Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter on 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

103.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

104.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei chyhoeddiadau a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod, fe dynnodd y Cadeirydd sylw at ddigwyddiad ychwanegol a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, sef codi Baner Enfys a dywedodd fod y Cynghorwyr Billy Mullin, Haydn Bateman a Paul Shotton wedi mynychu. Fe dynodd y Cadeirydd sylw hefyd at Fwyd Banc Sir y Fflint sydd yn darparu gwasanaeth gwerthfawr sydd fawr ei angen yn y gymuned, ac fe awgrymodd fod Aelodau yn ymweld â’r cyfleuster sydd wedi ei leoli ar safle’r Cyngor.   

 

105.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward.  Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.   

 

106.

Teyrngedau i'r Diweddar Gynghorydd Ken Iball

Pwrpas:        I alluogi Aelodau i dalu teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Ken Iball.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn cychwyn y teyrngedau i’r diweddar Gynghorydd Ken Iball, fe soniodd y Cadeirydd am y newyddion trist am farwolaeth ddiweddar Terry Hands a’r Cynghorydd Huw Llewelyn-Jones. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau sefyll am funud o dawelwch fel teyrnged iddynt. 

 

Arweiniodd y Cynghorydd Neville Phillips y teyrngedau i’r Cynghorydd Ken Iball gan Aelodau. Siaradodd am gysylltiadau teulu cryf Cynghorydd Iball â Bwcle, a’i ddiddordebau mewn chwaraeon a’i gyflawniadau mewn pêl-droed a chriced. Fe soniodd y Cynghorydd Phillips am waith y Cynghorydd Iball fel gweithiwr dur lleol ac fel tafarnwr, a dywedodd ei fod wedi fod wedi bod yn Ynad Heddwch ac yn Gadeirydd Mainc Ieuenctid yr Wyddgrug. Siaradodd am yrfa hir y Cynghorydd Iball yng ngwasaneth cymunedol, a chyn iddo fod yn aelod Gyngor Sir y Fflint, fe wasanaethodd ar nifer o Gynghorau, gan enwi Cyngor Cymuned Sealand, Cyngor Gwledig Penarlâg, Cyngor Sir Clwyd a Chyngor Dosbarth Alun a Glannau Dyfrdwy fel enghreifftiau. Dywedodd bod y Cynghorydd Iball wedi cael ei benodi yn Faer Bwcle; ac yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, fe groesawodd Ei Mawrhydi y Frenhines pan ddaeth hi i agoriad swyddogol Theatr Clwyd.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Phillips fod Cynghorydd Iball yn aelod gweithgar o’r Eglwys yng Nghymru a’i fod yn arfer mynychu Eglwys St. Matthews, Bwcle. Siaradodd am deulu’r Cynghorydd Iball a’r gefnogaeth roedd ei ddiweddar wraig wedi rhoi iddo trwy gydol ei yrfa. Fe gydymdeimlodd yn ddiffuant â’r teulu yn eu colled trist.

 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones ei bod yn adnabod y Cynghorydd Iball ers eu plentyndod, a siaradodd am ei gymeriad da, ei ddigrifwch, ei garedigrwydd a’i ystyriaeth o bobl eraill.  Dywedodd fod y Cyngorydd Iball yn ?r bonheddig ac yn ?r oedd ag uniondeb cymeriad, ac roedd hi’n teimlo’n ddyledus iddo am ei chefnogi pan gafodd hi ei hethol yn Gynghorydd newydd.  Mynegodd ei chydymdeimlad dwys â’r teulu, a dywedodd y byddai colled fawr ar ei ôl.   

 

Fe soniodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson am ei gysylltiad hirdymor â Chynghorydd Iball, fel cydweithiwr ac fel ffrind agos. Fe ailadroddodd sylwadau’r Cynghorydd Neville Phillips yngl?n â diddordeb a chyflawniadau’r Cynghorydd Iball mewn pêl-droed a chyfeiriodd at ei aelodaeth o Gyngor Chwaraeon Cymru a Theatr Clwyd. Fe bwysleisiodd fod y Cynghorydd Iball wedi cael ei ethol yn Faer Bwcle ddwywaith, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o hoelion wyth yn y gymuned leol a’r Sir, ac roedd yn uchel ei barch. Mynegodd y Cynghorydd Hutchinson ei dristwch ei fod wedi marw, a mynegodd ei gydymdeimlad diffuant â’r teulu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Tony Sharps deyrnged i’r Cynghorydd Iball hefyd. Roedd yn ei adnabod ers sawl blwyddyn ac fe soniodd am ei gymeriad, ei brofiad, ei garedigrwydd a’i gefnogaeth.

 

Darllenodd y Cadeirydd deyrnged gan y Cynghorydd Carol Ellis nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd fod y Cynghorydd Iball wedi ei chroesawu a’i chefnogi pan gafodd ei phenodi yn Gynghorydd newydd i Gyngor Tref Bwcle. Roedd yn ?r oedd â llawer o feddwl am ei gymuned  ...  view the full Cofnodion text for item 106.

107.

Teyrngedau i'r diweddar Terry Hands CBE

Pwrpas:        Talu teyrnged i’r diweddar Terry Hands CBE, y cyn-Gyfarwyddwr Theatr yn Theatr Clwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe arweiniodd y Cynghordd Ron Davies y teyrngedau gan Aelodau i Terry Hands. Fe soniodd am ei berthynas waith dda gyda Terry tra’i fod yn Gadeirydd Theatr Clwyd a dywedodd fod Terry yn uchel ei barch yn y diwydiant Celfyddydau a daeth yn gyd Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company, Stratford on Avon yn 1978. Dywedodd fod Terry wedi codi proffil Theatr Clwyd i lefel cydnabyddedig ym mhob ffordd, heblaw mewn enw, yn theatr genedlaethol Cymru. Cafodd ei farwolaeth sylw gan wasg y byd, a rhoddwyd teyrnged iddo ym mhapur newydd The New York Times. Dywedodd y Cynghorydd Davies fod Bwrdd Theatr Clwyd wedi cytuno y byddai plac yn cael ei osod yn y Theatr er mwyn cofnodi ei gyflawniadau. Mynegodd y Cynghorydd Davies ei gydymdeimlad â theulu Terry am eu colled trist.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Derek Butler deyrnged i Terry Hands hefyd, ac fe soniodd am ei gyflawniadau yn Theatr Clwyd. Dywedodd ei fod wedi gweithio gyda Terry am sawl blwyddyn tra’i fod yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, a byddai colled fawr ar ei ôl.

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged i Terry Hands hefyd, gan ddweud ei fod yn uchel i barch yn y diwydiant theatr. Fe soniodd am ei rinweddau personol a’r gwaddol y bydd ei waith a’i gyflawniau yn Theatr Clwyd yn ei adael.

 

108.

Tributes to the late Councillor Huw Llewellyn-Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Bateman, Cadeirydd Dros Dro Cronfa Bensiynau Clwyd mai â thristwch y dysgodd yr Aelodau am farwolaeth y Cynghorydd Huw Llewelyn Jones, sef cynrychiolydd Cyngor Sir Ddinbych ar Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd ers 20 mlyendd. Yn ystod ei oes wleidyddol dywedodd y Cynghorydd Bateman fod Huw wedi bod yn Aelod Plaid ar gyfer ward Corwen ers 2008 a’i fod wedi gwasanaethu fel Aelod o'r Cabinet ac yn Gadeirydd Craffu.   

 

Fe barhaodd y Cynghorydd Batemen fod ei gydweithwyr yn cofio Huw fel rhywun oedd â phersonoliaeth wych.  Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych fod “Sir Ddinbych wedi colli g?r bonheddig a byddai Huw yn cael ei gofio â chynhesrwydd a hoffter”. Dywedodd y Cynghorydd Bateman fod aelodau o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd yn ailadrodd y teimladau hynny. 

 

 

109.

Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 Cam Tri - Gosod Cyllideb Gyfreithiol a Chytbwys pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i osod Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21. Cyfeiriodd at Ddatganiad y Gyllideb a roddwyd i Aelodau oedd wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd yn syth cyn cyfarfod y Cyngor, ac fe soniodd am argymhellion y Cabinet i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2020/21. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol: 

 

  • gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys
  • diweddariad am ragolwg ariannol ar gyfer 2020/21
  • Datrysiadau cyllideb 2020/21
  • cronfeydd wrth gefn (heb eu clustnodi/wedi eu clustnodi)
  • cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol
  • risgiau agored
  • Treth y Cyngor
  • barn broffesiynol a sylwadau i gloi
  • edrych ymlaen a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion am eu cyflwyniad a’r gwaith i osod cyllideb gytbwys. Diolchodd hefyd i Aelodau am ymgysylltu a chydweithio fel Cyngor unedig trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datrysiadau i’r ansicrwydd am gyllid ar gyfer Llywodraeth Leol a phwysleisiodd yr angen am sefydlogrwydd.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at y tywydd gwael diweddar ac fe achubodd ar y cyfle i ddiolch i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’r tîm gwasanaethau Strydwedd am eu gwaith paratoi a’u hymroddiad i ddelio ag unrhyw faterion brys.  Gan gyfeirio at osod Treth y Cyngor, fe soniodd am y 0.25% cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac fe soniodd am yr amrywiaeth o wasanaethau oedd yn cael eu darparu, dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau gwytnwch. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at yr arbedion roedd Cronfa Bensiynau Clwyd wedi’i gyflawni trwy ostwng cyfraniadau cyflogwr (Adolygiad Tair Blynedd) ar gyfer Sir y Fflint ac ailgyfrifo sefyllfa yn ystod y flwyddyn ar gyfraniadau pensiwn blynyddol cyflogwr, a diolchodd i bawb oedd yn rhan o hynny. 

 

Wrth symud argymhellion 1 i 8 y Cabinet i’r Cyngor fel y manylir yn adroddiad y Cabinet oedd yn atodiad i’r adroddiad, fe dynnodd y Cynghorydd Ian Roberts sylw at argymhelliad 8: “Mae’r Cabinet yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ymrwymo i gynllunio cyllideb tymor canolig o dair blynedd gyda setliadau llywodraeth leol yng Nghymru ar lefel isafswm o 4% ym mhob un o’r blynyddoedd hynny, a bod dyfarniadau tâl cenedlaethol a diwygiadau a diwygiadau pensiwn ac adbrisiad i’r cyllid yn llawn ar lefel genedlaethol yn y tarddiad”.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Cyngor yn ystyriol o’r effaith uniongyrchol roedd Treth y Cyngor yn ei gael ar bobl ac roedd yn falch mai’r Treth y Cyngor roedd y Cabinet yn ei argymell oedd 4.5%.   Er y byddai hyn yn cynyddu i 4.75% pan fyddai’r ardoll ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei ychwanegu, dywedodd y byddai dal i fod yn is nag ymrwymiad y Cyngor i gapio cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor i 5.0%. Dywedodd y Cynghorydd Roberts mai’r cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21

Pwrpas:        I basio penderfyniad ffurfiol i osod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21, os yw’r Cyngor yn gallu cymeradwyo cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn y cyfarfod hwn, gan gynnwys lefel y dreth i’w godi (Eitem 7).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Weithredwr bod gofyn i’r Cyngor ystyried y datrysiadau ffurfiol er mwyn gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21, ar ôl cymeradwyo’r gyllideb a lefel Treth y Cyngor a argymhellir. 

 

Fe soniodd y Rheolwr Cefnogi Refeniw am y data sydd wedi’i ddarparu yn Nhabl 4 yr wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod sy’n manylu ar y symiau o Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 ar gyfer pob categori o anheddau a ddangosir.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd y dylai’r Cyngor gymeradwyo gosod Treth y Cyngor ar 4.75%, byddai cyfanswm elw Treth y Cyngor a gasglwyd o fis Ebrill 2020 yn £108.4miliwn. Fe eglurodd fod hyn yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir o £86.6miliwn; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru o £18.76miliwn; a phraesept gyfunol o ychydig dros £3miliwn ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.  

 

Yn unol â materion gweithdrefnol eraill, gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo i barhau â’r arfer fod swyddogion dynodedig yn arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon ar gyfer trethi sydd heb eu talu; i Awdurdodi’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i hysbysebu rhestr o ffioedd Treth y Cyngor a gymeradwywyd ar gyfer 2020/21 yn y wasg leol; a chymeradwyo parhau â’r cynllun Premiwm Treth y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw bod cyfanswm o 69,503 o breswylwyr Sir y Fflint yn talu treth y cyngor.  Fe eglurodd y byddai taflen yn cael ei hanfon gyda phob datganiad Treth y Cyngor er mwyn gwneud preswylwyr yn ymwybodol fod ganddynt opsiwn i dalu ffi Treth y Cyngor mewn 12 rhandaliad yn hytrach na’r cynllun 10 mis statudol.    

 

Diolchodd y Cadeirydd a Phrif Weithredwr i’r Rheolwr Refeniw a’i dîm am eu gwaith. Fe dynnodd y Prif Weithredwr sylw at gyflawniad mai’r Cyngor sydd â’r gyfradd casglu Treth y Cyngor gorau yng Nghymru, fel y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei gydnabod.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Mike Peers, cytunodd y Rheolwr Refeniw i ddosbarthu rhagor o fanylion i Aelodau am y cynnydd yn ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion canlynol a gafodd eu heilio gan y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

(1)       Bod Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn cael ei osod yn seiliedig ar y rhestr o ffioedd sydd wedi’u rhestru yn Rhestr Ddatrysiadau Statudol a Ffioedd Treth y Cyngor (a gafodd eu dosbarthu yn y Cyngor llawn);

 

(2)       Bod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â darparu gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir, a phan nad yw eithriadau yn berthnasol, codi Premiwm Treth y Cyngor o 50% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag tymor hir;

 

(3)       Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu  ...  view the full Cofnodion text for item 110.

111.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020/21 oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Pwyllgor Archwilio wedi adolygu’r Strategaeth mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020 a rhoddwyd adborth i’r Cabinet mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn y Cyngor Sir.Roedd cwestiynau’r Pwyllgor Archwilio ac ymatebion y Swyddogion wedi’u manylu ym mharagraff 1.15 adroddiad y Cabinet, dyddiedig 18 Chwefror 2020. Ar ôl ystyriaeth, roedd y Cabinet wedi argymell y Strategaeth i’r Cyngor ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y cyfan nad oedd y Strategaeth wedi newid ers y llynedd. Fe eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau am fuddsoddiadau Awdurdod Lleol ym mis Tachwedd 2019 a fyddai’n dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Roedd mwyafrif y newidiadau wedi cael eu cynnwys yn y Strategaeth a byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Prif Weithredwr, a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith. Cyfeiriodd at gwestiynau’r Pwyllgor Archwilio am y Strategaeth ddrafft yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, a dywedodd fod y Pwyllgor yn fodlon ag ymateb y Swyddogion. Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21.

112.

Teitl: Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2020/21 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I cymeradwyo’r polisi ar Isafswm Darpariaeth Refeniw

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i osod polisi blynyddol y Cyngor ar osod Isafswm Darpariaeth Refeniw er mwyn ad-dalu’r ddyled ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fel rhan o’i strategaeth y gyllideb, fod y Cyngor wedi cynnal adolygiad manwl o’i bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2016/17 a 2017/18, a’i fod wedi diwygio’r polisi o ganlyniad. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurodau lleol osod polisi ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac fe awgrymwyd fod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2020/21 yn aros yr un fath ag oedd yn 2019/20. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y pryderon roedd wedi’u mynegi mewn cyfarfod blaenorol am yr Isafswm Darpariaeth Refeniw a dywedodd ei fod yn teimlo ei bod hi’n annheg trosglwyddo byrdwn taliadau uwch ar genedlaethau'r dyfodol. Fe awgrymodd fod y Cyngor yn cyfeirio yn ôl at y graff ‘llinell syth’ er mwyn ysgafnhau pwysau yn y dyfodol a gofynnodd a oedd modd i Swyddogion ddweud wrtho faint fyddai’r gost o wneud hynny. Cytunodd y Prif Weithredwr y gellir ystyried hyn wrth ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.   

             

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor

 

  • Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

 

  • Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

  • Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd.

 

 (b)      Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai:- 

 

  • Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrif Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled.

 

 (c)       Cymeradwyo fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-

 

  • Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.

 

  • Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes.Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau  ...  view the full Cofnodion text for item 112.

113.

Cwestiynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

114.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

115.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Argraffiad 3 2019/20, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar Dydd Mercher, 12 Chwfror, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

116.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rybuddion o Gynnig::  doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

117.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.