Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

11.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Mehefin 2018.

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. 

 

12.

Deddf Gamblo 2005 Adolygiad o Ddatganiad Polisi Gamblo pdf icon PDF 83 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y gofyniad i adolygu’r datganiad Polisi Gamblo, a darparu drafft terfynol o’r polisi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu Adolygiad o Ddatganiad Polisi Gamblo Deddf Gamblo 2005 oedd yn darparu copi o’r polisi drafft oedd allan i ymgynghoriad. 

 

Byddai’r polisi newydd angen dechrau ar 31 Ionawr 2019 yn unol â’r Ddeddf.

 

O ran y polisi, a sut y byddai’r Cyngor yn cyflawni’r swyddogaethau, mae’n rhaid i’r polisi gynnwys amcanion ar y canlynol:

 

·         Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell o drosedd ac anhrefn, bod yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd;

·         sicrhau bod gamblo’n cael ei wneud yn deg ac yn agored; ac

·         Amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag niwed neu gamfanteisio drwy gamblo.

 

Mae’n rhaid i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r polisi a gallai bara am gyfnod o dair blynedd.    Mae’n rhaid ymgynghori gyda’r canlynol cyn ei gymeradwyo:

 

·         Yr Heddlu;

·         Yr Awdurdod Tân;

·         Un neu ddau o bobl sy’n ymddangos i’r Awdurdod eu bod yn cynrychioli budd unigolion sy’n cynnal busnesau gamblo yn ardal yr Awdurdod; ac

·         Un neu fwy o bobl oedd yn ymddangos i’r Awdurdod eu bod yn cynrychioli budd unigolion sy’n debyg o gael eu heffeithio gan arferion swyddogaethau'r Awdurdod o dan y Ddeddf. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Banks ei bryder am 3.3.6 o’r polisi oedd yn atgyfeirio at bobl ddiamddiffyn a theimlodd nad oedd yna ddigon o amddiffyniad iddynt.  Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu mai cyfrifoldeb pob lleoliad oedd cynnal eu hasesiadau risg eu hunain yn seiliedig ar weithdrefnau’r Cyngor; ni ellir eu pennu ond gellir eu cyfeirio i gyfeiriad Gamcare.

 

Mewn ymateb i ymrwymiad pellach gan y Cynghorydd Banks, eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu bod yr uchafswm betio arian ar gyfer peiriannau gemau’n cael eu pennu gan y Llywodraeth.  Ychwanegodd y Cyfreithiwr os na chaiff y polisi ei gymeradwyo y byddai risg o adolygiad barnwrol gan fod y polisi yn seiliedig ar gyfraith y DU.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r adroddiad.

13.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.