Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas:I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Mehefin 2017.
Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2017 wedi eu dosbarthu gyda’r agenda.
Cywirdeb Dywedodd y Cynghorodd Rosetta Dolphin ei bod wedi bod yn bresennol yn y cyfarfod, a gofynnodd i’r cofnodion gael eu newid i adlewyrchu hyn.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol i bob gyrrwr a gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd) Trwyddedig
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Diogelu’r Gymuned adroddiad ar gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau Hacni (ar y Cyd)
Rhoddodd yr Arweinydd Tîm wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at ymchwiliad annibynnol i gam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn Rotherham (1997-2013), a thynnodd yr ymchwiliad hwnnw sylw at bryderon sylweddol ynghylch rheoli diogelu ar gyfer trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat a Thacsis yn Rotherham. Dywedodd bod Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni yn Sir y Fflint yn gyfrifol am gludo pobl bob dydd a bod rhai siwrneiau yn gyfrifol am gludo plant ac unigolion diamddiffyn a fyddai yn achlysurol yn rhan o gontract gyda’r Awdurdod.
Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod yr Adain Drwyddedu eisiau cryfhau arferion diogelu a chodi ymwybyddiaeth a safonau trwy ddarparu gwybodaeth a sgiliau i'r diwydiant Cerbydau Hurio Preifat a Cerbyd Hacni i ddeall ei gyfrifoldebau a pha weithred i'w gymryd os oes ganddynt bryder ynghylch diogelwch neu les unigolion. Fe eglurodd y byddai hyfforddiant diogelu gorfodol yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelu plant a phobl diamddiffyn, yn lleihau risg, ac yn darparu dull i yrwyr a gweithredwyr adrodd am ymddygiad amheus. Petai’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun yna cynigiwyd cynnal ymgynghoriad gyda Gyrwyr a Gweithredwyr a chyflwyno’r ymatebion i’r Pwyllgor eu hystyried ac i ddod i benderfyniad terfynol.
Wrth ymateb i’r cwestiynau dywedodd yr Arweinydd Tîm y byddai Heddlu Gogledd Cymru yn darparu’r hyfforddiant ond byddai gwahoddiadau a lluniaeth yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod. Fe esboniodd bod trwydded yrru safonol ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) yn cael ei roi am dair blynedd, serch hynny, byddai’r Awdurdod yn annog gyrwyr i fynychu hyfforddiant diogelu o fewn y 12 mis cyntaf. Dywedodd y byddai’n amodol bod deiliaid trwydded newydd yn cwblhau’r cwrs diogelu yn y dyfodol.
Siaradodd Aelodau i gefnogi’r cynnig a chymeradwyo cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth i bob Gyrrwr a Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni trwyddedig yn Sir y Fflint.
Wrth ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Glyn Banks y dylai hyfforddiant ar ymwybyddiaeth diogelu fod ar gael i Aelodau, fe eglurodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes bod trafodaethau ynghylch hyfforddiant diogelu wedi cael eu cynnal ym Mwrdd Diogelu Corfforaethol Sir y Fflint, ac y byddai hi’n gwneud ymholiadau ac yn rhoi adborth i’r Pwyllgor am hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol i bob Gyrrwr a Gweithredwr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni trwyddedig yn Sir y Fflint;
(b) Cefnogi diwygio amodau Gyrrwr a Gweithredwr Hurio Preifat i gynnwys yr amod canlynol:-
Mae’n rhaid i Yrrwr/Gweithredwr gwblhau cwrs hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu pan fydd yr Adain Drwyddedu yn gofyn iddynt fynychu.
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig y bydd Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat sydd yn methu’r hyfforddiant diogelu gorfodol yn cael eu riporito i’r Is-bwyllgor Trwyddedu; a
(ch) Chynnal ymgynghoriad gyda Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Cerbydau Hacni (ar y cyd) a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat a bod yr ymatebion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i roi penderfyniad terfynol. |
|
Cyflwyniad rhestr Cerbydau Addas ar Gyfer Cadeiriau Olwyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 PDF 84 KB Rhoi gwybod i Aelodau am newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer rhestr o gerbydau addas ar gyfer cadeiriau olwyn dynodedig
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd Tîm Gwarchod y Cyhoedd adroddiad i hysbysu aelodau am y newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac i gael cymeradwyaeth ar gyfer rhestr o gerbydau penodol sydd yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Rhoddodd yr Arweinydd Tîm wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Llywodraeth wedi mynegi ei bod yn disgwyl i Gynghorau gyflwyno a chadw rhestr o gerbydau penodol, a fyddai yn ei dro, yn achosi troseddau am dorri'r dyletswyddau a gyflwynwyd. Roedd yr Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno canllawiau statudol ffurfiol yn gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno’r rhannau hynny o’r Ddeddf Cydraddoldeb a oedd yn darparu amddiffyniad i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
Rhoddodd yr Arweinydd Tîm adroddiad am y prif ystyriaethau y manylir arnynt yn yr adroddiad ynghylch y dyletswyddau a gyflwynwyd o dan Adran 165 Deddf Cydraddoldeb 2010, cymorth symudedd, ac eithriad ar gyfer gyrwyr gyda chyflwr penodol. Fe eglurodd na ddylai cerbydau sydd ar y rhestr orfod cario pob cadair olwyn, ond mae’n rhaid iddynt allu cario rhai ohonynt. Cynigiodd yr Adain Drwyddedu i gysylltu â pherchnogion cerbydau a fyddai’n cael eu cynnwys ar y rhestr. Cynigiodd yr Arweinydd Tîm petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo cyflwyno rhestr a fyddai’n cael ei chyhoeddi o gerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, byddai’r rhestr honno’n cael ei chyhoeddi o fewn chwe mis. Ar ôl y dyddiad hwnnw, byddai’n drosedd i yrrwr beidio â rhoi cymorth rhesymol i deithwyr mewn cadair olwyn.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Arweinydd Tîm i’r sylwadau ac eglurodd tra bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn hysbys o fewn cymunedau lleol, byddai’r rhestr yn ei gwneud yn haws i unigolion weld pa weithredwyr oedd yn darparu’r gwasanaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cyflwyno rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, a chyhoeddi’r rhestr honno; a
(a) Bod yr Arweinydd Tîm Trwyddedu mewn ymgynghoriad gyda’r Rheolwr Gwrachod y Gymuned a Busnes, yn gosod dyddiad gweithredu i gyhoeddi rhestr o gerbydau penodol sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|