Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

67.

CYFLWYNIADAU

I gydnabod Timau Maethu a Adnoddau Dynol Corfforaethol y Cyngor wrth ennill Gwobr Cyflogwr Cyfeillgar Maethu y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cenedlaethol Rhwydwaith Maethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gydnabod llwyddiant Timau Maethu ac Adnoddau Dynol Corfforaethol y Cyngor i ennill Gwobr Cyflogwr Ystyriol o Rieni Maeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cenedlaethol y Rhwydwaith Maethu, croesawodd y Cadeirydd y ddau dîm i’r cyfarfod.  Eglurodd mai’r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Maethu oedd gwobrau gofal maeth blaenllaw’r DU, yn dathlu rhagoriaeth a chyflawniad rhagorol mewn maethu ac yn cydnabod y bobl hynny oedd yn gwneud cyfraniad eithriadol i ofal maeth.  Yn eu pedwaredd flwyddyn bellach, mae’r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Maethu yn gyfle gwych i dynnu sylw at rai o’r bobl ifanc, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac eraill sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned faethu.

 

Ym mis Tachwedd 2016, o ganlyniad i gydweithio, cyflwynwyd Polisi ‘Croesawu Maethu Sir y Fflint’, oedd yn amlinellu’r cymorth ychwanegol y byddai’r Cyngor yn ei ddarparu i weithwyr pe byddent yn maethu i’r Cyngor.  Cyngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r agwedd hon, ac i gydnabod ei gefnogaeth i faethu, cyhoeddwyd y Cyngor yn enillydd cyffredinol.

 

Fel Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol, estynnodd y Cynghorydd Christine Jones longyfarchiadau i'r timau ar y wobr, oedd yn adlewyrchu ymrwymiad yr Awdurdod i ofal maeth.  Adleisiodd eiriau’r Cadeirydd, gan ychwanegu y cynigiwyd y cymorth ychwanegol drwy roi’r opsiwn o weithio'n hyblyg a dyrannu gwyliau ychwanegol.  Yn dilyn cyflwyniad y polisi hwn, roedd pedwar darpar ofalwr maeth arall wedi gwneud ymholiadau.  Diolchodd i bawb oedd yn rhan o hyn am eu hymrwymiad parhaus mewn maes sydd wedi mynd o nerth i nerth.

68.

Cofnodion pdf icon PDF 101 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Hydref a 14 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Hydref ac 14 Tachwedd.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Carver, nododd y Prif Weithredwr y byddai Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei ddiwygio i gynnwys ‘plant cyn-filwyr a milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y Lluoedd Arfog”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Phillips ei fod yn siomedig mai dim ond Aelodau Llafur oedd yn rhan o lun a dynnwyd yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 14 Tachwedd.  Roedd hyn wedi dilyn penderfyniad unfrydol ar y Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Aaron Shotton ar ‘Ddiwedd ar Galedi Ariannol Llywodraeth y DU”.  Eglurodd y Cynghorydd Shotton y tynnwyd y llun cyn y cyfarfod, a’i fod yn ymwneud â deiseb a oedd yn ymgyrch wleidyddol ac a oedd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU.  Roedd yn fater ar wahân i’r Rhybudd o Gynnig ac roedd yn anffodus bod y wasg wedi’i gynnwys ar y cyd â’r stori honno.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y bleidlais ar y Rhybudd o Gynnig penodol hwnnw yn unfrydol, a dangoswyd manylion y bleidlais a gofnodwyd yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

69.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dave Hughes gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 13 ar y rhaglen, sef Argymhelliad Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, gan mai ef yw Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw.

70.

Coffa a Thriblau i Aelod Hwyr y Cynulliad Carl Sargeant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i Arweinydd y Cyngor arwain teyrngedau i'r diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, gan ddweud y bu'n rhan annatod o’r hyn y mae’r Cyngor wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd  Nododd ei fod yn ddiwrnod trist iawn i bawb pan gyhoeddwyd y newyddion am farwolaeth Mr Sargeant.  Bu’n ymgyrchydd brwd a diflino dros yr ardal ac roedd yn falch o gael cynrychioli Alun a Glannau Dyfrdwy ers 2003. Cyfeiriodd at yr amser y bu iddynt gyfarfod am y tro cyntaf a chyfnod Mr Sargeant fel Llywodraethwr Ysgol ac fel Aelod o Gyngor Tref Cei Connah, lle daeth yn Gadeirydd yn fuan iawn; ei ddawns ddinesig ef oedd yr orau yn hanes y Cyngor.  Bu’n fraint ganddo weithredu fel asiant Mr Sargeant yn ymgyrch etholiadol 2011, oedd yn brofiad pleserus, llawn hwyl, chwerthin ac atgofion.  Tynnodd sylw’n benodol at ddau o’r prif feysydd oedd yn ganlyniad gwaith caled Mr Sargeant, sef (1) yr angen am Ddiwrnod i’r Lluoedd Arfog, a (2) atal y cynllun hawl i brynu yn Sir y Fflint.  Mae ei wraig, Bernadette, ei blant, Lucy a Jack a’i rieni, Malcolm a Sylvia yn ein meddyliau a’n gweddïau.

 

                        Siaradodd y Cynghorydd White am ei frawd yng nghyfraith, Carl Sargeant, a fu farw’n drychinebus 5 wythnos ynghynt.  Siaradodd ar ran y teulu wrth ddiolch i’r Cyngor am eu negeseuon o gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig y Cynghorydd Attridge a’r Prif Weithredwr.  Soniodd am bersonoliaeth fywiog Mr Sargeant a’r llu o amcanion a gyflawnodd yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad.  Talodd deyrnged i’w nai, Jack, sef mab Mr Sargeant, oedd wedi ymddwyn yn arbennig o aeddfed ers colli ei dad.

 

                        Bu i’r Cynghorwyr Peers, Sharps, Phillips ac Ellis hefyd dalu teyrnged i Carl Sargeant, gan sôn am ei gyflawniadau, ei boblogrwydd a’i garedigrwydd, y gefnogaeth a ddangosodd i’r bobl leol, y cyfeillion yr oedd wedi’u gwneud a’r tristwch a deimlwyd gan gymaint o bobl ar achlysur trist ei farwolaeth. 

71.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’l dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.

 

Bu i’r Cadeirydd sôn yn benodol am angladd Carl Sargeant, oedd yn deyrnged iddo.

 

Achubodd ar y cyfle hefyd i ddiolch i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am y gwaith a wnaed yn ystod y tywydd garw diweddar, gan ofyn iddo basio ei werthfawrogiad ymlaen i’r tîm.  Fel Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hefyd i staff yr adran Strydwedd a fu’n gweithio’n ddiflino ers cychwyn y tywydd garw.  Sefydlwyd canolfan weithrediadau a fu ar agor drwy’r penwythnos i sicrhau bod ysgolion, llety gwarchod a chanol trefi yn cael cymorth i wneud yn si?r bod pobl yn ddiogel. 

72.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorwyr Hutchinson a Peers ddeiseb yn gofyn am gael ailosod y twmpathau cyflymder ar Drury New Road cyn y gyffordd â Mornington Crescent.

73.

Cwestiynau Gan Y Chyoedd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

74.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’ratebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

75.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 37 KB

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth un Rhybudd o Gynnig i law:

 

Y Cynghorydd Richard Jones:

 

“(1)      Bod y Cyngor hwn yn buddsoddi’n gyfartal ym mhob un o drefi Sir y Fflint mewn perthynas â Chefnogi Seilwaith unrhyw fuddsoddiad refeniw neu gyfalaf i:

 

 (a)      Adeiladu neu wella rhwydweithiau priffyrdd a chludiant (ffyrdd, rheilffyrdd, llwybrau beicio neu lwybrau troed), gan gynnwys parcio

 (b)      Ailddatblygu neu adfywio trefi, strydluniau neu fannau hamdden, gan gynnwys TCC

 (c)       Adeiladu neu ailddatblygu tai, gan gynnwys tai cymunedol megis gofal ychwanegol

 

(2)       Yr adroddir ar y lefelau buddsoddi priodol, yn dangos cyllid allanol a mewnol, fel rhan o adroddiadau’r Strategaeth Refeniw a Chyfalaf i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob chwarter”.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Attridge y geiriau ychwanegol i’r Rhybudd o Gynnig a anfonwyd allan ym mhecyn y rhaglen, ac fe'i hysbyswyd gan y Prif Weithredwr bod y geiriau “i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob chwarter” wedi cael eu hychwanegu i (2) yn dilyn cyngor a roddwyd i’r Cynghorydd Jones ar sail y gwaith y byddai angen ei wneud pe bai’r Rhybudd o Gynnig yn cael ei gefnogi.

 

Wrth siarad o blaid ei Rybudd o Gynnig, ychwanegodd y Cynghorydd Jones y bu digon i bawb yn y gorffennol, pan oedd mwy o gyllid ac adnoddau ar gael i’r awdurdod lleol.  Dan yr amgylchiadau hynny, doedd dim cymaint o angen craffu'n agos ar y gwariant mewn trefi a chymunedau.  O ganlyniad i ddwyster yr her ariannol y mae’r Awdurdod bellach yn ei hwynebu, roedd pawb yn ymwybodol bod y sefyllfa hon wedi newid.  Ni ellid dibynnu ar setliadau ariannol Llywodraeth Cymru (LlC) i ddarparu digon o gyllid i osgoi straen pellach ar ein cyllidebau, sydd eisoes wedi’u hymestyn.  Roedd sefyllfa ariannol Sir y Fflint yn ei gwneud yn anoddach sicrhau unrhyw arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol ac roedd angen craffu’n fwy manwl.  Ymhellach, roedd yn amlwg bod yr adnoddau hynny oedd ar gael wedi’u lleihau, felly roedd mwy  o angen ystyried  a oedd yr egwyddor o arian cyfatebol a gwariant anghyfartal yn Sir y Fflint yn ddull teg a thryloyw.  Efallai na fu i’r dull hwn ganiatáu i bob un o'r trigolion ddeall a oedd eu tref hwy’n elwa neu ai i’r etholedig rai roedd yr adnoddau’n mynd.  Roedd arian cyfatebol a gwariant anghyfartal mewn un ardal yn disbyddu’r adnoddau oedd yn weddill gymaint fel nad oedd ond ychydig ar ôl, os o gwbl, i’r trefi a’r cymunedau eraill, a chredai bod y sefyllfa’n annheg ac yn anghynaladwy.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peers.

 

Siaradodd y Cynghorydd Shotton yn erbyn y Rhybudd o Gynnig, ond diolchodd i’r Cynghorydd Jones am y cyfle i drafod.  Er ei fod yn deall y teimlad y tu ôl i’r Rhybudd o Gynnig, gofynnodd i’r Aelodau ddeall y goblygiadau a’r canlyniadau pe byddai’n cael ei basio.  Roedd y Cyngor eisoes yn gwneud ei orau dan amgylchiadau anodd mewn trefi a phentrefi ledled y Sir, pob un â’i hunaniaeth ei hun. Cynigiodd rai enghreifftiau o gynlluniau cyfredol: (1) olynydd Cymunedau Llewyrchus Llawn Addewid, sef y Rhaglen Targedu  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Rhagolwg Ariannol a Cham Dau y Gyllideb 2018/19 pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Ystyried Dewisiadau Cyllideb Ail Gam ar gyfer Cyllideb 2018/19 Cronfa'r Cyngor ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Rhagolwg Ariannol a Cham Dau Cyllideb 2018/19 a gyflwynwyd ger bron cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 6 Rhagfyr a chyfarfod arbennig y Cabinet y bore hwnnw.  Roedd yr Aelodau eisoes wedi cael copi o’r argymhellion drafft o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol arbennig, a ardystiwyd gan y Cabinet y bore hwnnw.

 

Holodd y Cynghorydd Heesom pam fod gofyn i Aelodau gymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y cyfarfod hwn.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yn gofyn i Aelodau gymeradwyo cofnodion, ac yn y cyfarfod craffu'r wythnos flaenorol, hysbyswyd yr Aelodau oedd yn bresennol y byddai canlyniad y cyfarfod hwnnw yn cael ei gyfleu i’r Cabinet ac yna i’r Cyngor Sir.  Drafft oedd yr argymhellion a chynnwys y cofnodion.  Nododd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw, eu bod yn wir yn gofnod teg o’r hyn a gytunwyd.  Yn dilyn sylw pellach gan y Cynghorydd Heesom, cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn adrodd yn gywir yr hyn a benderfynodd y Cabinet y bore hwnnw, gan roi ystyriaeth i benderfyniadau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. 

 

Bu i’r Cabinet gael a derbyn yn llawn y chwe argymhelliad drafft gan Adnoddau Corfforaethol, sef:

 

1.    Ar ôl ystyried dewisiadau Cam 2 y gyllideb, bod yr adroddiad a’r cynigion yn cael eu nodi;

 

2.    Bod y camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni yn cael eu nodi;

 

3.    Bod y llythyr i’r Ysgrifenyddion Cabinet Cyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r Datganiadau Cydnerthedd, yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau;

 

4.    Bod manylion llawn asesiadau o risg, effeithiau a chanlyniadau pob un o gynigion y gyllideb ar gael i’w hadolygu ym mis Ionawr;

 

5.    Bod Pwyllgor yr Amgylchedd a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn cael eu hymgynnull ym mis Ionawr er mwyn adolygu’n fanwl y ffioedd parcio a chynigion cyllidebau ysgolion yn y drefn honno, gan gynnwys risgiau a chanlyniadau’r cynigion, cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol; a

 

6.    Bod adroddiad yn adolygu’r broses o osod y gyllideb flynyddol yn cael ei baratoi ar gyfer y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2018.

 

Roedd y Cabinet wedi nodi ac argymell Cam Dau'r gyllideb i’r Cyngor Sir ar yr amod y byddai'r cynigion penodol ar gyllidebau ysgolion a ffioedd parcio yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu priodol ym mis Ionawr i’w hadolygu’n llawn, er mwyn iddynt hwy gael adrodd yn ôl cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar y ddau faes hynny.  Nododd y Cabinet hefyd y camau sy’n weddill ym mhroses y gyllideb a’r amserlenni.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn dilyn cymeradwyo Cam Un cynigion y gyllideb, bod y bwlch wedi lleihau i £10.5m, ac eithrio effaith unrhyw risgiau a phwysau yn ystod y flwyddyn allai barhau i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd.  Cafodd Cam Dau cynigion y gyllideb eu categoreiddio yn ôl lefel uchel neu lefel isel  ...  view the full Cofnodion text for item 76.

77.

Penodiad Aelod Annibynnol pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Penodi aelod annibynnol (cyfetholedig) i swydd wag ar y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar Benodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau. Roedd un swydd wag ar y Pwyllgor ar gyfer aelod annibynnol (cyfetholedig) a dwy swydd wag o’r fath gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (ATAGC). 

 

Roedd y Cyngor wedi cynnal ymarfer recriwtio ar y cyd ag ATAGC, gan rannu'r costau hysbysebu.  Hysbysebwyd y swyddi gwag yn y wasg leol, ar y wefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol.  Cafwyd 8 ymgeisydd a lluniwyd rhestr fer yn erbyn meini prawf a oedd wedi’u cytuno’n flaenorol gan y Cyngor Sir.  Roedd mewn cysylltiad ag un o'r ymgeiswyr oedd heb ei gynnwys ar y rhestr fer, oedd yn teimlo bod y broses yn ddiffygiol.

 

Gwahoddwyd pum ymgeisydd i gael cyfweliad gan banel a gytunodd i argymell Julia Hughes i Gyngor Sir y Fflint ac ATAGC, gyda Sally Ellis yn cael ei hargymell ar gyfer yr ail swydd wag yn yr ATAGC.  O ystyried bod Julia Hughes yn cael ei phenodi i’r Pwyllgor Safonau ac i ATAGC, byddai hyn yn galluogi’r ddau awdurdod i rannu'r buddsoddiad mewn hyfforddi, yn rhoi profiad ehangach iddi a hefyd yn rhannu syniadau rhwng y ddau sefydliad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carver y cysylltwyd ag ef gan un o’r ymgeiswyr na chafodd ei roi ar y rhestr fer, oedd yn mynegi ei bryderon am y broses recriwtio a'r nifer isel o ymgeiswyr.  Holodd pam y nodwyd yn yr hysbyseb y gellid hawlio am deithio a chynhaliaeth, ond nad oedd yn nodi’r tâl o £99 am hanner diwrnod neu £198 am ddiwrnod llawn, y teimlai allai fod wedi peri i bobl beidio ag ymgeisio.  Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ddinbych ers 2015 a holodd a fyddai’r tymor o ddwy flynedd hwnnw yn cael ei dynnu oddi ar dymor y swydd yn Sir y Fflint a p’un ai fyddai gwasanaethu ar ddau wahanol Bwyllgor Safonau’n anfantais ai peidio.  Gohiriodd yr eitem er mwyn i Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd gael ei ystyried.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hardcastle.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cafwyd ymateb da y tro hwn o’i gymharu ag achlysuron lle bu’n rhaid ceisio ymgeiswyr.  Ochr yn ochr â’r hysbyseb roedd pecyn cais llawn oedd yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl, gan gynnwys y cyfraddau tâl a nodwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Cadarnhaodd nad oedd y ffaith fod aelod yn gwasanaethu ar Bwyllgor Safonau Cyngor arall yn eu diarddel rhag bod yn aelod nac yn effeithio eu tymor yn y swydd.  Byddai’n dod â haen ychwanegol o brofiad yn ei sgil.  Ychwanegodd y dilynwyd y broses recriwtio’n gywir fel y’i nodir mewn deddfwriaeth ac achubodd ar y cyfle i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, y Cynghorydd Arnold Woolley a’r lleygwr, Noella Jones, am fod yn rhan o'r Panel.

 

O'i roi i’r bleidlais, collwyd y diwygiad i ohirio.

 

O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd y cynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Y byddai’r Cyngor yn penodi Julia Hughes ar y Pwyllgor Safonau  ...  view the full Cofnodion text for item 77.

78.

Argymhelliad gan Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Dyfarnu uwch gyflog ychwanegol ar gyfer swydd Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad, gadawodd y Cynghorydd David Hughes y siambr ar gyfer yr eitem hon.

 

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad oedd yn argymell cymeradwyo lwfans o £8,700 i Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, fyddai’n cael ei ôl-ddyddio i ddechrau blwyddyn y cyngor.  Cronfa Bensiynau Clwyd fyddai’n talu’r gost.

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Attridge y dylid cymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dunbobbin.

           

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo lwfans o £8,700 i Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, fyddai’n cael ei ôl-ddyddio i ddechrau blwyddyn y cyngor, sef 18 Mai 2017; a

 

 (b)      Cynnwys manylion y taliad o fewn Atodlen y Cyngor o Daliadau Aelodau, fel bod yn ychwanegol i’r 18 uwch gyflog a reoleiddir.

79.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Cychwynnodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 4.48pm)