Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd i’r Pwyllgor.  Eglurwyd yn absenoldeb y Cadeirydd, y byddai’r Is-gadeirydd a benodir angen cadeirio’r cyfarfod hwn ymlaen llaw cyn i Gadeirydd gael ei benodi’n ffurfiol ar ôl y cyfarfod nesaf o’r Cyngor Sir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd i enwebu’r Cynghorydd Ryan McKeown yn Is-gadeirydd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks i enwebu’r Cynghorydd Rob Davies, ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Richardson.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mared Eastwood i enwebu’r Cynghorydd Marion Bateman, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Chrissy Gee.  Wedi hynny, gofynnodd y Cynghorydd Bateman i dynnu ei henw yn ôl.

 

Ar ôl cynnal pleidlais, cafodd enwebiad ar gyfer penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Is-gadeirydd ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ystod y drafodaeth at eitem rhif 5 (cofnod rhif 4), datganodd y Cynghorwyr Marion Bateman a Chrissy Gee gysylltiad personol fel aelodau o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arHydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 6 Hydref 2021, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Richard Lloyd a Rob Davies.

 

Fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman, cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Tony Sharps, cyn Gadeirydd hirdymor y Pwyllgor, i ddiolch iddo am ei wasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a bod llythyr o ddiolch yn cael ei hanfon at gyn Cadeirydd y Pwyllgor.

4.

Diffoddyddion Tân mewn Cerbydau Hurio Preifat pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        I aelodau ystyried newid arfaethedig i Amodau Trwydded ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat o ran diffoddyddion tân.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu a Rheoli Pla) adroddiad yn ystyried newid arfaethedig i Amodau Trwydded Cerbydau Hurio Preifat o ran diffoddyddion tân.

 

Tra bod yr amodau ar hyn o bryd yn nodi bod rhaid i gerbydau gario diffoddwr tân powdr sych wedi’i wasanaethu sy’n pwyso o leiaf 2kg, roedd sylwadau gan Weithredwr Hurio Preifat trwyddedig ar leihau i 1kg, a fyddai’n dod â’r Cyngor yn unol â gofynion awdurdodau cyfagos.  Ceisiwyd cyngor gan y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac roedd yn nodi y gallai diffoddwr tân 1 litr fod yn ddigonol ar gyfer cerbydau sal?n hurio preifat a thacsi du, a byddai diffoddwr 2kg yn fwy priodol ar gyfer cerbydau hurio preifat mwy sydd yn cario 9 neu fwy o deithwyr.  Eglurodd y Rheolwr Tîm fel cerbydau trwyddedig y Cyngor sydd yn cario hyd at 8 o deithwyr, neu 9 gan gynnwys y gyrrwr, gallai’r cyngor gael ei ddehongli’r ffordd arall.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais a ddaeth i law a’r cyngor gan Wwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Cafodd y pedwar opsiwn a awgrymwyd a oedd gofyniad i gario diffoddyddion tân gael ei gymesur i gapasiti’r cerbyd neu a ddylai maint penodol fod yn berthnasol i bob cerbyd.  Hefyd gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried diwygio’r amodau i sicrhau bod diffoddyddion tân yn cael eu gosod yn addas o fewn cerbydau.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Mared Eastwood, nid oedd y Rheolwr Tîm yn gallu cadarnhau amlder yr oedd Diffoddyddion Tân yn cael eu trefnu, ond nodwyd bod cario cyfarpar o’r fath yn fesur diogelwch priodol mewn unrhyw fath o weithle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks Argymhelliad 1.1 (diffoddyddion tân 1kg o leiaf ar gyfer cerbydau sy’n cario 4 teithiwr, a diffoddyddion tân 2kg ar gyfer cerbydau sydd yn cario 5-8 teithiwr) a oedd yn teimlo’n unol â’r cyngor a roddwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, ynghyd ag Argymhelliad 2.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece a ddywedodd y bydd yn dod â’r Cyngor yn unol ag amodau awdurdodau cyfagos fel y nodir yn yr adroddiad hwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm bod Argymhellion 1.1 a 1.2 yn ymddangos i gyd-fynd â’r cyngor a roddwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub.  Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Richard Lloyd, dywedodd bod diffoddyddion tân 1.5kg yn aml iawn yn anodd eu canfod.  Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman, eglurodd bod sail resymegol i ddiwygio’r amodau oedd lleihau’r baich ar y gymuned hurio breifat, gan fod rhai gweithredwyr yn teimlo bod diffoddyddion tân 2kg yn rhy fawr mewn cerbydau capasiti llai, a byddai newid yn rhoi opsiwn i gwmniau cerbydau hurio preifat gyda cheir llai i leihau i 1kg, a hefyd yn alinio’r Cyngor gydag awdurdodau eraill.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Steve Copple yr adroddiad.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Lloyd bod y Cyngor yn cadw’r gofyniad cyfredol i gario diffoddyddion tân o leiaf 2kg ym mhob cerbyd (Argymhelliad 1.4).  Fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

Ar ôl ystyriaeth bellach, tynnodd y Cynghorydd Banks ei  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.