Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbynunrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2017/18

Pwrpas:        Derbyn manylion ynghylch adolygiad y Cadeirydd o’r flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel Cadeirydd a oedd yn ymadael, cyflwynodd y Cynghorydd Brian Lloyd ei adolygiad o’r flwyddyn, yn ei hystod roedd y Cynghorydd a’i Gymar wedi bod yn falch iawn o gynrychioli Sir y Fflint mewn sawl digwyddiad dinesig teilwng, megis Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru a Gwobrau Balchder Sir y Fflint.  Wrth drafod Wythnos Fusnes Sir y Fflint, mynegodd ei ddiolch i’r Cynghorydd Derek Butler, Kate Catherall a’r Arglwydd Barry Jones am eu help.

 

Diolchodd i’r rheiny a oedd wedi’i helpu wrth ei gefnogi i godi bron i £14,000 ar gyfer ei elusennau dewisol, sef Cymorth Canser Macmillan, Hosbis Plant Claire House a Barnados Cymru.

 

Wrth ddod i gasgliad, diolchodd i'r Prif Weithredwr a Thîm y Prif Swyddog, Arweinydd a gweithwyr y Cyngor am eu cefnogaeth ac i’r Aelodau am ei ethol.  Mynegodd ei ddiolchgarwch i dîm Gwasanaethau'r Aelodau Dinesig am yr help yn ystod y flwyddyn a’i ddau gaplan.  Fe aeth ymlaen i ddiolch i’r Is-Gadeirydd am ei gymorth, a dymuno’n dda iddo yn ei rôl newydd, ac fe dalodd deyrnged i’w wraig, Jean, am ei chymorth fel Cymar, rôl a oedd wedi’i mwynhau’n fawr iawn.

 

Yn ystod y cyfarfod, fe dalodd sawl Aelod deyrnged i’r Cadeirydd a oedd yn ymadael am ei waith yn ystod y flwyddyn a’i lwyddiant wrth godi arian.

3.

Penodi Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2018/19, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ac eiliodd y Cynghorydd Michelle Perfect y dylid penodi’r Cynghorydd Paul Cunningham yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ethol y Cynghorydd Paul Cunningham yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Cunningham gan y Cadeirydd sy’n ymadael a llofnododd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.

 

 (Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Cunningham weddill y cyfarfod.)

 

Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn y Swydd fel Cadeirydd a oedd yn ymddeol i’r Cynghorydd Brian Lloyd a Bathodyn y Swydd fel Cymar a oedd yn ymddeol i Mrs Jean Lloyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Lloyd fel Cadeirydd sy’n Ymadael ac i’r Aelodau am eu cefnogaeth yn ei ethol yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.

4.

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2018/19, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis ac eiliodd y Cynghorydd Rita Johnson y dylid penodi’r Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Bateman gan y Cadeirydd a llofnododd y Datganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.

5.

Penodi Arweinydd Y Cyngor Sir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Tony Sharps ac eiliodd y Cynghorydd Ray Hughes y dylai’r Cynghorydd Aaron Shotton gael ei benodi’n Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19. I gefnogi ei gynnig, cydnabyddodd y Cynghorydd Sharps y penderfyniadau anodd a wnaed yn ystod yr hinsawdd ariannol bresennol gydag arweinyddiaeth gref.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Aaron Shotton yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018/19.

6.

Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth ei benodi’n Arweinydd y Cyngor am y 12 mis nesaf.  Croesawodd y safiad unedig a phragmatig a wnaed gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn a gobeithiodd y byddai hyn yn parhau wrth wynebu heriau yn y dyfodol.

 

Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Aaron Shotton ei ddewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet a’u portffolios a fanylir arnynt isod.

 

Aelod Cabinet

Portffolio

Aaron Shotton

Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid

Bernie Attridge

Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Tai

Chris Bithell

Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Derek Butler

Aelod Cabinet Datblygu Economaidd

Christine Jones

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol

Billy Mullin

Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau

Ian Roberts

Aelod Cabinet Addysg

Carolyn Thomas

Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad

 

7.

Model Bwrdd Llywodraethwyr diwygiedig Theatr Clwyd pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am gyfansoddiad newydd Bwrdd y Theatr, gan gyfuno penodiadau aelodau etholedig a phenodiadau allanol, a’r broses ar gyfer (ail)benodi aelodau etholedig i’r Bwrdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gyfansoddiad y Bwrdd Llywodraethwyr newydd, a oedd yn cynnwys saith Aelod etholedig a chwe phenodiad allanol, cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan y Cabinet.

 

Diolchodd i Arweinwyr y Grwpiau am eu cydweithrediad wrth enwebu dau aelod etholedig ar gyfer y ddwy swydd wag, i wasanaethu ochr yn ochr â phum aelod etholedig a oedd wedi dewis aros yn rhan o’r Bwrdd.  Byddai’r aelodaeth lawn, gan gynnwys y chwe aelod cyfetholedig allanol gyda sgiliau priodol a oedd wedi’u recriwtio trwy'r broses, yn cael ei hadrodd i’r Cabinet.

 

Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) a Chyfarwyddwyr Artistig a Gweithredol y Theatr am eu gwaith i gryfhau’r model busnes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cynigion ar gyfer Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo a’u hargymell i’r Cabinet.

8.

Proses Ymgynghori ar y Gyllideb pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        Derbyn argymhellion gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, ar ôl adolygu Proses y Gyllideb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd argymhellion o gyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018 yn dilyn adolygiad o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.

 

Roedd yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ystod yr ymgynghoriad wedi’i ddatblygu i gyfres o ofynion fel y nodwyd yn yr adroddiad ochr yn ochr â’r ymatebion.  Gellir addasu siart lif Proses y Gyllideb Fesul Cam, gan ddefnyddio dull 2018/19, i’w defnyddio yn y dyfodol ac i helpu i ddangos cymhlethdodau'r broes a gofynion ymgynghori.

 

Oherwydd amseriad cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, dosbarthodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad diwygiedig gyda’r newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod hwnnw.

 

Cyfeiriad yn yr Adroddiad

Diwygiad

17

Gweddarlledu cyfarfod cyllideb Pwyllgor Trosolwg a Chraffu  Adnoddau Corfforaethol.

19

Adroddiad ar ddefnydd galw i mewn i’w gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin.

24

Newid y gair ‘dyfarniad’ am ‘penderfyniad’.

1.05

Brawddeg olaf y paragraff cyntaf o eiriad a awgrymwyd i gynnwys y geiriau ‘neu holi cynigion'.

1.06

Paragraff newydd i gydnabod y cyfraniadau a wnaed i’r adolygiad gan nifer o Aelodau.

 

Cytunodd yr Aelodau ar y penderfyniadau diwygiedig i gymeradwyo’r adroddiad diwygiedig a’r geiriad i’w cynnwys yn adran 16 y Cyfansoddiad.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Mackie, eglurwyd y byddai gofyniad 19 yn cael ei dynnu o’r adroddiad gan y byddai defnydd galw i mewn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mehefin.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr sylw ar gynwysoldeb yr ymgynghoriad ar broses y gyllideb a'r cynnydd o ran y gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at ofyniad 18 ar gasgliad y cynigion a oedd wedi bod trwy broses y gyllideb a gofynnodd ‘oni bai bod gwybodaeth newydd yn dod i’r amlwg’ ei fod yn cael ei fewnosod i ystyried unrhyw newid. O ran yr angen am gyfrinachedd wrth rannu gwybodaeth, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o gamau adrodd rhwng pwyllgorau a chyfeiriodd at y protocol gwaith a allai gael ei ddatblygu.  Nodwyd pwysigrwydd galw i mewn a byddai angen trafodaeth bellach ar hyn.  Mewn ymateb i sylwadau pellach, roedd trosolwg o’r gyllideb gyfan yn gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a fyddai’n ystyried adroddiad ar yr Offeryn Asesu Integredig. Byddai Swyddogion yn rhoi ystyriaeth bellach i'r angen am ddealltwriaeth glir o ganlyniadau penderfyniadau am y gyllideb.

 

Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Jones i weddarlledu pob cyfarfod pwyllgor gydag effaith ar drafodaethau o ran y gyllideb, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cyfyngiadau ar yr offer gweddarlledu. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r cytundeb i weddarlledu cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei ymestyn i gyfarfodydd eraill y Pwyllgor a oedd yn cael eu cynnal fel rhan o broses y gyllideb fesul cam, p’run ai oedd yr holl Aelodau yn cael eu gwahodd ai peidio.  Byddai gofyniad 19 yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn, gan nodi'r ‘bydd’ y cyfarfod cyllideb blynyddol yn cael ei we  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

Item 9 - Amended Appendix 1 report to C&DS Committee pdf icon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Rhannu Gwybodaeth yn y Cyngor pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu rheolau diwygiedig ar rannu gwybodaeth o fewn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar gyfres ddiwygiedig o egwyddorion yngl?n â rhannu gwybodaeth o fewn y Cyngor i alluogi Aelodau a Swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau. Eglurodd bwysigrwydd deall yr egwyddorion a oedd wedi’u datblygu gan weithgor a chynnwys sefyllfaoedd enghreifftiol a safbwyntiau gwahanol. Roedd peth gwaith coethi wedi’i wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda swyddogion ac Aelodau.

 

Wrth gymeradwyo’r argymhellion, siaradodd y Cynghorydd Heesom o blaid yr adroddiad.

 

Fel Cadeirydd  Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd cynigodd y Cynghorydd Rita Jones bod yr egwyddorion yn cael eu cymeradwyo i’w mabwysiadu o fewn y Cyfansoddiad.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones enghraifft lle gallai preswylydd roi caniatâd ysgrifenedig i’w Aelod lleol drafod ei ddata personol gyda Swyddogion y Cyngor.  Dywedodd y Prif Swyddog fod yr enghreifftiau sydd wedi’u hatodi i’r canllawiau yn adlewyrchu’r sefyllfa hon ac enghreifftiau eraill lle dylid diogelu gwybodaeth bersonol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Marion Bateman i aelodau a swyddogion y gweithgor y bu’n ei gadeirio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r canllawiau i’w mabwysiadu i'r Cyfansoddiad.

10.

Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.  Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.

 

(A)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol: Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio.

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

Y chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01

 

(B)       Penderfyniad ar faint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.

 

(C)       Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Roedd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel y nodwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer pob pwyllgor yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.

 

(D)       Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y’i diwygiwyd.

 

Roedd cyfanswm o 157 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws yr holl Bwyllgorau yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau a dangoswyd hawl pob gr?p i seddi ym mharagraff 1.12 yr adroddiad.  Gan na fu unrhyw newid o ran meintiau'r grwpiau, atodwyd y cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol presennol i’w hystyried fel un o sawl datrysiad posibl.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at gyfyngiadau aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio ar wardiau aml-aelod fel y nodwyd yn y ddeddfwriaeth a'r mecanwaith a gytunwyd gan y Cyngor yn gyntaf oll i ddatrys yr enwebiadau hyn drwy drafodaethau rhwng Arweinwyr y Grwpiau.  Os nad oedd modd cyflawni hyn, y cam nesaf oedd i'r swyddog priodol dderbyn yr enwebiad cyntaf a dderbyniwyd.  Cynigodd y Cynghorydd Peers welliant fod unrhyw enwebiad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Amserlen o Gyfarfodydd pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor yr adroddiad ar yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19.

12.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a 12 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.