Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

56.

Cofnodion pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Hydref 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2018.

 

Cywirdeb

Yng nghofnod 50, gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis am gynnwys ei sylwadau hi ar y Rhybudd o Gynnig ynghylch Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, fel a ganlyn:“Nid oes gennym fandad gan drigolion Sir y Fflint i gefnogi galwadau am ail refferendwm.” Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom hefyd am gynnwys ei sylwadau yntau yngl?n â’r mater yn y cofnodion.

 

Ar dudalen 15, eitem 54, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod wedi siarad o blaid gohirio, ond mai’r pwynt a wnaeth oedd fod Cynllun Glannau Dyfrdwy’n sail ar gyfer gwaith y Bwrdd Twf Economaidd Rhanbarthol, ac y dylai fod yno gynllun ehangach ar gyfer Sir y Fflint – ond nid oedd unrhyw ddogfen felly’n bodoli. Gofynnodd am ddiwygio’r cofnod i adlewyrchu hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

57.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog y cofnodid cysylltiad personol ar ran yr holl Aelodau ar gyfer eitem 10 – Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19. Esboniodd y câi’r Aelodau bleidleisio ar eu lwfansau gan fod y Cod Ymddygiad yn dweud mai cysylltiad personol oedd ganddynt ac nid cysylltiad sy’n rhagfarnu.

 

58.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi’i ddosbarthu cyn y cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-gadeirydd am fod yn bresennol mewn dau ddigwyddiad ar ei ran yn ddiweddar. 

 

Ar ran Pwyllgor Cadluoedd Cei Connah a Shotton, diolchodd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r Cadeirydd a’i wraig am fod yn bresennol yng Ngwasanaeth Coffa Rhyfel Cei Connah a Shotton a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018. Dywedodd fod tyrfa dda wedi dod i’r digwyddiad, gan gynnwys plant o’r ysgolion lleol a sefydliadau eraill. Diolchodd i’r Cadeirydd hefyd am iddo fynd i Neuadd Ddinesig Cei Connah yn ddiweddarach i gyflwyno placiau a thaflenni i’r plant i gofio’r diwrnod. 

 

Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o’r digwyddiadau coffa y cafodd ef a’i wraig wahoddiad iddynt, a dywedodd y buont yn deyrngedau teimladwy a phriodol i anrhydeddu’r aberth a wnaed gan gymaint yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Mike Peers ar y cyfle i gyfeirio at arolygiad Estyn yn Ysgol Gynradd Mountain Lane ym Mwcle yn nhymor yr haf. Dywedodd fod y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi ysgrifennu at y Pennaeth a’r staff wedi i Estyn gyhoeddi’r adroddiad, i’w llongyfarch am eu llwyddiant. Dywedodd y Cynghorydd Peers fod y Corff Llywodraethu wedi gofyn iddo, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, i fynegi eu diolchgarwch i’r Prif Swyddog am iddi gydnabod yn garedig yr adroddiad gan Estyn, ac am ei chefnogaeth.

59.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

60.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

61.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

62.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Ni dderbyniwyd dim.

63.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20: Rhagolygon Diweddariedig a Chynigion Cyllideb Cyfnod 1 a 2 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas: Rhoi gwybod am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb 2019/20 a chymeradwyo Cam 1 a Cham 2 cynigion y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yngl?n â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllideb 2019/20. Gwahoddwyd y Cyngor i gymeradwyo Cam 1 a Cham 2 o gynigion y gyllideb, a rhoi ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru ynglyn â’r Setliad Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol a oedd yn destun ymgynghoriad. Gofynnwyd hefyd i’r Aelodau yn unigol ac ar y cyd i gefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais dros gyllid tecach i lywodraeth leol ac i Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cam 1 o’r gyllideb yn ymdrin â Chyllid Corfforaethol a Cham 2 â’r Portffolios Gwasanaeth. Byddai Cam 3 yn dilyn, i ymdrin ag atebion cenedlaethol a gosod cyllideb gyffredinol gytbwys.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol:

 

·         Rhagolygon y gyllideb yn lleol a sefyllfa ariannol y Cyngor

  • y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â sefyllfa’r gyllideb genedlaethol
  • datganiad cyllideb Canghellor y Deyrnas Gyfunol
  • rhagolygon cyllideb 2019/20
  • rhagolygon cyllideb 2019/20 fel y’u diwygiwyd
  • talu’r diffyg cyllid cyn y setliad
  • dull y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ar gyfer gosod y gyllideb
  • y cyd-destun ar gyfer penderfyniadau lleol
  • y sefyllfa sydd ohoni i’r Cyngor

·         Cam 1 – Cyllid Corfforaethol 

o   Cam 1 – atebion ar gyfer y gyllideb gorfforaethol

·         Cam 2 – Portffolios Gwasanaethau

o   Cam 2 - crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio

·         Sefyllfa’r gyllideb genedlaethol a Cham 3 o osod y gyllideb

o   crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru

o   Cyllid cenedlaethol yn erbyn Treth y Cyngor

o   Dadansoddi Treth y Cyngor

o   cydbwyso incwm y Grant Cynnal Refeniw a Threth y Cyngor

o   ymateb o sesiynau’r gweithlu

o   #CefnogiEinCais – byrdwn yr ymgyrch

o   #CefnogiEinCais – negeseuon o gefnogaeth

o   #CefnogiEinCais – Treth y Cyngor

o   #CefnogiEinCais – dadl gyhoeddus

o   #EinDydd – 20 Tachwedd 2018

o   camau nesaf a therfynau amser. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddogion am eu gwaith caled ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod angen cytuno ar Gamau 1 a 2 o’r gyllideb, a’i fod yn gobeithio y byddai’r Aelodau’n cefnogi’n unfrydol y cynigion, a fu drwy’r drefn Trosolwg a Chraffu. Cyfeiriodd at yr arbedion effeithlonrwydd a gynigiwyd yng Nghamau 1 a 2 a fyddai’n cyfrannu at ‘dalu’r diffyg’, a dywedodd fod y cyfnod o lymder wedi gorfodi’r Cyngor i ddefnyddio mwy o’i gronfeydd wrth gefn wrth weithredu ei strategaeth i amddiffyn gwasanaethau.Er bod y gyllideb yn cynnwys cynnydd dangosol o 4.5% yn Nhreth y Cyngor, a gostyngiad arall o £250,000 mewn costau uwch-reolwyr, roedd yno ddiffyg sylweddol ar ôl i’w dalu. 

 

Soniodd y Cynghorydd Shotton am y newid o ran rhoi’r gorau i ddefnyddio cyllid cenedlaethol i gynnal gwasanaethau llywodraeth leol a defnyddio incwm Treth y Cyngor yn ei le, a ph’un a oedd hynny’n bolisi bwriadol ai peidio, dyna oedd y sefyllfa mewn gwirionedd yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd fod hyn yn peri cryn bryder, a dywedodd nad oedd yr Awdurdod yn dymuno bod mewn sefyllfa lle’r oedd cynyddu  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

presentation slides pdf icon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

64.

Adroddiad Blynyddol Drafft 2019/20 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:  I alluogi’r Cyngor i ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft 2019/20 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad er mwyn galluogi’r Cyngor i ystyried Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20. Rhoes wybodaeth yn gefndir i’r adroddiad gan esbonio fod yr atodiad yn nodi penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2019/20. 

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y materion pennaf i’w hystyried fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan ddweud “er mwyn osgoi erydiad pellach mewn perthynas ag enillion cyfartalog” fod y Panel wedi penderfynu codi cyflog sylfaenol pob Cynghorydd i £13,868 (cynnydd o 1.97%) a oedd yn gyfwerth â £268. Roedd y Panel hefyd wedi penderfynu “[nad oedd] cyflogau arweinwyr ac aelodau o’r weithrediaeth wedi cynyddu ers sawl blwyddyn (ac eithrio'r cynnydd i'r elfen sylfaenol)” ac o’r farn “bod cyfrifoldeb gweithredol sylweddol ar ysgwyddau deiliaid y swyddi hyn, ac nad ydynt wedi'u talu'n dda iawn o gymharu â nifer o swyddogion sector cyhoeddus eraill”. Roedd y Panel yn argymell codiad o £800 i bob un (gan gynnwys y codiad o £268 yn y cyflog sylfaenol).

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y Panel hefyd wedi cynnig rhan newidiadau yng nghyfraddau cyflogau penaethiaid dinesig a dirprwyon (sef yr hyn a dalwyd i Gadeirydd y Cyngor a’r Is-gadeirydd). Talwyd y rhain ar gyfradd symudol yn y gorffennol, ond roedd y Panel wedi cael gwared â’r elfen o ‘ddewis’ a phenderfynu y dylai pob pennaeth dinesig bellach gael cyflog dinesig o £22,568 (yr un fath â chadeiryddion Pwyllgorau a £500 yn fwy na’r cyflog presennol, ar ben y cynnydd o £268 yn y cyflog sylfaenol). Byddai’n rhaid i’r dirprwy bennaeth dinesig gael cyflog Band 5 o £17,568 (cynnydd o £1,000). Serch hynny, gallai pob Cyngor ddewis peidio â rhoi cyflog dinesig ar gyfer y naill swydd na’r llall.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog ar benderfyniadau 6 a 7 yn adroddiad drafft y Panel, a oedd a wnelont â darparu cymorth digonol, drwy Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob awdurdod, fel y gallai aelodau etholedig gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dywedodd fod hynny’n cynnwys darparu ffôn, cyfrif e-bost a mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer gwybodaeth briodol, heb i’r aelodau unigol orfod talu amdanynt. Soniodd y Prif Swyddog am egwyddor y Panel na ddylai ymgeisio am swydd etholedig fod yn ddibynnol ar sefyllfa ariannol yr unigolyn, ac na ddylai Aelodau fod ‘ar eu colled’ o ganlyniad i’r costau angenrheidiol ar gyfer cyflawni dyletswyddau cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at benderfyniadau 1 a 2 yn adroddiad drafft y Panel, a’r codiadau a gynigiwyd yn y cyflog sylfaenol a chyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig. Soniodd am y sefyllfa ariannol genedlaethol a’r cyfnod o lymder oedd yn dal i fynd yn ei flaen, gan ddweud nad oedd o’r farn y gellid cyfiawnhau’r codiadau a gynigiwyd, a’u bod yn amhriodol ar hyn o bryd. Cynigiodd y Cynghorydd Shotton fod y Cyngor yn ymateb i’r Panel gan wrthod y cynigion i godi’r cyflog sylfaenol a’r cyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig a nodwyd ym mhenderfyniadau 1 a 2 yn adroddiad drafft y Panel.

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom o blaid cynnig  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

65.

Ailbenodi Aelod Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau. pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas: Ystyried penodi Aelod Annibynnol i’r Bwyllgor Safonau am ail dymor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar Benodi Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am ail dymor. Rhoes wybodaeth yn gefndir i’r adroddiad, gan ddweud y byddai cyfnod Mr Ken Molyneux fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben fis Rhagfyr 2018. Roedd Mr. Molyneux yn gymwys i’w ail-benodi am dymor arall ac wedi dweud y byddai’n fodlon ymgymryd â’r swydd pe câi ei benodi eto. Dywedodd y Prif Swyddog pe byddai’r Aelodau’n penderfynu peidio ag ail-benodi Mr. Molyneux, yna byddai’n rhaid i’r Cyngor gynnull Panel Penodiadau a hysbysebu’r swydd yn y wasg leol am bris. 

 

                        Cynigiwyd cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef ail-benodi Mr. Ken Molyneux i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd. Eiliwyd y cynnig hwnnw ac fe’i cymeradwywyd wedi pleidlais. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Ail-benodi Mr. Ken Molyneux i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd.

66.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.