Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

119.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Datganodd y Cynghorydd Aaron Shotton gysylltiad personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 4 – Sefydlu Pwyllgor Cwynion.

120.

Ethol Arweinydd

Pwrpas:        I ethol Arweinydd y Cyngor, hyd at y Cyfarfod Blynyddol, yn dilyn ymddiswyddiad yr Arweinydd presennol a fydd yn dod i rym o ddyddiad y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gofynnodd Cadeirydd y Cyngor am enwebiadau i ethol Arweinydd, tan y Cyfarfod Blynyddol, oherwydd ymddiswyddiad yr Arweinydd presennol ar ddyddiad y cyfarfod hwn.  Awgrymodd y dylid ymdrin ag unrhyw enwebiadau trwy bleidlais ar gofnod, a gefnogwyd gan 10 Aelod, sef y nifer angenrheidiol.

 

            Enwebodd y Cynghorydd Bithell y Cynghorydd Ian Roberts fel Arweinydd y Cyngor a rhoddodd fanylion am gefndir y Cynghorydd Roberts a oedd, yn ei dyb o, yn golygu bod y sgiliau a’r nodweddion angenrheidiol ganddo i ymgymryd â’r swydd. Eiliodd y Cynghorydd Colin Legg yr enwebiad. Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylw penodol bod y Cynghorydd Roberts yn Gynghorydd ers amser maith ac yn un profiadol, a oedd wedi’i eni, ei fagu a’i addysgu yn y Fflint lle’r oedd yn dal i fyw. Roedd wedi bod yn Aelod o Gyngor Tref y Fflint am flynyddoedd, lle roedd wedi bod yn Faer ar dri achlysur. 

 

            Cynhaliwyd pleidlais a chefnogwyd y cynnig.

 

O blaid y cynnig:

Y Cynghorwyr:Bernie Attridge, Janet Axworthy, Glyn Banks, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Clive Carver, Geoff Collett, Bob Connah, David Cox, Paul Cunningham, Jean Davies, Rob Davies, Ron Davies, Adele Davies-Cooke, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, David Evans, Veronica Gay, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Kevin Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Colin Legg, Brian Lloyd, Richard Lloyd, Dave Mackie, Hilary McGuill, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Mike Reece, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ralph Small, Ian Smith, Carolyn Thomas, Owen Thomas, Martin White, Andy Williams, David Williams a David Wisinger.

 

Yn erbyn y cynnig:

Dim.

 

Ymatal:

Y Cynghorwyr:Helen Brown, Carol Ellis, George Hardcastle a Patrick Heesom.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Cynghorwyr Bithell a Legg am eu geiriau caredig a’r gefnogaeth a ddangoswyd iddo. Soniodd am bwysigrwydd y gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu i breswylwyr Sir y Fflint yn feunyddiol a’r angen am barhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny gan ddangos undod ymysg yr Aelodau ar draws y Siambr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ethol y Cynghorydd Ian Roberts fel Arweinydd y Cyngor tan y Cyfarfod Blynyddol.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 16, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

121.

Sefydlu pwyllgor cwynion

Pwrpas:        Mae telerau ac amodau cyflogaeth y Cydbwyllgor Trafod Telerau,  sy'n berthnasol i'r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddogion, yn darparu ar gyfer cwynion a gyflwynir gan uwch swyddogion i gael eu clywed gan bwyllgor  cwynion o gynghorwyr os na ellir eu datrys trwy gyfryngu.  Mae'r Cyngor wedi derbyn cwyn o'r fath ac felly mae angen  galw pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Pwyllgor Cwynion gwleidyddol gytbwys. Roedd hyn yn unol â thelerau ac amodau cyflogaeth y Cydgyngor Trafod Telerau a oedd yn berthnasol i’r Prif Weithredwr a Phrif Swyddogion. 

 

Roedd y Pwyllgor yn caniatáu i gwynion a gyflwynid gan uwch swyddogion gael eu clywed gan Gynghorwyr pe na bai modd eu datrys trwy gyfryngu. Roedd y Cyngor wedi derbyn cwyn o’r fath ac, felly, roedd angen cynnull Pwyllgor.

 

Atebwyd nifer o gwestiynau am y broses, nifer y Cynghorwyr y byddai eu hangen i ffurfio Pwyllgor, a fyddai modd cynnwys unigolyn annibynnol, rôl y Pwyllgor Safonau a’r camau nesaf posib’.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ffurfio Pwyllgor Cwynion gwleidyddol gytbwys ag 11 o Aelodau, a fyddai’n gallu gwrando ar y g?yn sydd wedi’i chyflwyno pe na bai modd ei datrys yn anffurfiol;

 

 (b)      Gwahardd aelodau’r Pwyllgor Safonau rhag bod ar y Pwyllgor Cwynion;

 

 (c)       Peidio â chaniatáu i Aelodau ddirprwyo Aelodau eraill i fod ar y Pwyllgor Cwynion;

 

 (d)      Bod y Cadeirydd i gael ei benodi gan y Pwyllgor Cwynion; a

 

 (e)      Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn rhoi cyngor i Arweinwyr y Grwpiau am rôl y Pwyllgor, ei aelodaeth a’r broses ddilynol pe na bai’r g?yn yn cael ei datrys.

122.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol.