Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter on 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

29.

CYFLWYNIADAU

Crwydriaid Cei Connah (Connah’s Quay Nomads)

I gydnabod eu cymhwyster ar gyfer Cynghrair Europa am y trydydd tro yn olynol, a’u bod wedi ennill Cwpan Cymru 2018

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Crwydriaid Cei Connah (Connah’s Quay Nomads)

 

Croesawodd y Cadeirydd John a Roma Gray, Ray Brown, a Jay Catton, i gydnabod bod Crwydriaid Cei Connah wedi cyrraedd Cynghrair Europa am y trydydd tro yn olynol, a’u bod wedi ennill Cwpan Cymru 2018    

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at werth ac at  werthfawrogiad y gwaith a wneir gan Glwb Crwydriaid Cei Connah o safbwynt ei waith allgymorth cymunedol a gwaith cyfranogi, datblygu pêl-droed a’i waith partneriaeth gyda’r Awdurdod, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ysgolion Sir y Fflint a Choleg Cambria.  Llongyfarchodd Clwb Crwydriaid Cei Connah ar eu llwyddiant a gwahoddodd Aelodau i fynegi eu diolch i gynrychiolwyr y Clwb. 

 

Soniodd y Cadeirydd am ei fwynhad o wylio Crwydriaid Cei Connah yn chwarae eu gêm gartref gyntaf yn ddiweddar a llongyfarchodd y Tîm am guro Falkirk yng Nghwpan Irn Bru yn ddiweddar. 

 

Soniodd y Cynghorydd Aaron Shotton am gamp aruthrol Clwb Crwydriaid Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru.  Cyfeiriodd at y gwaith gwych mae’r perchnogion, aelodau o'r Bwrdd a’r tîm hyfforddi wedi ei wneud er mwyn datblygu'r Clwb yn y blynyddoedd diweddar. Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton hefyd at ddatblygiad a llwyddiant 3G y Cei oedd wedi cyfrannu at ddatblygiad Crwydriaid Cei Connah a thimau ieuenctid eraill ar draws y Sir ac at y rhaglen Academi Ieuenctid. Llongyfarchodd y Clwb ar ei lwyddiant a dymunodd yn dda i’r clwb ar gyfer y dyfodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton ei longyfarchion hefyd i’r Clwb am ei lwyddiant ac i Andy Morrison a gafodd ei enwi fel Rheolwr y Mis gan Uwchgynghrair Cymru .

 

Talodd y Cynghorydd Ian Dunbar deyrnged i lwyddiant Crwydriaid Cei Connah a dywedodd bod y Clwb yn ased arbennig i Gei Connah. 

 

Ategodd y Cynghorydd Martin White y sylwadau a wnaed gan Aelodau a dywedodd ei fod wedi bod yn falch o fynychu rownd derfynol Cwpan Cymru gyda’i deulu i gefnogi’r Clwb.  Diolchodd i'r Clwb am adael i gefnogwyr lleol fynd a’r Tlws ar daith o amgylch lleoliadau yng Nghei Connah a Shotton a dywedodd bod y gymuned leol wedi gwerthfawrogi hyn. Dymunodd yn dda i’r Clwb ar gyfer y dyfodol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at ei gysylltiad hir dymor â Chlwb Crwydriaid Cei Connah yr oedd yn ei werthfawrogi’n fawr, a llongyfarchodd y Clwb ar ei lwyddiant.

 

Ar ran Clwb Crwydriaid Cei Connah diolchodd Mr John Grey i Aelodau am eu geiriau o gydnabyddiaeth a'u cefnogaeth. 

30.

Cofnodion pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 19 Mehefin 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2018.

 

Cywirdeb

Tudalen 4, eitem 16, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraeth) bod y Cynghorydd David Mackie wedi datgan cysylltiad ag eitem 14 ar y Rhaglen – Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd, fel aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd, ond nid oedd hyn wedi ei gofnodi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

31.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori'r Aelodau yn unol â hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Prif Swyddog y byddai datganiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr Aelodau canlynol o safbwynt eitem 12 ar y Rhaglen, ‘Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20’, fel aelodau o’r Awdurdod Tân:

 

Y Cynghorwyr:Marion Bateman, Ian Dunbar, Veronica Gay, Paul Shotton, Owen Thomas a David Wisinger.

 

Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu ag eitem 6 ar y Rhaglen, Deisebau – tynnu gwasanaeth bws Siopwyr Bwcle yn ôl.

32.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu cyn y cyfarfod. Soniodd y Cadeirydd yn benodol am ymweliad Plant Chernobyl, Gwasanaeth Eglwys Chernobyl a Pharti Ffarwel Plant Chernobyl. Mynegodd ei werthfawrogiad i drigolion Sir y Fflint a Swydd Caer a groesawodd ac a ddarparodd lety i’r plant yn eu cartrefi eu hunain yn ystod yr ymweliad.

33.

Deisebau

Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd Jean Davies ddeiseb ar gyfer ffordd liniaru ar gyfer traffig trwm y chwarel o Bentre Halkyn.

 

                        Cyflwynodd y Cynghorwyr Carol Ellis a Mike Peers ddeisebau gan drigolion Bwcle i wrthwynebu colli'r gwasanaeth bws Siopwyr Bwcle ac fe wnaethant amlinellu'r effaith y byddai'n ei gael ar drigolion Bwcle a hyfywedd Canol y Dref.

34.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

35.

Cwestiynau

Pwrpas:  Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

36.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 33 KB

Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rhybudd o Gynnig canlynol wedi ei dderbyn gan y Cynghorydd Tony Sharps:

 

Mae’r Cyngor yn galw ar y Prif Weithredwr i sicrhau bod y Prif Swyddogion a’r Uwch Swyddogion yn ymateb i geisiadau’r Cynghorwyr yn gwrtais a heb fwy o oedi na sy’n rhaid.

 

Gan gefnogi ei Gynnig, cyfeiriodd y Cynghorydd Sharps at bryderon yr oedd wedi eu mynegi yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 18 Mai 2017, ar yr amser y mae rhai adrannau yn ei gymryd i ymateb i faterion a phryderon sy’n cael eu codi gan Aelodau a dywedodd fod y Prif Weithredwr wedi cytuno y byddai cyfres o safonau’n cael eu creu er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd.  Dywedodd y Cynghorydd Sharps bod peth gwelliant wedi bod, fodd bynnag, nododd nifer o faterion penodol oedd wedi codi yn ei Ward lle'r oedd y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Awdurdod wedi bod yn is na'r safon oedd yn ofynnol gan drigolion Sir y Fflint.  I grynhoi pwysleisiodd y Cynghorydd Sharps yr angen am well ymgynghori a chyfathrebu gydag Aelodau o ran darpariaeth gwasanaeth. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Mike Peers i gefnogi’r Cynnig a dywedodd ei fod yn anodd bodloni anghenion a disgwyliadau trigolion lleol pan  nad oedd y cyngor neu’r ymateb oedd ei angen gan adrannau i faterion a godwyd gan Aelodau yn cael ei gyflwyno neu ddim yn cael ei ddarparu o fewn amserlen dderbyniol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Carver bod y broblem gydag amser ymateb yn broblem hanesyddol ac roedd yn cytuno gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Sharps bod angen gweithredu ar frys er mwyn mynd i’r afael â’r mater. Awgrymodd bod y mater yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn i'r pwyllgor hwnnw wneud penderfyniad.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Carol Ellis y Cynnig ac amlinellodd ei phrofiad personol o oedi wrth dderbyn ymateb i faterion yr oedd wedi eu codi ar ran ei thrigolion lleol. Siaradodd am yr effaith negyddol a’r rhwystredigaeth pan oedd trigolion yn methu derbyn ateb i’w pryderon a'u cwestiynau a chyfeiriodd at yr amser sy’n cael ei wastraffu pan fydd Aelodau'n gorfod mynd ar ôl pobl er mwyn derbyn ymateb i gysylltiadau a cyfathrebu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Helen Brown hefyd am yr angen am ymatebion amserol, cywir i’r materion a godwyd gan Aelodau a dywedodd fod y rhain yn aml yn ymwneud â cheisiadau gan drigolion lleol sydd angen cyngor a chymorth ar frys.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei fod yn cefnogi’r Cynnig gan y Cynghorydd Sharps, fodd bynnag, dywedodd fod angen cydnabod yr arferion gwaith da a’r ymgysylltu a’r ymatebion positif a ddarperir gan yr Awdurdod mewn sawl maes gwasanaeth oedd yn digwydd yn amlach nac enghreifftiau lle’r oedd hyn yn is na’r safon yr oedd yr Awdurdod am ei ddarparu. Fe wnaeth gydnabod y pryderon gwirioneddol oedd rhai Aelodau wedi eu mynegi ar faterion oedd wedi codi yn eu Wardiau a dywedodd bod angen edrych ar ac adolygu’r protocol cyfredol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn ei  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Cydnabyddiaeth i Ian Bancroft

Pwrpas: Cydnabod cyfraniad a wnaed i’r Cyngor gan Ian Bancroft, Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a adawodd yr Awdurdod ym mis Awst i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cadeirydd oedd y cyntaf i gydnabod y cyfraniad a wnaed i’r Cyngor gan Ian Bancroft, Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a adawodd yr Awdurdod ym mis Awst 2018 i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

Soniodd y Prif Weithredwr am rinweddau personol Ian, ei frwdfrydedd a’i egni, ac y byddai hiraeth amdanynt, yn ogystal â’i allu proffesiynol. Adlewyrchodd ar y 4 blynedd y bu Ian gyda’r Awdurdod a soniodd am effaith gadarnhaol yr hyn oedd Ian wedi ei gyflawni o safbwynt darparu newid sefydliadol a'i arbenigedd a’i sgil o ran gwthio prosiectau drwy strategaeth i dasg a gorffen.  Roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag Ian yn y dyfodol fel Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at adfywio ardal blaendraeth y Fflint a dywedodd bod gwaith a brwdfrydedd Ian wedi gwthio'r prosiect yn ei flaen a bod hynny yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan Bwyllgor Adfywio Cyngor Tref y Fflint.

 

Talodd y Cynghorydd Aaron Shotton deyrnged i Ian am ei weledigaeth a'i waith yn ystod ei wasanaeth gyda'r Awdurdod oedd wedi cynnal gwasanaethau ac wedi cryfhau cymunedau lleol, a hynny yn ystod caledi parhaus.   Cyfeiriodd at brofiad proffesiynol Ian, ei sgil, ei steil a'i ddull arloesol, a soniodd am y gwaith roedd wedi ei wneud wrth drosglwyddo Pwll Nofio Cei Connah o ofal yr Awdurdod i Cambrian Aquatics, a throsglwyddo gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd yr Awdurdod i Aura Leisure and Libraries Limited, fel enghreifftiau o’r llwyddiant roedd Ian wedi ei gael drwy weithio gyda’r cymunedau lleol i ddatblygu modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau.  Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei fod yn edrych ymlaen at weithio gydag Ian a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar lefel ranbarthol yn y dyfodol, ac ar y Cais Twf.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton fel aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a mynegodd ef hefyd ei ddiolch i Ian am ei brofiad a'i arbenigedd proffesiynol. Cyfeiriodd at yr hyder a'r sicrwydd roddodd Ian i’r Pwyllgor wrth eu sicrhau mai darparu gwasanaeth drwy fodelau darparu amgen a throsglwyddiadau asedau cymunedol oedd y ffordd orau i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.  Dymunodd  bob llwyddiant i Ian yn ei rôl newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

Soniodd y Cynghorydd Mike Peers am y cymorth a'r cyngor roedd Ian wedi ei roi yn hael ar faterion oedd yn ymwneud â newid sefydliadol a throsglwyddiadau asedau cymunedol. Llongyfarchodd Ian ar ei benodiad a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at drosglwyddiad ased gymunedol llwyddiannus Canolfan Hamdden Treffynnon. Soniodd am effaith y broses o drosglwyddiadau asedau cymunedol yn gyffredinol a oedd, yn Nhreffynnon, wedi darparu llyfrgell newydd, canolfan hamdden wedi ei hadfywio, canolfan ffitrwydd a chrefft ymladd yn hen adeilad y llyfrgell, yn ogystal â chytundeb cymunedol rhwng y Ganolfan Hamdden ac Ysgol Treffynnon ar gyfer rheoli’r anodd y tu allan i oriau arferol. Aeth y Cynghorydd Jones ymlaen i ddweud bod gan Dreffynon, ar y cyd a Chyngor y Dref, y capasiti i barhau i ddarparu'r holl  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Datganiad Cyfrifon 2017/18 a'r Wybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad Cyfrifon 2017/18. pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:  Cyflwyno fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 i aelodau ar gyfer cymeradwyaeth a nodi’r wybodaeth ariannol atodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, Paul Vaughan, Rheolwr Cyllid Technegol dros dro a Richard Lloyd-Bithell, Cyllid Corfforaethol. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fersiwn derfynol Datganiad Cyfrifon 2017/18 i’w gymeradwyo wedi i’r Pwyllgor Archwilio ei ystyried cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Roedd wedi cael ei gynghori bod yr adroddiad yn cynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd wedi ei ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Archwilio mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2018 ac roedd angen cymeradwyaeth y Cyngor arno.  

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai 30 Medi oedd y dyddiad cau statudol blynyddol ar gyfer cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon blynyddol ar hyn o bryd , fodd bynnag y mae’r rheoliadau y mae’r Datganiad Cyfrifon yn cael eu paratoi oddi tanynt yn newid o flwyddyn ariannol 2018/19, sy’n golygu fod yn rhaid cymeradwyo’r cyfrifon erbyn 15 Medi. Paratowyd Datganiad Cyfrifon 2017/18 yn llwyddiannus erbyn y dyddiad cau cynharach hwn er mwyn paratoi ar gyfer 2018/19.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at adroddiad 260 Swyddfa Archwilio Cymru ar Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA). Dywedodd fod yn rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru gyfathrebu materion perthnasol yn ymwneud ag archwilio'r datganiadau ariannol i’r rheiny sy’n llywodraethu’r endid (Cyngor Sir Y Fflint ar gyfer Datganiadau’r Cyngor Sir).  Eglurodd bod yr adroddiad eleni ar ffurf cyflwyniad er mwyn ceisio gwella hygyrchedd, a bod copi o’r adroddiad wedi ei atodi at yr adroddiad. Parhaodd y Rheolwr Corfforaethol gan ddweud bod newidiadau a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru wedi eu gwneud i Ddatganiad Cyfrifon 2017/18 yn ystod yr archwiliad, a bod y newidiadau yn cael eu dangos yn atodiad 2 yr adroddiad. Eglurodd bod y newidiadau’n ymwneud â phwrpas datgelu yn unig ac nad oeddynt yn effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi adrodd bod y Datganiad Cyfrifon wedi ei baratoi i safon dda gyda phapurau gwaith cynhwysfawr wedi eu hatodi. Nodwyd rôl barhaus y Gr?p Llywodraethu Cyfrifon, sydd â throsolwg dros gynhyrchiad cyffredinol y Datganiad Cyfrifon, a’i fod wedi bod yn effeithiol am y 2 flynedd diwethaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Llythyr Sylwadau Cyngor Sir Y Fflint at Swyddfa Archwilio Cymru wedi ei atodi i’r adroddiad a chadarnhaodd bod y wybodaeth yn y datganiadau ariannol yn wir ac yn gywir a bod yr holl wybodaeth wedi ei ddatgelu i’r archwilwyr. 

 

Cyflwynodd Mr Richard Harries, Arweinydd Ymgysylltu Archwiliad Ariannol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint ei hun a'i gydweithiwr sef Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru.  Rhoddodd Mr Harries gyflwyniad bras, ac yn wahanol i’r arfer, cyflwynodd adroddiad Safon Ryngwladol ar Archwilio 260 drwy gyfrwng cyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:

 

·         canlyniad cyffredinol

·         Cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol

·         sefyllfa’r archwiliad a materion yn codi o’r archwiliad

·         2018-19 a’r blynyddoedd dilynol

 

Wrth ddod a’i gyflwyniad i ben, crynhodd Mr  Harries y prif ganfyddiadau a dywedodd bod yr archwiliad wedi mynd yn dda ac nad oedd materion arwyddocaol oedd angen eu dwyn i sylw’r Cyngor. . Diolchodd i’r Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019-20

Pwrpas:         I dderbyn cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân i hysbysu'r Cyngor am gyllideb 2019-20 Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Simon Smith, Prif Swyddog, Helen McArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol a Sian Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad am y gwaith a wnaed gan Wasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod hir o dywydd crasboeth a gafwyd yn ystod haf eleni. 

 

Manteisiodd y Cynghorydd Tony Sharps ar y cyfle i fynegi ei ddiolchiadau personol i’r Gwasanaeth Tân ac Achub oedd wedi mynychu tân yn ei eiddo a diolchodd am gyflymder yr ymateb gan y criw yng Ngorsaf Dân Queensferry a'r gwaith arbennig a wnaethant i reoli’r sefyllfa a diogelu ei eiddo.

 

Croesawodd  Mr Smith y cyfle i ddychwelyd i'r Cyngor a rhoddodd ymddiheuriadau ar ran Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd yr Awdurdod, a Peter Lewis, Is Gadeirydd yr Awdurdod, a mynegodd eu bod am ddymuno'n dda i'r Aelodau a'r  Awdurdod. Cyflwynodd  Mr Smith Helen McArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol (â chyfrifoldeb dros Adnoddau Corfforaethol) a Sian Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol (â chyfrifoldeb dros Gynllunio Corfforaethol a meysydd eraill). 

 

Cyfeiriodd  Mr Smith at ymgynghoriad blynyddol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, a lansiwyd ar 11 Medi. Dywedodd fod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar yr adnoddau sydd ar gael i’r Awdurdod Tân ac Achub, y gyllideb, ac effaith cyfyngiadau ariannol parhaol a oedd hefyd yn effeithio ar awdurdodau lleol Gogledd Cymru.  Dywedodd ei fod yn bwysig bod yr Awdurdod Tân ac Achub a’r awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd ac yn deall yr heriau parhaol yr oedd angen mynd i'r afael â nhw.  O fewn y cyd-destun a'r cefndir hwn dywedodd MrSmith ei fod yn bwysig bod yr Awdurdod Tân yn egluro'i sefyllfa gyfredol o safbwynt cyllideb yr Awdurdod Tân ac Achub a'i allu i ddarparu gwasanaethau. Aeth  Mr Smith ymlaen i ddweud mai’r bwriad, ar ôl y cyflwyniad, oedd cael adborth anffurfiol gan y Cyngor ar yr ymgynghoriad, gydag adborth ffurfiol wedyn gan y Cyngor Sir erbyn y dyddiad cau sef 2 Tachwedd 2018.

 

 Gwahoddodd Mr  Smith Ms Sian Morris i roi cyflwyniad ar Gynllunio’r Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer 2019/20. Roedd prif bwyntiau’r cyflwyniad fel a ganlyn:

 

·         Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru:

·         beth mae’r Awdurdod yn ei ddarparu

·         gwariant cyfredol

·         ariannu gwasanaeth tân ac achub

·         symud i 2019/20 

 

Adroddodd Ms Morris ar ddyletswyddau allweddol yr Awdurdod Tân ac Achub oedd yno er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau er mwyn bodloni gofynion arferol gweithredu a darparu’r gwasanaethau tân ac achub, er mwyn sicrhau bod digon o hyfforddiant a chyfarpar gan ymladdwyr tân, a bod pobl yn cael ateb ac ymateb wrth iddynt alw 999. Dywedodd Ms Morris fod yn rhaid i’r Awdurdod gydymffurfio gyda deddfwriaeth a rheoliadau a dyfynnodd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, safonau’r Iaith Gymraeg, deddfwriaeth Iechyd A Diogelwch, rheoliadau ariannol, a deddfwriaeth cydraddoldeb fel rhai enghreifftiau.

 

Cyfeiriodd Ms Morris at y gwaith o gynnal gwasanaeth mewn gorsafoedd tân ac eglurodd bod 44 o orsafoedd tân drwy Ogledd Cymru. Dywedodd mai un peiriant tân ac un criw tân oedd yn y rhan  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.