Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote attendance meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
|
|
Cais am drwydded yrru cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) Pwrpas: Gofynniri’r Aeoldau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).
Gofynnodd Aelodau’r Panel nifer o gwestiynau y gwnaeth yr Ymgeisydd ddarparu ymatebion manwl.
Gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad os oedd y geiriad ym mhwyntiau 4.13 a 4.15 yn cynnwys y trosedd hwn. Cadarnhawyd ei fod yn drosedd anghyffredin a bod yr arweiniad a gyfeirir ato yn yr adroddiad yn cynnig ychydig o wybodaeth ond ni allai fynd i’r afael â’r holl feini prawf.
Yna parhaodd y Cyfreithiwr i holi yngl?n â nifer o bwyntiau a oedd yn berthnasol i’w euogfarnau blaenorol a throseddau gyrru a methiant i ddatgelu yr un fath ar y cais. Cafwyd eglurhad o ran yr amgylchiadau yn arwain at yr euogfarn a’r amserlen ers ei ryddhau o’r Carchar ac unrhyw amgylchiadau lliniarol.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.
Penderfyniad ar y Cais
Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.
Roedd aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys y manylion am yr euogfarnau, polisi’r Cyngor ar euogfarnau a safonau’r adran drafnidiaeth, yn ogystal â’r eglurhad a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd.
Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr holl euogfarnau blaenorol. Roedden nhw’n fodlon bod y rhai rhwng 1968 a 1976 yn hanesyddol a ddim yn wirioneddol berthnasol ond roedd yr euogfarn yn 2011 yn berthnasol o ran dyddiad yr euogfarn a natur y drosedd. Roedden nhw’n ystyried yr eglurhad a ddarparodd yr Ymgeisydd am yr amgylchiadau yngl?n â’r euogfarn hwn ond nid oedd yr aelodau o’r farn bod hynny’n cael gwared ar y ffaith ei fod wedi’i gael yn euog. Roedd yr aelodau wedi ystyried arweiniad y Cyngor ar euogfarnau ond nid oedden nhw o’r farn ei fod yn darparu unrhyw gymorth iddyn nhw ar gyfer y math yma o drosedd. Fodd bynnag roedd Safonau’r Adran Drafnidiaeth o ryw fath o gymorth iddyn nhw ac roedden nhw wedi ystyried yr arweiniad na fydd trwydded yn cael ei chaniatáu i ymgeisydd oni bai fod o leiaf 10 mlynedd wedi bod ers cwblhau’r ddedfryd am rai troseddau o natur debyg. Ni allai’r ymgeisydd ddarparu’r data i gwblhau’r ddedfryd o garchar ond gallai ddarparu tystiolaeth ei fod wedi cwblhau ei ddedfryd yn y carchar erbyn o leiaf Hydref 2014. Dyma’r aelodau hefyd yn ystyried ei bod yn berthnasol fod yna gosbau eraill wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i euogfarn 2011 ac roedden nhw o’r farn mai dim ond un o’r ffactorau perthnasol oedd y cyfnod o amser ers cwblhau’r cyfnod yn y carchar. Dyma nhw’n ystyried fod yr euogfarn yn ddifrifol ac roedd hynny’n cael ei fynegi gyda natur y gosb. Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried y ffaith bod yr ymgeisydd heb ddarparu manylion o’i gyn-euogfarnau ar y ffurflen gais ac felly nid yn fodlon gyda’r eglurhad hwn. Gan nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 3. |