Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

64.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) arweiniad ar ddatganiad cysylltiadau personol sy’n rhagfarnu gan Aelodau.

 

Datganodd y Cynghorydd David Healey a’r Cynghorydd Gladys Healey gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 5: Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint.  Datganodd y Cynghorydd Dale Selvester a Sam Swash gysylltiad personol ag eitem 5 hefyd.

 

Datganodd y Cynghorydd Hilary McGuill, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece a Geoff Collett gysylltiad personol ag eitem 6: Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26.

 

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol ag eitem 8: Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai

 

65.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei chyhoeddiadau a oedd wedi’u rhannu cyn y cyfarfod a rhestrodd y digwyddiadau yr oedd hi wedi mynd iddyn nhw rhwng 14 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023.  Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i Aelodau am eu cefnogaeth ar gyfer cynnal y Cinio Elusennol ar 24 Mawrth, a chyfeiriodd hefyd at Her Llwybr yr Arfordir Ynys Môn y bydd hi’n cymryd rhan ynddo i godi arian i’r sefydliadau y mae hi’n eu cefnogi a hithau’n Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint. 

 

66.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd y deisebau canlynol:

 

  • Cyflwynodd y Cynghorydd Dave Hughes ddeiseb ar Achub pont droed Llanfynydd.

 

  • Cyflwynodd y Cynghorydd Bill Crease ddeiseb ar ran Clwb Pysgota Cei Connah i wahardd c?n o lwybrau mynediad y platfform pysgota o fewn yr ardal wedi’i ffensio yn ‘The Rosie’, Parc Gwepra.

 

  • Cyflwynodd y Cynghorydd Glyn Banks a’r Cynghorydd Gina Maddison ddeiseb ar y cyd ar ran trigolion Gronant yn ymwneud â phryderon ynghylch datblygiad tai newydd arfaethedig yn Sefydliad Gronant.

 

  • Cyflwynodd y Cynghorydd Glyn Banks a’r Cynghorydd Gina Maddison ddeiseb ar y cyd hefyd ar ran trigolion Ward Gronant yn ymwneud â darparu mynediad addas i bobl anabl i eiddo preswyl.

 

67.

Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint. pdf icon PDF 157 KB

Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr adroddiad, gadawodd y Cynghorydd David Healey a’r Cynghorydd Gladys Healey yr ystafell, gan fod y ddau wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu â Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint, .

 

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi adroddiad i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (CDLl).  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Arolygwyr y CDLl wedi cwblhau eu trafodaethau a bod eu Hadroddiad Terfynol ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint, dyddiedig 15 Rhagfyr 2022, wedi’i gyhoeddi.   Cafodd yr Adroddiad Terfynol a’i atodiadau eu cynnwys yn atodiad 1 yr adroddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad a thalodd deyrnged i bawb a gymerodd ran am eu proffesiynoldeb, eu dycnwch a'u cydweithrediad wrth gynhyrchu'r CDLl.   I gloi, dywedodd y Prif Swyddog pe bai’r CDLl yn cael ei fabwysiadu y byddai’n rhoi sicrwydd i gymunedau yn Sir y Fflint ynghylch yr ardaloedd a’r amgylcheddau y byddai’n cael eu diogelu ac y byddai’n nodi nifer bychan o ardaloedd lle gallai datblygiad, mewn egwyddor, ddigwydd yn amodol ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.  Byddai'r CDLl yn rhoi'r polisïau perthnasol i'r Cyngor ar gyfer penderfynu ar ddatblygiadau arfaethedig. 

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth am y rhesymau cadarnhaol dros fabwysiadu’r CDLl a chyfeiriodd at y pwyntiau allweddol yn ymwneud ag Adroddiad yr Arolygydd.    Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Adroddiad terfynol yr Arolygydd

·         y broses fabwysiadu

·         dyletswydd gyfreithiol

·         canlyniadau yn sgil peidio â mabwysiadu

·         ar ôl mabwysiadu

·         gohebiaeth ddiweddar

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) dynnu sylw at y dyletswyddau cyfreithiol sydd wedi’u nodi ym mharagraff 1.13 yr adroddiad a chyfeiriodd at y dewisiadau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad naill ai i fabwysiadu'r polisi heb ei ddiwygio, neu ei wrthod yn ei gyfanrwydd.  Eglurodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw rym dan y Rheoliadau i fabwysiadu’r CDLl yn rhannol nac ei ddiwygio a rhoddodd gyngor ar oblygiadau'r dewisiadau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell o blaid y CDLl a chynigiodd yr argymhellion yn yr adroddiad.    Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes ei fod yn cefnogi’r CDLl yn llwyr ac eiliodd y cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson o blaid y CDLl ac anogodd Aelodau i gefnogi’r argymhellion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod yn cefnogi’r CDLl.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sam Swash yn erbyn mabwysiadu’r CDLl a dywedodd nad oedd trigolion Penarlâg/Ward Mancot yn cefnogi’r Cynllun.

 

Dywedodd y Cynhorydd Mike Peers bod y CDLl yn rhoi ‘sicrwydd’ a soniodd am y broblem o ran “datblygu hapfasnachol” yn Sir y Fflint.  Dywedodd ei fod yn cefnogi’r CDLl ar y cyfan.

 

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown y byddai mabwysiadu’r CDLl yn cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol a soniodd am faterion yn ymwneud â llifogydd yn ei Ward hi, a diffyg isadeiledd ac ysgolion.  Anogodd yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y CDLl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gillian Brockley nad oedd hi’n gallu cefnogi pob agwedd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 67.

68.

Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 pdf icon PDF 356 KB

Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i'w chymeradwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w chymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor wedi'i rhannu'n dair adran:

 

  • Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;
  • Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a
  • Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

  • strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
  • rhaglen gyfredol 2022/23 - 2024/25
  • cyllid a ragwelir 2023/24 - 2025/26
  • statudol/rheoleiddiol - dyraniadau arfaethedig
  • asedau wedi’u cadw - dyraniadau arfaethedig
  • Adran fuddsoddi - dyraniadau arfaethedig
  • crynodeb rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
  • cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
  • crynodeb rhaglen gyfalaf
  • cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

 

Y Cynghorydd Richard Jones yn cynnig gohirio’r eitem.  Nododd ei resymau a dywedodd yn ei farn ef y byddai’n annoeth cytuno i Raglen Gyfalaf tan fod y Cyfrif Refeniw wedi’i gydbwyso. Eiliodd y Cynghorydd Bernie Attridge hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio a gofynnodd am gyngor gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr ynghylch y flaenoriaeth i ystyried y Rhaglen Gyfalaf yn y cyfarfod. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson welliant i’r cynnig a wnaeth y Cynghorydd Richard Jones.  Cynigiodd y dylid mabwysiadu argymhellion 1 i 4 yn yr adroddiad.

 

Cafwyd pleidlais ar gynnig y Cynghorydd Richard Jones i’r eitem gael ei gohirio tan gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.  Roedd y cynnig yn aflwyddiannus yn dilyn pleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf yn unol â'r argymhellion yn yr adroddiad a siaradodd o blaid y Rhaglen Gyfalaf.  Eiliodd y Cynghorydd Christine Jones y cynnig.

 

Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge gwestiynau ynghylch cyllid i fynd i’r afael â materion seiberddiogelwch, digartrefedd, a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Theatr Clwyd. Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i'r sylwadau a godwyd yn ymwneud â seiberddiogelwch.  Ymatebodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau i'r cwestiynau a godwyd ynghylch sicrhau cyllid ar gyfer Theatr Clwyd a rhoddodd eglurhad pellach ar y Rhaglen Gyfalaf.  Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ynghylch cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y Rhaglen Gyfalaf a gofynnodd gwestiynau am adleoli Darpariaeth o ran Gwasanaethau Dydd Tri-ffordd (tudalennau 29 a 30 yn yr adroddiad).  Cyfeiriodd at y safle 10 erw ar gyrion yr Wyddgrug y cafodd ei nodi’n lleoliad newydd posibl a gofynnodd a oedd y safle’n berchen i’r Cyngor neu a oedd wedi’i brynu.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y wybodaeth bod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn cyrraedd diwedd ei hyfywedd economaidd (tudalen 43, paragraff 1.54) a dywedodd bod rhai ysgolion yn Sir y Fflint yn h?n ac y dylen nhw gael eu hadolygu a’u hystyried yn y Rhaglen  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2023/24-2025/26 pdf icon PDF 155 KB

Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w chymeradwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gyfalaf y Cyngor 2023/24 - 2025/26 a cheisio cymeradwyaeth gan y Cyngor.   Mae’r adroddiad yn egluro pam yr oedd angen y Strategaeth, yr amcanion allweddol a chynnwys pob adran.  Yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), yr oedd yn rhaid i Awdurdodau bennu ystod o ddangosyddion darbodus.  Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 – 2025/26.

 

Cafodd y Strategaeth Gyfalaf ei nodi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol mewn cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 17 Tachwedd 2022 a chafodd y sylwadau eu cyflwyno yng Nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022.   Nid oedd unrhyw bryderon na newidiadau a argymhellir wedi’u codi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones i'r Strategaeth Gyfalaf gael ei chyflwyno i'w hystyried cyn y Rhaglen Gyfalaf mewn cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at gytundeb yr oedd wedi’i sefydlu’n flaenorol gan yr Aelodau o ran trefn yr eitemau.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’u heilio.  Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Fod y Strategaeth Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo:

-

         Dangosyddion Darbodus 2023/24 - 2025-26 fel y nodir yn

Nhabl 1 a 4 8 y Strategaeth Gyfalaf.

 

         Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud

newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnyn nhw ar wahân o fewn y

terfynau awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer

dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).

 

70.

CYNLLUN BUSNES ARIANNOL 30 BLYNEDD Y CYFRIF REFENIW TAI (CRT) pdf icon PDF 201 KB

Pwrpas: I gyflwyno, er argymhelliad y Cyngor, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i gyflwyno Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y CRT a Chyllideb arfaethedig CRT ar gyfer 2023/24 i'w hystyried.

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog a’r swyddogion Cyllid Corfforaethol a drafododd y canlynol:

 

·         Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24

·         o ble ddaw cyllid y CRT?

·         i ble mae’r arian yn mynd - costau cynnal CRT

·         sut mae ein costau ni’n cymharu ag awdurdodau eraill sy’n dal stoc - gwerth am arian 

·         gosod rhent

·         chwyddiant arfaethedig o ran rhent

·         effaith rhent ar denantiaid ar gynnydd o 5% 

·         rhent - effaith gosod prisiau rhent yn is na ganiateir dan y polisi rhent

·         taliadau gwasanaeth

·         gofynion cyllideb y CRT ychwanegol ar gyfer 2023/24

·         Rhaglen Gyfalaf y CRT

·         datgarboneiddio

·         Cyllid Cyfalaf y Cyfrif Refeniw

·         benthyca darbodus

·         cronfeydd wrth gefn

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Sean Bibby a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

Soniodd y Cynghorydd Helen Brown am y mater o eiddo gwag. Dywedodd bod hyn ar ei uchaf ar hyn o bryd a gofynnodd am yr hyn sydd wedi’i wneud i fynd i'r afael â'r mater yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a sut yr oedd y cynnydd wedi effeithio ar y cynllun busnes.  

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mike Peers rhoddodd y Swyddog Cyllid Corfforaethol drosolwg o sut yr oedd bron i £300,000 mewn arbedion effeithlonrwydd wedi'i gyflawni yn y CRT.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon y byddai taliadau gwasanaeth yn cael eu gohirio ar gyfer tenantiaid presennol ond nad oedden nhw’n berthnasol i denantiaid newydd.  Gwnaeth sylw hefyd ar fater eiddo gwag a phwysleisiodd yr angen i ddefnyddio arian dros ben yn ystod y flwyddyn ar frys i leihau nifer yr eiddo gwag yn Sir y Fflint.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) eglurhad ynghylch cost taliadau gwasanaeth i denantiaid.  Mewn ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau yn ymwneud ag eiddo gwag, rhoddodd y Prif Swyddog y ffigur ar gyfer y 12 mis diwethaf a dywedodd y byddai modd rhoi’r ffigurau ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf ar ôl y cyfarfod. 

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Cymeradwyo Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y CRT a'r gyllideb ar gyfer

2023/24 fel y nodir yn yr adroddiad hwn a'r atodiadau sydd ynghlwm; ac

 

(b)       Ystyried defnyddio'r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael, yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio eiddo gwag yn Sir y Fflint.

 

71.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 170 KB

Cyflwyno drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 i'r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22.  Dywedodd, fel sy'n ofynnol gan Reolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, fod yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2022 a'r Cabinet ar 26 Medi 2022.  Nid oedd unrhyw faterion o bwys wedi’u codi.  Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y prif bwyntiau fel y disgrifir yn 1.05 – 1.09 yr adroddiad eglurhaol.

 

            Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad fe wnaeth y Cynghorydd Paul Johnson ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'i dîm am eu gwaith ar gynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol.  Eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer hyn.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/23.

 

72.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 91 KB

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2021/22.  Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y pwyntiau allweddol sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.  Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2021/22 wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2021/22.

 

73.

Rheolau Gweithdrefnau Ariannol pdf icon PDF 96 KB

Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefn Ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i roi’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru i’r Cyngor Sir ar ôl adolygiad manwl.  Dywedodd fod y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio mewn cyfarfod y cafodd ei gynnal ar 14 Tachwedd 2022 a gofynnwyd am eglurhad ynghylch rhai o’r newidiadau y cafodd eu gwneud.  Roedd y pwyntiau a godwyd a'r ymatebion a gyflwynwyd wedi'u nodi yn yr adroddiad.  Gwnaeth Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ystyried y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol hefyd ar 12 Ionawr 2023 a gofynnwyd am ragor o eglurhad ynghylch rhai adrannau ond nid oedd angen unrhyw ddiwygiadau pellach.  Roedd y Rhestr Termau a’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru.

 

74.

Mabwysiadu’r Canllaw Iaith Gyffredin Model i’r Cyfansoddiad a gwneud diweddariadau i’r Cyfansoddiad Model Cenedlaethol. pdf icon PDF 85 KB

Argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad diwygiedig yn dilyn y gwaith a gyflawnwyd gan y gweithgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad wedi’i ddiwygio yn dilyn gwaith y gweithgor y cafodd ei benodi gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y gweithgor wedi ystyried model y canllaw iaith gyffredin drafft mewn cysylltiad â’r cyfansoddiad a’r diwygiadau i Fodel y Cyfansoddiad wedi’i ddiweddaru drafft ac wedi adrodd yn ôl i gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y cafodd ei gynnal ar 12 Ionawr 2023.  Penderfynodd y Pwyllgor wneud yr argymhellion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad i'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 1, paragraff 1.2 (iii), ac awgrymodd y dylid dileu'r is-baragraff gan ei fod yn credu bod swyddogaeth Aelodau Etholedig i gefnogi’r Cyngor a bod yn eiriolwr iddo eisoes wedi’i drafod ym mharagraff (ii).  Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gwelliant ac eglurodd y gallai gael ei gynnwys yn yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad pe bai'n cael ei fabwysiadu. 

 

            Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylai disgrifiadau o’r swyddogaethau ym Model y Cyfansoddiad drafft fod yn amodol ar ymgynghori ag Aelodau perthnasol, cyn i'r cyfansoddiad wedi'i ddiweddaru gael ei fabwysiadu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol; a

 

(b)       Cymeradwyo’r canllaw iaith gyffredin i’w fabwysiadu yn y Cyfarfod Blynyddol,

yn amodol ar gymharu’r ddogfen derfynol a chroesgyfeirio â’r cyfansoddiad drafft er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb rhwng y dogfennauhynny.

 

75.

Amserlen cyfarfodydd y Cyngor a fformat y cyfarfodydd pdf icon PDF 98 KB

Ystyried yr argymhellion o gyfarfod Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Ionawr 2023 mewn perthynas ag amseru ac amserlen cyfarfodydd y Cyngor a fformat cyfarfodydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno’r adroddiad.   Cyfeiriodd at yr arolwg y cafodd ei gynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022 er mwyn cael barn Aelodau etholedig a chyfetholedig ynghylch a ddylai trefniadau cyfarfodydd aros fel y maen nhw ar hyn o bryd neu a ddylid newid amserau i gynnwys cyfarfodydd gyda’r nos.  Gofynnwyd hefyd am farn ynghylch y fformat a ffefrir ar gyfer cyfarfodydd (hybrid neu o bell).

 

Cyflwynwyd crynodeb o ganlyniadau’r arolwg i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Ionawr 2023.  Cytunodd y Pwyllgor sefydlu gweithgor i ystyried yr ymatebion a chynnal adolygiad o'r Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad interim cyn gwneud unrhyw argymhelliad i'r Cyngor ynghylch newidiadau i fformat cyfarfodydd a mabwysiadu polisi hirdymor.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi argymell i'r Cyngor y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gael ei gynnal ar ffurf hybrid cyn gynted â phosibl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mike Peers, pan fo cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn y prynhawn, na ddylid trefnu cyfarfodydd na gweithdai sy’n gofyn i Aelodau fod yn bresennol ynddyn nhw yn y bore cyn y cyfarfod yn y prynhawn er mwyn i Aelodau allu paratoi ar gyfer cyfarfod y Cyngor.  Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cefnogi hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a ellid ystyried cychwyn cyfarfodydd y Cyngor am 1.00 pm.

 

Wrth siarad o blaid y cynnig i gynnal y Pwyllgor Cynllunio ar ffurf hybrid, gofynnodd y Cynghorydd Richard Lloyd a ellid ystyried cynnal cyfarfodydd yn swyddfeydd y Cyngor yn Nh? Dewi Sant, Ewlo.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon ynghylch y goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer cynnal cyfarfodydd ar ffurf hybrid a gofynnodd a ellid darparu costau.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gweithgor wedi'i benodi i ystyried yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal cyfarfodydd mewn fformat hybrid a'r effaith ar y Tîm Gwasanaethau Democrataidd.  Byddai'r gweithgor yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar ei ganfyddiadau a'r dewisiadau sydd ar gael. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid ystyried cynnal cyfarfodydd y Cyngor yn Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad a chafwyd trydydd argymhelliad y dylai’r bore gael ei gadw’n rhydd pan fo cyfarfod y Cyngor yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw er mwyn rhoi amser paratoi i Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r argymhelliad y dylid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio mewn fformat ‘Hybrid’ o 1 Mawrth 2023.

 

(b)       Bod y Cyngor yn aros am adroddiad arall gan Bwyllgor y Gwasanaethau Cyfansoddiad a Democrataiddar oblygiadau gweithio hybrid a Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad hirdymor; a

 

(c)       Pan fo cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn y prynhawn, bod y bore’n cael ei gadw'n rhydd ar y diwrnod hwnnw er mwyn rhoi amser paratoi i Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor.

 

76.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 29 KB

Pwrpas:        Mae’r item hon i dderbynunrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi i’r rhaglen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Rhybudd o Gynnig canlynol ei gyflwyno gan y Cynghorydd Richard Lloyd a’i eilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.

 

“Diben y cynnig hwn yw gofyn i Gyngor Sir y Fflint fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor, sy’n nodi’r gofal a’r cymorth y mae pobl sy’n byw â Chlefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr yn ei haeddu ac y dylen nhw ei ddisgwyl.

 

Mae’r Siarter Clefyd Niwronau Motor yn cynnwys 5 pwynt:

 

1.         Yr hawl i wybodaeth a diagnosis cynnar.

2.         Yr hawl i gael gofal a thriniaethau o safon.

3.         Yr hawl i gael eich trin fel unigolion a hynny â pharch ac urddas.

4.         Yr hawl i sicrhau bod eu hansawdd bywyd y gorau y gallai fod.

5.         Mae gan ofalwyr pobl â Chlefyd Niwronau Motor yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, i gael rhywun yn gwrando arnyn nhw a chefnogaeth dda.

 

Drwy fabwysiadu'r Siarter Clefyd Niwronau Motor, mae'r Cyngor hwn yn cytuno i hyrwyddo'r Siarter a sicrhau ei bod ar gael i bob Cynghorydd, staff y Cyngor, sefydliadau sy’n bartneriaid a gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau i'r Cyngor.

 

Byddwn ni’n codi ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor a sut beth yw gofal da ar gyfer y bobl sy’n byw â’r clefyd dinistriol hwn, fel y nodir yn y Siarter, ac yn gwneud popeth y gallwn ni fel Cyngor i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ansawdd bywyd pobl leol â Chlefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr sy’n byw yn ein cymuned”.

 

Wrth siarad ar y Rhybudd o Gynnig, esboniodd y Cynghorydd Richard Lloyd y rhesymau pam y cafodd ei gyflwyno i’r Cyngor a siaradodd am effaith ofnadwy’r clefyd ar ddioddefwyr a’u teuluoedd.  Gofynnodd i'r Aelodau gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gofynnodd i'r Cyngor fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor a chodi ymwybyddiaeth i helpu pobl yn y dyfodol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr argymhelliad canlynol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jason Shallcross.  Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei dderbyn a’i gefnogi.

 

77.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y terfyn amser.

 

 

78.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y terfyn amser

 

79.

Cwestiynau gan yr Aelodau ynglyn a Chofnodion y Pwyllgor

Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor.  Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y terfyn amser.

 

 

80.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 5.56 pm)