Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

15.

CYFLWYNIADAU

Gwobrau Adeiladu a Pheirianneg 2016 - Prosiect Sector Cyhoeddus y Flwyddyn – Campws Dysgu Treffynnon.

 

Gwobrau Prentisiaid 2017 - Dathlu llwyddiant prentisiaethau Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwobrau Adeiladu a Pheirianneg 2016 – Prosiect Sector Cyhoeddus y Flwyddyn 

 

Croesawodd y Prif Weithredwr Chris Hunt a John Haime o Dîm Ymgynghoriaeth Dylunio’r Cyngor ynghyd â’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a Phrif Swyddog (Dylunio Sefydliadol) er mwyn cydnabod fod Campws Dysgu Treffynnon wedi ennill y wobr uchod.  Roedd y prosiect wedi cael ei gydnabod yn eang fel dyluniad a oedd yn torri tir newydd ac roedd wedi gosod safonau newydd mewn arfer orau o ran Modelu Gwybodaeth Adeiladu.

 

Fel Aelod Cabinet dros Addysg, llongyfarchodd y Cynghorydd Ian Roberts y tîm ar ei gyflawniad yn y prosiect a oedd yn ased i Sir y Fflint gyfan.  Diolchwyd i’r swyddogion a’r tîm hefyd gan y Cynghorydd Chris Bithell, y cyn Aelod Cabinet, a soniodd pa mor falch yr oedd o weld datblygiad y prosiect hwn.  Fel cyn Faer Treffynnon, llongyfarchodd y Cynghorydd Ted Palmer bawb a oedd yn gysylltiedig â’r prosiect.

 

Gwobrau Blynyddol Prentisiaid 2017

 

Daeth Heather Johnson, y Rheolwr Dysgu a Datblygu, â hyfforddeion o Sir y Fflint a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn y categorïau canlynol:

 

Rownd derfynol Hyfforddeion Sylfaenol - Leah Newton (enillydd cyffredinol), Rebecca Jones a Ryan Varker.

 

Rownd derfynol Hyfforddai'r Flwyddyn Sir y Fflint - Alex McLaren (enillydd cyffredinol), Rachel Pearson a Tara O’Boyle (a oedd yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod).

 

Gwobr arbennig er cof am Helen Stappleton - Sophie Ellis (enillydd cyffredinol).

 

Canmolodd y Prif Weithredwr gyflawniadau’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar draws amrediad o wasanaethau’r Cyngor a'u dathlu.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Aaron Shotton yr enillwyr a chydnabod cyfraniadau gwerthfawr yr holl brentisiaid.  Siaradodd am y cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu pobl ifanc drwy’r cynllun prentisiaethau, a oedd yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor.

 

Canmolodd y Cynghorydd Mike Peers gynllun prentisiaeth y Cyngor a’r cyfle i Aelodau gydnabod y cyflawniadau hynny.

16.

Cofnodion pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 14 Chwefror, 1 Mawrth a 18 Mai 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 1 Mawrth a 18 Mai 2017.

 

Cofnodion - 18 Mai 2017

 

Tynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin sylw at y ffaith nad oedd sylwadau’r Cynghorydd Chris Dolphin wedi’u cynnwys a dywedwyd wrthi fod cofnodion cyfarfodydd y pwyllgor yn grynodeb o drafodaethau ac nid cofnod gair-am-air.

 

O ran cywirdeb cofnod rhif 8(E), dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell mai Cadeiryddion y Pwyllgorau Arolygu a Chraffu Cymuned a Menter ac Addysg ac Ieuenctid oedd y Cynghorwyr Ron Hampson a David Healey yn y drefn honno.

 

Yng nghofnod rhif 7: Etholiadau Cyngor Sir y Fflint 7 Mai 2017, dywedodd y Cynghorydd Mike Peers nad oedd y cofnodion yn cyfleu'r hyn a ddywedodd am sylwadau “di-chwaeth a difrïol” y Prif Weinidog am ymgeiswyr Annibynnol a gofynnodd i’r geiriad gwreiddiol gael ei ddefnyddio.  Cytunodd y Prif Weithredwr y dylid newid y cofnodion yn unol â hynny.

 

Yng nghofnod rhif 5: Penodi Arweinydd y Cyngor Sir, teimlai’r Cynghorydd Peers nad oedd y cofnodion yn adlewyrchu’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Tony Sharps yn gywir yngl?n ag ef yn “ymuno â’r blaid Lafur ynghyd â’r blaid Annibynnol” fel y dangosir yn y recordiad o weddarllediad y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oedd cyswllt rhwng y blaid Annibynnol ag unrhyw blaid wleidyddol arall ar y Cyngor, beth bynnag fo'r geiriad a ddefnyddir i ddangos cefnogaeth i'r Arweinydd yn ystod y drafodaeth honno.  Roedd pleidiau gwleidyddol y Cyngor fel y’u cofnodir yn y ffurflenni aelodaeth a gyflwynir, sydd yn eu tro yn sail i drefniadau cydbwysedd gwleidyddol.

 

Roedd y Cynghorydd Sharps yn anghytuno â’r pwynt a godwyd gan y Cynghorydd Peers a dywedodd nad oedd wedi datgan ei fod yn aelod o’r blaid Lafur.  Roedd wedi sôn am yr angen i gael gr?p lleiafrifol i gefnogi’r blaid Lafur fel eu bod yn fwyafrif ar y Cyngor er mwyn arddangos y sefydlogrwydd sy’n angenrheidiol i wynebu heriau’r dyfodol.  Fel Arweinydd y blaid Annibynnol, roedd wedi rhoi ei gefnogaeth wrth ddatgan y byddai'r blaid yn cadw ei henw ac yn caniatáu i'w haelodau gael pleidlais rydd yngl?n ag unrhyw fater.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod cofnodion y tri chyfarfod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar y ddau newid yng nghofnodion rhif 7 ac 8(E) cyfarfod 18 Mai 2017.  Cafodd y cynnig hwn ei eilio yn briodol ac, yn dilyn pleidlais, cafodd ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r tair cyfres o gofnodion, yn amodol ar ddau newid yng nghofnodion rhifau 7 ac 8(E) cyfarfod 18 Mai 2017, a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

17.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr holl Aelodau a oedd yn bresennol mewn cysylltiad ag Eitem 12 ar yr Agenda ‘Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol’.

 

Yn ystod trafodaeth am yr eitem nesaf ar yr agenda, datganodd y Cynghorydd Neville Phillips gysylltiad personol gan fod ei ferch-yng-nghyfraith yn aelod o’r tîm Etholiadau.

18.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi eu rhoi i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.

 

Roedd y Cynghorydd Neville Phillips yn dymuno gosod cofnod o’i ddiolch i bawb a oedd wedi bod yn gysylltiedig â gweithio yn yr Etholiadau diweddar.

 

Diwrnod Milwyr Wrth Gefn 2017

 

Darllenodd y Cadeirydd ddatganiad i adlewyrchu cefnogaeth a chydnabyddiaeth y Cyngor i’r cyfraniadau gwerthfawr a wneir gan weithwyr sy’n filwyr wrth gefn.  Roedd y Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog trwy godi baner y Lluoedd Arfog ar y Diwrnod Milwyr Wrth Gefn ar 21 Mehefin 2017.

 

Datganiad o Sicrwydd ar gyfer Blociau T?r

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cymuned a Menter) ddatganiad cryno yn dilyn y drasiedi yn Nh?r Grenfell yn Llundain.  Er nad oedd am geisio damcaniaethu yngl?n â’r materion sy'n ymwneud â’r digwyddiad, roedd y datganiad yn ceisio rhoi sicrwydd a gwybodaeth yngl?n â threfniadau Sir y Fflint yn dilyn y nodyn briffio a ddosbarthwyd yn ddiweddar i Aelodau.  Diolchodd y Prif Weithredwr i Aelodau am eu cefnogaeth a chanmolodd yr uwch Dîm Tai am eu hymateb di-oed i roi cefnogaeth ac arweiniad i denantiaid yn y blociau t?r yn Sir y Fflint, a oedd yn brif amcan i’r Cyngor.  Adroddodd am ystod o gamau gweithredu gan gynnwys adolygiad o weithdrefnau a threfniadau ar gyfer cynnal gwiriadau/rheolaethau misol yn yr adeiladau hynny.  Hefyd, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu hyder yng ngweithdrefnau cadarn y Cyngor a byddai’n gweithio ochr yn ochr â swyddogion i reoli risgiau.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog fanylion amrywiaeth o fesurau diogelwch tân sydd eisoes ar waith mewn cartrefi unigol ac ardaloedd cymunol ym mlociau t?r uchel y Cyngor, ynghyd â gweithdrefnau profi ac archwilio rheolaidd.  Mewn cartrefi nad ydynt yn uchel, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu’r asesiadau risg cynhwysfawr a oedd mewn lle.  Byddai gwybodaeth am safon a mathau o ffitiadau insiwleiddio waliau allanol yn y cartrefi hyn yn cael eu rhannu’n gyhoeddus.  Mae sicrwydd wedi cael ei roi i breswylwyr yngl?n â’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd a’r gweithdrefnau mewn lle, a byddai modd iddynt gael sicrwydd pellach drwy fynychu’r sesiynau a gynhelir yng Ngorsaf Dân y Fflint cyn bo hir lle byddai swyddogion yn bresennol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i swyddogion am y datganiad a mynegodd ei ddiolchgarwch i bawb a oedd wedi bod yn ymgysylltu â phreswylwyr yn ei ward a rhoi sicrwydd iddynt.  Ategwyd at hyn gan y Cynghorydd David Cox a’r Cynghorydd Billy Mullin fel Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Kevin Hughes, esboniodd y Prif Swyddog y gweithdrefnau gwacau a ddilynir mewn digwyddiadau mewn adeiladau uchel a oedd yn seiliedig ar yr ymarfer rhagnodedig safonol (Arhoswch ble’r ydych chi).  Byddai’r rhain yn cael eu rhoi ar waith ar y cyd â mesurau ataliol ac asesiadau risg sydd eisoes mewn lle.

19.

DEISEBAU

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

20.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

21.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

22.

Cydnabyddiaeth i Ian Budd

Pwrpas: Cydnabod  cyfraniad a wnaed i’r Cyngor gan Ian Budd, Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) sy’n gadael yr Awdurdod ddiwedd Mehefin i ymuno â Chyngor Sir Powys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i gydnabod cyfraniadau Ian Budd, y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a oedd ar fin gadael yr Awdurdod i ymuno â Chyngor Sir Powys.  Tynnwyd sylw at nifer o’i gyflawniadau arwyddocaol gydag ysgolion a sefydliadau chweched dosbarth, a’i rolau allweddol mewn lleoliadau y tu allan i’r sir a’r Gwasanaeth Ieuenctid.  Yn arbennig, roedd cyflawniadau Ian wedi helpu Sir y Fflint i fod ymysg y perfformwyr gorau yng Nghymru am ostwng nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.  Cydnabuwyd ymrwymiad Ian a pha mor uchel ei barch yw, nid yn unig yn Sir y Fflint, ond hefyd ar lefel genedlaethol ar ôl gweithio gyda sefydliadau partner a chyfrannu at ddatblygiad addysg yng Nghymru.

 

Fel cyn Aelod o’r Cabinet Addysg, dymunodd y Cynghorydd Chris Bithell yn dda i Ian yn y dyfodol.  Canmolodd Ian am ei wasanaeth i Sir y Fflint a gogledd Cymru gyfan, ynghyd â’i ymrwymiad i yrru gwelliannau i’r gwasanaeth ymlaen.  Soniodd am y ffordd y mae Ian yn mynd i'r afael â materion heriol a darparu cyngor cadarn mewn modd di-gynnwrf, a thynnodd sylw at ei gyflawniadau mewn addysg ôl-16 a meithrin perthnasoedd positif â thimau swyddogion ac arweinwyr ysgolion.

 

Wrth fynegi ei ddiolchgarwch, canmolodd y Cynghorydd Aaron Shotton ymrwymiad proffesiynol Ian i wella addysg, yn arbennig creu canlyniadau positif i Gyfnod Allweddol 2.  Canmolodd ei agwedd dawel yn ystod amseroedd anodd a dywedodd fod y parch eang tuag at Ian yn adlewyrchu ar y Cyngor.

 

Fel Aelod o’r Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts hefyd i Ian am ei gyfraniadau a’i ffocws arbennig ar gyflawni’r gorau i ddysgwyr Sir y Fflint.  Llongyfarchodd Claire Homard hefyd ar ei phenodiad dros dro.

 

Talwyd teyrngedau pellach gan y Cynghorydd Marion Bateman a ddiolchodd am y gefnogaeth a roddwyd i Ysgol Sychdyn; y Cynghorydd Tony Sharps am y gwaith o foderneiddio Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy; y Cynghorydd Mike Peers a ganmolodd y gefnogaeth a roddwyd i weithwyr ysgol dadleoledig ac am newidiadau i’r polisi i wneud mwy o gynlluniau ar gyfer cyfraniadau addysgol; a'r Cynghorydd Hilary McGuill am geisio gwelliannau i ddysgwyr.

 

Yn dilyn cyflwyniadau a wnaed gan y Cadeirydd ar ran y Cyngor, diolchodd Ian i bawb am eu sylwadau.  Soniodd am ei falchder yn gweithio gyda chydweithwyr i godi safonau a sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial.  Croesawodd y Rhybudd o Gynnig arfaethedig i ddatblygu Cyngor Yr Ifanc i Sir y Fflint a diolchodd i Aelodau am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus.

23.

RHYBUDD O GYNNIG

Pwrpas:        Ystyried y Cynigion canlynol gan y Cynghorydd Aaron Shotton.

 

Tai Cyngor Newydd

 

Mae cap ar fenthyca y Cyfrif Refeniw Tai wedi’i osod ar gyfer Cymru gan Lywodraeth y DU.Mae’r cap ar fenthyca yn cyfyngu ar y lefel o ddyled y gall Cyfrif Refeniw Tai Awdurdod Lleol ei grynhoi.Mae’n ffigwr artiffisial nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â’r capasiti o fewn cyfrifon y Cyfrif Refeniw Tai i ariannu costau refeniw benthyca.

 

Pe codir y cap ar fenthyca, gallai cynghorau adeiladu mwy o gartrefi i ddiwallu angen lleol cynyddol.

 

Mae’r cap ar fenthyca cyfredol, pan gaiff ei gymhwyso i'n Sir, yn galluogi i'r Cyngor hwn adeiladu tua 200 o dai Cyngor newydd.  Er enghraifft, gallai £25m ychwanegol o gynnydd yn y cap ar fenthyca adeiladu 200 o dai cyngor newydd ychwanegol erbyn 2020.

 

Cynnig:

 ‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith a chodi cap ar fenthyca y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, gan alluogi i’r Cyngor hwn adeiladu mwy o dai Cyngor a lliniaru'r argyfwng yn yr alwad am dai, tra’n cefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.’

 

Datblygu Cyngor Yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint

 

Cyngor Yr Ifanc yw sefydliad democrataidd wedi’i greu, ei gynnal a’i ddatblygu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.  Maen nhw’n bodoli er mwyn cynrychioli safbwyntiau pobl ifanc ar lefel leol, gan roi cyfle i bobl ifanc gael llais, trafod materion perthnasol, ymgysylltu â'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc yn eu cymunedau.

 

Bydd datblygu Cyngor Yr Ifanc gyda chysylltiadau adrodd ffurfiol â'r Cyngor hwn yn galluogi i bobl ifanc gymryd rhan uniongyrchol yn y penderfyniadau a wneir sy’n effeithio arnyn nhw. 

 

Bydd Cyngor Yr Ifanc yn galluogi i Bobl Ifanc:

·      Leisio eu pryderon

·      Cymryd rhan mewn llywodraeth leol

·      Bod ag awdurdod i wneud penderfyniadau a chymryd camau i wella eu cymuned leol.

 

Bydd datblygu Cyngor Yr Ifanc yn galluogi i’r Cyngor Sir:

·      Gynrychioli'r gymuned gyfan

·      Dod yn fwy llewyrchus, modern a dynamig

·      Annog mwy o bobl ifanc i bleidleisio a chymryd rhan mewn gwasanaeth cyhoeddus.

·      Gwella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc


Cynnig:

 

 ‘Mae’r Cyngor hwn yn cefnogi sefydlu Cyngor Yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint er mwyn trafod materion perthnasol, ymgysylltu â’r sawl sy'n gwneud penderfyniadau a chyfrannu at wella bywydau pobl ifanc o fewn y Sir.'

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae dau Rybudd o Gynnig wedi’u derbyn gan y Cynghorydd Aaron Shotton:

 

 (i)        Tai Cyngor Newydd

 

Llywodraeth y DU sy’n gosod cap ar fenthyca’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Cymru. Mae’r cap ar fenthyca yn cyfyngu lefel y ddyled y gall Awdurdod Lleol ei grynhoi yn ei Gyfrif Refeniw Tai. Mae’n ffigwr artiffisial nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â’r capasiti o fewn cyfrifon y Cyfrif Refeniw Tai i ariannu costau refeniw benthyca. Pe codir y cap ar fenthyca, gallai cynghorau adeiladu mwy o gartrefi i ddiwallu angen lleol cynyddol.  Mae’r cap ar fenthyca cyfredol, pan gaiff ei gymhwyso i'n Sir, yn galluogi i'r Cyngor hwn adeiladu tua 200 o dai Cyngor newydd. Er enghraifft, gallai £25m ychwanegol o gynnydd yn y cap ar fenthyca adeiladu 200 o dai cyngor newydd ychwanegol erbyn 2020.

 

Cynnig: Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith a chodi cap ar fenthyca y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, gan alluogi’r Cyngor hwn i adeiladu mwy o dai Cyngor a lliniaru'r argyfwng yn yr alwad am dai, gan gefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.’

 

I gefnogi’r Cynnig hwn, siaradodd y Cynghorydd Shotton am gyflawniadau arwyddocaol y Cyngor ar adeiladu tai cyngor a helpu i sicrhau fod y system cymorthdaliadau Cyfrif Refeniw Tai yn dod i ben.  Dywedodd y byddai’r Cynnig yn galluogi Sir y Fflint i arwain ymgyrch i godi’r cap ar fenthyca yng Nghymru er mwyn caniatáu i’r Cyngor barhau i adeiladu tai o safon uchel i ateb y galw.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i’r Arweinydd am ei Gynnig ac am ei sylwadau am system gymorthdaliadau’r Cyfrif Refeniw Tai.  Cyfeiriodd at brinder tai yn y sector preifat a’r angen am fwy o eiddo a rentir er mwyn ateb y galw.  Dywedoddfod pryder nad oedd y sector preifat yn dymuno bodloni lefel y cyflenwad tai sydd ei angen.

 

Er ei fod yn cydnabod bwriad y Cynnig, cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y ddeddfwriaeth a thynnodd sylw at y ffaith fod cyfyngiadau benthyca wedi bod yn rhan o gytundeb ar y cyd ar gyfer pob cyngor yng Nghymru sy’n cadw stoc dai.  Gan hynny, roedd yn cynnig y newid canlynol: ‘Mae Cyngor Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i adolygu’r cap ar fenthyca'r Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru, i ganiatáu’r cyfle i ystyried adeiladu mwy o dai cyngor a lliniaru’r argyfwng yn y galw am dai, gan gefnogi twf economaidd lleol yn Sir y Fflint.'  Dywedodd y byddai’r Cyngor mewn sefyllfa i asesu pa mor fforddiadwy yw benthyca mwy unwaith y byddai'r canlyniad wedi’i gyhoeddi.

 

Dangosodd y Cynghorwyr Shotton ac Attridge eu bod yn erbyn y newid a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Peers.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes yngl?n â lefelau benthyca a goblygiadau, esboniodd y Prif Weithredwr y model hunangyllido a weithredir gan y Cyngor a’r angen  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas: Mabwysiadu amcanion lles y Cyngor a diweddariad ar gynnydd gwaith Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu adroddiad a oedd yn gofyn i Aelodau’r Cyngor newydd nodi’r dyletswyddau deddfwriaethol statudol ac ail-fabwysiadu Amcanion Llesiant y Cyngor (ar ôl eu mabwysiadu'n flaenorol cyn pen y terfyn amser statudol) ar gyfer adolygiad yn y dyfodol.

 

Cafwyd cyflwyniad yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Trosolwg

·         Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

·         Asesiad o Les

·         Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint

·         Rolau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac Awdurdodau Lleol

·         Themâu Blaenoriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint – Hen a Newydd

·         Strategaeth y Dyfodol – Cynllun Llesiant

·         Amcanion Lles y Cyngor

 

Rhannwyd gwybodaeth gefndirol am y saith nod lles a oedd yn sylfaen i’r Ddeddf a fyddai’n cael eu cyflawni drwy weithio mewn partneriaeth.  Byddai Asesiad Llesiant y Cyngor yn help i fod yn sail i flaenoriaethau a gynhwysir yn y cynllun llesiant – a ddisgrifiwyd fel strategaeth bartneriaeth – a byddai angen ei chyhoeddi erbyn mis Mai 2018.

 

Roedd y cyrff statudol a’r cynrychiolwyr gwirfoddol sy’n ffurfio aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gwneud cynnydd da ar weithio mewn partneriaeth.  Cytunodd y Prif Weithredwr gyflwyno awgrym blaenorol y Cynghorydd Hilary McGuill sef cynnwys cynrychiolydd Cyngor yr Ifanc unwaith y bydd wedi’i sefydlu.  Cytunodd hefyd argymell y dylid cael cynrychiolydd busnes lleol, fel yr awgrymwyd gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Aelodau’n nodi’r dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chydnabod rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w cyflawni; a

 

 (b)      Bod yr Amcanion Llesiant a gyflwynwyd yn y Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cabinet ac Adnoddau Corfforaethol blaenorol yn cael eu hail-fabwysiadu.

Item 11 - Presentation pdf icon PDF 606 KB

Dogfennau ychwanegol:

25.

Atodlen Cydnabyddiaethau Ariannol pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas: Gofynnir i’r Cyngor gymeradwyo Atodlen Cydnabyddiaethau Ariannol 2017/18 ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig, r?an bod yr holl benodiadau wedi’u gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd atodlen ddrafft o gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2017/18 yn dilyn penodiadau i ‘swyddi cyflogau uwch’.  I alluogi’r Cyngor i gwblhau a chyhoeddi’r Atodlen erbyn y terfyn amser statudol, sef 31 Gorffennaf 2017, ceisiwyd caniatâd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ychwanegu enwau'r ddau aelod cyfetholedig a oedd ar goll o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd cyn ei gyhoeddi.  Er bod un wedi'i dderbyn yn ddiweddar, byddai'r ail enw yn cael ei ddweud yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol  a gwblhawyd ar gyfer 2017/18, fel yr atodir wrth yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; a

 

 (b)      Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cael awdurdod i ychwanegu enwau'r aelodau cyfetholedig terfynol at yr atodlen cyn ei chyhoeddi.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.