Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

58.

Cofnodion pdf icon PDF 305 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19th Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

59.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

60.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthywd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod ei gyhoeddiadau wedi’u hanfon dros e-bost at bob Aelod y diwrnod blaenorol.  Mynegodd gydymdeimlad, ar ran y Cyngor, â’r Cynghorydd Sian Braun a oedd wedi colli ei thad. 

 

Fe wnaeth hefyd ddarllen llythyr gan Colin Everett yn diolch i gydweithwyr am y geiriau caredig, anrhegion a chardiau ar ôl iddo adael.

61.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward.  Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd dim. 

62.

Strategaeth Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 pdf icon PDF 250 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i’w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.  Roedd yn egluro’r gofynion ar gyfer y Strategaeth, ei hamcanion allweddol a chynnwys pob un o’i hadrannau

 

Dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd angen i awdurdodau bennu ystod o Ddangosyddion Darbodus.  Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion am Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2022/23–2024/25.

 

Nodau allweddol y Strategaeth oedd egluro sut yr oedd y Rhaglen Gyfalaf wedi’i datblygu a’i hariannu, yr effaith y gallai ei chael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.  Roedd y Strategaeth yn ddogfen hollgwmpasog a chyfeiriai at ddogfennau eraill fel y Rhaglen Gyfalaf, y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw.  Roedd y Strategaeth wedi’i rhannu’n sawl adran, a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet ac nid oedd unrhyw faterion wedi’u codi.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Mullin.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r swyddogion am yr holl waith a wnaed ar yr adroddiad, a oedd yn dangos bod y Strategaeth wedi’i chyllido’n ddigonol, wedi’i phrofi ac yn gynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf; a

 

(b)       Chymeradwyo’r canlynol:

           

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2022/23–2024/25 fel yr oedd Tablau 1, a 4–7 yn eu nodi yn y Strategaeth Gyfalaf; a

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r terfyn  gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 yn y Strategaeth Gyfalaf).

63.

Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 pdf icon PDF 550 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2022/23 – 2024/25 i'w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Gyfrifydd yr adroddiad a oedd yn cyhoeddi’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2022/23–2024/25 i’w chymeradwyo, gan roi cyflwyniad PowerPoint.

 

Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian.  Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat).  Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.  Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol.

2.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

 

Darparwyd manylion pob tabl o fewn yr adroddiad, a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac yn cael eu cefnogi gan esboniadau yn yr adroddiad ar bob tabl.

 

Darparwyd gwybodaeth hefyd am gynlluniau posib’ yn y dyfodol, a oedd hefyd wedi’u manylu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

Croesawai’r Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ei bod yn bleser argymell y rhaglen gyfalaf arfaethedig i’w chymeradwyo, gan ddweud ei bod yn rhaglen gyfalaf gyfunol ar gyfer y Cyngor cyfan.  Roedd y rhaglen yn uchelgeisiol ac roedd yn dangos, fel Cyngor, fod ymrwymiad i ofalu am bobl diamddiffyn.  Croesawai’r cynlluniau a amlinellwyd ar gyfer ysgolion, ynghyd â’r ysgol newydd yn lle Ysgol Croes Atti, sef yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf i gael ei hadeiladu yn Sir y Fflint fel strwythur carbon niwtral.  Gwnaeth sylw am yr ymrwymiad i Theatr Clwyd a’r prosiect archif newydd, a chroesawai’r gwariant ar Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard, a fyddai’n sicrhau y gallai’r Cyngor gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a osodwyd gan LlC.  Gofynnodd am gefnogaeth gan Aelodau ar draws y siambr ar gyfer yr ystod helaeth o ymrwymiadau oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y sir gyfan.

 

Roedd y Cynghorydd Peers hefyd yn croesawu’r adroddiad, a oedd yn dangos ymrwymiad i’r sir gyfan.  Yngl?n â gwaith ar adeiladau ysgolion, gofynnodd sut y byddai’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r llwyth o  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

Item 7 - Capital Programme presentation slides pdf icon PDF 681 KB

Dogfennau ychwanegol:

64.

Deddf Trwyddedu 2003 Datganiad Drafft Polisi Trwyddedu Rhagfyr 2021 – Rhagfyr 2026 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        I Aelodau ystyried a mabwysiadu Datganiad Polisi Trwyddedu am y cyfnod Rhagfyr 2021 i Rhagfyr 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad gan egluro mai hwn oedd y pumed Datganiad Polisi Trwyddedu i gael ei gyhoeddi a oedd yn amlinellu disgwyliad yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas ag ymgeiswyr.  Roedd hefyd yn manylu beth y gallai ymgeiswyr a defnyddwyr gwasanaeth ei ddisgwyl gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Roedd swyddogion wedi cynnal adolygiad o’r polisi cyfredol, gan ystyried unrhyw newidiadau perthnasol i ddeddfwriaeth, canllawiau ac arferion da.  Cynhaliwyd yr adolygiad mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol eraill Gogledd Cymru yn rhan o ymdrech barhaus i sicrhau cysondeb, lle bo modd, ledled y rhanbarth.

 

Roedd y Drafft o’r Datganiad Polisi Trwyddedu arfaethedig ar gyfer cyfnod Rhagfyr 2021–Rhagfyr 2026 wedi’i atodi i’r adroddiad.  Roedd y drafft terfynol yn dangos y newidiadau roedd swyddogion wedi’u gwneud cyn ymgynghori mewn coch, a’r newidiadau a oedd wedi’u gwneud ers ymgynghori mewn glas.  Roedd crynodeb o’r newidiadau wedi’i ddarparu yn yr adroddiad.

 

Roedd dau ymateb wedi’u derbyn mewn perthynas â’r ymgynghoriad, gan gynrychiolydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chynrychiolydd ar gyfer Deiliaid Trwydded Eiddo.  Roedd manylion yr ymatebion hynny hefyd wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Sharps a’u heilio gan y Cynghorydd Small.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sharps ei ddiolch i’r Tîm Trwyddedu am eu hymdrechion parhaus yn ystod y pandemig i sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i gael eu cefnogi.  Diolchodd iddynt am addasu’r ffordd roeddent yn gweithio i sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i gael ei ddarparu, ac roedd eu holl gleientiaid yn croesawu hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod gwall yn yr atodiad yn 3.19, ac eglurodd nad oedd angen i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymgynghori ar unrhyw amodau roedd yn eu gosod mewn perthynas â materion diogelwch tân.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu’r Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft, dros gyfnod o bum mlynedd hyd at fis Rhagfyr 2026; ac

 

(b)       I unrhyw benderfyniad i wneud newidiadau i’r polisi yn ystod y cyfnod o bum mlynedd gael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Trwyddedu.

65.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 329 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2020/21 drafft i'r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ac eglurodd fod angen i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio adolygu Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys dan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.  Cafodd ei ystyried yn eu cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2021 ac yn y Cabinet ar 21 Medi 2021.

 

Roedd crynodeb o’r prif bwyntiau yngl?n â’r Adroddiad Blynyddol wedi’i gynnwys yn yr adroddiad eglurhaol.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a’i eilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r holl swyddogion a oedd ynghlwm â pharatoi’r adroddiad, ac am ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet.  Eglurodd mai’r dylanwad mawr ar economi’r DU yn 2020/21 oedd y pandemig Covid-19.  Fe ostyngodd Banc Lloegr y Gyfradd Banc i 0.1% a darparodd Llywodraeth y DU amrywiaeth o fesurau ysgogi ariannol i gefnogi’r economi drwy’r cyfnod digyffelyb hwnnw.  Roedd adran 2 yn yr adroddiad yn darparu adolygiad economaidd a chyfraddau llog llawn ar gyfer 2020/21.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor cyfrifol a oedd yn craffu ar y Strategaeth a’r Polisïau Rheoli’r Trysorlys, cadarnhaodd y Cynghorydd Dolphin ei fod wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf lle cafodd ei gefnogi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd gan North East Wales (NEW) Homes yr un mynediad at y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, felly fe wnaeth y Cyngor fenthyca ar eu rhan gan gynnwys cyfradd fechan ychwanegol a oedd yn darparu ffrwd incwm ar gyfer yr awdurdod.  Mewn ymateb i gwestiwn arall am gyfraddau llog, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’r adroddiadau monitro chwarterol yn darparu gwybodaeth fanwl lawn.  Ynghlwm a gweithgarwch buddsoddi, gofynnodd y Cynghorydd Peers beth oedd yr elw ar fuddsoddiadau.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol mai’r nod bob amser oedd gwneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi a bod y cyfleoedd gorau’n cael eu hystyried ar y pryd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2020/21.

66.

Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Adolygu cyfrifiadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor gan fod Aelod newydd wedi ymuno â Gr?p Llafur yn dilyn is-etholiad Penyffordd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol a oedd yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y’u diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor adolygu ei gyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn yr isetholiad ym Mhenyffordd ar 7 Hydref 2021.

 

Roedd y Cynghorydd newydd yn y ward honno, ynghyd â’r Cynghorydd Cindy Hinds fel Aelod arall y ward, yn y Gr?p Llafur, lle’r oedd yr Aelod presennol yn y Gr?p Annibynnol Newydd.  Roedd yr hawl i seddau a oedd wedi’i chyfrif yn awgrymu y byddai’r Gr?p Llafur yn ennill dau le ac y byddai’r Gr?p Annibynnol newydd yn colli dau le.  Roedd modd gwneud y newidiadau hynny heb effeithio ar grwpiau eraill.

 

Grwpiau gwleidyddol y Cyngor a nifer yr Aelodau ar bob un oedd:

 

Llafur

35

Y Gynghrair Annibynnol

16

Ceidwadwyr

6

Democratiaid Rhyddfrydol

6

Aelodau Annibynnol Newydd

3

Annibynnol

3

Aelod amhleidiol

1

 

Roedd cyfrifiad y cydbwysedd wedi’i atodi i’r adroddiad.  Un dyraniad cyfreithlon posib’ oedd hwn ac efallai fod dyraniadau eraill yn bosib’.

 

Yn ystod adolygiad strwythur Pwyllgorau yn 2019, cytunodd Arweinwyr Grwpiau, ar ran eu haelodau, y byddai’n well ac yn fwy buddiol ceisio dyrannu seddi’n unol â meysydd diddordeb Cynghorwyr os oedd modd.  Lle bo modd o fewn y rheolau, roedd dyraniad seddi felly’n cael ei ddylanwadu gan feysydd ddiddordeb hysbys.

 

Roedd hawl y Gr?p Llafur i sedd ychwanegol ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn amlwg o’r cyfrifiadau.  Roedd y problemau’n codi â’r ail sedd.  Ar yr achlysur hwn, byddai’r hawl i seddi sydd i’w gweld yn awgrymu y dylai’r Gr?p Annibynnol Newydd golli sedd ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’r Gr?p Llafur.  Fodd bynnag, roedd y sedd yn cael ei llenwi gan Gynghorydd a oedd â phrofiad helaeth a diddordeb mawr yng ngwaith y Pwyllgor.  Er mwyn cyflawni’r uchelgais o ddyrannu seddi ar sail diddordeb, awgrymwyd y dylai’r Gr?p Llafur yn hytrach gael sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Diwylliant ac Ieuenctid.  Byddai hynny’n arwain at or-gynrychiolaeth fechan i’r gr?p ar y Pwyllgor hwnnw ond roedd yn ddyraniad seddi posib’, cyfreithlon.

 

Gan fod dyraniad posib’ a fyddai’n cydymffurfio â rheolau iii ac iv, roedd y ddeddfwriaeth yn dweud y gallai’r dyraniad a argymhellid gael ei gymeradwyo os nad oedd unrhyw Gynghorydd yn pleidleisio yn erbyn hynny.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyrannu’r seddi ar y Pwyllgorau yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol sydd i’w weld yn Atodiad A; a

 

(b)       Rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i enwebiadau i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosib’.

67.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraeth ac Archwilio pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad gan egluro, yn unol â dogfen arfer orau CIPFA, ‘Audit Committees – a Practical Guidance for Local Authorities 2018’, fod angen i’r Pwyllgor gael ei ddal i gyfrif gan y Cyngor am y gwaith roedd yn ymgymryd ag o.  I gefnogi hynny, diwygiwyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn 2018 i gynnwys yr angen i’r Pwyllgor baratoi adroddiad blynyddol i’r Cyngor ar ei gyflawniadau ac i ddangos ei atebolrwydd.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2020/21 wedi’i atodi i’r adroddiad ac roedd yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor i gwrdd â’r gofyn.

 

Rhan sylweddol o rôl y Pwyllgor oedd dangos ei atebolrwydd, a ddylai gael ei ystyried dan y tair agwedd ganlynol:

 

1.    Cefnogi atebolrwydd y Cyngor i’r Cyngor a budd-ddeiliaid

2.    Cefnogi atebolrwydd o fewn y Cyngor

3.    Dal y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gyfrif

 

Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi’i gyflwyno a’i gefnogi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Tachwedd 2021.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Dolphin a’i eilio gan y Cynghorydd Mullin.

 

Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i swyddogion y Cyngor am baratoi’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

68.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg A Chraffu 2020/21 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan egluro bod yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu’n cael ei ddrafftio’n flynyddol gan y tîm o swyddogion, gan ymgynghori â’r Cadeiryddion Craffu perthnasol.  Cyflwynwyd y drafft wedyn i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i Aelodau wneud sylwadau arno cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.

 

Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’r holl aelodau a swyddogion am fod yn rhan o’r broses Trosolwg a Chraffu dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Phillips a’i eilio gan y Cynghorydd Mullin.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r swyddogion am y gwaith a wnaethant yn ystod y pandemig i sicrhau bod y broses Trosolwg a Chraffu’n parhau.  Roedd yn croesawu’n benodol fod yr holl gyfarfodydd wedi’u ffrydio’n fyw, a oedd yn helpu’r cyhoedd i gael mynediad at ddemocratiaeth leol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Marion Bateman i’r swyddogion am y cymorth a’r gefnogaeth a gafodd hi pan oedd yn Gadeirydd y Cyngor yn ystod y pandemig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/21.

69.

Cwestinynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

70.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

71.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Argraffiad 1 2021/22, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar Dydd Mercher, 1 Rhagfyr, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

72.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 51 KB

Pwpras:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson o blaid Rhybudd o Gynnig Gr?p Llafur, sef:

 

“Bod y Cyngor hwn yn cefnogi’r galwadau i Lywodraeth y DU ailgyflwyno’r ychwanegiad o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol ac yn ehangu’r cymorth hwn i fudd-daliadau blaenorol.  Mae’r Cyngor hwn hefyd yn mynegi ei ofid na wnaeth llywodraeth y DU roi’r ychwanegiad hwn i fudd-daliadau blaenorol yn ystod y pandemig.  Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn croesawu’r newidiadau a wnaed i Gredyd Cynhwysol yn y gyllideb, yn enwedig i’r gyfradd dapro, ond yn mynegi ei bryderon na fydd hyn yn cael effaith ar bobl nad ydynt yn gallu gweithio neu hawlwyr budd-daliadau blaenorol.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar yr Arweinydd i ysgrifennu at ein dau Aelod Seneddol lleol i wahodd eu cefnogaeth nhw i’r cynnig hwn”.

 

Darparodd fanylion am yr effaith dros gyfnod o 12 mis, a oedd hefyd ar adeg pan oedd y wlad yn gweld cynnydd mewn biliau ynni a chwyddiant.  Ychwanegodd fod cyfran uchel o’r rhai oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol yn Sir y Fflint yn bobl a oedd mewn gwaith.  Roedd cyfradd dapro wedi’i chyflwyno, ond dywedodd na fyddai hon yn helpu’r rhai nad oeddent mewn cyflogaeth o unrhyw fath.

 

Eiliodd y Cynghorydd Dave Hughes y Rhybudd o Gynnig.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Ibbotson y Rhybudd o Gynnig a darparodd fanylion am ei sefyllfa bersonol ei hun mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton gefnogi’r Rhybudd o Gynnig hefyd, ond teimlai y byddai wedi bod yn fwy amserol cyn y drafodaeth seneddol ar Gredyd Cynhwysol yn yr haf.  Ychwanegodd fod AS Alyn a Glannau Dyfrdwy yn cefnogi hanfod y cynnig ac roedd wedi mynegi ei bryderon i Lywodraeth y DU pan wnaethant gyhoeddi bwriad i dynnu’r ychwanegiad o £20.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Bithell a Butler hefyd siarad o blaid y Rhybudd o Gynnig.  Fe wnaeth y 10 Aelod angenrheidiol wneud cais yn y blwch sgwrsio am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

            Fe wnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddarllen yr enwau yn eu trefn ac mae canlyniad y bleidlais wedi’i chofnod i’w weld isod:

 

O blaid y Rhybudd o Gynnig:

Y Cynghorwyr: Axworthy; Banks; Haydn Bateman; Marion Bateman; Bibby; Bithell; Butler; Carver; Collett; Cox; Cunningham; Rob Davies; Ron Davies; Davies-Cooke, Chris Dolphin; Rosetta Dolphin; Dunbobbin; Eastwood; Evans; Gay; Hardcastle; David Healey; Gladys Healey; Heesom; Andy Hughes; Dave Hughes; Ibbotson; Joe Johnson; Paul Johnson; Christine Jones; Richard Jones; Tudor Jones; Richard Lloyd; Lowe; Mackie; McGuill; Mullin; Palmer; Peers; Vicky Perfect; Phillips; Ian Roberts; Tim Roberts; Rush; Sharps; Aaron Shotton; Paul Shotton; Small; Smith; Owen Thomas, White; Williams; Wisinger ac Woolley.

 

Yn erbyn y Rhybudd o Gynnig:

Dim.

 

Yn ymatal:

Dim.

 

Cafodd y Rhybudd o Gynnig ei gefnogi’n unfrydol.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Woolley y Rhybudd o Gynnig canlynol:

 

“Bod y Cyngor Sir hwn yn nodi ac yn llwyr gefnogi amcanion y Bil Trydan Lleol, a gyflwynwyd i Senedd y DU ar 10 Mehefin eleni gyda chefnogaeth 150 o ASau trawsbleidiol a sefydliadau fel NALC,  The Eden Project, Forum for the Future a  ...  view the full Cofnodion text for item 72.

73.

Cydnabod Gwasanaeth gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd sy'n Ymddeol

Pwrpas:        Cydnabod y 25 mlynedd o wasanaeth yng Nghyngor Sir Sir y Fflint Robert Robins, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd sy'n ymddeol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem gan egluro fod Robert Robins wedi gwasanaethu Cyngor Sir y Fflint am 25 mlynedd.  Cyn ad-drefnu llywodraeth leol, dechreuodd Robert ei yrfa fel hyfforddai graddedig gyda Chyngor Bwrdeistref Delyn ar 28 Ionawr 1985 cyn symud i Gyngor Dosbarth Alun a Glannau Dyfrdwy ac yna i Gyngor Sir y Fflint gan ymgymryd â sawl gwahanol swydd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Robert i dderbyn anrheg a oedd wedi’i brynu gyda chyfraniadau gan Aelodau a swyddogion.

 

Talodd Aelodau ar draws y Siambr, a’r Prif Weithredwr, deyrnged i Robert gan ddymuno’r gorau iddo wrth ymddeol.  Fe wnaeth pob un sylw ar ba mor barod ei gymwynas, caredig, dibynadwy, cefnogol, cwrtais a chalonogol oedd o, a diolchwyd iddo am yr holl gyngor a roddodd dros y blynyddoedd ac am ei gyfeillgarwch. Roedd wir yn ?r bonheddig a byddai colled ar ei ôl.

74.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.