Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

CYTUNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer trafod yr eitemau canlynol oherwydd ystyrid eu bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio drwy rinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).         

3.

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

                        Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y Cyd), wedi’i thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu nifer o euogfarnau blaenorol. Ar ôl derbyn manylion datgeliad uwch cofnodion troseddol yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), dangoswyd dwy euogfarn, yn dyddio o 1995 a 2013, am bum trosedd ar wahân. Roedd manylion llawn yr euogfarnau wedi’u cynnwys mewn atodiad i’r adroddiad. Dychwelwyd adroddiad Ymholiad Gwrthrych Data D199 gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a oedd yn cynnwys rhagor o fanylion am y troseddau ar y drwydded yrru DVLA a ddatgelwyd gan yr ymgeisydd. 

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu esboniad ysgrifenedig o’i euogfarnau ac roedd hwn wedi’i gynnwys mewn atodiad i’r adroddiad. Oherwydd nifer yr euogfarnau a’u natur, cafodd yr ymgeisydd ei wahodd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gais yr ymgeisydd am Drwydded Yrru (ar y Cyd) a gofynnodd am ragor o wybodaeth yngl?n â’i fanylion gwaith presennol a blaenorol, a’i uchelgais ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd i’r ymgeisydd a oedd y cais ar gyfer gyrru tacsi neu Gerbyd Hurio Preifat, a oedd yn golygu gyrru am gryn amser a chludo teithwyr yn ddiogel i’w cyrchfan, a gofynnodd iddo petai’n llwyddiannus a fyddai’n gallu deall teithwyr a chynnal sgwrs gyda nhw am eu harcheb a’u taith.  Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod yn gallu deall cyfarwyddiadau a sgwrsio gyda theithwyr. Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyeddedu fod yr ymgeisydd wedi cael prawf gwybodaeth am yr ardal leol fel rhan o’i broses ymgeisio a’i fod wedi llwyddo i safon uchel. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r ymgeisydd gynnig esboniad llawn o’i euogfarnau blaenorol a nodwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr esboniad ysgrifenedig a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad a rhoddodd wybodaeth am y troseddau a gyflawnwyd. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau’r Panel holi’r ymgeisydd. Gofynnodd y Panel am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n â’r amgylchiadau a oedd wedi arwain at ei euogfarnau.

 

Cafodd yr ymgeisydd ei holi’n fanwl gan y Cyfreithiwr am ei euogfarnau fel y’u cofnodwyd ar ei gofnod DBS a’i esboniad ysgrifenedig o’r euogfarnau yn 1996 a  2013.  Gofynnodd gwestiynau manwl i’r ymgeisydd yngl?n â’i esboniad ysgrifenedig o ran ei euogfarnau yn 2013 a dywedodd ei fod wedi dweud nad oedd “y naill barti na’r llall wedi cael niwed” yn y digwyddiad.  Gofynnodd i’r ymgeisydd beth oedd ei ddealltwriaeth o ystyr y gosodiad hwn a gofynnodd iddo gadarnhau a oedd yn gywir. Cafodd yr ymgeisydd ei holi gan y Cyfreithiwr a gofynnwyd iddo esbonio amgylchiadau’r drosedd honno a’r camau a gymerwyd ganddo ar y pryd. Esboniodd yr ymgeisydd gan fod yr euogfarnau wedi digwydd sawl blwyddyn yn ôl nad  ...  view the full Cofnodion text for item 3.