Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd enwebu’r Cynghorydd Cox fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Cox yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2019/20.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Andy Williams gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem rhif 5 ar y rhaglen - Cynyddu Prisiau teithiau Cerbydau Hacni gan ei fod yn gyfarwyddwr cwmni hurio preifat. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13eg Chwefror, 2019. Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019 wedi cael eu dosbarthu gyda’r rhaglen.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Cynnydd yn ffioedd Cerbydau Hacni PDF 98 KB Pwrpas: I ystyried cais a wnaed gan y fasnach Cerbydau Hacni i gynyddu’r ffioedd taladwy uchaf sy’n daladwy gan y cyhoedd ar gyfer taith mewn Cerbyd Hacni. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad oedd yn gofyn am ystyried cais a wnaed gan y diwydiant Cerbydau Hacni i gynyddu uchafswm y gost y gellir ei chodi ar y cyhoedd am deithiau Cerbydau Hacni.
Mae Adran 65 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn caniatáu i’r cyngor dosbarth osod uchafswm cyfraddau prisiau o fewn y Fwrdeistref, a’r holl gostau eraill mewn perthynas â llogi Cerbyd Hacni. Gwnaed hyn drwy greu tabl o brisiau. Roedd cerbydau Hurio Preifat yn gallu gosod eu prisiau eu hunain ac felly nid oeddent yn ddarostyngedig i’r adroddiad hwn.
Roedd yr Adain Drwyddedu wedi cael cais gan Reolwr Cwmni Cerbydau Hurio Preifat oedd yn defnyddio Cerbyd Hacni yn ei fflyd. Roedd y cais yn nodi mai costau byw a chostau cynyddol tanwydd ac yswiriant oedd y rheswm am yr adolygiad. Cymeradwywyd y prisiau cyfredol ddiwethaf yn 2008 ac roeddent ynghlwm â’r adroddiad.
Cyhoeddwyd tabl misol gan y Cylchgrawn misol ‘Private Hire and Taxi’ a rhestrwyd Sir y Fflint yn 334 allan o 362, 362 oedd yr isaf. Roedd prisiau arfaethedig i’w hystyried hefyd ynghlwm â’r adroddiad.
Rhaid i Gerbydau Hacni Trwyddedig gael mesurydd tacsi wedi’i osod a’i galibradu i’r uchafswm ffioedd a phrisiau a gymeradwyir gan y Cyngor. Gallai gyrwyr godi llai os ydynt yn dymuno ond roedd yn drosedd codi mwy na’r raddfa prisiau a gymeradwywyd. Byddai’r prisiau teithiau arfaethedig yn golygu bod Sir y Fflint yn cyd-fynd â’r prisiau a gytunwyd arnynt yng Ngwynedd. Dim ond pedwar Cerbyd Hacni trwyddedig oedd yn Sir y Fflint ar hyn o bryd.
Byddai manylion yr amrywiad i’r tabl prisiau teithiau yn cael ei gyhoeddi yn o leiaf un papur newydd lleol, yn nodi’r tabl prisiau neu amrywiad ohono, ac yn nodi’r dyddiad, na allai fod yn llai na 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r rhybudd i ddechrau, pan ellid cyflwyno gwrthwynebiad i’r tabl prisiau neu amrywiad. Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad yn cael ei dderbyn o fewn y cyfnod a nodir yn y rhybudd, neu pe bai’r holl wrthwynebiadau’n cael eu tynnu’n ôl, byddai’r tabl prisiau neu amrywiadau'n dod i rym. Pe bai gwrthwynebiad yn cael ei wneud, byddai’r cyngor yn gosod dyddiad pellach, dim mwy na dau fis o’r dyddiad y dylai’r tabl prisiau ddod i rym, gydag amrywiadau neu hebddynt, fel y penderfynir ganddynt ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau.
Gofynnodd y Cynghorydd Banks a oedd gweithredwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio cerbydau trydan, ac awgrymodd y gellid cynnig cymhelliant os oeddent. Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu nad oedd gan Sir y Fflint lawer o fannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar hyn o bryd, ac eglurodd y gallai gyrrwr tacsi wynebu anawsterau gan nad oedd y batri yn para mor hir â thanwydd.
Gan ei fod wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn gynharach, ni chymerodd y Cynghorydd Williams ran yn y drafodaeth na phleidleisio.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd ym mhrisiau teithio Cerbydau Hacni, fydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2020 ac yn dilyn ymgynghoriad, yn cael eu cymeradwyo; ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Pwrpas: I Aelodau nodi’r adroddiad mewn perthynas â’r hyfforddiant diogelu gorfodol a oedd wedi ei gymeradwyo’n gynharach gan y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cafodd Aelodau wybod am yr Hyfforddiant Diogelu i Weithredwyr Cerbydau Hurio Preifat a Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Hacni yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Hydref 2017.
Roedd chwe sesiwn, a gynhelir gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, wedi cael eu trefnu drwy gydol mis Hydref 2019 ac roedd y manylion yn yr adroddiad.
Hyd yma, roedd 373 o yrwyr a gweithredwyr wedi archebu'r hyfforddiant. Ar gyfer y gyrwyr hynny nad oedd yn cymryd mantais o’r sesiynau am ddim a gynigiwyd, codir tâl am fynychu hyfforddiant diogelu yn y dyfodol. Pe byddent yn gwrthod, byddent yn dod gerbron Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a ydynt yn addas a phriodol i barhau fel gyrrwr trwyddedig neu weithredwr.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |