Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

75.

Cofnodion pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr.

Cynigiodd y Cynghorydd Owen Thomas eu bod yn gywir, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Small.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

76.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr McGuill ac Axworthy gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen – Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2021/22 gan eu bod yn aelodau o Fwrdd NEW Homes.

77.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthywd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd bod ei gyhoeddiadau wedi’u hanfon ar e-bost i bob Aelod yr wythnos diwethaf.

78.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward.  Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

79.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Mr Andy Dunbobbin, wedi’i wahodd i’r cyfarfod i drafod rôl, effaith a gweithrediadau’r Comisiynydd a sut mae’r Comisiynydd a’r Heddlu a’r cynllun trosedd yn gweithio gydag ac er budd Sir y Fflint mewn partneriaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Mr Andy Dunbobbin, i’r cyfarfod i drafod rôl, effaith a gweithrediadau’r Comisiynydd a sut mae’r Comisiynydd a’r cynllun heddlu a throsedd yn gweithio gydag ac er budd Sir y Fflint mewn partneriaeth.

 

Diolchodd Mr Dunbobbin i’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr am roi cyfle iddo annerch yr Aelodau. Ei rôl yw sicrhau bod pobl gogledd Cymru yn derbyn y gwasanaeth heddlu gorau posibl. Mi fydd yn glust ac yn llais cryf ar ran pobl gogledd Cymru ac roedd yn ffyddiog y bydd gogledd Cymru, drwy gydweithio, yn lle diogel i fyw a gweithio, gyda’r nod yn y pendraw o wella bywydau pawb yn y gymuned. Diolchodd i’r Cynghorydd David Evans, ei ragflaenydd fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog.

 

Roedd yn braf ganddo weld y gwaith sydd wedi’i wneud ers iddo gael ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd a sut mae cymunedau wedi cefnogi ei gilydd; mae arno eisiau i’r synnwyr hwnnw o gymuned gael ei adlewyrchu yn ei gynllun.

 

Un o’r cwynion mwyaf cyffredin yw diffyg presenoldeb yr heddlu yn y gymuned, ac addawodd i weithio’n galed i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion yr heddlu. Roedd yn benderfynol o sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio’n effeithiol gyda’i bartneriaid i ddarparu gwasanaeth hyd yn oed gwell gyda mwy o bobl yn teimlo’n saffach ac yn hyderus yn yr heddlu. Mae’r cynllun wedi’i lunio yn dilyn ymgynghori gyda phartneriaid a gyda chymorth cannoedd o bobl a lenwodd yr arolwg, ac roedd yn ddiolchgar iawn am hynny. Bydd yn monitro sut mae Heddlu Gogledd Cymru a’i bartneriaid yn cyflawni’r blaenoriaethau yn ofalus iawn, sef:

 

·         Darparu cymdogaethau mwy diogel: atal a mynd i’r afael â throsedd gwledig a bywyd gwyllt; gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd swyddogion a staff yr heddlu; a gwella diogelwch ar y ffyrdd

·         Cefnogi dioddefwyr a chymunedau: atal a mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol; diogelu pobl ddiamddiffyn, yn cynnwys plant; atal a mynd i’r afael â seiberdroseddu; ffurfio panel dioddefwyr; ac atal a mynd i’r afael â throseddau casineb

·         System gyfiawnder deg ac effeithiol: cyflwyno Strategaeth Troseddwyr Benywaidd Gogledd Cymru; cynyddu’r defnydd o gyfiawnder adferol; cefnogi a diogelu plant a phobl ifanc a’u dargyfeirio oddi wrth y System Gyfiawnder Troseddol; a mynd i’r afael â gwraidd troseddu a chefnogi adsefydliad pobl sydd wedi troseddu

 

Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion, o ddelio cyffuriau mewn trefi i droseddau gwledig ar ffermydd, mae’n hollbwysig bod gan bob cymuned berthynas a phrofiadau cadarnhaol gyda’r heddlu lleol. Yn ogystal â chynyddu nifer y swyddogion yn y gymuned, mae hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda’r Prif Gwnstabl i wella’r cymorth digidol sydd ar gael i swyddogion a staff yr heddlu er mwyn iddynt allu treulio mwy o amser yn y gymuned.

 

Mae gwella diogelwch ar y ffyrdd yn bwysig ac roedd yn awyddus i weld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y gogledd,  ...  view the full Cofnodion text for item 79.

80.

Diweddariad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I ddarparu’r  wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) ac eglurodd unwaith eto fod y Ddeddf yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu nifer o faterion. Mae’n ddeddfwriaeth anferth – gyda 170 o adrannau ac 14 o atodlenni, a dyna pam bod y cyfnod datblygu wedi bod mor hir. Mae rhai agweddau o’r Ddeddf yn adlewyrchu’r hyn mae Sir y Fflint, fel awdurdod arfer gorau, yn ei wneud yn barod. Ar gyfer y rhannau eraill bydd y swyddogion yn gwneud y gwaith angenrheidiol i’w gweithredu o fewn yr amserlenni penodedig.

 

Mae’r rhan fwyaf o’r Ddeddf eisoes wedi dod i rym ond mae yna rai darpariaethau allweddol na fydd ar waith tan 5 Mai 2022, i gyd-fynd â dyddiad Etholiadau’r Llywodraeth Leol.

 

Mae gweithgor swyddogion wedi’i sefydlu i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llawn a bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyngor o bryd i’w gilydd.

 

Mae cynnydd hyd yma wedi’i nodi yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Phillips ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr adroddiad briffio yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor;

 

(b)       Bod y Cyngor yn nodi goblygiadau cyfansoddiadol a goblygiadau eraill y Ddeddf, a bod y Gweithgor Gweithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 yn gweithio arnynt dan arweiniad y Prif Swyddog (Llywodraethu).

81.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Cyflwyno drafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i’w gymeradwyo.

 

            Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Tachwedd 2021, adolygodd yr Aelodau’r adroddiad Canol Blwyddyn a’i argymell i’r Cabinet. Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad Canol Blwyddyn ar 18 Ionawr 2022 a’i argymell i’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Johnson i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith ar yr adroddiad, ac am yr hyfforddiant Rheoli Trysorlys a ddarparwyd i Aelodau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y llog blynyddol ar fenthyca hirdymor a dywedodd bod angen ei leihau cymaint â phosibl gan ei fod ar hyn o brys dros £1 miliwn y mis.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bithell, gan fod chwyddiant dros 4% ar y funud, oes modd i gyfraddau llog godi. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Cyngor yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda’i ymgynghorwyr yngl?n â’r sefyllfa economaidd i’r dyfodol gan fod yna bosibilrwydd y byddai cyfraddau llog yn codi ac yn cael effaith ar fenthyciadau’r Cyngor. Fodd bynnag, yn ystod y broses gyllidebu ar gyfer y costau benthyca, fe roddwyd ystyriaeth ofalus i hynny am y rheswm hwnnw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson ac eiliodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2021/22.

 

82.

Diwygiadau i God Ymarfer Cynllunio pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        I adolygu Cod Ymarfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi diweddaru’r Protocol Cwrdd â Chontractwyr ym mis Ebrill 2021 fel rhan o adolygiad y cyfansoddiad. Mae’r rhannau sy’n ymwneud â delio gyda chontractwyr/datblygwyr a thrydydd parti a all fod yn cynnig neu’n ceisio am gontract gyda’r Cyngor wedi’u diwygio. Penderfynodd y Cyngor y dylid symud y rhannau sy’n ymwneud â chysylltu gyda chontractwyr i’r Cod Ymarfer Cynllunio er mwyn osgoi dyblygu.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol mai’r rhannau sy’n darparu cyngor mewn perthynas â datblygwyr sy’n cael eu symud i’r Cod Ymarfer Cynllunio, ac y byddai’r Cod Ymarfer Cynllunio yn cael ei ddiwygio fel y bo’n briodol.

 

Yn ystod cyfarfod y Cyngor ym mis Ebrill 2021, ble cymeradwywyd y protocol diwygiedig, gofynnodd yr Aelodau hefyd am gynnwys cyngor yn y Cod Ymarfer Cynllunio ar y broses ymgynghori cyn cyflwyno cais.

 

Ystyriwyd y newidiadau arfaethedig uchod gan y Gr?p Strategaeth a gofynnwyd am addasiadau ychwanegol i’r Cod Ymarfer Cynllunio a fyddai o gymorth i Aelodau sy’n ymwneud â’r broses gynllunio.

 

Ar 5 Gorffennaf 2021 cynigiodd y Pwyllgor Safonau ragor o ddiwygiadau. Ystyriodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y Cod Ymarfer Cynllunio diwygiedig ar 30 Medi 2021, a’i gymeradwyo yn amodol ar rai newidiadau pellach.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bithell, mewn perthynas ag 8.1 – ymgynghoriadau cyn cyflwyno cais cynllunio, y dylid ychwanegu ‘pan fydd y cais yn cael effaith sylweddol ar ward yr Aelod’ ar ôl ‘bydd Aelod y ward cyfagos yn cael ei wahodd i’r cyfarfod’. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod yr awgrym yn cyd-fynd â gweddill y ddogfen. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y penderfyniad ynghylch beth fydd yn digwydd yn cael ei wneud yn naturiol fel rhan o’r broses.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hardcastle, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod adran 9.3.5 yn ymwneud ag ymweliadau â safleoedd a nodiadau briffio a wneir ar unrhyw bwynt a godir.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r diwygiadau i’r Cod Ymarfer Cynllunio, fel yr amlygir yn yr atodiad; a

 

(b)       Ychwanegu ‘pan fydd y cais yn cael effaith sylweddol ar ward yr Aelod’ ar ôl ‘bydd Aelod y ward cyfagos yn cael ei wahodd i’r cyfarfod’ yn 8.1.

83.

Datganiad a Gwarediad Tir Nad Oes ei Angen pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cytuno ar fân newidiadau i’r Cyfansoddiad i wella tryloywder ac eglurder ynghylch sut fydd y tir yn cael ei ddatgan fel nad oes ei angen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod yn rhaid i’r Cyngor, o dro i dro, benderfynu nad oes arno angen darn o dir, ac yn ei gategoreiddio fel ‘tir nad oes ei angen’. Caiff tir o’r fath ei werthu gan gynhyrchu derbyniadau sy’n ariannu’r rhaglen gyfalaf.

 

Mae’n bwysig bod y penderfyniad i wneud hynny yn cynnwys ymgynghoriad gyda’r partïon perthnasol, yn enwedig os yw’r eiddo yn rhan o’r stad addysg.

 

Nid yw’r broses wedi’i dogfennu ac argymhellir bod proses fer yn cael ei chynnwys yn y Cyfansoddiad er mwyn egluro pethau a sicrhau ein bod ni’n dryloyw.

 

Cynigwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Bithell.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bithell pwy sy’n prisio’r tir ac eglurodd y Prif Weithredwr y byddai hynny’n dibynnu ar y tir, ac y byddai’r prisiwr mwyaf priodol yn cael ei ddefnyddio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones, dywedodd y Prif Weithredwr bod yna achlysuron lle mae darn o dir i’w waredu wedi bod ar safle ysgol a dan yr amgylchiadau hynny mae’r Cyngor yn trafod gyda’r ysgol.

 

Cafwyd trafodaeth o ran pryd fydd Aelodau ward yn rhan o’r broses o waredu tir. Teimlodd yr Aelodau y dylai hynny fod yn gynt yn y broses, a cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones ddiwygiad i gynnwys “pan fo darn o dir yn cael ei nodi fel tir nad oes ei angen, dylid rhoi gwybod i’r Aelod lleol”.

 

Fel cynigydd ac eilydd yr argymhelliad, derbyniodd y Cynghorwyr Phillips a Bithell y diwygiad i ffurfio rhan o’r cynnig gwreiddiol.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Roberts, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod yna ddulliau atebolrwydd a fyddai’n cael eu hadrodd drwy’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob blwyddyn ar bris gwerthu tiroedd sydd wedi’u gwaredu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Marion Bateman, eglurodd y Prif Weithredwr fod y tir sydd ar werth ar y Gofrestr Asedau, sy’n ddogfen gyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y broses arfaethedig ar gyfer nodi a gwaredu tir nad oes ei angen yn cael ei chynnwys yn y Cyfansoddiad a bod Aelodau Lleol yn cael gwybod pan fydd darn o dir wedi’i nodi fel tir nad oes ei angen. Bydd pris gwerthu tiroedd sydd wedi’u gwaredu yn cael ei adrodd yn flynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

84.

Cwestinynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

85.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

86.

Rhybudd o Gynnig

Pwpras:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

87.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.