yr ymgeisydd gwestiynau a godwyd gan yr Is-bwyllgor yngl?n â'i hamgylchiadau personol a theuluol a'i hanes cyflogaeth. Amlinellodd hefyd ei rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol, ei huchelgeisiau am yrfa’n rheoli tafarn yn ogystal â’i phrofiad o oruchwylio wrth weithio mewn safle trwyddedig. Dywedodd yr ymgeisydd ei bod yn ddibynnol ar gael trwydded bersonol i wella ei dewisiadau cyflogaeth a gyrfa, ei hannibyniaeth ariannol a'i sefyllfa deuluol.  

 

Ceisiodd y Cyfreithiwr eglurhad pellach gan yr ymgeisydd yng nghyd-destun peidio â thanseilio Amcanion Deddf Trwyddedu 2003, yn enwedig Atal Trosedd ac Anhrefn.Ceisiodd y Cyfreithiwr eglurder yngl?n ag amgylchiadau ei heuogfarnau a’r dedfrydau a gafwyd amdanynt a holodd yr ymgeisydd yn fanwl yngl?n â’i dealltwriaeth o ddifrifoldeb a goblygiadau materion sy’n ymwneud ag yfed a gyrru. Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd hefyd sut y byddai’n mynd i’r afael â materion yfed a gyrru, tybiaeth o yfed a gyrru ac yfed dan oed gyda chwsmeriaid yn ystod ei chyflogaeth mewn tafarn. 

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd ynghylch ei hamgylchiadau personol a theuluol a gofynnodd a oedd ganddi strategaethau a allai ei helpu yn ystod cyfnodau “anodd”. Soniodd yr ymgeisydd am y gefnogaeth a ddarparwyd gan aelodau ei theulu a’r cymeriad cryf roedd wedi’i ddatblygu o ganlyniad i’w phrofiadau. 

 

Darparodd aelod o deulu’r ymgeisydd ddatganiad ategol i ategu bod yr ymgeisydd yn berson cyfrifol, gonest a gweithgar ac yn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.