Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) To receive any Declarations and advise Members accordingly. Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan eu bod yn cael eu hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD YR YMGEISYDD Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel. Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r ymgeisydd yn cael ei bennu. |
|
Cynnal Gyrrwr Hurio / Cerbyd Hacnai (ar y Cyd) Preifat For Members to consider the conduct of a
Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver and to consider
whether he remains a fit and proper person to continue to hold such
a licence. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei euogfarnau goryrru diweddar a chadarnhaodd y rheswm iddo dderbyn gwaharddiad byr rhag gyrru yn hytrach na chael pwyntiau cosb ychwanegol. Dywedodd nad oedd wedi bod yn goddiweddu ar y pryd ac nid oedd yn ymwybodol bod newid yn y terfyn cyflymder ar hyd y darn penodol hwn o'r ffordd. Hefyd eglurodd yr amgylchiadau mewn perthynas â’r pwyntiau cosb yn dilyn euogfarnau blaenorol, a oedd yn dod i ben yn fuan.
Pan gafodd ei wahodd i ofyn cwestiynau, cododd yr ymgeisydd y pwynt o’r arwyddion cyflymder crwn du, a rhoddwyd eglurhad. Wrth ddarparu rhagor o wybodaeth ar ei euogfarn mwyaf diweddar, dywedodd bod mynd yn fwy na’r terfyn cyflymder wedi bod yn ddiffyg canolbwyntio a’i fod wedi dysgu yn dilyn y digwyddiad. Felly nid oedd yn teimlo y byddai bod yn bresennol mewn cwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn angenrheidiol, am ei fod yn yrrwr rheolaidd ac roedd ganddo ddyfais wedi’i osod yn ei gar a fyddai’n helpu i fonitro newidiadau mewn terfynau cyflymder.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu i adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad.
5.1 Penderfyniad am yr Ymgeisydd
I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i gynrychioliadau llafar ac ysgrifenedig yr ymgeisydd, a chanllaw'r Cyngor ar drin euogfarnau sydd yn arwain at gymhwyster cyfnod byr. Wrth ystyried yr amgylchiadau ynghlwm yn y gwaharddiad a'r camau rhagofalus a gymerwyd gan yr ymgeisydd, roedd y panel yn teimlo ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/ Hurio Preifat (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.
5.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd, ar ôl ystyried y cynrychioliadau a wnaethpwyd, cytunodd y panel y bydd yr ymgeisydd yn parhau i gael trwydded yrru cerbyd hacni/ hurio preifat.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu’r Drwydded iddo. |