Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cofnodion pdf icon PDF 46 KB

Pwrpas:I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Mehefin 2017.

 

Cofnodion:

            Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda.

 

Cywirdeb

Dywedodd y Cynghorodd Rosetta Dolphin ei bod wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod, a gofynnodd i’r cofnodion gael eu newid i adlewyrchu hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

Hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol i bob gyrrwr a gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd) Trwyddedig pdf icon PDF 77 KB

Hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol i bob gyrrwr a gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat / Hacni  (ar y cyd) Trwyddedig

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Diogelu’r Gymuned adroddiad ar gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau Hacni (ar y Cyd)

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at ymchwiliad annibynnol i gam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn Rotherham (1997-2013), a thynnodd yr ymchwiliad hwnnw sylw at bryderon sylweddol ynghylch rheoli diogelu ar gyfer trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat a Thacsis yn Rotherham.  Dywedodd bod Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni yn Sir y Fflint yn gyfrifol am gludo pobl bob dydd a bod rhai siwrneiau yn gyfrifol am gludo plant ac unigolion diamddiffyn a fyddai yn achlysurol yn rhan o gontract gyda’r Awdurdod.  

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod yr Adain Drwyddedu eisiau cryfhau arferion diogelu a chodi ymwybyddiaeth a safonau trwy ddarparu gwybodaeth a sgiliau i'r diwydiant Cerbydau Hurio Preifat a Cerbyd Hacni i ddeall ei gyfrifoldebau a pha weithred i'w gymryd os oes ganddynt bryder ynghylch diogelwch neu les unigolion.  Fe eglurodd y byddai hyfforddiant diogelu gorfodol yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu plant a phobl diamddiffyn, yn lleihau risg, ac yn darparu dull i yrwyr a gweithredwyr adrodd am ymddygiad amheus.  Petai’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun yna cynigiwyd cynnal ymgynghoriad gyda Gyrwyr a Gweithredwyr a chyflwyno’r ymatebion i’r Pwyllgor eu hystyried ac i ddod i benderfyniad terfynol.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau dywedodd yr Arweinydd Tîm y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn darparu’r hyfforddiant ond byddai gwahoddiadau a lluniaeth yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod.  Fe esboniodd bod trwydded yrru safonol ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) yn cael ei roi am dair blynedd, serch hynny, byddai’r Awdurdod yn annog gyrwyr i fynychu hyfforddiant diogelu o fewn y 12 mis cyntaf.  Dywedodd y byddai’n amodol bod deiliaid trwydded newydd yn cwblhau’r cwrs diogelu yn y dyfodol.

 

Siaradodd Aelodau i gefnogi’r cynnig a chymeradwyo cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth i bob Gyrrwr a Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni trwyddedig yn Sir y Fflint.

 

Wrth ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Glyn Banks y dylai hyfforddiant ar ymwybyddiaeth diogelu fod ar gael i Aelodau, fe eglurodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes bod trafodaethau ynghylch hyfforddiant diogelu wedi cael eu cynnal ym Mwrdd Diogelu Corfforaethol Sir y Fflint, ac y byddai hi’n gwneud ymholiadau ac yn rhoi adborth i’r Pwyllgor am hyn.

                  

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cefnogi cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol i bob Gyrrwr a Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni trwyddedig yn Sir y Fflint;

 

 (b)      Cefnogi diwygio amodau Gyrrwr a Gweithredwr Hurio Preifat i gynnwys yr amod canlynol:-

 

Mae’n rhaid i Yrrwr/Gweithredwr gwblhau cwrs hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu  pan fydd yr Adain Drwyddedu yn gofyn iddynt fynychu.

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig y bydd Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat sydd yn methu’r hyfforddiant diogelu gorfodol yn cael eu riporito i’r Is-bwyllgor Trwyddedu; a

 

 (ch)    Chynnal ymgynghoriad gyda Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau     Hacni (ar y cyd) a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat a bod yr ymatebion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i roi penderfyniad terfynol.

4.

Cyflwyniad rhestr Cerbydau Addas ar Gyfer Cadeiriau Olwyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pdf icon PDF 84 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer rhestr o gerbydau addas ar gyfer cadeiriau olwyn dynodedig

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd adroddiad i hysbysu aelodau am y newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i gael cymeradwyaeth ar gyfer rhestr o gerbydau penodol sydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Llywodraeth wedi mynegi ei bod yn disgwyl i Gynghorau gyflwyno a chadw rhestr o gerbydau penodol, a fyddai yn ei dro, yn achosi troseddau am dorri'r dyletswyddau a gyflwynwyd. Roedd yr Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno canllawiau statudol ffurfiol yn gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno’r rhannau hynny o’r Ddeddf Cydraddoldeb a oedd yn darparu amddiffyniad i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm adroddiad am y prif ystyriaethau y manylir arnynt yn yr adroddiad ynghylch y dyletswyddau a gyflwynwyd o dan Adran 165 Deddf Cydraddoldeb 2010, cymorth symudedd, ac eithriad ar gyfer gyrwyr gyda chyflwr penodol.   Fe eglurodd na ddylai cerbydau sydd ar y rhestr orfod cario pob cadair olwyn, ond mae’n rhaid iddynt allu cario rhai ohonynt. Cynigiodd yr Adain Drwyddedu i gysylltu â pherchnogion cerbydau a fyddai’n cael eu cynnwys ar y rhestr. Cynigiodd yr Arweinydd Tîm petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo cyflwyno rhestr a fyddai’n cael ei chyhoeddi o gerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, byddai’r rhestr honno’n cael ei chyhoeddi o fewn chwe mis. Ar ôl y dyddiad hwnnw, byddai’n drosedd i yrrwr beidio â rhoi cymorth rhesymol i deithwyr mewn cadair olwyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Arweinydd Tîm i’r sylwadau ac eglurodd tra bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn hysbys o fewn cymunedau lleol, byddai’r rhestr yn ei gwneud yn haws i unigolion weld pa weithredwyr oedd yn darparu’r gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo cyflwyno rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a chyhoeddi’r rhestr honno; a

 

 (a)      Bod yr Arweinydd Tîm Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Rheolwr Gwrachod y Gymuned a Busnes, yn gosod dyddiad gweithredu i gyhoeddi rhestr o gerbydau penodol sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. 

5.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.