Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

2.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnodion:

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

 

PENDERFYNWYD:

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan ei bod yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor a swyddogion y Cyngor.  Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei bennu.    

 

3.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

                        Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu dau euogfarn. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) gan yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau gyda throseddau ar wahân. Gofynnwyd i’r ymgeisydd roi eglurhad ysgrifenedig i roi sylw i’r holl euogfarnau, ac fe atodwyd y rhain i’r adroddiad. Yn sgil natur ac amlder yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.   

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau, a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau. Nododd ei fod wedi cyflawni rhai troseddau yn ei ieuenctid, ac yn difaru gwneud hyn yn fawr iawn, ac eglurodd y rhesymau dros ei weithredoedd. Cyfeiriodd at ei euogfarn diwethaf yn 2003 a dywedodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd ers yr amser hwnnw. Ail-adroddodd ei fod yn difaru ei ymddygiad yn y gorffennol yn fawr iawn, a'i fod wedi datblygu'n unigolyn cyfrifol, gonest, sy'n gweithio'n galed, o ganlyniad i'w brofiadau a'r euogfarnau a wasanaethodd.

 

Atebodd yr ymgeisydd gwestiynau yngl?n â'i hanes cyflogaeth, ac amgylchiadau personol a theuluol. Dywedodd ei fod wedi gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol gyda sefydliadau, fel cyn-droseddwr, i hysbysu ac addysgu pobl a oedd wedi canfod eu hunain mewn amgylchiadau anodd tebyg.

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at euogfarn diwethaf yr ymgeisydd, a cheisiodd ragor o eglurhad ynghylch yr amgylchiadau a oedd wedi achosi'r drosedd a'r ddedfryd a wasanaethodd. Cwestiynwyd yr ymgeisydd yn fanwl gan y Cyfreithiwr ar ei fan preswylio ar yr adeg honno, natur ei gyflogaeth, a'i ddealltwriaeth o faterion yn ymwneud â sylweddau anghyfreithlon.     Ymatebodd yr ymgeisydd i’r cwestiynau ac eglurodd ei fod wedi gweithredu’n ddiffuant o ran ei euogfarn, ond wedi cael ei dwyllo ynghylch pwrpas y dasg roedd wedi cytuno i'w chynnal.  

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd a oedd yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn dibynnu ar incwm o gyflogaeth ar gyfer annibyniaeth ariannol.  Dywedodd ei fod yn mwynhau ei waith a chyfarfod pobl, a’i fod yn unigolyn gofalgar a chymwynasgar. Pan gafodd ei holi am ei ‘ffordd o fyw’ flaenorol, dywedodd ei fod wedi cael diwygiad a oedd yn ceisio gwneud y gorau o'i fywyd. Dywedodd ei fod yn difaru ei benderfyniadau yn y gorffennol a’r amgylchiadau personol a oedd wedi’u hysgogi.

 

 Mewn ymateb i gais gan y Panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei ragolygon cyflogaeth ar gyfer y dyfodol pe bai ei gais yn llwyddo. 

 

 

 

 

 

 

 

                        Pan  ...  view the full Cofnodion text for item 3.