Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

49.

Datgan Cysylltiad

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Datganodd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Hutchinson, gysylltiad personol ag Eitem 7 ar y Rhaglen fel llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Drury.

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau eraill.

 

50.

Cofnodion pdf icon PDF 148 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 26 Medi a 24 Hydref 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023 a 24 Hydref 2023.

 

26 Medi 2023

 

Cywirdeb

 

            O ran Datgan Cysylltiadau, dywedodd y Cynghorydd Peers ei fod wedi datgan cysylltiad personol ag eitem 10 ar y Rhaglen, Rhybudd o Gynnig mewn perthynas â landlordiaid. Cytunwyd i addasu’r cofnodion yn unol â hynny.

 

24 Hydref 2023

 

Cywirdeb

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Ibbotson at eitem 43 a gofynnodd am ddiweddariad ar ei gais i gael ymateb ysgrifenedig. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai'n rhannu ymateb â’r Aelodau yn dweud nad oedd angen adroddiad o'r fath gan roi’r rhesymau dros hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y cofnodion fel cofnod cywir ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bibby, a chymeradwyodd y Pwyllgor hynny drwy bleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Medi, gyda’r newid, a 24 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 

51.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr holl Aelodau wedi derbyn manylion yr ymrwymiadau roedd y Cadeirydd wedi ymgymryd â nhw ers y cyfarfod diwethaf. Soniodd yr Is-gadeirydd am yr ymweliadau ag ysgolion yr oedd wedi eu gwneud gan ddweud ei fod o a'i wraig wedi'u mwynhau.

52.

Deisebau

Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law.

53.

Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25 – 2026/27 pdf icon PDF 146 KB

Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i’w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno'r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2024/25–2026/27 i'w chymeradwyo.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlygu’r modd yr oedd y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei datblygu a’i hariannu, yr effaith bosib’ ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’i pherthynas â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. Ychydig iawn o newid oedd i'r Strategaeth Gyfalaf a gyflwynwyd y llynedd ar wahân i ddiweddariadau i Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2024/25–2026/27.

 

            Roedd Tabl 1 yn rhoi gwybodaeth am wariant arfaethedig y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y tair blynedd nesaf, Tabl 2 yn nodi sut y byddai'r gwariant hwn yn cael ei ariannu, a Thabl 8 yn rhoi trosolwg o sut roedd costau ariannu yn cymharu â'r gyllideb.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf; a

 

(b)          Cymeradwyo’r canlynol:-

 

     Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2024/25–2026/27 fel y manylir yn Nhablau 1, a 4-8 yn y Strategaeth Gyfalaf.

 

     Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

  

 

54.

Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 pdf icon PDF 354 KB

Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 i'w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan egluro bod y Rhaglen Gyfalaf yn cwmpasu buddsoddiadau’r Cyngor ynghlwm ag asedau a hefyd yn ystyried y sefyllfa o ran y gyllideb refeniw.

 

Yna, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar y sleidiau canlynol:-

 

  • Rhaglen Gyfalaf 2024/25–2026/27

Ø  Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol.

Ø  Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

Ø  Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailstrwythuro gwasanaethau er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi yng nghynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor.

 

  • Rhaglen Gyfredol 2023/24–2025/26

 

  • Cyllid Disgwyliedig 2024/25–2026/27

 

  • Statudol/Rheoleiddiol – Dyraniadau Arfaethedig

 

Ø  Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (1)

Ø  Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (2)

Ø  Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (1)

Ø  Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (2) 

 

  • Crynodeb Rhaglen wedi ei Hariannu’n Gyffredinol

 

  • Cynlluniau sy’n Cael eu Hariannu’n Benodol

 

  • Crynodeb Rhaglen Gyfalaf

 

  • Cynlluniau Posib’ ar gyfer y Dyfodol

 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones ar yr adran gwaith adeiladu ysgolion ac asedau a gedwir ar dudalen 48, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y dadansoddiad o'r ffigwr o £500,000 yn yr Adran Statudol. Yna, rhoddodd Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau wybodaeth am y Rhaglen Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ysgolion a'r Rhaglen Flaenoriaeth flynyddol a grëwyd o'r Arolygon Cyflwr a wnaed mewn ysgolion. Eglurwyd bod rhestr aros o atgyweiriadau i ysgolion gwerth tua £15 miliwn a bod yr £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r blaenoriaethau a oedd wedi’u pennu drwy'r tîm syrfewyr adeiladau ac arolygon cyflwr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr adolygiad o ystadau diwydiannol a gofynnodd pam oedd angen dymchwel yr unedau gwag. Cynigiodd welliant y dylai'r unedau ar ystadau diwydiannol gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i ddod i ddeall beth oedd ynghlwm â hynny.

 

Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol fod yr unedau ym Maes Glas ac y tu hwnt i gael eu hatgyweirio’n fforddiadwy; ac roedd swm o £200,000 wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf i wneud y gwaith.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ystâd benodol y cyfeirid ati y tu hwnt i'w hatgyweirio ac y gallai unedau cychwynnol gael eu gosod yn lle’r unedau presennol ar gyfer busnesau bach oedd eu hangen. Byddai hyn hefyd yn mynd i'r afael â Threthi Busnes Unedau Gwag a oedd yn cael eu codi ar y Cyngor.

 

Croesawai’r Cynghorydd Richard Jones yr awgrym o adroddiad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac yntau’n Gadeirydd.

 

Roedd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn croesawu dymchwel y tair uned ym Maes Glas a oedd, yn ei barn hi, yn risg i iechyd a diogelwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am Gymunedau Dysgu Cynaliadwy gan y Cynghorydd Crease, roedd y Rheolwr Corfforaethol ar ddeall bod Bandiau B ac C Cymunedau Cynaliadwy bellach wedi'u diddymu ond y gallai'r Cyngor ddwyn unrhyw brosiect y dymunai ymlaen fel  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 55 KB

Mae’r item hon i dderbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi i’r rhaglen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rhybudd o Gynnig canlynol wedi’i gyflwyno:

 

“Israel-Gaza” – wedi’i gynnig gan y Cynghorydd Parkhurst, a’i eilio gan y Cynghorydd Swash

 

“Mae’r Cyngor yn condemnio ymosodiadau terfysgaeth ofnadwy Hamas yn Israel ar 7 Hydref.

Mae’r Cyngor wedi’i arswydo gan y delweddau o drais yn ystod yr wythnosau a’r dyddiadau ar ôl yr ymosodiadau hyn, yn enwedig y sefyllfa ddyngarol ddifrifol yn Gaza lle mae dros 10,000 o Balesteiniaid wedi’u lladd a Hamas yn dal yn cadw gwystlon. 

Mae’r Cyngor yn cefnogi hawl Israel i amddiffyn ei dinasyddion, yn unol â’r gyfraith ryngwladol, sy’n golygu targedu terfysgwyr, nid sifiliaid, a sicrhau nad yw Palesteiniaid diniwed yn talu’r pris am weithredoedd Hamas.

Mae’r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch methiant Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod llywodraeth Israel a’i byddin yn cadw at ofynion cyfraith ryngwladol.

 

Mae’r Cyngor yn credu:

 

Na fydd datrysiad milwrol ar ei ben ei hun yn arwain at heddwch ar gyfer Israeliaid na Phalesteiniaid.

 

Bod gwerthoedd cydraddoldeb, democratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith ryngwladol yn hollbwysig.

 

Bod yn rhaid i’r holl rai sy’n brwydro ymddwyn yn unol â rheolau rhyfel a’r gyfraith ddyngarol ryngwladol.

 

Y dylid rhyddhau gweddill y rhai sy’n cael eu dal yn wystlon gan Hamas.

 

Y dylid adfer cyflenwadau hanfodol o dd?r, bwyd, meddyginiaeth a thrydan yn Gaza, ac y dylid hwyluso cymorth i Gaza.

Nad yw hi’n iawn beio Iddewon am weithredoedd llywodraeth Israel na Phalesteiniaid am weithredoedd Hamas.

 

Bod y Cyngor yn penderfynu gofyn i Lywodraeth y DU i alw am gadoediad ar unwaith er mwyn:   

a.      Hwyluso danfon cymorth dyngarol i Gaza  

b.      Rhoi cyfle i allu sicrhau bod y gwystlon sy’n weddill yn cael eu rhyddhau  

c.      Caniatáu cyfnod dwys o ddiplomyddiaeth i ddod i ddatrysiad gwleidyddol, i geisio sicrhau heddwch parhaol.

 

Mae’r Cyngor, gyda phryder mawr iawn, yn nodi effaith ddifrifol yr argyfwng hwn yn y DU, gyda chymunedau Iddewig, Mwslim a Phalesteinaidd oll yn ofni ac yn galaru, ac yn condemnio’r cynnydd mewn gwrth-semitiaeth ac Islamoffobia ers 7 Hydref.

Mae’r Cyngor yn galw ar drigolion Sir y Fflint, arweinwyr cymunedol a ffigyrau cyhoeddus i weithredu’n gyfrifol a gweithio i ddod â chymunedau ynghyd yn ystod y cyfnod sensitif hwn.

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun Cartrefi i Balesteiniaid yn barod ar gyfer ac i hwyluso darparu llety dros dro i ffoaduriaid y gwrthdaro.”

 

Wrth siarad am y Rhybudd o Gynnig, gwnaeth y Cynghorydd Pankhurst sylwadau am yr erchyllterau roedd Hamas wedi’u cyflawni, effaith frawychus bombardio milwrol Israel yn dilyn hynny a nifer y bobl ddiniwed oedd wedi’u lladd, eu hanafu neu eu dadleoli yn Gaza. Soniodd am niferoedd y plant, merched, meddygon, swyddogion y Cenhedloedd Unedig, newyddiadurwyr, ynghyd â chenedlaethau o deuluoedd a oedd wedi’u lladd. Roedd hanner isadeiledd Gaza wedi’i ddinistrio. Fel awdurdod lleol, roedd dyletswydd ar Sir y Fflint i gynnal rhyngberthynas dda o fewn cymunedau fel bod ein holl drigolion yn gallu byw heb ofn neu wahaniaethu. Fel sir sy’n noddfa, roedd dyletswydd ar Sir y Fflint  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 92 KB

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgor hwn wedi'i osod yn rhannol gan ddeddfwriaeth ac yn rhannol gan ganllawiau a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu pob rhan benodol o’r cylch gorchwyl a sut yr oedd y pwyllgor wedi cyflawni hynny yn ystod y cyfnod hwnnw, a chymeradwywyd yr adroddiad yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

57.

Penodi Person Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 80 KB

Diweddaru'r Aelodau ar ail-benodi person lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod cyfnod un o’r aelodau lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023, ar ôl gwasanaethu am bedair blynedd.

 

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gofyn bod y Cyngor yn sicrhau bod un rhan o dair o’r Pwyllgor yn aelodau lleyg.

 

Roedd yr aelod lleyg, Mr Allan Rainford, yn fodlon gwasanaethu eto os oedd y Cyngor yn barod i’w ailbenodi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod Mr Rainford yn cael ei ailbenodi fel aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Palmer.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am hyfforddiant, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y rhaglen ddatblygu ar gyfer yr holl aelodau a dywedodd fod y cyrsiau hynny hefyd ar gael i aelodau lleyg.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y rhaglen ddatblygu yn rheolaidd fel rhan o'i waith a dywedodd y gallai hyfforddiant gorfodol i Gadeiryddion gael ei gynnwys i'w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

O bleidleisio ar y mater, cymeradwywyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn ailbenodi’r aelod lleyg am bedair blynedd arall tan 31 Rhagfyr 2027.

 

 

58.

Newid amser cyfarfod - Pwyllgor Cynllunio pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ystyried y cynnig i newid amser dechrau Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio o gyfarfod Rhagfyr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi’r rheswm am symud cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio oedd i ddod i gychwyn am 2.00pm. Roedd y rhesymau am y newid amser awgrymedig i’w gweld yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lloyd yr argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cytunwyd y byddai ymweliadau safle Cynllunio’n cael eu cynnwys yng nghalendr cyfarfodydd yr Aelodau.

 

Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Newid amser cychwyn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i 2pm o gyfarfod mis Rhagfyr 2023 tan ddiwedd yr Amserlen Gyfarfodydd gyfredol.

59.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

60.

Cwestiynau pdf icon PDF 52 KB

Nodi'r atebion i unrhyw gwestiynau a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 9.4(A) y Cyngor Sir: derbyniwyd un erbyn y dyddiad cau ac maent ynghlwm.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod cwestiwn wedi dod i law gan y Cynghorydd Parkhurst.

 

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Gerddi Coffa’r Wyddgrug

 

A oes modd i Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd egluro pam ei fod wedi rhoi gwybod i’r Cabinet ar 17.10.23 Fod Cyngor Tref yr Wyddgrug wedi gwneud cais i wahardd c?n o Erddi Coffa’r Wyddgrug, a pham y dywedwyd yr un peth wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd ar 12.9.23 pan oedd Cyngor Tref yr Wyddgrug, mewn gwirionedd, wedi gofyn am ddiwygio’r Gorchymyn i nodi y dylid “cadw c?n ar dennyn ar bob adeg”, ac o ystyried y wybodaeth anghywir yma i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet, a fyddai r?an yn cytuno y dylid ailystyried y penderfyniad i wahardd c?n o’r Gerddi hyn?   

 

Ymatebodd y Cynghorydd Chris Bithell i’r Cwestiwn fel hyn:-

 

“Yn y ddau gyfarfod y cyfeirir atynt, sef Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ar 12 Medi 2023 a’r cyfarfod Cabinet ar 17 Hydref 2023, cyflwynwyd adroddiad ar Adnewyddu Gorchmynion Mannau Cyhoeddus gan y Prif Swyddog Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd. Yn ôl y drefn arferol, yr Aelod Cabinet at gyfer y portffolio hwnnw sydd fel arfer yn cyflwyno’r adroddiad ac wrth wneud hynny bydd yn dyfynnu ac yn cyfeirio at agweddau a manylion yn yr adroddiad, a dyna wnes i.

 

 

Roedd agweddau o’r adroddiad ac, yn wir, y modd roedd yr ymgynghoriad wedi’i wneud wedi bod yn destun ymholiadau, sylwadau, cwynion a honiadau. Roedd y rhain i gyd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr ar hyn o bryd yn rhan o weithdrefn Gwyno ffurfiol y Cyngor. O ystyried hynny, rwy’n meddwl y byddai’n annoeth ac yn amhriodol gwneud rhagor o sylwadau nes mae’r weithdrefn honno wedi’i chwblhau.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd Pankhurst pam roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi clywed gwybodaeth gamarweiniol ac os oedd camgymeriad wedi’i wneud, pam nad oedd hynny wedi’i gydnabod. Roedd y mater hwn yn achosi pryder i bobl oedrannus. Pan ofynnodd Cyngor Tref yr Wyddgrug i g?n gael eu cadw ar dennyn, pam oedd pwyllgorau’n clywed bod y Cyngor Tref eisiau i g?n gael eu gwahardd. Cyfeiriodd at sylwadau a wnaed bod gwaith ymgynghori wedi bod â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ond ar ôl cysylltu â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, dywedodd nad oedd neb wedi ymgynghori ag o. Gofynnodd hefyd pam roedd yr Asesiad Cydraddoldeb o 2023 yn edrych fel un wedi’i dorri a’i ludo, gyda gwallau teipio o 2020, a dywedodd y byddai’n gwerthfawrogi ymateb gan y Cynghorydd Bithell.

Ceisiodd y Cynghorydd Attridge eglurhad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) gan ofyn, os oedd y Cyngor yn gweithio ar weithdrefn gwyno ffurfiol ar hyn o bryd, a fyddai’n annoeth trafod rhagor am hyn nes byddai canlyniad y g?yn ffurfiol honno’n hysbys. Ei bryder oedd bod hwn yn fater difrifol os oedd y Cabinet wedi camarwain Pwyllgor Craffu ac aelodau’r cyhoedd.

 

Yn gyntaf, atgoffodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr Aelodau ynghylch  ...  view the full Cofnodion text for item 60.

61.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Ystyriedunrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor. Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y

dyddiad cau.

62.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg nac aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.