Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r Gr?p Annibynnol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

            Dywedodd y Cynghorydd Tony Sharps wrth y Pwyllgor ei fod wedi’i benodi yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu yn ystod Cyfarfod Blynyddol Cyngor Sir y Fflint a gynhaliwyd ar 1 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Tony Sharps fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

            Enwebodd y Cadeirydd y Cynghorydd Dave Cox fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hynny.

 

            Enwebodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y Cynghorydd Ralph Small ac eiliwyd hynny.

 

            Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Dave Cox yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Dave Cox yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

            Datganodd y Cynghorydd Rob Davies gysylltiad personol â’r eitemau canlynol gan eu bod yn gysylltiedig â’i broffesiwn fel tafarnwr.

 

·         Eitem 7 ar y Rhaglen – Canllawiau diwygiedig a gyflwynwyd o dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003; a

 

·         Eitem 8 ar y Rhaglen – Isafswm Pris Unedau

4.

Cofnodion pdf icon PDF 57 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Hydref 2017.

Cofnodion:

            Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2018 wedi eu dosbarthu gyda’r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Adolygu newidiadau i ofynion meddygol ar gyfer Gyrrwr Hurio Preifat/Gyrrwr Cerbyd Hacni (ar y cyd) pdf icon PDF 85 KB

Adolygu newidiadau i ofynion meddygol ar gyfer Gyrrwr Hurio Preifat/Gyrrwr Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn cynnig newid bach i'r gofynion meddygol ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (ar y cyd) er mwyn sicrhau bod y meddyg teulu a oedd yn cynnal y prawf meddygol yn gallu gweld cofnod meddygol yr unigolyn yn llawn.

 

            Er mwyn dal Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (ar y cyd), rhaid i'r awdurdod fod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas dan ddiffiniad Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. Un o’r ffyrdd y bu i'r Awdurdod fodloni'r maen prawf hwn oedd gofyn i'r ymgeisydd (neu os oedd yn gais i adnewyddu, deiliad y drwydded) ddarparu prawf meddygol a oedd yn bodloni safon Gr?p II y DVLA.  Mabwysiadwyd y safon Gr?p II yn unol â Chanllawiau Arfer Orau’r Adran Drafnidiaeth, ac roedd manylion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Mae’r Adain Drwyddedu’n darparu ffurflen feddygol ac mae’n rhaid i feddyg teulu ei chwblhau cyn y gellir rhoi trwydded.  Ar hyn o bryd, roedd Cyngor Sir y Fflint yn caniatáu i’r ffurflen feddygol gael ei chwblhau gan feddyg teulu'r ymgeisydd/deiliad y drwydded, neu feddyg teulu arall, ond nid oes dim ar y ffurflen gyfredol sy'n galluogi’r meddyg i gadarnhau eu bod gallu gweld cofnod meddygol yr unigolyn. 

 

            I gloi, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr hoffai’r Adain Drwyddedu ei gwneud yn ofynnol i’r meddyg teulu sy’n cwblhau’r ffurflen gael gweld cofnod meddygol yr unigolyn, sydd ar gael gan feddyg teulu’r unigolyn hwnnw.  Byddai datganiad yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd y ffurflen i’r meddyg teulu gadarnhau eu bod wedi gweld y cofnod meddygol, felly byddai unrhyw brawf meddygol a gwblhawyd heb gofnod meddygol y person yn annilys.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin a fyddai ymgeiswyr/deiliaid trwyddedau’n gweld y newid hwn fel amhariad ar eu preifatrwydd.  Eglurodd y Cyfreithiwr fod hyn yn briodol ac na fyddai’n amharu ar eu hawliau dynol.  Roedd yn bwysig bod yr Awdurdod yn fodlon bod yr ymgeisydd/deiliad y drwydded yn unigolyn cymwys ac addas.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke pam mae’r ffurflen feddygol yn cael ei hadolygu hyd at 65 oed gan fod nifer o bobl dros yr oedran hwn yn dymuno ymgeisio am Drwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (ar y cyd).  Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai’r prawf meddygol yn cael ei adolygu pob 5 mlynedd hyd at 65 oed, ac ar ôl hynny, byddai angen darparu prawf meddygol bob blwyddyn.  Nid oedd hyn yn annog pobl dros 65 oed i beidio ag ymgeisio am drwydded.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylai’r Pwyllgor Trwyddedu gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig, er mwyn gwneud y broses yn fwy cadarn.

6.

Canllawiau diwygiedig a gyflwynwyd o dan adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 pdf icon PDF 80 KB

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad a oedd yn darparu canllawiau diwygiedig y Swyddfa Gartref a gyflwynwyd dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003.

 

            Roedd Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 yn nodi ei bod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno ac, o dro i dro, adolygu canllawiau i Awdurdodau Trwyddedu ar gyflawni eu swyddogaethau dan Ddeddf 2003.  Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau diwygiedig ym mis Ebrill 2018 ac roedd dolen i'r ddogfen o fewn yr adroddiad.  Tynnwyd sylw’r Aelodau'n benodol at newidiadau'r paragraffau yn Neddf Trwyddedu 2003, fel y nodwyd yn rhannau 1.05–1.09 yn yr adroddiad.

 

            I gloi, eglurodd Arweinydd y Tim Trwyddedu nad oedd y crynodeb o newidiadau’n gynhwysfawr ac anogodd yr Aelodau i ystyried y ddogfen gyfan.        

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

7.

Isafswm pris uned pdf icon PDF 71 KB

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu’r adroddiad er mwyn i Aelodau fod yn ymwybodol o Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

 

            Roedd deddf newydd a fyddai’n cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol yn Nghymru wedi’i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Roedd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn rhan o nod ehangach Llywodraeth Cymru (LlC) i leihau yfed yn ormodol, wrth gydnabod effeithiau hyn ar iechyd a lles pobl.

 

            I gloi, eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai’r ddeddf newydd, pan fyddai wedi’i rhoi mewn grym, yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno isafswm pris am uned o alcohol a gyflenwir yng Nghymru.  Byddai’r ddeddfwriaeth yn targedu ac yn ceisio lleihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed gan rai sy'n yfed nes peri perygl neu niwed iddynt eu hunain, gan gael cyn lleied o effaith â phosib' ar rai sy'n yfed yn gymedrol.  Byddai canllawiau’n cael eu rhoi a byddai LlC yn gweithio gyda mân-werthwyr, Awdurdodau Lleol a safonau masnach i baratoi i’w gweithredu yn haf 2019.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Martin White y Bil ac roedd yn gobeithio y byddai’n cael effaith gadarnhaol yn debyg i'r hyn a welid yn yr Alban, ond gofynnodd sut fyddai’n cael ei orfodi.  Soniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu am y manteision i iechyd a welwyd yn yr Alban ar ôl cyflwyno Bil tebyg. 

 

            Roedd y Cynghorydd Ralph Small yn pryderu yngl?n ag effaith y Bil ar dafarndai.  Cytunodd y Cynghorydd Brian Lloyd gyda’r sylwadau a dywedodd y byddai’r Bil o fantais i archfarchnadoedd lleol a siopau diodydd ac roedd yn pryderu yngl?n â’r effaith ar deuluoedd ag incwm isel.  Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y byddai LlC yn pennu'r isafswm pris am bob uned ar ôl ymgynghori eleni a phwrpas y ddeddf newydd oedd mynd i’r afael â phryderon penodol ers tro yngl?n ag effeithiau yfed gormod o alcohol – amcangyfrifwyd bod hyn yn costio dros £150 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y gallai cynyddu pris alcohol rhad gael effaith hefyd ar bris pob math o alcohol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

8.

Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru pdf icon PDF 79 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am gyfraith arfaethedig newydd ar gyfer Cymru.

Cofnodion:

            Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu adroddiad i roi gwybod am y newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth Cymru mewn perthynas â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru.

 

            Yn dilyn rhoi darpariaethau perthnasol Deddf Cymru 2017 mewn grym, byddai trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn fater o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  O dan y setliad datganoledig newydd hwn yr oedd Llywodraeth Cymru eto wedi ystyried y cynigion ar gyfer y fframwaith i drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, er mwyn rhoi trefniant newydd ar waith ar gyfer Cymru.  Roedd manylion y trefniadau arfaethedig wedi’u cynnwys yn adran 1.03 yn yr adroddiad.

 

            I gloi, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu bod LlC yn ystyried y byddai’r rhan fwyaf o’r argymhellion a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, pe baent yn cael eu cyflwyno, yn gwneud y ddeddfwriaeth ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn fwy eglur a syml.  Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar 12 Mehefin 2017 ac ar ôl casglu canlyniadau’r ymgynghoriad, roedd LlC wedi bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn yn haf 2018. Roedd manylion y cynigion a oedd yn y Papur Gwyn yn adran 1.06 yn yr adroddiad.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dave Cox a oedd LlC wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn.  Atebodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu nad oedd eto wedi’i gyhoeddi ond y byddai’r Aelodau’n cael gwybod am gynnydd mewn perthynas ag o.  Byddai angen i’r Tîm Trwyddedu gyflwyno unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth.

 

            Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y cynigion i holl weithwyr cwmnïau tacsis gael gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Croesawai Arweinydd y Tîm Trwyddedu’r cynnig hwn gan fod nifer o weithwyr yn trin gwybodaeth sensitif am aelodau’r cyhoedd ac roedd yn bwysig sicrhau diogelwch y cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.