Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

45.

Coffa a Theyrngedau i'r Cynghorydd Hwyr Councillor Kevin Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist am farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Kevin Hughes yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn Covid-19. Mynegodd ei chydymdeimlad diffuant â’i wraig, ei deulu, ei ffrindiau a phreswylwyr ei Ward. Gwahoddodd y Cynghorydd Chris Dolphin i arwain y teyrngedau.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Dolphin am rinweddau personol a phroffesiynol y Cynghorydd Hughes a ystyriodd yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr. Dywedodd ei fod yn uchel ei barch ymysg pawb a oedd yn ei adnabod ac roedd yn ddyn da a gonest.

 

            Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i’r Cynghorydd Hughes gan ddweud ei fod yn unigolyn arbennig a oedd yn cael ei ystyried yn ffrind gan nifer fawr o bobl.  Byddai colled fawr ar ei ôl. Dywedodd ei fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol fel aelod o’r Awdurdod ac roedd yn uchel ei barch ymysg ei gymuned leol, Aelodau o’r Cyngor a Swyddogion a staff yr Awdurdod. Roedd y Cynghorydd Hughes yn aelod lleol gweithgar a oedd yn cynrychioli ei gymuned gyda chywirdeb. Siaradodd am ei rinweddau personol, ei hobïau a’i frwdfrydedd dros bêl-droed yn benodol. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi cael y fraint o fynychu gwasanaeth er cof am y Cynghorydd Hughes a oedd, yn ogystal â chyfleu’r tristwch enfawr yn dilyn y golled, yn diolch ac yn dathlu ei fywyd a’i etifeddiaeth.

 

            Mynegodd y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Tony Sharps, Chris Bithell, Derek Butler, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin ac Aaron Shotton eu cydymdeimlad â gwraig a theulu’r Cynghorydd Hughes.  Talodd Aelodau deyrnged i’r Cynghorydd Hughes gan siarad am gryfder ei gymeriad a’i reddf, ei ymddygiad rhagorol, ei ofal a’i garedigrwydd tuag at eraill, ei hiwmor, ei frwdfrydedd a’i barodrwydd i helpu achos da. Dywedwyd nad oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth i’r Cynghorydd Hughes a oedd yn weithiwr caled ac yn ?r bonheddig. Er gwaethaf ei frwydr i geisio trechu ei salwch ei hun, fe wnaeth ei orau i rybuddio eraill am beryglon y Coronafeirws ac fe anfonodd neges i’r holl Aelodau o’r ysbyty yn annog iddyn nhw a thrigolion Sir y Fflint i ddiogelu eu hunain.

 

            Dywedodd y Cadeirydd ei bod hefyd wedi derbyn negeseuon o gydymdeimlad gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a’r Parchedig Daniel Stroud. Roedd llyfr cydymdeimlo dros y we’ ar gael ar wefan yr Awdurdod er mwyn i Aelodau a Swyddogion eraill allu talu teyrnged i’r Cynghorydd Hughes.

 

Wrth dalu teyrnged, siaradodd y Prif Weithredwr ar ran Swyddogion yr Awdurdod gan ddweud eto bod y Cynghorydd Hughes yn ddyn a oedd yn boblogaidd ac yn uchel iawn ei barch, ac roedd wedi gwasanaethau’r Cyngor yn dda. Cydymdeimlodd yn ddwys gyda’i deulu a’i ffrindiau ar eu colled a chytunodd gyda’r hyn a fynegwyd eisoes.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at y newyddion trist am farwolaeth y cyn Gynghorydd Norma Humphreys a oedd wedi bod yn Aelod hirsefydlog o’r Awdurdod ac wedi cynrychioli Ward Higher Kinnerton tan 2012. Siaradodd y Cadeirydd am y gefnogaeth a’r caredigrwydd a ddangosodd y Cynghorydd Humphreys tuag ati pan ymunodd â’r Awdurdod fel Cynghorydd newydd-etholedig.  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Cydnabod gwobr i dderbynnydd lleol ar Restr Anrhydeddu'r Flwyddyn Newydd.

Mae’n bleser gan y Cyngor gydnabod fod y canlynol wedi’u cynnwys ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2021..

 

Derbynnydd

Tref/cymuned

 

Anrhydedd

Am beth?

Yr Athro Laurence John Alison, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Astudio Penderfyniadau mewn perthynas â Digwyddiadau Tyngedfennol, Prifysgol Lerpwl

MBE

Ei wasanaethau wrth Ymdrin â Digwyddiadau Tyngedfennol ac i’r GIG yn ystod Covid-19

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor yn falch o gydnabod bod yr Athro Laurence John Alison, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Astudio Penderfyniadau mewn perthynas â Digwyddiadau Tyngedfennol, Prifysgol Lerpwl, wedi cael ei gynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Roedd yr Athro Alison yn byw yn Sir y Fflint.

 

Roedd yr Athro Alison yn seicolegydd fforensig a oedd wedi derbyn MBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am wasanaethau i drin digwyddiadau tyngedfennol ac i'r GIG yn ystod COVID-19. Fel Cyfarwyddwr yr Uned Genedlaethol ar gyfer Penderfyniadau mewn perthynas â Digwyddiadau Tyngedfennol, mae'r Athro Alison yn arwain Rhwydwaith Adnoddau Seicolegol y Brifysgol.

 

Ym mis Ebrill y llynedd, bu i’r Athro Alison oruchwylio lansiad prosiect i ddarparu cyfres o becynnau seicolegol ar-lein am ddim i gynorthwyo staff y rheng flaen â pharatoi, addasu ac adfer o weithio yn amgylchedd gweithredol dwys COVID-19. Roedd y prosiect (o’r enw Project ARES) yn ymestyn gyrfa 30 mlynedd o ddeall ac ymateb i ddigwyddiadau mawr a chritigol proffil uchel, o reoli trychinebau i derfysgaeth.

Mae’r Athro Alison yn adnabyddus yn ei faes am ei gyhoeddiadau ar benderfyniadau mewn perthynas â digwyddiadau tyngedfennol, holi carcharorion gwerth uchel, a bu i’w waith ar gam-fanteisio’n rhywiol ar blant arwain at lunio pecyn dyrannu adnoddau sy’n cael ei ddefnyddio ar draws 24 o wledydd Ewrop ac yn fwy diweddar, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Brasil. Arweiniodd yr Athro Alison ôl-drafodaethau seicolegol gyda dros 460 o ddigwyddiadau tyngedfennol yn cynnwys y bomio ar 7/7 a’r tswnami ar ?yl San Steffan. Mae ei waith ar wneud penderfyniadau a goresgyn inertia wrth wneud penderfyniadau yn cael ei ddefnyddio’n genedlaethol gan Heddlu’r DU.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i dalu teyrnged i waith yr Athro Alison. Dywedodd y Cynghorydd Dolphin fod yr Athro Alison wedi ymgymryd âgwaith hynod bwysig ar ddigwyddiadau tyngedfennol y byd ac roedd yn ymgynghorydd ar achosion mawr yn cynnwys adolygiadau a holiadau milwrol. Dywedodd fod ei waith ar wneud penderfyniadau a goresgyn inertia wrth wneud penderfyniadau yn cael ei ddefnyddio gan yr Heddlu ac roedd ei waith ar amddiffyn plant yn werthfawr iawn.     Gan sôn am ei waith mewn perthynas â Covid-19, dywedodd fod yr Athro Alison a’i dîm wedi lansio’r Gwasanaethau Brys Gwytnwch Gweithredol drwy Brifysgol Lerpwl ac Ysbyty Alder Hey. Roedd yr Athro Alison hefyd wedi cynhyrchu cyfnodolion a chymorthyddion addysgu. Fe aeth y Cynghorydd Dolphin ymlaen i’w longyfarch ar ei wobr llwyr haeddiannol. 

 

47.

Cydnabyddiaeth i Theatr Clwyd: Theatr Rhanbarthol y Flwyddyn

Enillodd y theatr y wobr theatr ranbarthol y flwyddyn yng Ngwobrau The Stage a gynhaliwyd ar 6 Ionawr.

 

Gwobrau The Stage yw’r prif wobrau sy’n dathlu’r theatr ar draws y DU a thu hwnt.Eleni, mae’r gwobrau wedi cael eu hailddylunio i gydnabod cyflawniadau eithriadol y timoedd ar hyd a lled y wlad yn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol mae’r diwydiant wedi’i wynebu erioed.

 

Cafodd yr enillwyr eu dewis am eu cyflawniadau ac effaith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.Cawsant eu dewis gan banel beirniadu’r gwobrau yn dilyn proses enwebu cyhoeddus ac ymgynghoriad.Dywedodd y beirniaid “Yn 2020, mae Theatr Clwyd wedi bod yn fwy na theatr: mae wedi bod yn loches, sydd wedi ennill calonnau ac ymddiriedaeth nifer o’r cymunedau mae’n ei gwasanaethu.”

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, a Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Chadeirydd Theatr Cymru.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Theatr wedi ennill gwobr theatr ranbarthol y flwyddyn yng ngwobrau The Stage a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2021. Dywedodd mai gwobrau The Stage yw’r gwobrau mwyaf amlwg sy’n dathlu theatr ar draws y DU a thu hwnt. Eleni, cafodd y gwobrau eu hailddychmygu i gydnabod cyflawniadau eithriadol timau ledled y wlad yn ystod y flwyddyn fwyaf heriol y mae’r diwydiant erioed wedi’i hwynebu.

 

Dewiswyd yr enillwyr ar sail eu cyflawniadau a’u heffaith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.    Cawsant eu dewis gan banel beirniadu’r gwobrau yn dilyn proses enwebu gyhoeddus ac ymgynghoriad. Meddai’r beirniaid, “Yn 2020, mae Theatr Clwyd wedi bod yn fwy na theatr, mae wedi bod yn lygedyn o oleuni,  un sydd wedi cipio calonnau ac ymddiriedaeth y cymunedau a wasanaethir.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler fod y wobr yn gydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol o Theatr Clwyd fel canolfan ddiwylliannol Sir y Fflint a oedd yn darparu aml-weithgareddau ar gyfer y gymuned.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Bithell y Theatr ar ennill y wobr hynod werthfawr, yn enwedig dan yr amgylchiadau heriol yn dilyn y cyfyngiadau llym a osodwyd oherwydd y pandemig. Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Theatr wedi’i thrawsnewid yn ganolfan ddosbarthu ers mis Mawrth diwethaf, yn darparu cymorth i blant a theuluoedd, ac roedd hefyd wedi gweithio gyda busnesau lleol i ddosbarthu bwyd a pharseli bwyd i unigolion mewn angen. Roedd y Theatr hefyd wedi cyfrannu at roi cefnogaeth sylweddol i weithwyr llawrydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd drwy osod tasgau i’w cwblhau gartref. I gloi, dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Wobr fawreddog yn rhoi gobaith o ran dyfodol y Theatr ac roedd yn glod i Tamara Harvey a Liam Evans-Ford a’u tîm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn falch o’r arloesedd rhagorol ac eang a oedd yn symud y Theatr yn ei blaen o dan arweiniad Tamara Harvey a Liam Evans-Ford.

 

Mynegodd y Cynghorydd Glyn Banks ei longyfarchion i Tamara Harvey a Liam Evans Ford a’u tîm a diolchodd iddynt am eu harweinyddiaeth a’u gwaith caled.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Theatr wedi bod yn hoelen wyth i bobl mewn angen yn ystod y pandemig.  Gwnaeth sylw am drosglwyddiad y Theatr o fis Ebrill i Ymddiriedolaeth annibynnol newydd, a dywedodd fod y Theatr bellachbron â gorffen y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am fuddsoddiad cyfalaf i ailwampio a moderneiddio Theatr Clwyd ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ron Davies i Tamara Harvey a Liam Evans-Ford ar lwyddiant y Wobr nad oedd yn hawdd i’w hennill.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Tamara Harvey a Liam Evans-Ford i siarad. 

 

Mynegodd Tamara Harvey ei gwerthfawrogiad bod Theatr Clwyd wedi derbyn cydnabyddiaeth fel Theatr Ranbarthol y Flwyddyn yng ngwobrau The Stage. Dywedodd fod Theatr Clwyd, yn ystod cyfnod llawn heriau, wedi addasu i fodloni’r heriau hynny. Roedd yn ymdrech gan y tîm cyfan, ac roedd yn falch iawn o’r tîm  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd a 8 Rhagfyr 2020.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020.   

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 (ii)       Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 8 Rhagfyr 2020.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Sharps at ei sylwadau ar dudalen 17 yngl?n ag ymholiad gan gwmni a fyddai’n rhyddhau derbyniad cyfalaf ar gyfer y Cyngor a gofynnodd a oedd mwy o wybodaeth ar gael am hyn. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod cyswllt wedi’i wneud gyda’r cwmni dan sylw ac roedd yr ymholiad ar agor eto.

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell a Gladys Healey a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo'r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir. 

 

49.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y cyngor blaenorol a roddwyd i Aelodau ar ystyriaeth o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r amgylchiadau lle fyddai cysylltiad personol sy’n rhagfarnu neu gysylltiad personol yn berthnasol. Atgoffodd yr Aelodau o natur y cysylltiadau a oedd eisoes wedi cael eu datgan.

 

Ar sail hynny, datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol sy’n rhagfarnu a mynegi y byddent yn gadael y cyfarfod cyn yr eitem:

 

·         Y Cynghorydd Bob Connah - yn perthyn i feddiannydd tir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

·         Y Cynghorydd Joe Johnson - perchennog tir yn y CDLl.

·         Y Cynghorydd Hilary McGuill - yn perthyn i berchnogion tir yn y CDLl.

·         Y Cynghorydd Ralph Small - eiddo iddo yn edrych dros un o’r safleoedd ymgeisiol.

·         Y Cynghorydd Andy Williams - ei gartref a'i fusnes yn agos at safle ymgeisiol.

·         Y Cynghorydd Adele Davies-Cooke - yn perthyn i berchnogion tir yn y CDLl.

 

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol:

 

Y Cynghorydd Janet Axworthy

·         Y Cynghorydd Mike Peers

 

50.

Cyfathrebiadau Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i holl staff y gweithlu Gwasanaethau Stryd a oedd wedi delio gyda thywydd garw yn ddiweddar, yn cynnwys llifogydd, rhew ac eira. Dywedodd fod y timau Cynnal a Chadw’r Gaeaf wedi bod yn graeanu’n barhaus drwy’r nos ac y byddent yn parhau i raenu llwybrau blaenoriaeth ar draws y rhwydwaith yn ôl yr angen. Byddai pentyrrau a biniau halen yn parhau i gael eu llenwi ar draws y rhwydwaith lle bo’r angen.

 

Yn ôl y Cadeirydd,  pan oedd tywydd garw wedi rhwystro casgliadau gwastraff rhag cael eu cwblhau mewn diwrnod, neu oherwydd y cynnydd sylweddol yn swm y gwastraff dros y Nadolig, roedd y Tîm Gwasanaethau Stryd wedi gweithio’n ddiflino i gasglu a chael gwared ar yr holl wastraff y diwrnod canlynol.

 

Cymaint oedd ymrwymiad yr holl weithwyr yn ystod y deg mis diwethaf, awgrymodd fod Aelodau yn ymuno â hi i roi cymeradwyaeth iddynt er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad am ymrwymiad a gwaith caled yr holl staff.

 

Cytunodd y Cynghorydd Ian Roberts gyda’r teimladau a fynegwyd gan y Cadeirydd am waith caled ac ymrwymiad y staff.  Yn ogystal â’i werthfawrogiad o waith y Tîm Gwasanaethau Stryd, diolchodd hefyd i staff y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Tai fel enghreifftiau pellach o staff a oedd wedi gweithio’n ddiflino dros wyliau’r Nadolig.   

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am ymrwymiad a gwaith caled pawb a oedd yn gysylltiedig â’r Tîm Gwasanaethau Stryd (Rheolwyr, swyddogion a staff rheng flaen) a oedd wedi gweithio oriau hir drwy gydol y pandemig, tywydd garw’r Gaeaf a gwyliau’r Nadolig. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Glyn Banks ei longyfarchion i’r Tîm Gwasanaethau Stryd ar eu gwaith rhagorol mewn perthynas â’r gwasanaeth casglu gwastraff dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

 

 

51.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

52.

Archwiliad Cyhoeddus Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint - Awdurdod Dirprwyedig i Swyddogion pdf icon PDF 102 KB

Ceisio safbwyntiau’r Aelodau ar, a chytuno ar gynllun dirprwyo arfaethedig er mwyn i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau yn sgil archwiliad cadernid o unrhyw agwedd o’r CDLl yn ystod sesiynau gwrandawiad Archwiliad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i geisio barn Aelodau ar, a chytuno ar gynllun dirprwyo arfaethedig er mwyn i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau yn sgil archwiliad cadernid o unrhyw agwedd o’r CDLl yn ystod y sesiynau gwrandawiad a drefnwyd. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r archwiliad o’r CDLl yn dechrau ar 8 Mawrth 2021. Cynhaliwyd cyfarfod cyn-gwrandawiad ar 12 Ionawr ac roedd disgwyl y byddai amserlen ddrafft ar gyfer sesiynau’r gwrandawiad yn cael ei chyhoeddi yr wythnos hon ar wefan y CDLl (darperir y ddolen yn yr adroddiad).  

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn ystyried bod y CDLl fel y cyflwynwyd yn gynllun cadarn, fodd bynnag, fe allai Arolygwyr gynnig newidiadau yn ystod y gwrandawiad. Eglurodd mai pwrpas y cynllun dirprwyo oedd i ganiatáu i swyddogion gytuno, mewn egwyddor, i’r Arolygydd wneud newidiadau i’r CDLl yn ystod sesiynau’r gwrandawiad mewn ymgynghoriad ag Aelodau, yn dibynnu ar natur a chwmpas y newidiadau a gynigir. Cynigiwyd dirprwyo newidiadau o natur ffeithiol neu deipograffyddol i’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth (neu, yn ei absenoldeb neu ei anallu i weithredu neu er hwylustod gweithredol, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio) ond byddai newidiadau mwy arwyddocaol, megis dileu dyraniad neu gyflwyno safle neu safleoedd newydd yn gofyn am ymgynghoriad gydag Aelodau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru yn argymell cymeradwyo cynllun dirprwyo o’r fath er mwyn i’r archwiliad allu gweithredu’n effeithlon. 

 

Tynnodd y Prif Swyddog sylw at baragraffau 1.05 a 1.06 yn yr adroddiad a’r wybodaeth yn Nhabl 1 sy’n nodi’r cynllun dirprwyo arfaethedig.   Dywedodd fod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi ystyried y cynigion yn y cynllun dirprwyo drafft mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd, ac yn dilyn diwygio’r cynllun roedd wedi’i argymell i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.  Sicrhaodd yr Aelodau y byddai unrhyw newidiadau a oedd yn deillio o’r broses archwilio (o’r enw ‘Newidiadau Materion yn Codi’) yn cael eu cyfuno mewn dogfen ac yn destun proses ymgynghori gyhoeddus ar wahân dros gyfnod o 6 wythnos pan oedd sesiynau’r gwrandawiad wedi dod i ben. Rhoddodd sicrwydd y byddai digon o gyfle i Aelodau a’r cyhoedd ymateb i unrhyw newid arfaethedig fel rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol hwnnw. Argymhellodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo, fel y nodwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad, yn cael ei fabwysiadau i roi fframwaith i swyddogion weithredu ar Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Lleol os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau i’r Cynllun.

 

Cynigodd y Cynghorydd Chris Bithell gymeradwyo’r argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gan siarad o blaid yr argymhellion, dywedodd eto fod y Cynllun yn gadarn fel ag yr oedd. Cyfeiriodd eto at y cynigion a’r trefniadau ar gyfer awdurdod dirprwyedig fel y manylwyd yn Nhabl 1 a dywedodd y byddai defnyddio’r cynllun yn ddewis olaf (gan nad oedd y Cyngor yn ceisio unrhyw newidiadau), os nad oedd unrhyw agwedd o’r cynllun neu dystiolaeth ategol, am ba bynnag reswm, yn gadarn yn  ...  view the full Cofnodion text for item 52.

53.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Bil Llywodraeth Ledol ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Dywedodd fod y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ac ei fod bellach yn Ddeddf.  Pwrpas yr adroddiad oedd amlygu cynnwys allweddol y Ddeddf ac i’r Cyngor nodi’r goblygiadau cyfansoddiadol (diwygiad etholiadol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) a chyfranogiad y cyhoedd, er enghraifft) a goblygiadau eraill (creu Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu er enghraifft) a’r cynlluniau mewnol ar gyfer gweithredu.  Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod rhai o’r newidiadau yn rhai a oedd i’w gwneud yn syth nid oedd amserlen eto i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau eraill.Darparodd ddiweddariad bras ar y CBC a dywedodd fod ymateb yr Awdurdod ynghlwm wrth yr adroddiad, a diwygiad etholiadol a gofynnodd i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gyflwyno’r adroddiad.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod rhaid i’r Awdurdod, yn ddarostyngedig i ddechrau, weithredu’r Ddeddf yn y ffordd orau bosib’ i weddu amgylchiadau lleol. Adroddodd ar feysydd allweddol y Ddeddf, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a oedd yn gofyn bod y Cyngor yn gwneud penderfyniad, ac a fyddai’n effeithio ar aelodau’n uniongyrchol neu’n berthnasol i’w rôl strategol. Esboniodd y Prif Swyddog ei fod wedi sefydlu gweithgor i drefnu cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf a fyddai’n cyflwyno adroddiadau cyfnodol ar gynnydd i aelodau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad gyda’r diwygiad bod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau bellach yn Ddeddf. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn croesawu’r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf o ran yr etholfraint a oedd yn galluogi unigolion 16 ac 17 mlwydd oed i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Cyngor Sir a Chymuned/Tref ym mis Mai 2022, a gwella hygyrchedd y cyhoedd i gyfarfodydd llywodraeth leol. Mynegodd y Cynghorydd Roberts bryderon yngl?n â’r trefniadau craffu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) a, gan gyfeirio at greu Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, mynegodd bryder na fyddai Aelod yn cadeirio’r Pwyllgor ac fe wnaeth sylw ar ddylanwad cynyddol aelodau lleyg.     

 

Eiliodd y Cynghorydd Thomas yr argymhellion.  Dywedodd ei bod hefyd wedi mynegi pryderon yngl?n â chreu CBC a chyfeiriodd at ymateb yr Awdurdod i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar CBC a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell gyda’r safbwynt a fynegwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a mynegodd bryderon pellach yngl?n â’r dewis i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol yn y dyfodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon yngl?n â chreu CBC a threfniadau craffu.  Gan gyfeirio at ystyriaeth flaenorol ar CBC, gofynnodd a oedd unrhyw ymgynghoriadau pellach wedi cael eu cynnal rhwng 28 Ionawr 2020 a 18 Tachwedd 2020 ac a oedd dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar CBC, a ystyriwyd gan y Cabinet ar 15 Rhagfyr 2020, o unrhyw werth os oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad i basio’r Bil ar 18 Tachwedd. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylw ar ehangu’r etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 mlwydd oed a dinasyddion tramor o dan  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 104 KB

Cyflwyno dogfen ddrafft Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2020/21

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i gyflwyno drafft o’r Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2020/21. Dywedodd fod yr Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/21 ynghlwm wrth yr adroddiad ac roedd angen cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor.

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr Adroddiad Canol Blwyddyn yn adolygu gweithgareddau a pherfformiad gweithrediadau rheoli’r trysorlys rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2020. Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, adolygwyd yr Adroddiad Canol Blwyddyn gan y Pwyllgor Archwilio ar 18 Tachwedd 2020 a’r Cabinet ar 15 Rhagfyr 2020. Nid oedd gan y Pwyllgor Archwilio unrhyw fater i ddwyn i sylw’r Cabinet na’r Cyngor. Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y pwyntiau allweddol a oedd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks fod agwedd ddarbodus yr Awdurdod wedi’i wasanaethu’n dda yn ystod heriau digynsail y llynedd a diolchodd i’r Tîm Cyllid, ymgynghorydd y Cyngor (Arlingclose) a’r Pwyllgor Archwilio am eu gwaith. Cynigodd yr argymhellion yn yr adroddiad i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Chris Dolphin y cynnig.     

 

Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd  Mike Peers ar y rhagamcanion diwedd blwyddyn yn adran 5.04 yr adroddiad a darparodd eglurhad pellach ynghylch y wybodaeth ar fuddsoddiadau a benthyca.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2020/21.

 

55.

Recriwtio Aelod Lleyg at gyfer y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r broses o recriwtio Aelod Lleyg ar gyfer y Pwyllgor Archwilio yn unol â gofynion Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gymeradwyo’r broses o recriwtio Aelod Lleyg ar gyfer y Pwyllgor Archwilio yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, ar ôl ystyried maint ei aelodaeth, fod y Pwyllgor Archwilio wedi argymell y dylai’r aelodaeth bresennol o 9 barhau (7 Cynghorydd etholedig a 2 aelod lleyg). Os oedd y Cyngor yn dymuno parhau â 9 aelod byddai’n rhaid iddo newid un Cynghorydd etholedig ar y Pwyllgor am aelod cyfetholedig (lleyg). Fel arall, fe allai’r Cyngor benderfynu lleihau maint y Pwyllgor i 6 aelod (4 Cynghorydd etholedig a’r 2 aelod lleyg presennol). 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog gyngor ac atgoffodd y Cyngor y byddai gan y Pwyllgor rôl ehangach o 1 Ebrill 2021. Dywedodd fod y gofyniad i newid yr aelodaeth o fewn y darpariaethau a fydd yn dod i rym ar adeg a ddewisir gan Weinidogion. Disgwyliwyd y byddai hyn yn digwydd ym mis Ebrill 2021 ond erbyn hyn deallir y bydd yn digwydd ym mis Mai 2022. Felly, esboniodd y gallai’r Cyngor gynnal yr aelodaeth bresennol ar gyfer gweddill y tymor hwn a dechrau’r broses recriwtio ar ddiwedd yr hydref er mwyn penodi’r aelod lleyg ym mis Chwefror neu fis Mawrth 2022.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr argymhelliad yn yr adroddiad bod nifer yr aelodau yn y Pwyllgor Archwilio yn aros ar 9 ac o fis Mai 2022 byddai’n cynnwys 6 o Gynghorwyr etholedig a 3 aelod lleyg a bod y panel recriwtio (fel yr awgrymwyd yn yr ail argymhelliad yn yr adroddiad) yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor ar gyfer penodi aelod lleyg ychwanegol.

Wrth gynnig yr argymhellion, gwnaeth y Cynghorydd Chris Dolphin sylw ar yr arbenigedd gwerthfawr yr oedd aelodau lleyg yn ei gynnig i’r Pwyllgor Archwilio a’r cyfraniad ardderchog a oedd yn cael ei wneud gan aelodau lleyg presennol. Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Neville Phillips.

 

Ar ôl pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Recriwtio un aelod lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Archwilio yn lle aelod etholedig o fis Mai 2022; a

 

 (b)      Bod y panel recriwtio yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Aelod Cabinet Cyllid, yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor yngl?n â phenodi.  

 

56.

Recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cytuno ar amserlen a phroses ar gyfer recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i gytuno ar yr amserlen a’r broses ar gyfer recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau. Dywedodd fod y cyfnod mewn swydd ar gyfer un o Aelodau cyfetholedig y Pwyllgor yn dod i ben ym mis Mawrth 2021 ac oherwydd bod yr aelod wedi cyrraedd uchafswm y cyfnodau gwasanaeth a ganiateir dan y ddeddfwriaeth mae’n rhaid iddo ymddiswyddo. Dywedodd fod Aelod Annibynnol arall wedi penderfynu ymddeol. Roedd y ddau aelod cyfetholedig wedi bod yn aelodau gweithgar o’r Pwyllgor Safonau ac roeddent wedi gwneud cyfraniad sylweddol i lywodraethiant y Cyngor.

 

Esboniodd y Prif Swyddog y byddai’n rhaid i’r Cyngor hysbysebu dwy swydd wag ac i wneud hynny roedd rhaid rhoi hysbysebion yn y wasg leol a ffurfio panel cyfweld (fel yr awgrymwyd yn yr adroddiad).  Fe allai cyfweliadau gael eu cynnal tua diwedd mis Chwefror / mis Mawrth ac yna byddai’r ymgeisydd a ffefrir yn cael ei benodi’n swyddogol gan y Cyngor (o bosib ar 1 Ebrill 2021). 

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Johnson yr argymhellion a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Mike Peers.       

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau a oedd yn ymddeol am eu gwaith a’u cyfraniadau rhagorol. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n ysgrifennu at y ddau aelod i gofnodi diolch a dymuniadau gorau’r Cadeirydd yn ffurfiol.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad a sefydlu panel penodi ffurfiol gyda’r aelodaeth fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad. 

 

57.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.