Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

8.

Cofnodion pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 a 27 Chwefror 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn amodol ar ddiwygiad gan y Cyng. Owen Thomas, cynigiodd y Cyng. Bithell y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 18 Chwefror 2020. Eiliwyd hyn gan y Cyng. a chymeradwywyd y cofnodion. Paul Shotton. O ran cofnodion 27 Chwefror 2020, cynigiodd y Cyng. Bithell y dylid eu cymeradwyo ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Peers a chymeradwywyd y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid i gofnodion 18 Chwefror 2020, cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir.

9.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ailadroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyngor a roddwyd i’r Aelodau yn ystod proses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r amgylchiadau amrywiol lle ceir cysylltiad sy'n rhagfarnu.Atgoffodd yr Aelodau am natur y cysylltiadau a ddatganwyd pan gymeradwywyd y CDLl i’w Harchwilio gan y Cyhoedd ym mis Gorffennaf 2019.

 

Ar sail hynny, datganodd yr Aelodau canlynol cysylltiad personol sy’n rhagfarnu a mynegi y byddant yn gadael y cyfarfod cyn yr eitem:

 

·         Y Cyng. Glyn Banks - gyda chysylltiad agos â rhywun sy’n berchen ar safle wedi’i ddyrannu

·         Y Cyng. Bob Connah - yn perthyn i feddiannydd tir yn y CDLl

·         Y Cynghr. David a Gladys Healey - wedi gwrthwynebu safle yn y CDLl (ddim yn bresennol) 

·         Y Cyng. Joe Johnson - perchennog tir yn y CDLl

·         Y Cyng. Hilary McGuill - yn perthyn i berchnogion tir yn y CDLl

·         Y Cyng. Ralph Small - eiddo iddo yn edrych dros un o’r safleoedd ymgeisiol

·         Y Cyng. Andy Williams - ei gartref a'i fusnes yn agos at safle ymgeisiol (ddim yn bresennol)

 

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol:

 

·         Y Cyng. Christine Jones - wedi cefnogi datblygiad Porth y Gogledd

·         Y Cynghr. Paul Cunningham, Michelle Perfect, Vicky Perfect ac Ian Roberts - aelodau o Gyngor Tref y Fflint sydd wedi gwrthwynebu safle ymgeisiol

·         Y Cyng. Ted Palmer - ffrind agos i’r Cyng. Joe Johnson

·         Y Cyng. Mike Peers - wedi cael gwybod yn ddiweddar bod perthynas pell wedi bod yn rhan o’r ymgynghoriad

·         Y Cyng. Kevin Rush - perthynas pell o bosibl yn bwriadu cyflwyno cynlluniau

·         Y Cyng. Martin White - ei eiddo â’i gefn at safle yn y CDLl

10.

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio Gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus pdf icon PDF 229 KB

Pwrpas:        Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn cytuno i gyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion archwiliad cyhoeddus yr Arolygydd Cynllunio Annibynnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad er mwyn i’r Aelodau ystyried a chytuno ar ymateb y Cyngor i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl.Mae hwn yn gam allweddol tuag at gyflawni un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, sef mabwysiadu’r CDLl ac mae’r ddogfen wedi bod yn destun proses graffu faith gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio trawsbleidiol. Un o flaenoriaethau'r gr?p hwn yw gwarchod tir rhwystr glas a ffiniau aneddiadau ble bynnag y bo’n bosibl.Os yw’r Aelodau yn cytuno arno, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol, gan ddarparu cyfle i dderbyn rhagor o sylwadau yn ôl disgresiwn yr Arolygydd. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth gyflwyniad gan ymdrin â’r meysydd canlynol:

 

·         Pwrpas

·         Y CDLl i’w Archwilio gan y Cyngor, Cynllun y Cyngor

·         Prif elfennau strategaeth y cynllun

·         Dyraniadau tai y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd

·         Ymgynghoriad ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd

·         Gwaith y Gr?p Strategaeth Cynllunio

·         Ystyried sylwadau

·         Y prif faterion a godwyd

·         Pwysau

·         Map rhwystr glas cymharol enghreifftiol

·         Cyflwyno’r Cynllun

·         Sesiynau briffio ar gyfer Aelodau ac argymhelliad y Cabinet

 

Amlygodd y cyflwyniad y manteision amrywiol a geir wrth fabwysiadu Cynllun, y dull ar gyfer ymateb i sylwadau a’r gwasgariad eang o safleoedd mewn aneddiadau cynaliadwy - rhai ohonynt yn safleoedd posibl ar gyfer datblygiad cynnar.Elfen allweddol o’r broses oedd cyfraniad y Gr?p Strategaeth Cynllunio at graffu ar y cynnydd a gwneud argymhellion i’r Cabinet, sydd erbyn hyn wedi’u cyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod ar draws unrhyw broblem sylfaenol gyda chadernid y Cynllun ac nad oedd darparwyr isadeiledd/budd-ddeiliaid allweddol wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad mawr. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys pryderon perygl llifogydd ar bum safle cyflogaeth bychan.Yn fras, ar ôl ystyried yr holl sylwadau a’r dystiolaeth, nid oes newidiadau sylweddol yn cael eu hargymell ar gyfer y Cynllun dim ond mân waith golygu a newid ambell i eiriad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a'u tîm, ynghyd ag aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio, am eu gwaith ar y mater hwn.

 

Yn ystod yr eitem, diolchodd nifer o Aelodau i’r swyddogion ac i aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio am eu hymrwymiad i’r broses faith o gynhyrchu cynllun cadarn.

 

Fel Cadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, cynigiodd y Cyng. Bithell yr argymhellion - sydd wedi’u cefnogi gan y Cabinet, ac amlygodd bwysigrwydd bwrw ymlaen â mabwysiadu CDLl ar gyfer Sir y Fflint.

 

Fel Is-Gadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, eiliodd y Cyng. Peers y cynnig ac ategu’r sylwadau cadarnhaol am waith y rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r broses.Cyfeiriodd at wrthdaro posibl gyda'r ymateb i’r cynnig i newid safle ymgeisiol yn safle tai a gofynnodd a oes modd adolygu hyn cyn i’r Cyngor gyhoeddi ei ymateb llawn.Diolchodd i’r swyddogion am egluro’r newidiadau i’r rhwystrau glas a gofynnodd a  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.