Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

12.

Cofnodion pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 9 a 29 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodion 9 Medi 2020

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, yn amodol ar ddiwygiad gan y Cynghorydd Peers ar gofnod 5(v), a chafodd ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Dunbar a Jean Davies. Ar yr un eitem, cytunodd y swyddogion i rannu’r protocol ar gyfer Aelodau sy’n mynd i gyfarfod fel Arsyllwr i gael siarad mewn Pwyllgor Archwilio a Chraffu, gan nodi y byddai angen i Aelodau ofyn am fynediad i gyfarfodydd o bell os oeddynt yn dymuno mynychu.

 

Cofnodion - 29 Medi 2020

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, yn amodol ar ddiwygiad gan y Cynghorydd Peers ar gofnod 10, a chafodd ei gynnig a eilio gan y Cynghorwyr Bithell a Dunbar.Fel cam gweithredu heb ei gwblhau ar yr un eitem, byddai cais y Cynghorydd Peers i drafod gyda swyddogion er mwyn egluro’r geiriad yn cael ei ddilyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y ddau ddiwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

13.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer pob Aelod ar eitem Tâl (eitem rhif 11 ar yr agenda).

 

Datganodd y Cynghorwyr Bernie Attridge, Chris Bithell, Ian Dunbar, Billy Mullin, Hilary McGuill, Ted Palmer, Neville Phillips, Kevin Rush, Aaron Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas ac Andy Williams gysylltiad personol yn y Datganiad ar Bolisïau Tâl (eitem rhif 9 ar y rhaglen) oherwydd pobl agos atynt sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor.

 

Datganodd y Cynghorydd Aaron Shotton gysylltiad personol o ran y cyfeiriad yn yr adroddiad ar Protocol Aelod/Swyddog (eitem rhif 12 ar y rhaglen).

 

Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol (eitem rhif 7 ar y rhaglen) am ei fod yn ddarparwr gwasanaeth bws.

14.

Cydnabod y gwobrau i bobl leol ar Restr Anrhydeddu Pen-blwydd y Frenhines

Mae’r Cyngor yn falch o gydnabod bod y bobl ganlynol o Sir y Fflint wedi’u cynnwys ar Restr Anrhydeddu Pen-blwydd y Frenhines 2020 a gyhoeddwyd ar 10 Hydref.

 

Derbynnydd

Tref / cymuned

Anrhydedd

A dderbyniwyd am

Rt. Hon. David George Hanson

Fflint

Urdd Marchog

Yn Aelod Seneddol i Delyn yn ddiweddar. Am wasanaeth gwleidyddol.

Cyng David Evans (Dwyrain Shotton)

Penarlag

OBE

Am wasanaeth cyhoeddus.

Eric Harries Peake

Fflint

MBE

Am wasanaethau i’r Celfyddydau a Chadwraeth Adaryddiaeth.

Bethan Sian Reece

Fflint

MBE

Cynghreiriad Iechyd Meddwl. Am wasanaethau i weinyddu cyfiawnder.

John Challenger

Fflint

BEM

Am wasanaethau i bobl ifanc yn y Gogledd Orllewin yn ystod Covid 19.

Robert Alan Forrester

Fflint

BEM

Wedi bod yn rheolwr gweithredu bad achub, Gorsaf Bad Achub Sir y Fflint. Am wasanaethau gwirfoddol ac achosion da i’r Sefydliad Bad Achub Cenedlaethol Brenhinol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn falch iawn o allu llongyfarch chwe pherson lleol a fyddai’n derbyn gwobrau ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a gyhoeddwyd ar 10 Hydref.Yr unigolion yma oedd Y Gwir  AnrhydeddusDavid George Hanson, y Cynghorydd David Evans, Eric Harries Peake, Bethan Sian Reece, John Challenger a Robert Alan Forrester.Dywedodd eu bod wedi derbyn llythyr gan y Cyngor i gydnabod eu cyflawniadau a byddent yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni ffurfiol yn Neuadd y Sir pan fyddai pethau’n dychwelyd i normal.

 

Fe ailadroddodd y Cynghorydd Ian Roberts ac Aelodau eraill ei theimladau, gan longyfarch y chwech.

15.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i atgoffa pawb am y cyfnod atal byr cenedlaethol oedd ar y gorwel roedd y Prif Weinidog wedi ei gyhoeddi, a diolchodd i drigolion Sir y Fflint am eu cydweithrediad i ddelio â’r sefyllfa anodd yma.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad llawn ar lafar am y sefyllfa.Roedd o ac Arweinydd y Cyngor yn parhau i fod yn rhan o drafodaethau cenedlaethol gyda Gweinidogion a gweision sifil am y camau nesaf.Dywedodd tra bod rhaid i rai gwasanaethau gau dros y cyfnod atal byr, byddai gwasanaethau eraill o dan ddisgresiwn lleol yn parhau lle y bo’n bosibl.Byddai’r Aelodau’n cael eu diweddaru’n wythnosol a chawsant eu hannog i gysylltu â’r Prif Weithredwr yn uniongyrchol os oeddynt angen eglurhad.Diolchodd y Cadeirydd iddo am ei waith trwy gydol y sefyllfa argyfyngus.

 

Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i’r Arglwydd Barry Jones. Roedd Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir yn cael ei ail-enwi ar ei ôl o i gydnabod ei 50 o wasanaeth cyhoeddus.Gan fod y digwyddiad yma wedi cael ei ganslo yn sgil y sefyllfa argyfyngus, byddai dathliad ffurfiol o’i gyflawniad yn cael ei drefnu yn y dyfodol.

16.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd McGuill ddeiseb ar ran preswylwyr Moel View ac Overdale ym Mynydd Isa er mwyn mynd i’r afael â phryderon diogelwch parcio. Cyflwynwyd deiseb hefyd gan y Cynghorydd Connah ar ran preswylwyr Prince William Gardens yn Mancot er mwyn mynd i’r afael â phryderon diogelwch parcio.

 

Yn unol â’r broses arferol, byddai’r deisebau’n cael eu pasio at y Prif Swyddog perthnasol er mwyn ymateb i’r prif gynigydd. Byddai’r adroddiad blynyddol am ganlyniadau’r deisebau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn yn cael ei dderbyn ym mis Ebrill 2021.

17.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20, fel yr argymhellwyd gan y Cabinet, er mwyn ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau. Adroddiad statudol yw hwn sy’n rhoi trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn erbyn y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2019/20, gan ddangos cynnydd cadarnhaol yn erbyn prif weithgareddau a chanlyniadau dangosyddion perfformiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol ac Ymgynghorydd Perfformiad Strategol gyflwyniad yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Trosolwg o Berfformiad 2019/20

·         Cynnydd yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor

·         Cynnydd yn erbyn Is-flaenoriaethau

·         Uchafbwyntiau

·         Meysydd i’w Gwella

·         Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Trosolwg o Berfformiad - Cynllun y Cyngor

·         Trosolwg Cenedlaethol

·         Trosolwg o Berfformiad

·         Y Camau Nesaf

 

Dangosodd trosolwg o berfformiad bod cynnydd da dros y blynyddoedd diweddar wedi cael ei gynnal yn 2019/20. Roedd y pedwar maes a nodwyd ar gyfer gwelliant yn parhau i gael eu monitro, gyda chynnydd eisoes yn cael ei wneud ar fynd i’r afael â digartrefedd ac absenoldeb salwch.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Carolyn Thomas a’i eilio gan y Cynghorydd Mullin.Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, rhoddodd y Cynghorydd Thomas deyrnged i’r cyflawniadau yn y meysydd hynny.Diolchodd i’r tîm Gwasanaethau Stryd a phreswylwyr am berfformiad cryf yn erbyn targedau ailgylchu gan dynnu sylw at amryw o ganlyniadau cadarnhaol megis rhaglen llenwi tyllau yn y ffordd, cyflwyno cynlluniau priffyrdd a mentrau amrywiol roedd y tîm Cefn Gwlad wedi eu cyflawni.Roedd hi hefyd yn croesawu’r gwaith ar newid hinsawdd/lleihau carbon a oedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol.Yn ei farn o, fe ddylai fod yna fwy o aliniad rhwng yr amcanion yn y Cynllun Llesiant a Chynllun y Cyngor a fyddai’n cyd-fynd yn well â’r portffolios.Gan nodi’r dirywiad disgwyliedig yng nghyflwr ffyrdd dosbarth A a B, roedd yn cydnabod y gallai’r gwelliant yn ffyrdd dosbarth C fod am eu bod wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen llenwi tyllau ffordd.

 

Gan ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod y gwaith wedi dechrau ar Gynllun y Cyngor 2020/21 a byddai’r sylwadau yma’n cael eu hystyried yn llawn. Byddai’r cyfarfod ym mis Rhagfyr yn gyfle i ystyried y fformat a sut oedd y ffordd orau o gyflwyno’r bwriad, cynnwys a gwerthoedd y tu ôl i Gynllun y Cyngor.Byddai swyddogion yn darparu eglurhad am y nifer gwahanol o fesurau atebolrwydd cyhoeddus (MAC) ar ôl y cyfarfod.

 

Yn ystod yr eitem, fe ganmolodd nifer o Aelodau yr ystod o gyflawniadau a diolch i swyddogion am eu gwaith yn ystod y pandemig.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y tîm yng ngwasanaeth gofal dydd Hwb Cyfle mewn partneriaeth â Home Farm Trust, ynghyd â chwblhau’r gwaith adeiladu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

 

Tra’n nodi llwyddiant Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor, fe awgrymodd y Cynghorydd Peers bod timau Strategaeth Tai a Chynllunio yn rhoi ystyriaeth fanwl i fynd i’r afael â diffyg cyflenwad o dai fforddiadwy gan y sector preifat.Gofynnodd am gynnydd o ran datblygiad  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

Annual Performance Report - presentation slides pdf icon PDF 705 KB

Dogfennau ychwanegol:

18.

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/20 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/20 drafft i'r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019/20 i’w gymeradwyo, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Archwilio a'r Cabinet.Tynnodd sylw at y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a gadarnhaodd fod y swyddogaeth Rheoli Trysorlys wedi gweithredu o fewn y cyfyngiadau a nodwyd yn y Strategaeth ar gyfer y cyfnod.I gynorthwyo â datblygu Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22, byddai sesiwn hyfforddi gydag ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor yn cael ei gynnal o bell ar 9 Rhagfyr 2020. Er mwyn i rai Aelodau ofyn cwestiynau, byddai swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o sesiwn fin nos ychwanegol.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adrodd ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Dolphin a ddiolchodd i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith.Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks gan annog pob aelod i fynychu’r sesiwn hyfforddi a fyddai’n cael ei gynnal yn fuan.

 

Fe nododd y Cynghorydd Peers ddyraniad Bwrdd Benthyca Gwaith Cyhoeddus ar gyfer NEW Homes, a gofynnodd am y cynlluniau ar gyfer y balans. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y benthyciadau wedi cael eu cymryd er mwyn manteisio ar y cyfraddau llog isel i fodloni gofyniad y Cyngor ar gyfer benthyca hir dymor, ac nid oeddynt wedi cael eu dyrannu i brosiectau cyfalaf penodol.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2019/20.

19.

Datganiad Diwygiedig ar Bolisiau tal ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Mae'n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisiau Tal erbyn mis Ebrill bob blwyddyn.  Y Datganiad ar Bolisiau Tal a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw'r wythfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Ddatganiad ar Bolisïau Tâl blynyddol ar gyfer 2020/21 gan grynhoi’r ymagwedd bresennol tuag at gyflog a thâl mewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n rwymedigaeth statudol i gyhoeddi’r Datganiad ar Bolisïau Tâl bob blwyddyn cyn dyddiad cau penodol. Cafodd yr Archwiliad Cyflog Cyfartal diweddaraf ei rannu er gwybodaeth hefyd.

 

Dywedodd yr Uwch-Reolwr ar gyfer Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol bod rhai rhannau wedi cael eu hailysgrifennu er mwyn gwella llif yr adroddiad a bod gohiriad yr adroddiad yn gynharach eleni wedi galluogi i ddata dyfarniad cyflog 2020 gael ei gynnwys yn ogystal â newidiadau cenedlaethol.Rhoddodd drosolwg o’r prif newidiadau yn cynnwys rhan ychwanegol ar derfyn ar daliadau gadael y sector cyhoeddus a chadarnhaodd y byddai’r rhain yn cael eu gweithredu ar 4 Tachwedd 2020. Bydd rhagor o wybodaeth am yr effaith ar yr awdurdod yn cael ei rannu maes o law.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mullin a Palmer, a diolchodd y ddau i’r tîm am eu gwaith.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at drafodaeth yn y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd am ymatebion amserol swyddogion i ymholiadau Aelodau gan ofyn a oedd hyn yn ystyriaeth yng ngwerthusiadau blynyddol a chanol blwyddyn Prif Swyddogion.Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn gyfrifol am gynnal gwerthusiadau pob Prif Swyddog oedd yn ymdrin ag amcanion perfformiad ar gyfer y portffolios perthnasol. Fe ailadroddodd y cyngor y dylai unrhyw faterion o dan berfformio gael eu hadrodd naill ai iddo fo neu’r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, fel y nodir yn y protocol y cytunwyd, er mwyn iddynt gymryd camau priodol.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2020/21 yn cael ei gymeradwyo a bod yr Archwiliad Cyflog cyfartal yn cael ei nodi.

20.

Rheolau Gweithdrefn Ariannol pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r Rheolau Gweithdrefn Ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Rheolau Gweithdrefn Ariannol arfaethedig oedd wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn mân ddiwygiad gan y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Wrth gynnig yr argymhelliad, diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Banks.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Richard Jones am gyfeiriadau at werth am arian a gofynnodd sut y gallai hyn gael ei fesur yn effeithiol, ac fe awgrymodd y gallai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol drafod hyn ymhellach. Rhoddodd y Prif Weithredwr enghraifft pan gafodd y rheolau eu gweithredu gan werthuso ansawdd a gwerth am arian tra’n dyfarnu contractau.Dywedodd y gellir edrych ar waith ar fuddsoddiadau cyfalaf mewn rhagor o fanylder yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol wedi’u diweddaru.

21.

Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar Gyfer 2020/21 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I’r Cyngor gymeradwyo’r rhestr o gydnabyddiaethau ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2020/21 ar gyfer eu cyhoeddi, gan fod yr holl benodiadau wedi eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 i’w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod i ddiweddaru’r Atodlen drwy ychwanegu enwau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r aelod cyfetholedig a enwebwyd gan y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar ôl i’r apwyntiadau hynny gael eu cadarnhau.

 

Fel y cytunwyd yng nghyfarfod diweddaraf Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, byddai’r Cyngor yn cydymffurfio â Phenderfyniadau 9 a 10 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol trwy gynnig gliniaduron i Aelodau ynghyd â lwfans band eang neu ddyfais ‘MiFi’.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Phillips a ddiolchodd i’r Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Tâl ar gyfer 2020/21 sydd ynghlwm yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei awdurdod i ychwanegu enwau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar iddynt gael eu penodi a’r aelod cyfetholedig ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar ôl iddynt gael eu henwebu.

22.

Adolygu Protocol Aelodau / Swyddogion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Protocol Aelodau / Swyddogion Diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Protocol Aelod/Swyddog a ddiweddarwyd sydd yn nodi sut y dylai natur y berthynas rhwng aelodau etholedig a swyddogion cyflogedig weithio. Roedd y Protocol wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgor Safonau ac roedd yn adlewyrchu canlyniadau gwaith ar ddelio ag achosion a Safon Sir y Fflint.Roedd y fersiwn ddiweddaraf o’r Protocol wedi cael ei ddosbarthu oedd yn cynnwys diwygiadau gan y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod diweddaraf.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y protocol diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

23.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

24.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

25.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Argraffiad 1 2020/21, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar Dydd Mercher, 14 Hydref, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

26.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.