Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

117.

Cofnodion pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Ionawr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir (y Cynghr. Bithell a Thomas yn cynnig ac eilio).

 

O ran cofnod rhif 93, bydd yr ymateb i gwestiwn y Cyng. Richard Jones yngl?n â thynnu dosbarthiadau symudol ac i ymholiad y Cyng. Carver yngl?n â’r hen safleoedd tirlenwi ym Mwcle yn cael eu cylchredeg i bob Aelod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi.

118.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

119.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

120.

Adolygiad Pwyllgor pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ystyried yr argymhellion ar Adolygiad Pwyllgor y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar adolygu strwythur pwyllgorau gan gynnwys lleihau nifer y pwyllgorau trosolwg a chraffu a’u haelodaeth, lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio a chael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd. Diolchodd y Prif Swyddog i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd am ei waith ar hyn a manylodd ar y broses ymgynghori a arweiniodd at argymhellion y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer newid (bydd y newidiadau yn dod i rym ar ôl y Cyfarfod Blynyddol).

 

Wedi diolch i’r swyddogion a’r Arweinydd, gofynnodd y Cyng. Heesom am gadarnhad ynghylch a fyddai Aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd pwyllgorau fel arsyllwyr yn cael yr hawl i siarad (ond ddim pleidleisio).Dywedodd y Prif Weithredwr bod Cadeiryddion wastad wedi’u hannog i ganiatáu i Aelodau sy’n mynd i gyfarfodydd fel arsyllwyr siarad ond y byddai Cadeiryddion r?an yn cael eu gwahodd yn ffurfiol i anrhydeddu’r arfer hwn.Bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm yn cynorthwyo i sicrhau bod pwyllgorau yn cadw at yr arfer hwn pan fo’n bosibl.

 

Fel Cadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, diolchodd y Cyng. Palmer i’r swyddogion am eu gwaith a chynnig bod yr argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

Wrth eilio’r cynnig, ymatebodd y Cyng. Roberts i gwestiwn gan y Cyng. Heesom a chadarnhaodd yr ymrwymiad a roddwyd i Arweinwyr Grwpiau y bydd nifer yr Aelodau Cabinet ar y Pwyllgor Cynllunio yn lleihau i dri yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Arweinwyr Grwpiau am eu cyfraniad i’r broses ymgynghori.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â grwpiau gwleidyddol llai, eglurodd y Prif Swyddog y trefniadau cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig sy’n ceisio dyrannu seddau pwyllgor yn decach ar draws y pleidiau. Yn dilyn sylwadau’r Cyng. Mackie, dywedodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw ffafriaeth o ran dyrannu seddau grwpiau lleiafrifol yn cael eu hystyried a’u bodloni pan fo’n bosibl.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trafodaeth yngl?n â’r mater hwn yn cael ei drefnu gydag Arweinwyr Grwpiau pan fyddant yn cwrdd ddiwedd mis Mawrth.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r canlynol a’u rhoi ar waith yn dilyn Cyfarfod Blynyddol 2020:

·         Lleihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o chwech i bump

·         Gweithredu’r strwythur Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu newydd, fel y nodir yn yr adroddiad

 

(b)       Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, lleihau nifer yr Aelodau ar y pwyllgorau canlynol:

·         Lleihau aelodaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o 15 i 12 aelod

·         Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio o 21 i 17 aelod

·         Lleihau aelodaeth y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd o 21 i 16 aelod

 

(c)       Nodi’r cyfrifiad cydbwysedd gwleidyddol diwygiedig (Atodiad B).

 

(d)       Diolch yn ffurfiol i’r holl Aelodau a swyddogion sydd wedi ymwneud â gwaith llwyddiannus y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadau.

121.

Adolygu ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo argymhellion adolygiad y dosbarthiadau etholiadol a safleoedd pleidleisio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad o’r ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio (mae angen cynnal adolygiad bob pum mlynedd yn unol â’r gofynion statudol).

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r cynigion terfynol, fel y nodir yn yr adroddiad, sy’n ystyried materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Thomas a Bithell.Yn dilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi canlyniad yr adolygiad a’r ymgynghoriad;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio, fel y nodir yn Atodiad 2.

122.

Deisebau Sydd Wedi dod i law'r Cyngor pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad blynyddol ar ganlyniadau a chamau gweithredu’r deisebau a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod y flwyddyn.Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr ymateb portffolio i’r unig ddeiseb a dderbyniwyd yn 2019/20 - un a oedd yn herio’r terfyn cyflymder ar Abbey Drive, Gronant.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod trefnydd y ddeiseb yn fodlon ar ymateb y Cyngor ac yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya yn ddiofyn ar gyfer ardaloedd preswyl ar hyd a lled Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â gorfodi terfyn cyflymder o 20mya, dywedodd y Prif Weithredwr y bydd yn derbyn rhagor o eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’r ddeddfwriaeth cael ei phasio.

 

Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad, dywedodd y Cyng. Thomas fod rhai cyfyngiadau cyflymder o 20mya yn gynghorol yn unig ac y bydd rhagor o wybodaeth yngl?n â therfynau cyflymder statudol yn cael eu cyhoeddi gyda’r ddeddfwriaeth.Dywedodd fod y swyddog Cyngor a benodwyd i weithgor Llywodraeth Cymru wedi llunio adroddiad pwyllgor.

 

Yn dilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

123.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 40 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: Mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.  Bydd Swyddogion yn cyflwyno trefniadau ar gyfer darpariaeth digartrefedd ar y stryd fel rhan o’r ymateb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau Rhybudd o Gynnig dan y telerau canlynol, wedi’u cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Attridge a Brown.

 

Protocol Argyfwng Tywydd Garw - y Cynghr. Bernie Attridge, Helen Brown, Carol Ellis a George Hardcastle

 

“Rydym ni’n galw ar Sir y Fflint i adolygu'r Protocol Argyfwng Tywydd Garw ar unwaith.

 

Yn dilyn tywydd garw, gan gynnwys storm rybudd uwch, ni lwyddodd Sir y Fflint i ysgogi’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw fel awdurdodau cyfagos oherwydd nad oedd hi’n ddigon oer yn ôl y protocol.

 

Gofynnwn fod swyddogion Sir y Fflint yn defnyddio’u disgresiwn pan fo tywydd garw, a pheidio ag aros i’r tymheredd ostwng o dan y rhewbwynt. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl linellau cyfathrebu ar agor a sicrhau ein bod ni’n estyn allan cymaint â phosibl.

 

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalgar a thosturiol tuag at y rheiny yn ein sir sy’n llai ffodus na ni.”

 

Gan siarad o blaid y cynnig, amlygodd y Cyng. Attridge bwysigrwydd mynd i'r afael â digartrefedd drwy ddull amlasiantaeth.Er ei fod yn cydnabod bod y protocol wedi’i ysgogi ar sawl achlysur, roedd yn pryderu nad oedd y meini prawf yn ystyried oerfel gwynt yn ystod y tywydd garw diweddar.Roedd yn cydnabod yr heriau ar ôl i’r darparwr gwasanaeth roi’r gorau i gynnig y lloches nos yn Nhreffynnon ac yn croesawu ymateb y Cyngor i ddiogelu'r cyfleuster newydd yng Nglannau Dyfrdwy.Galwodd am adolygiad brys o’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw i sicrhau na fydd y sefyllfa yma’n digwydd eto, ac am ddisgresiwn i ysgogi’r protocol pan nad yw'r tymheredd yn gostwng o dan y lefel a nodwyd.Aeth yn ei flaen i ddiolch i’r Aelod Cabinet Tai, Prif Swyddog (Tai), Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) a’r Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor a’i thîm.

 

Fel Aelod Cabinet Tai, amlygodd y Cyng. Dave Hughes flaenoriaeth y Cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd a gwahodd y swyddogion i rannu trosolwg o’u gwaith yn cefnogi pobl ddigartref ac yn sefydlu’r lloches nos newydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Rhybudd o Gynnig yn gyfle i rannau’r camau gweithredu ar gyfer sefydlu’r gwasanaeth newydd yng Nglannau Dyfrdwy, fel y nodir yn y nodyn briffio a gylchredwyd. Er bod risg ynghlwm wrth sefydliad partner yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth, mae’r gwasanaeth newydd mewn adeilad Cyngor yn rhoi mwy o gadernid i ni.Mewn ymateb i bryderon, siaradodd y Prif Weithredwr am geisio paratoi’r lleoliad newydd dan amgylchiadau anodd a rhoi’r trefniadau diogelwch angenrheidiol ar waith er mwyn defnyddio’r cyfleuster fel canolfan argyfwng petai’r Protocol Argyfwng Tywydd Garw yn cael ei ysgogi.

 

Cyflwynwyd y Rheolwr Tîm Digartrefedd a Chyngor (Jenni Griffiths), Arweinydd Tîm Datrysiadau Tai (Deborah Kenyon) a’r Swyddog Contractau ac Adolygu Cefnogi Pobl (Lisa Pearson) a roddodd gyflwyniad manwl ar eu gwaith ac effaith colli’r lloches nos. Oherwydd y gwaith i baratoi’r cyfleuster newydd a chaffael darparwr gwasanaeth newydd - a’r tywydd yn gwaethygu - roedd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r tîm wedi rhannu ymrwymiad i agor y  ...  view the full Cofnodion text for item 123.

Item 8 - Briefing Note on Night Shelter Provision pdf icon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

124.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

125.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

126.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.