Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

90.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cyngor a roddwyd gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), fe wnaed y datganiadau canlynol:

 

Eitem 10 ar y Rhaglen 'Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19’ ac eitem 11 ‘Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2018/19 – 2021’

 

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol fel llywodraethwyr ysgol:

 

Y Cynghorwyr: Bernie Attridge, Janet Axworthy, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sean Bibby, Helen Brown, Derek Butler, Geoff Collett, Paul Cunningham, Rosetta Dolphin, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Carol Ellis, Veronica Gay, David Healey, Patrick Heesom, Cindy Hinds, Andrew Holgate, Kevin Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Joe Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Tudor Jones, Richard Lloyd, Mike Lowe, Billy Mullin, Hilary McGuill (a merch yn gweithio mewn ysgol yn Sir y Fflint), Mike Peers, Neville Phillips, Ian Roberts, Aaron Shotton, Paul Shotton, Carolyn Thomas, Owen Thomas, Martin White, David Wisinger ac Arnold Woolley

 

Datganodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson gysylltiad personol fel perchennog cwmni bws mini yn darparu cludiant i’r ysgol, a datganodd y Cynghorydd Andy Williams gysylltiad fel perchennog cwmni tacsis yn gweithredu contractau ysgol ac mae ei ferch yn athrawes yn Sir y Fflint.

 

Eitem 9 ar y Rhaglen - diweddariad ar lafar ar Gynllun Gostyngiad Dewisol Ar Y Dreth 2017/18 a 2018/19

 

Datganodd y canlynol gysylltiad personol:

 

Y Cynghorwyr: Mike Allport – Ymddiriedolwyr ac Aelod Pwyllgor Gwaith Sgowtiaid Sir y Fflint; Glyn Banks – Aelod Pwyllgor Canolfannau Cymunedol Ffynnongroyw a Thalacre; Marion Bateman – Pwyllgor rheoli Neuadd Goffa  Sychdyn; Sean Bibby, Ron Davies a David Evans – Aelodau Pwyllgor Cymdeithas Gymuned Shotton; Chris Bithell – Ymddiriedolwyr ac Aelod Bwrdd Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig a Chymdeithas Gymunedol Daniel Owen; Helen Brown – pwyllgor rheoli Canolfan Gymunedol Aston Park; Clive Carver – Cadeirydd elusen gofrestredig; Geoff Collett – Cadeirydd Canolfan Gymunedol Daniel Owen; Carol Ellis – Canolfan Gymunedol Hawksbury; Veronica Gay – Gwirfoddolwr canolfan gymunedol; Patrick Heesom – Cyngor Cymuned Mostyn; Kevin Hughes – Cadeirydd pwyllgor rheoli Canolfan Bentref Gwernymynydd; Paul Johnson – roedd ei wraig yn drysorydd Gr?p Sgowtiaid Treffynnon; Tudor Jones – Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Hamdden Treffynnon; Tony Sharps – Band Arian Northop; ac Arnold Woolley – Ymddiriedolwr a Chadeirydd elusennau.

 

Eitem 12 ar y Rhaglen ‘Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai 2018/19’

 

Datganodd y canlynol gysylltiad personol:

 

Y Cynghorwyr: Andy Dunbobbin – Tenant garej Cyngor; Hilary McGuill – Aelod Bwrdd NEW Homes; Ted Palmer – tenant Cyngor; Carolyn Thomas – Ymddiriedolwr Neuadd Bentref Treuddyn; a Martin White – Tenant t? Cyngor.

91.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu cyn y cyfarfod.

 

Soniodd y Cadeirydd yn benodol ar yr hyn mae Sheila Delahoy a Sioned Williams wedi ei gyflawni, a soniodd am Laura Deas o Lanfynydd, a enillodd wobr efydd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.  Cytunwyd y dylid gwahodd Laura i fynychu cyfarfod y Cyngor Sir er mwyn cydnabod ei llwyddiant yn ffurfiol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Tudor Jones i’r holl staff fu’n ymwneud â’r isetholiad diweddar.

92.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

93.

Cwestiynau Gan Y Cyhoedd pdf icon PDF 205 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cwestiynau gan 12 unigolyn o fewn yr amser cau a ddangosir ar y rhaglen.  Gan eu bod yn berthnasol i’w gilydd, roedd ymateb llawn ar y cyd wedi ei baratoi a'i gylchredeg.  Gwahoddwyd Jane Bellis a Helen Wall, i holi eu cwestiynau eu hunain gan eu bod yn dymuno gwneud hynny.

 

"Pam nad yw Cyngor Sir Y Fflint yn gwario lefel llawn yr Asesiad O Wariant Safonol fel mae’r rhan fwyaf o gynghorau eraill yng Nghymru yn ei wneud - rwy’n credu mai tua 97% sy’n cael ei wario, felly hoffwn wybod i le mae'r 3% arall yn mynd?"

 

 “Yng ngoleuni’r cyfyngiadau cyllidebol cynyddol ar ein hysgolion a’r setliad arian gwastad arfaethedig i ysgolion ar gyfer 2018/19, pam nad yw Cyngor Sir y Fflint yn gwario’r swm a argymhellir o’r Asesiad o Wariant Safonol ar addysg a amlinellir gan Lywodraeth y Cynulliad fel mae’r mwyafrif o Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru yn ei wneud?”

 

Fel Aelod Cabinet Addysg, mynegodd y Cynghorydd Ian Roberts ei werthfawrogiad yn y diddordeb a ddangoswyd yn y mater.  Wrth grynhoi pwyntiau allweddol yr ymateb, mae’n cyfeirio at ddiffygion yn y broses Asesiad o Wariant Safonol a’r fformiwla gyllido a nododd Sir y Fflint fel un o'r cynghorau sy’n derbyn y lleiaf o arian y pen yng Nghymru.  Er y sefyllfa hon, cynhaliwyd cynnydd blynyddol yng nghyllideb ysgolion dros y pum mlynedd diwethaf, yn ogystal ag amddiffynfa ychwanegol yn erbyn costau sy’n codi o’r Statws Sengl.  Tra gwarchodwyd gwariant ysgolion, gan gynnwys rhai meysydd oedd yn derbyn gwariant uwchben trothwy tybiannol yr Asesiad o Wariant Safonol, roedd y rhan fwyaf o wasanaethau eraill Cronfa'r Cyngor wedi bod yn destun gostyngiadau cyllidol sylweddol.  Roedd Sir y Fflint yn parhau i fod yn awdurdod addysg oedd yn perfformio'n dda ac roedd hyn yn flaenoriaeth bwysig, fodd bynnag, roedd yr angen am gyllid atodol yn bryder parhaol.

 

Byddai copi o’r ymateb llawn yn cael ei gylchredeg i’r holl unigolion oedd wedi cyflwyno cwestiynau, yn ogystal â Phenaethiaid Ysgol.

Item 5 - Responses to public questions pdf icon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

94.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

95.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 1, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar 14 Chwefror 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

96.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Ystyried y cynigion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

97.

Cynllun Gostyngiad Dewisol ar y Dreth ar gyfer 2017/18 a 2018/19

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar lafar yn dilyn cyfarfod y Cabinet fore heddiw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ddiweddariad ar lafar ar yr eitem yn codi o’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf.  Roedd amseriad y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn gynharach yn y diwrnod yn golygu y gellid mynd i'r afael â'r effaith ariannol fel rhan o'r eitem cyllid ar y rhaglen hon.

 

Cylchredwyd copïau o ddatrysiad y Cabinet fel a ganlyn:

 

 (a)      Cytuno ar newid ôl-weithredol i fframwaith polisi 2017-18, fel y nodir yn yr adroddiad, i ddarparu Gostyngiad dewisol “ychwanegol” o 20% i bob sefydliad Elusennol sydd eisoes yn derbyn Gostyngiad Gorfodol Ar Y Dreth o 80% sy’n gweithredu o eiddo bach gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000;

 

 (b)      Cytuno ar newid ôl-weithredol i fframwaith polisi 2017-18, fel y nodir yn yr adroddiad, i gynyddu Gwobrau dewisol o 20% i bob sefydliad Elusennol a Chymunedol, sydd ar hyn o bryd yn derbyn Gostyngiad Dewisol Ar Y Dreth o 80% ac sy’n gweithredu o eiddo bach gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000; a

 

 (c)       Bydd goblygiadau ariannol ar gyfer y newidiadau polisi yn costio £16,200 ar gyfer 2017 – 18 ac oddeutu £18,000 ar gyfer 2018 – 19.

 

Trafododd y Cynghorydd Aaron Shotton y drafodaeth a chydnabyddiaeth o’r anghysondebau yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer rhyddhad ardrethi, a dywedodd y byddai'r penderfyniad gan y Cabinet yn galluogi 88 sefydliad i elwa o’r rhyddhad ardrethi 100%.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Rheolwr Refeniw y byddai'r dyfarniad ôl-weithredol o £16,200 ar gyfer 2017/18 yn cael ei chwrdd drwy ddarpariaeth cyllideb gyfredol a osodwyd o'r neilltu yn bennaf ar gyfer targedu rhyddhad caledi.  Byddai pwysau ariannol o oddeutu £18,000 ar gyfer cwrdd y costau ychwanegol ar gyfer 2018/19 yn cael eu hadeiladu i ystyriaethau’r gyllideb sydd ar fin eu trafod.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y swm ychwanegol ar gyfer 2018/19 wedi cynyddu’r bwlch cyllidol arfaethedig i £5.789 miliwn a byddai’n rhaid addasu’r defnydd o gronfeydd wrth gefn eto er mwyn mynd i’r afael â hyn.

 

Wedi ymholiad gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Rheolwr Refeniw'r cynllun graddol ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach.

 

Diolchodd y Cynghorydd Sharps i'r Cynghorydd McGuill am godi’r mater ac i Arweinydd y Cyngor a'r Rheolwr Refeniw am ddod i ganlyniad cadarnhaol.

Cabinet Recommendations to County Council pdf icon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

98.

Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 – Cam Tri a Cham Olaf pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Adolygu’r dewisiadau ar gyfer trydydd cam y broses o bennu’r gyllideb, ac yna gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ddarparu argymhellion y Cabinet ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2018/19 - Cam Tri a'r Cam Olaf, ac roedd copïau wedi eu cylchredeg.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn cynnwys y meysydd canlynol.  Cyfrannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) hefyd:

 

·         Adolygu’r broses gyllido ar gyfer y dyfodol: Pwyllgor y Cyfansoddiad

·         Gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys

·         Sefyllfaoedd cenedlaethol ar Lywodraeth Leol

·         Sefyllfa genedlaethol Llywodraeth Leol

·         Drwy arloesi - arbedion effeithlonrwydd o £79 miliwn dros 10 mlynedd

·         Pethau mawr rydym wedi eu cyflawni

·         Gwytnwch y Cyngor

·         Sefyllfa leol

·         Cam Un y Gyllideb – cynlluniau busnes portffolio

·         Cam Dau'r Gyllideb - cynigion eilradd / corfforaethol

·         Cam Tri'r Gyllideb - cau a mantoli’r gyllideb

·         Safbwyntiau proffesiynol

·         Rhagolwg y dyfodol

·         Y Camau Nesaf

 

Byddai’r mewnbwn gwerthfawr gan yr holl Aelodau drwy gydol y broses gyllido yn parhau fel rhan o ymgynghoriad ar adolygiad o’r broses gyllido yn y dyfodol.  Roedd y broses gyllido fesul cam wedi galluogi cynllunio a gweithredu cynigion yn gynnar.  Roedd cymryd lefel uwch o risg yn cael ei gydnabod yn nodweddiadol o’r broses o osod cyllideb mewn cyfnod o gyfyngiad ariannol sylweddol.  Fel mater heb ei ddatrys, byddai angen i opsiynau ar gyfer cynyddu costau meysydd parcio y mae angen i’r Cabinet eu hystyried gwrdd targed incwm ychwanegol o £0.450 miliwn os bydd y gyllideb yn cael ei chymeradwyo fel y mae ar hyn o bryd.  Ar yr achosion a wnaed gan y Cyngor ar lefel genedlaethol, roedd trafodaethau  yn parhau â Llywodraeth Cymru ar y ceisiadau am hyblygrwydd lleol ar gostau gofal cartref a chadw cyfran o Ardoll Treth Prentis.

 

Roedd adolygiad y cronfeydd wrth gefn wedi bod yn drylwyr oherwydd y sefyllfa ariannol a diddordeb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Roedd canlyniad yr adolygiad, oedd wedi ei gylchredeg, yn manylu ar bob cronfa wrth gefn ac yn nodi bod bron i £2 miliwn o arian wrth gefn, y gellid ei ryddhau er mwyn cynorthwyo i fantoli cyllideb 2018/19.  Atgoffwyd y pwyllgor mai dim ond unwaith y gellid defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a, phe byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer cyllideb 2018/19, y byddai pwysau ariannol o’r un swm i’w gwrdd o 2019/20.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a phawb oedd wedi gweithio ar y gyllideb yng nghyd-destun grant llai gan y llywodraeth a mwy o alw a chostau eraill gwasanaethau.  Tra byddai modd cau’r blwch cyllideb yn llwyr drwy gynyddu Treth y Cyngor o 8%, yr argymhelliad gan y Cabinet oedd defnyddio £1.927 miliwn o gronfeydd a balansau wrth gefn gyda chynnydd o 5% mewn Treth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb yn y lle cyntaf.   Wrth gydnabod pryderon a godwyd ymysg y gymuned ysgolion, y cyhoedd ac Aelodau, argymhellodd y Cabinet gynnydd pellach yn Nhreth y Cyngor o 1.71% (gan fynd a'r cynnydd i 6.71%) i ddarparu £1.140 miliwn pellach ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion.  Canmolodd y Cynghorydd Shotton y  ...  view the full Cofnodion text for item 98.

Item 10 - Council Fund Revenue Budget Presentation pdf icon PDF 677 KB

Dogfennau ychwanegol:

99.

Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        I gymeradwyo cynlluniau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen Gyfalaf dros gyfnod o 3 blynedd - 2018/19 - 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19 – 2020/21 i’w chymeradwyo.  Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cefnogi’r cynigion ac wedi rhoi adborth i’r Cabinet oedd wedi argymell y cynigion heb eu haddasu.  Cylchredwyd copïau o ddatrysiad y Cabinet. 

 

Gan gydnabod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad, amlygodd y Cynghorydd Shotton nifer o feysydd allweddol o fuddsoddiad fel gwelliannau ysgolion, adnoddau hamdden a disodli canolfan ofal dydd Glanrafon.  Diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas (Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad) a'r Cynghorydd Andrew Morgan (Arweinydd Rhondda Cynon Taf), llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gludiant, am ymwneud â’u trafodaethau i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwelliannau priffyrdd ar draws Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas o blaid nifer o ddyraniadau yn y rhaglen i gefnogi ysgolion a meysydd chwarae, a chyfeiriodd at y meini prawf a ddefnyddir mewn gwahanol ffrydiau ariannu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones yn ei sylwadau at y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol a Chraffu ar ddeall goblygiadau ariannol y rhaglen ar y cyfrif refeniw yn y dyfodol.  Atgoffodd y Prif Weithredwr y cyfarfod o’i ymrwymiad i adrodd am ymateb yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ac i adeiladu hyn i mewn i adrodd yn y dyfodol.

 

Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, croesawodd y Cynghorydd Christine Jones y buddsoddiad mewn cartrefi gofal ac yn benodol, y broses o ehangu Marleyfield House.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers ar ailddatblygu Theatr Clwyd, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad lle roedd ymrwymiad yn cael ei geisio gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu hwn fel prosiect strategol o bwysigrwydd cenedlaethol, fel roedd wedi ei wneud gyda lleoliadau celfyddydol mewn llefydd eraill.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brown a oedd yn ddarbodus i'w Cyngor ymrwymo cyllid i gefnogi'r theatr yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn ymarferol i’r Cyngor ei hun ariannu holl waith ail adeiladu'r theatr oedd yn cael ei gwerthfawrogi a'i chefnogi.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais cymeradwywyd argymhellion y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 4 o adroddiad y Cabinet ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (b)      Bod y cynlluniau yn Nhabl 5 adroddiad y Cabinet ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (c)       Bod y diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau ym mlynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21 fel y nodir yn adroddiad y Cabinet yn cael ei nodi   Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os oes rhai ar gael), benthyca darbodus neu ail edrych ar gamau cynlluniau yn cael eu hystyried yn ystod 2018/19, a darperir diweddariadau i Aelodau mewn adroddiadau rhaglen gyfalaf yn y dyfodol;

 

 (d)      Bod datblygiad pellach ac adnewyddiad y Cynllun Rheoli Asedau a’r Strategaeth Gyfalafol hirdymor yn cael ei nodi;

 

 (e)      Y dylid nodi bod y Cabinet yn croesawu cais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu  ...  view the full Cofnodion text for item 99.

Cabinet Recommendations to County Council pdf icon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

100.

Cyllideb Ddrafft Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd pdf icon PDF 64 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Cyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a’r Crynodeb o Gynllun Busnes 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai i’w hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) y cynigion terfynol ar gyfer Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai a’r Gyllideb Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig mewn rhent a gytunwyd gan y Cabinet.  Cylchredwyd copïau o'r argymhellion llawn gan y Cabinet.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Asedau Tai gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:

 

·         Cynllun busnes 30 mlynedd – y Cyfrif Refeniw Tai

·         Canlyniadau 2017/18

o   Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

o   Rhaglen adeiladu tai y cyngor

o   Perfformiad

·         Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19

·         Incwm arall

·         Taliadau gwasanaeth 2018/19

·         Cynigion arbedion effeithlonrwydd y / pwysau ariannol cost y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19

 

Cynigiwyd argymhellion y Cabinet gan y Cynghorydd Attridge, a eglurodd fod y cynnydd arfaethedig o 3% mewn rhent ar gyfer 2018 / 19 - sy’n is na’r lefel a osodwyd gan Lywodraeth Cymru – oherwydd gwaith ail fodelu gan y Cyngor i sefydlu lefel mwy fforddiadwy ar gyfer tenantiaid.

 

Wrth eilio’r cynnig, croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton fuddsoddiad ychwanegol rhaglen adeiladu tai y Cyngor a chyfeiriodd at bryderon am y nifer gynyddol o unigolion sy’n cael eu heffeithio gan y Credyd Cynhwysol a’r effaith ar ôl-ddyledion rhent.

 

Siaradodd y Cynghorydd Owen Thomas am bwysigrwydd sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio contractwyr.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, diolchodd y Cynghorydd Dunbar i’r Prif Swyddog a siaradodd o blaid argymhellion y Cyngor sy’n darparu buddsoddiad pellach yn rhaglen adeiladu tai y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at anghysondeb yn y system gynllunio oedd yn golygu nad oedd rhai datblygwyr yn gwneud y mwyaf o ddarpariaeth tai fforddiadwy.  Dywedodd y Cynghorydd Butler bod swyddogion wedi adrodd yr aed i'r afael a'r mater hwn ar draws Cymru.  Aeth ymlaen i ddisgrifio rhaglen adeiladu tai y Cyngor fel "balchder Cymru".

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr a’i thîm am ailddatblygu’r Fflint a gosod systemau ysgeintio d?r mewn fflatiau aml lawr.  Talodd deyrnged i'r newid mewn diwylliant swyddogion i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i drigolion.

 

Wrth grynhoi, diolchodd y Cynghorydd Attridge i Aelodau am eu sylwadau cadarnhaol a byddai’n gweithredu ar y rheiny yngl?n â’r defnydd o gontractwyr.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais cymeradwywyd argymhellion y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes fel yr amlinellir yn yr atodiadau;

 

 (b)      Cymeradwyo’r opsiwn o osod cynnydd o 3% mewn rhent ar gyfer 2018/19 (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai), gyda rhenti targed yn berthnasol i denantiaethau newydd, fel cynnydd mwy fforddiadwy na fformiwla Polisi rhent Llywodraeth Cymru a fyddai'n gosod cynnydd o 4.5% (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai);

 

 (c)       Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 ceiniog yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys; a

 

 (d)      Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2018/19 fel y nodwyd yn Atodiad C.

Item 12 - HRA Budget Presentation pdf icon PDF 953 KB

Dogfennau ychwanegol:

101.

Dangosyddion darbodus 2018/19 i 2020/21 pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:   Cyflwyno argymhellion y Cabinet i'r Cyngor mewn perthynas â phennu ystod o  Ddangosyddion Darbodus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar Ddangosyddion Darbodus ar gyfer y cyfnod 2018/19 i 2020/21 i’w cymeradwyo.  Roedd yr argymhellion wedi eu cymeradwyo gan y Cabinet, gan nodi newidiadau i’r ffigyrau yn Nhabl 1 fel a ganlyn:

 

Amcangyfrif o wariant cyfalaf Cronfa’r Cyngor

2018/19 - £23.773 miliwn

2019/20 - £13.659 miliwn

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2018/19 – 2020/21 fel y nodwyd yn Adran 1 yr adroddiad i’r Cabinet; a

 

 (b)      Bod Awdurdod Dirprwyedig yn cael ei roi i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i weithredu symudiadau rhwng y cyfyngiadau a gytunwyd ar wahân o fewn y cyfyngiad a awdurdodwyd ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (paragraffau 1.14 – 1.15 o adroddiad y Cabinet).

Cabinet Recommendations to County Council pdf icon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

102.

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19 pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2018/19 i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 i’w gymeradwyo.  Roedd yr argymhellion wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19.

103.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r wasg yn bresennol, a 26 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.