Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

57.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:   I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar Eitem 7 ar y Rhaglen, Cam 1 Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19, datganodd y Cynghorydd McGuill gysylltiad personol ar ôl ei sylwadau ar ardrethi busnes ar gyfer elusennau, oherwydd bod aelodau o’i theulu yn sefydliad y Sgowtiaid.

58.

Deisebau

Pwrpas:   Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

59.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

60.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

61.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 53 KB

Pwrpas:   Ystyriedunrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Aaron Shotton:

 

 (i)       Gwneud trefniadau trosiannol teg ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a aned yn y 1950au.

 

 ‘Gorfodwyd newidiadau sylweddol i’w pensiynau ar gannoedd o filoedd o ferched gan Ddeddf Pensiynau 1995 a 2011 heb fawr neu ddim rhybudd personol yngl?n â’r newidiadau. Cafodd rhai merched lai na dwy flynedd o rybudd am gynnydd o chwe blynedd i oed Pensiwn y Wladwriaeth. Mae rhai merched heb gael eu rhybuddio o gwbl.

 

Mae nifer o ferched a aned yn y 1950au yn byw mewn caledi. Mae cynlluniau ymddeol wedi’u chwalu, gyda goblygiadau dinistriol. Mae nifer o'r merched hyn eisoes allan o’r farchnad lafur, yn gofalu am berthnasau h?n, yn gofalu am wyrion ac wyresau, neu’n dioddef o wahaniaethu yn y gweithle ac felly’n ei chael yn anodd dod o hyd i waith.

 

Mae merched a aned yn y degawd hwn yn dioddef yn ariannol. Maent wedi gweithio’n galed, wedi magu teuluoedd a thalu eu trethi a’u hyswiriant gwladol gan ddisgwyl y byddant yn ddiogel yn ariannol ar ôl cyrraedd 60 oed. Nid yr oedran pensiwn ei hun yw pwnc y ddadl, ond bod y cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i'r merched wedi bod yn rhy sydyn ac wedi digwydd heb fawr o rybudd i’r rhai sy’n cael eu heffeithio, gan eu gadael heb ddigon o amser i wneud trefniadau eraill.

 

Penderfyniad:

Bod y Cyngor hwn yn cydnabod ac yn cefnogi Gr?p WASPI (Merched yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth) Sir y Fflint ac ein bod ni, fel Cyngor, yn penderfynu gweithredu i alw ar y Llywodraeth i wneud trefniadau trosiannol teg o ran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer yr holl ferched a aned yn y 1950au sy’n cael eu heffeithio gan newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd wedi ysgwyddo baich y cynnydd i'r oedran hwnnw yn annheg, heb ddigon o rybudd.'

 

Wrth gefnogi’r Cynnig hwn, gobeithiai’r Cynghorydd Shotton y byddai pawb yn cydnabod annhegwch y mater hwn a rhoddodd enghreifftiau o’r gofid personol a achoswyd i unigolion lleol. Galwodd ar y Cyngor i gefnogi ymgyrch genedlaethol WASPI, a oedd yn cynnwys gr?p gweithredu lleol, ac roedd rhai o'i aelodau'n bresennol.

 

Wrth eilio’r Cynnig, rhoddodd y Cynghorydd Kevin Hughes wybodaeth gefndir am ymgyrch WASPI. Pwysleisiodd mai ffocws yr ymgyrch oedd y cynnydd sydyn yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched, lle'r oedd newidiadau a orfodwyd yn ddirybudd wedi gadael nifer mewn caledi a heb allu cynllunio i ymddeol.

 

Hefyd yn siarad o blaid y Cynnig oedd y Cynghorwyr Mike Peers, Rita Johnson a Paul Shotton.

 

Pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid y Cynnig.

 

 (ii)      Diwedd ar Galedi Ariannol Llywodraeth y DU

 

 ‘Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Ganghellor y Trysorlys i roi diwedd ar bolisi Llywodraeth y DU o galedi ariannol yn ei gyllideb, sydd i gael ei chyflwyno ger bron y Senedd ar 22 Tachwedd. Mae’r Cyngor hwn yn credu bod caledi ariannol, ar ôl saith mlynedd ohono fel strategaeth wleidyddol ac economaidd, wedi’i wrthbrofi’n  ...  view the full Cofnodion text for item 61.

62.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19 Cam Un pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:   Rhoi diweddariad ar ragolwg Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 yn dilyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a chymeradwyo cynigion cyllideb cam un.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar ragolygon Cyllideb Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19 yn dilyn Setliad Llywodraeth Leol Cymru Dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.  Ceisiwyd barn yr Aelodau ar ymateb i'r Llywodraeth ac i gynigion cynlluniau busnes portffolio'r Cyngor a gyflwynwyd i'w mabwysiadu'n ffurfiol.

 

Ymysg deilliannau allweddol y cyhoeddiad, dywedwyd bod nifer o grantiau penodol bellach wedi’u cynnwys yn y Setliad ac roedd effaith cyfrifoldeb newydd dros atal digartrefedd yn cael ei hasesu, ond nid oedd cyllid sylfaenol ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer hyn.  Roedd gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r Setliad Dros Dro'n amlygu gostyngiad yn y Grant Gwella Addysg a Grant Sengl yr Amgylchedd fel meysydd pryder.  Roedd yr effaith gyffredinol wedi cynyddu’r bwlch a ragwelwyd yn flaenorol o £11.7 miliwn i £13.6 miliwn a gallai gael ei effeithio ymhellach gan orwariant o £1.1 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor yn 2017/18.

 

Roedd dewisiadau cynlluniau busnes y portffolio a oedd werth £3.1 miliwn wedi’u cymeradwyo gan y Cabinet a'u hadolygu gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau.  Y prif bwnc o ddiddordeb i’r cyhoedd oedd y cynnig i ddechrau codi tâl am gasglu gwastraff o'r ardd, nad oedd yn un o wasanaethau statudol y Cyngor.  Roedd manylion ar gael yn yr adroddiad i gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd ar ddod.  Roedd datganiadau gwytnwch ar gyfer pob portffolio'n dangos bod y rhan fwyaf o feysydd gwasanaeth ar lefel risg Felyn, a oedd yn adlewyrchu'r risg o fethiant cyn cyrraedd Cam 2 yn y broses.

 

Nodwyd amserlen ar gyfer proses y gyllideb er mwyn galluogi’r Cyngor i gymeradwyo cyllideb gytbwys i gyflawni ei ddyletswydd statudol.  Byddai mwy o ddewisiadau heriol ar gyfer Cam 2 am gyfanswm o tua £6-8 miliwn yn cael eu hystyried gan Aelodau mewn gweithdy anffurfiol cyn ceisio cymeradwyaeth yn y cyfarfod nesaf, er mwyn caniatáu gweithredu a chanolbwyntio'n gynnar ar ddewisiadau sy’n weddill ar gyfer Cam 3 yn y Flwyddyn Newydd.

 

Er bod rhai sylwadau anffurfiol eisoes wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar y Setliad Dros Dro, gofynnwyd i'r Aelodau gytuno ar ymateb corfforaethol yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydnabod eu cyfrifoldebau eu hunain dros fwy o gyllid i ddiwallu anghenion llywodraethau lleol i ddiogelu gwasanaethau, fel oedd yn wir ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.  I atgoffa’r Aelodau am y sylwadau a wnaed i Lywodraeth Cymru, dosbarthwyd copïau o lythyr a anfonwyd at Mark Drakeford AC a oedd yn amlygu’r effaith yn genedlaethol, pa mor bwysig oedd gwneud achos ar y cyd a'r angen i Sir y Fflint dderbyn digon o gyllid i ddarparu’r gwasanaethau gorfodol.

 

Ymateb drafft i’r Setliad Dros Dro

 

Gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau gefnogi’r ymateb drafft canlynol i Lywodraeth Cymru, a oedd yn deillio o wybodaeth o drafodaethau drwy gydol proses y gyllideb:

 

Bod:

 

·         y Setliad yn annigonol ar gyfer anghenion y Cyngor;

·         y Cyngor yn ailgefnogi’r achos a wnaed ar 22 Awst fel y nodir yn y llythyr at Mark Drakeford AC;

·         y  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Adolygiad o Etholaethau Seneddol 2018 pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:   I geisio barn ar y cynigion diwygiedig a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar yr 2018 adolygiad  Seneddol Etholaethau Fflint & Rhuddlan a Glannau Dyfrdwy & Alyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio barn ar y cynigion diwygiedig a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol y Fflint a Rhuddlan ac Alun a Glannau Dyfrdwy.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Peers yr adroddiad ac fe amlygodd wall yn y geiriad ar gyfer Alun a Glannau Dyfrdwy yn adran 3.3. yn adroddiad y Comisiynydd Cynorthwyol.

 

Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bithell am effaith yr adolygiad ar Gymru.

 

O ran enwi etholaethau, gofynnodd y Cynghorydd Neville Phillips a allai'r Cyngor wneud sylwadau i Alun a Glannau Dyfrdwy gael ei newid i Ddwyrain Sir y Fflint.  Ar ôl derbyn cyngor gan swyddog, cynigiwyd ac eiliwyd hyn fel gwelliant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans a ellid gwneud cais o’r fath ar y cam hwn yn y broses.  Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid ei gyflwyno ar y sail ei fod yn haws ei adnabod nag Alun a Glannau Dyfrdwy, er bod y cais yn hwyr.

 

O'i roi i’r bleidlais, derbyniwyd y gwelliant.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Bithell ac fe gawsant eu heilio.  Cymeradwywyd yr argymhellion wrth bleidleisio arnynt.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y dylid ymateb yn ffurfiol i geisio newid yr enw Alun a Glannau Dyfrdwy i Ddwyrain Sir y Fflint;

 

 (b)      Nodi’r cynigion diwygiedig a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol y Fflint a Rhuddlan ac Alun a Glannau Dyfrdwy; ac

 

 (b)      Awdurdodi’r Prif Weithredwr i ymateb ar ran y Cyngor.

64.

Canllawiau Adolygiadau Cymunedau ac Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar Adolygiadau Cymunedau pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:   Cyflwyno Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar Adolygiadau Cymunedol a gwahodd ymateb gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn ceisio barn ar ganllawiau drafft wedi’u diweddaru ar gynnal adolygiadau cymunedau gan brif gynghorau a oedd wedi’u llunio gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canfyddiadau allweddol o'r canllawiau a’r broses ymgynghori a ddeuai i ben ar 21 Rhagfyr 2017. Rhannwyd manylion ar yr adolygiad cymunedau a gynhaliwyd yn Sir y Fflint yn 2013.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd cynigion a argymhellwyd yn flaenorol gan gynghorau tref/cymuned, a fyddai wedi golygu gwahanol ffiniau ar lefel trefi/cymunedau a wardiau, wedi’u gweithredu’n rhan o adolygiad cymunedau diweddaraf y Cyngor Sir.  Roedd y cynigion hyn wedi'u hanfon ymlaen at y Comisiwn Ffiniau gyda chais iddynt gael eu hystyried yn rhan o adolygiad ffiniau wardiau’r Cyngor Sir yn hwyr yn 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi'r sylwadau ar y ddogfen ganllawiau ar gyfer prif gynghorau ar adolygiad cymunedau; ac

 

 (b)      Awdurdodi’r Prif Weithredwr i ymateb ar ran y Cyngor.

65.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2016/17 pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:   Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2016/17.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2016/17 i roi sicrwydd bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.  Roedd mân newidiadau wedi’u gwneud i’r adroddiad ar ôl iddo gael ei ystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, gan gynnwys rhagair yn deyrnged i’r diweddar Gynghorydd Ron Hampson.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at faterion o ran capasiti a oedd wedi’u crybwyll mewn adroddiad archwilio a gofynnodd a ellid ystyried cefnogaeth weinyddol ychwanegol ar gyfer Trosolwg a Chraffu i gynorthwyo Aelodau.

 

Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i wirio dyddiadau aelodaeth y pwyllgor a oedd wedi’u cwestiynu gan y Cynghorydd Bithell yn gynharach.

 

Holodd y Cynghorydd Peers yngl?n â chanlyniad grwpiau trafod diweddar rhwng Aelodau a chydweithwyr o Swyddfa Archwilio Cymru.  Roedd y Prif Weithredwr yn credu y byddai adroddiad ar ganfyddiadau’r ymarfer cenedlaethol hwn yn debygol o gael ei gyhoeddi ac y byddai adborth yn cael ei rannu gydag Aelodau pan fyddai'r gwaith ar ben.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2016/17.

66.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a thri aelod o’r cyhoedd yn bresennol.