Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

110.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai cysylltiad personol a fyddai’n cael ei gofnodi ar ran yr holl Aelodau’n bresennol ar gyfer eitem 8, Adroddiad Blynyddol 2019 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019.

111.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd rhai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies y byddai deiseb ar y bwriad i gael gwared ar fysys 12 a 13, ac fe’i cynghorwyd y gallai’r ddeiseb gael ei chyflwyno cyn cyfarfod nesaf y Cyngor. Fel Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod dau wasanaeth bws wedi’u dileu gan Arriva ac y byddai’n cyfarfod y trigolion.

112.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd rhai.

113.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd rhai.

114.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 40 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: daeth dau i law erbyn y dyddiad cau.

 

Y Cyng David Healey - Diwygio system Treth y Cyngor

 

Y Cyng Bernie Attridge - ymgyrch cenedlaethol Deddf Lucy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd Dau Rybudd o Gynnig:

 

(i)         Diwygio system Treth y Cyngor - Cynghorydd David Healey

 

‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog Llywodraeth Cymru (LlC) i fanteisio ar y cyfle yn sgil dirprwyo pwerau newydd i ddiwygio system Treth y Cyngor yn radical er mwyn gallu defnyddio system decach a chynyddol i godi refeniw ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.’

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

I gefnogi ei Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Healey nad oedd y system bresennol yn ystyried incwm y cartref, ei fod yn rhannu cymunedau ac mai dyma’r prif reswm am ddiffyg cysylltiad rhwng trigolion a chynghorau lleol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod LlC am i gynghorau gynyddu Treth y Cyngor o 6.5% heb hyd yn oed ystyried eu gofynion unigol yn golygu bod baich caledi’n cael ei drosglwyddo i drigolion. Tra bod adroddiad diweddar gan LlC ar Bolisi Treth y Cyngor yn cydnabod y posibilrwydd o ddiwygio, nid oedd yn cydnabod annhegwch y system bresennol a’r angen i weinyddu system dreth y cyngor genedlaethol y gellid ei darparu ar lefel leol.

 

Fel Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid, croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton y Cynnig hwn i ganfod system decach a chynyddol i drigolion drwy Gymru. Byddai’r apêl am ddiwygio treth leol yng Nghymru’n cyd-fynd â sylwadau ar gadw trethu busnes i gefnogi gwasanaethau lleol. Cyfeiriodd at y drafodaeth ar y gyllideb yn y cyfarfod blaenorol a’r sefyllfa o ran cyllid cenedlaethol oedd wedi arwain at gynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod system Treth y Cyngor yn arbennig o annheg i’r genhedlaeth iau, nifer ohonynt heb eu cartrefi eu hunain. Os byddai’r Cyngor yn cytuno, roedd yn cynnig ysgrifennu llythyr ffurfiol at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a gweithgor LlC ar ddiwygio llywodraeth leol i ofyn iddynt ystyried y Cynnig.

 

Siaradodd nifer o Aelodau o blaid y cynnig, er enghraifft y Cynghorydd Peers a ddywedodd fod Gweinidog LlC eisoes yn ymwybodol fod y system wedi’i thorri a bod yr effaith yn wahanol rhwng Gogledd a De Cymru. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell fod trigolion drwy Gymru’n cael eu heffeithio i’r un graddau a dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin ei bod yn hen bryd diwygio. Tra pwysleisiodd y Cynghorydd Gladys Healey nad oedd y system bresennol yn cyfrannu at egwyddorion treth LlC ei hun, lleisiodd y Cynghorydd Carver bryderon y gallai system wahanol fod hyd yn oed yn waeth a dywedodd y Cynghorydd Heesom y dylid defnyddio Treth y Cyngor i ddelio â’r problemau â’r fformiwla cyllido. Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis y dylid cyfeirio at yr anghysondeb rhwng bandiau eiddo  yn y llythyr arfaethedig a galwodd y Cynghorydd Tudor Jones ar y Cyngor i ymhelaethu ar y Cynnig i gael ateb tecach drwy Gymru.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan rai Aelodau yngl?n â’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2019/20, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai’r diwygiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi golygu bod gwasanaethau’r Cyngor mewn perygl ac mai’r broblem oedd bod  ...  view the full Cofnodion text for item 114.

115.

Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2019-20 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad i osod taliadau Treth y Cyngor yn ffurfiol a phenderfyniadau statudol cysylltiedig ar gyfer 2019/20 fel rhan o’r strategaeth gyllideb ehangach ar sail y penderfyniad a gymerwyd gan y Cyngor ar 19 Chwefror.

 

Siaradodd y Rheolwr Refeniw am y tri praesept ar wahân oedd yn gynwysedig yn nhaliadau Treth y Cyngor yn erbyn pob eiddo. Dywedodd mai’r cynnydd arfaethedig ym mhraesept Sir y Fflint oedd 8.75% (yn arwain at dâl o £1,280.68 ar gyfer eiddo Band D; cynnydd blynyddol o £103.08).  Adroddwyd cynnydd o 7.74% ar y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac atodwyd y gofynion praesept unigol ar gyfer y 34 o Gynghorau Tref a Chymuned drwy Sir y Fflint (cyfanswm cynnydd 2.13%) Roedd cyfanswm y swm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir - £82,369.496, cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru - £17,886,558 a phraesept cyfun o £2,929,690 ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yn unol  â materion gweithdrefnol eraill, gofynnwyd i Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a’r arfer fod swyddogion penodedig yn arwain achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r penderfyniad oedd gosod Treth y Cyngor yn ffurfiol ar ôl cau’r broses gyllidebu ar gyfer 2019/20 yn y cyfarfod blaenorol. Byddai’r ffigurau penodol yn cael eu cynnwys ym miliau Treth y Cyngor ynghyd ag opsiynau talu mewn rhandaliadau. Oherwydd cyfyngiadau statudol ar wybodaeth sydd ar filiau Treth y Cyngor, eleni byddai taflen wybodaeth ffeithiol gyda lluniau ar gyfer y gyllideb yn egluro sut mae’r cyfanswm yn cael ei gyfrifo.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y drafodaeth hir ar y gyllideb oedd wedi arwain at benderfyniad anodd, gan gydnabod yr angen i ddiogelu gwasanaethau ac ystyried effaith caledi yn y dyfodol. Croesawodd y daflen wybodaeth ffeithiol gyda lluniau a baratowyd gan swyddogion ac anogodd Aelodau i’w rhannu i helpu i ddeall y sefyllfa.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers nad oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor wedi’i gefnogi gan bob Aelod ac y gallai’r swm a wariwyd i adennill dyledion heb eu talu fod wedi cael ei ddefnyddio’n well tuag at y diffyg ariannol. O ran trydydd argymhelliad ar yr adroddiad, siaradodd am lefel Treth y Cyngor heb ei dalu oedd wedi’i hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gofynnodd am gamau gweithredu i wella cyfraddau casglu.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai dyled benthyciadau cyfalaf yn unig oedd y ddyled ac y byddai adroddiad ar gasglu Treth y Cyngor yn mynd gerbron Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod yr adroddiad yn rhoi mwy o fanylion am effaith y penderfyniad yngl?n â’r gyllideb ac y byddai pob band prisio’n cael ei osod yn uwch na £1,000 y flwyddyn, gan effeithio’n arbennig ar y rhai ar incwm is. Dywedodd fod y cynnydd arfaethedig o 8.75% ar gyfer praesept y Cyngor yr uchaf a osodwyd gan Sir  ...  view the full Cofnodion text for item 115.

116.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol 2019/20 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn pennu cyfraddau tâl i aelodau etholedig a chyfetholedig Awdurdodau Lleol Cymru am y  flwyddyn ariannol nesaf. Ystyriwyd y cynigion drafft ar 20 Tachwedd 2018 pan oedd Aelodau wedi gwrthwynebu’r cynnydd arfaethedig gan nad oedd modd eu cyfiawnhau.

 

Atgoffwyd Aelodau o’r rhwymedigaeth i weithredu penderfyniadau’r Panel (fel y nodir yn yr adroddiad) oni bai eu bod yn dewis ysgrifennu’n annibynnol neu’n wirfoddol ar y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i fynd heb yr holl daliad, neu ran ohono. Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym Mehefin, unwaith fod yr holl apwyntiadau i swyddi cyflog uwch wedi eu gwneud yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Ian Dunbar.

 

Holodd y Cynghorydd Richard Jones am y posibilrwydd fod pob Aelod yn pleidleisio i fynd heb y cynnydd a dywedwyd y dylai sylwadau o’r fath gael eu gwneud yn ysgrifenedig (mewn llythyr neu drwy e-bost) gan Aelodau unigol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei bod yn anffodus bod amseriad yr adroddiad yn digwydd yr un pryd â gosod Treth y Cyngor ac nad oedd yr un lefel o graffu’n berthnasol i apwyntiadau i gyrff cyhoeddus eraill drwy Gymru. Wrth ailadrodd y sylwadau a fynegwyd yng nghyfarfod Tachwedd, dywedodd na fyddai’n derbyn y cynnydd arfaethedig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn  i’r Cyngor Sir ac y gellid ystyried sut mae hyn yn digwydd yn y dyfodol, o ystyried bod yr holl wybodaeth wedi’i chyhoeddi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar, dywedodd y Prif Weithredwr gan fod y Cyngor yn gwbl gyfrifol am dalu lwfansau, y byddai unrhyw benderfyniad gan Aelodau i wrthod eu cynnydd yn lleihau’r pwysau penodol hwn ar y gyllideb. Neu, efallai bydd Aelodau eisiau trosglwyddo’r cynnydd i drydydd parti os oeddent yn dymuno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis ddiwygiad fod Aelodau’n pleidleisio p’un ai i dderbyn y cynnydd cyn ysgrifennu at y swyddog penodol, er mwyn lleihau’r pwysau ar y gyllideb. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

I helpu’r drafodaeth, dywedodd y Prif Weithredwr mai dim ond awgrym oedd y bleidlais ond mynegodd bryder y gallai hyn roi pwysau ar Aelodau wrth ystyried eu hamgylchiadau unigol.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Ellis ei bod yn awyddus i’w diwygiad sefyll.

 

Ar ôl clywed cyngor y swyddog, penderfynodd y Cynghorydd Jones beidio ag eilio’r diwygiad fel yr oedd wedi’i gynnig yn flaenorol.

 

O ganlyniad eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Helen Brown.

 

Siaradodd y Cynghorydd Neville Phillips yn erbyn y diwygiad ar sail cyngor y swyddog.

 

Tra bod y Cynghorydd Mike Peers yn deall y rhesymeg y tu ôl i’r diwygiad, roedd yn cytuno â chyngor y swyddog na ddylai Aelodau bleidleisio ond yn hytrach wneud eu penderfyniad eu hunain p’un ai i beidio â derbyn y cynnydd ai peidio.

 

Ar ôl cynnig ac eilio, crynhodd y Prif Weithredwr y diwygiad fel  ...  view the full Cofnodion text for item 116.

117.

Deisebau sydd wedi dod i law’r Cyngor pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ganlyniadau a chamau gweithredu deisebau a gyflwynwyd i’r Cyngor Sir yn ystod 2018/19. Fel y cytunwyd yng nghyfarfod Hydref, byddai adroddiad tebyg yn cael ei gyflwyno i gyfarfod olaf y Cyngor Sir o bob blwyddyn.

 

Cafodd yr argymhellion i’r adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Clive Carver, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai unrhyw aelod y mae angen eglurder arno neu arni ynghylch canlyniadau deisebau penodol gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

118.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd saith aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.