Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Penderfyniad:

Roedd y Cynghorydd Reece yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 3 ar y Rhaglen.

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Reece yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 3 ar y Rhaglen gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd rai blynyddoedd yn ôl er nad oedd erioed wedi ei adnabod yn bersonol.   Dywedodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod enwau aelodau’r panel wedi eu rhannu gyda’r ymgeisydd cyn y cyfarfod ac nad oedd wedi codi unrhyw faterion.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Penderfyniad:

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan eu bod yn cael eu hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 o Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan eu bod yn cael eu hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 o Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

3.

GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AM YR YMGEISYDD

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a'i gynrychiolydd.  Cyflwynodd aelodau’r panel ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y gwneir penderfyniad am y cais.

4.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau ac i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig a oedd wedi eu cynnwys ar y rhaglen a rhannodd wybodaeth gefndir ar yr euogfarnau.  Ymatebodd i gwestiynau a ofynnwyd gan y panel a chymerodd y cyfle i ddosbarthu tystiolaeth gefnogol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad am amrywiol agweddau o’i euogfarnau a hefyd ei gefndir cyflogaeth. 

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad yngl?n â pham bod yr ymgeisydd wedi methu datgelu'r holl euogfarnau ar y ffurflen gais trwyddedu oedd ond yn sôn am un, gan fod y ffurflen yn gofyn yn benodol am unrhyw drosedd.    Dywedodd yr ymgeisydd ei fod yn edifar bod yn euog o drosedd a oedd yn dyddio’n ôl rai blynyddoedd.  Roedd wedi tybio bod y rhain wedi darfod ac roedd yn cydnabod nad oedd wedi bod yn onest yn eu hepgor o'r cais wrth wneud cais am waith.  Hefyd rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad am amgylchiadau’n ymwneud â rhai o’r euogfarnau.  Pan ofynnwyd, ymatebodd gan ddweud ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded er gwaethaf hepgor yr euogfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais.   I gefnogi hyn, cyfeiriodd at ei gefndir gwaith fel gyrrwr, gan ychwanegu ei fod yn rhydd o euogfarnau ers sawl blwyddyn. 

 

Yn dilyn cwestiynau pellach gan y panel, eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr amrywiol drefn trwyddedu yngl?n â cherbydau o wahanol faint.

 

Gofynnwyd i gynrychiolydd o gwmni tacsi, oedd gyda’r ymgeisydd yn y cyfarfod a oeddent yn ystyried yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded ac ymatebwyd gan ddweud eu bod yn credu hynny.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’i gynrychiolydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

4.1       Penderfyniad am yr Ymgeisydd

 

Wrth ddod i benderfyniad am yr ymgeisydd, roedd y panel wedi ystyried canllawiau’r Cyngor ar drin euogfarnau a oedd gyda’r adroddiad.    Wrth ystyried, mynegwyd pryderon am onestrwydd yr ymgeisydd gan ei fod wedi methu â datgelu ei holl euogfarnau.   Fodd bynnag, ystyriodd y panel yr amgylchiadau ym mhob achos a’r cyfnod ers yr euogfarn diwethaf, a theimlwyd bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

4.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd bod gan y panel amheuon am onestrwydd yr ymgeisydd oherwydd ei fethiant i ddatgelu’r holl euogfarnau o’r gorffennol.   Ar ôl ystyried y sylwadau gan bawb, cytunwyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i gyflwyno sylwadau a gofynnodd pam ei fod wedi methu datgelu euogfarnau ar Adran 5 o’r ffurflen gais trwyddedu o ystyried bod yr Awdurdod wedi derbyn euogfarnau blaenorol trwy ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Tra’n egluro ei fod wedi cam ddehongli’r cwestiwn i adlewyrchu unrhyw euogfarnau moduro, pwysleisiodd yr ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth i'w guddio.   Mewn ymateb i ymholiadau gan y panel, rhoddodd eglurhad ar yr amgylchiadau'n ymwneud â’i euogfarnau a ddigwyddodd rai blynyddoedd cynt ac eglurodd amryw o faterion yn ymwneud â’r rhain mewn ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr.    Pan ofynnwyd iddo, roedd yr ymgeisydd yn datgan ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded, gan ddweud ei fod yn awyddus i weithio i gefnogi hyn.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

4.1       Penderfyniad am yr Ymgeisydd

 

Wrth wneud penderfyniad am y cais, roedd y panel wedi ystyried canllawiau’r Cyngor ar drin euogfarnau a oedd gyda’r adroddiad.    Er fod gan y panel bryderon am fethiant yr ymgeisydd i ddatgan ei euogfarnau blaenorol, ystyriwyd amgylchiadau'r euogfarnau hynny a'r amser ers iddynt ddigwydd.    O ganlyniad, roeddent yn ystyried bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod. 

 

4.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y panel wedi ystyried y sylwadau gan bawb, ac ar sail hynny, cytunwyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded.