Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gan bob Aelod gysylltiad personol yn eitem rhif 11 ar y rhaglen – Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol 2017-18. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2016/17 Pwrpas: Derbyn manylion ynghylch adolygiad y Cadeirydd o’r flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd Mr Curtis, fel y Cadeirydd oedd yn ymadael, bob Aelod newydd a’r rhai oedd yn dychwelyd, i’r cyfarfod.Cyflwynodd ei adolygiad o’r flwyddyn ac amlygodd lwyddiannau’r Cyngor, yn arbennig agoriad Ysgol Uwchradd Treffynnon a’r nifer o dai Cyngor newydd oedd wedi cael eu hadeiladu. Diolchodd i’w gonsort am ei chymorth ac i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Lloyd, am ei gefnogaeth. Diolchodd hefyd y Parch Roberto Ciardo a fu’n gaplan iddo.
Roedd ef a’i gonsort wedi cwrdd â phobl fendigedig o’r Sir a hefyd drwy fynd i dderbyniadau mewn awdurdodau cyfagos.
Wrth gloi, diolchodd i dîm y Prif Swyddog a holl weithwyr y Cyngor a oedd yn darparu gwasanaethau’r Cyngor a hefyd am ei gefnogi wrth godi £8,000 at yr elusennau o’i ddewis.
Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i Mr Curtis am y gwaith a wnaed yn ei swydd fel Cadeirydd y Cyngor a’i gwelodd yn bod yn llysgennad da i’r Sir. Roedd ei waith wedi ei wneud gydag urddas a hiwmor a byddai ei gyd-gynghorwyr yn ei golli. Dymunodd yn dda i Mr Curtis a’i wraig Jenny ar gyfer y dyfodol.
Dymunodd y Cynghorydd Palmer, ar ran Cyngor Tref Treffynnon, ymddeoliad bendigedig i Mr a Mrs Curtis.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Peers Mr Curtis ar ddiwedd ei ail dymor yn swydd Cadeirydd y Cyngor. Rhoddodd ganmoliaeth iddo am ei degwch yn ystod cyfarfodydd a’r modd y gwnaeth drin pawb yn gyfartal bob amser a dymunodd yn dda iddo yn ei ymddeoliad. |
|||||||||||||||||||
Penodi Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2017/18, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Ray Hughes ac eiliodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylai’r Cynghorydd Brian Lloyd gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.
PENDERFYNWYD:
Ethol y Cynghorydd Brian Lloyd yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.
Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Lloyd gan y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a llofnododd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.
(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Lloyd weddill y cyfarfod.)
Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn y Swydd fel Cadeirydd a oedd yn ymddeol i Mr Peter Curtis a Bathodyn y Swydd fel Consort a oedd yn ymddeol i Mrs Jenny Curtis.
Ymatebodd y Cadeirydd a diolchodd i Aelodau am eu cefnogaeth yn ei ethol yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. |
|||||||||||||||||||
Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2017/18, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ac eiliodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylid penodi’r Cynghorydd Paul Cunningham yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Paul Cunningham yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.
Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Cunningham gan y Cadeirydd a llofnododd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||
Penodi Arweinydd Y Cyngor Sir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Tony Sharps ac eiliodd y Cynghorydd Ray Hughes y dylai’r Cynghorydd Aaron Shotton gael ei benodi’n Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.
Siaradodd y Cynghorydd Sharps o blaid ei gynnig a dywedodd ei fod yn hyderus y byddai’r Cynghorydd Shotton yn cynnig yr arweiniad a oedd ei angen ar gyfer Cyngor sefydlog er lles gorau trigolion Sir y Fflint. Er ei fod yn cefnogi’r Cynghorydd Shotton, ychwanegodd y byddai’r Aelodau Annibynnol yn parhau’n annibynnol o reolaeth y gr?p.
Mynegodd y Cynghorydd Sharps bryder am yr amseroedd ymateb i Gynghorwyr gan rai adrannau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn wedi ei godi gyda fo ac roedd set o safonau a fyddai angen cwrdd â nhw yn cael ei chreu.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Aaron Shotton yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18. |
|||||||||||||||||||
Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth ei benodi’n Arweinydd y Cyngor am y 12 mis nesaf a oedd yn anrhydedd. Cyfeiriau at yr heriau o’n blaen a hefyd y gefnogaeth unedig a welwyd ar draws y Siambr yn ystod y blynyddoedd diwethaf er lles trigolion a gwasanaethau Sir y Fflint ac roedd yn gobeithio y byddai hynny'n parhau.
Yn unol â’r Cyfansoddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet a’u portffolios a fanylir arnynt isod.
|
|||||||||||||||||||
Etholiadau Cyngor Sir y Fflint dydd Iau 4 Mai 2017 PDF 76 KB Pwrpas: I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2017. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Llongyfarchodd y Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, bob Aelod ar gael eu hethol i’r Cyngor. Cyflwynodd yr adroddiad ar Etholiadau’r Cyngor Sir a oedd wedi eu cynnal ar 4 Mai 2017.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau ac arfer cyffredin, ac yn unol â’r safonau perfformiad a amlinellir ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, a darparwyd manylion yngl?n â chanlyniadau etholiadau a chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor.
Diolchodd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Tîm Etholiadau, ymgeiswyr, asiantwyr a gweithredwyr y pleidiau am eu rhan yn yr etholiad a gwnaeth sylw am anhawster cynyddol y broses yn sgil twf cyfryngau cymdeithasol.
Diolchodd hefyd i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd am eu rhan yn y sesiynau sefydlu.
Diolchodd y Cynghorydd Peers a Paul Shotton y Tîm Etholiadau am eu help yn ystod yr etholiad a hefyd i’r Swyddog Canlyniadau, Dirprwy Swyddog Canlyniadau, staff gorsaf bleidleisio a staff y cyfrif.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y sylwadau di-fudd a wnaed gan Brif Weinidog Cymru cyn yr etholiad ynghylch ymgeiswyr Annibynnol. Roedd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ymddiheuriad ond nid oedd wedi cael un hyd yma.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod gwall yn atodiad yr adroddiad gan ei bod wedi sefyll fel ymgeisydd Llafur. Ymddiheurodd y Prif Weithredwr am hyn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau a Chyrff Mewnol PDF 131 KB Pwrpas: Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried. Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.
Yn ogystal, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth hefyd i benodi aelod lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio a amlinellwyd mewn adroddiad ar wahân, a hefyd cymeradwyo’r broses dros ddewis cynrychiolydd tref a chymuned ar y Pwyllgor Safonau. Roedd hefyd nifer o newidiadau i’w gwneud o ran y modd y byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a ddaeth i rym ar 5 Mai 2017.
(A) Penodi Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad; Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Roedd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd swyddogaethau tebyg iawn. Yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor y Cyfansoddiad roedd cais i gyfuno’r ddau bwyllgor. Credwyd fod y cylch gwaith statudol yn ddigon eang i ymgorffori’r swyddogaeth a gyflawnwyd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad felly argymhellwyd ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac y dylai’r Cyngor Llawn adolygu, creu neu ddirymu is-ddeddfau;
(b) Dylid penodi’r Pwyllgorau a amlinellir yn adran 1.04 yr adroddiad; a
(c) Dylid diwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r pwyllgorau a benodwyd.
(B) Penderfyniad ar faint Pwyllgorau
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol. Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.
Crëwyd Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdod Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 ar 21 Mawrth a daethant i rym ar 5 Mai 2017. Roeddent yn gorchymyn y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gynnwys rhwng 11 a 21 Aelod o ran maint a dim mwy na 50% o aelodaeth lawn y Cyngor. Roedd maint arfaethedig y Pwyllgor yn cyflawni’r gofynion hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylid cymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
PENDERFYNWYD:
Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a amlinellwyd ym mharagraff 1.06 yr adroddiad, gan nodi'r cyfyngiadau sy'n rhaid eu gweithredu bellach i aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio.
(C) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn
Eglurodd y Prif Swyddog Llywodraethu ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo. Amlinellwyd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel yr amlinellwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||
Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried enwebiadau i Gyrff Allanol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Gyrff Allanol yr oedd y Cyngor yn gwneud penodiadau iddynt, ynghyd â’r rhai hynny a enwebwyd a’u tymhorau penodol yn y swydd. Yn dilyn etholiadau diweddar y Cyngor Sir, roedd angen ystyried pob enwebiad.
Ym mhob Cyfarfod Blynyddol, gwnaed argymhelliad i ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau gwleidyddol, y gallu i wneud penodiadau i gyrff. Roedd angen dirprwyo r?an i wneud yr enwebiad cyntaf a hefyd yn ystod blwyddyn y Cyngor 2017/18 a fyddai’n sicrhau y gellid ymdrin yn effeithlon ag unrhyw newidiadau.
Y bwriad oedd fod pob enwebiad a wnaed yn parhau drwy gydol oes y Cyngor, tan fis Mai 2022.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hutchinson, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod pob aelod wedi peidio â bod yn gynrychiolwyr ar gyrff allanol cyn yr etholiad ac roeddent yn ceisio enwebiadau newydd.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Phillips, eglurodd y Prif Weithredwr fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi’n pennu’r niferoedd i'w dyrannu i bob Cyngor ar gyfer cynrychiolydd ar y Panel Heddlu a Throsedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn nodi'r rhestr Cyrff Allanol presennol;
(b) Bydd pob enwebiad yn para tan fis Mai 2022 oni bai fod yr Aelod a enwebwyd yn ymddiswyddo o’r Corff Allanol hwnnw; a
(c) Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau, yn cael ei awdurdodi i wneud enwebiadau i Gyrff Allanol ar ran y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol 2017-18 PDF 84 KB Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i dderbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran taliadau cyflog/ lwfans Aelodau a gwneud sawl penderfyniad ‘dewis lleol’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol. Eglurodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol bob blwyddyn yn pennu cyfraddau tâl a fyddai’n cael eu gwneud i Aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd i ddod. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynnig y gwanwyn blaenorol gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2017 a oedd yn gosod lefel y taliadau i Aelodau ar gyfer 2017/18.
Rhaid gosod lefelau tâl ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor, Aelodau’r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau. Rhaid i’r Cyngor hefyd gyhoeddi atodlen yn dangos pwy dderbyniodd pa lefel o dâl. Felly, byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20 Mehefin unwaith y byddai penodiadau wedi eu gwneud i swyddi tâl uwch. Cadarnhawyd fod pob swydd o’r fath yn cynnwys y cyflog sylfaenol o £13,400.
Cynigiodd Aaron Shotton y dylai’r status quo aros ar gyfer Aelodau’r Cabinet, Cadeiryddion Pwyllgorau, Cadeirydd y Cyngor ac Is-gadeirydd y Cyngor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin welliant y dylid cytuno ar y taliad lleiaf i bob un o’r swyddi sy’n derbyn taliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Owen Thomas. O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a chafodd ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylai Aelodau’r Cabinet dderbyn Lefel 1, sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol;
(b) Dylid talu cyflog uwch Lefel 1 i Gadeiryddion y Pwyllgor, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol;
(c) Dylai tâl Cadeiryddion y Cyngor fod ar Lefel 2, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol; a
(d) Dylai tâl Is-gadeirydd y Cyngor fod ar Lefel 2, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol. |
|||||||||||||||||||
Penodi Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio PDF 78 KB Pwrpas: I benodi Aelod Lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gytuno ar benodi aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio. Gwnaeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 hi’n ofynnol i’r Cyngor Sir benodi aelodau lleyg hyd at draean o aelodaeth y Pwyllgor Archwilio. Ar 14 Chwefror 2014 penderfynodd y Cyngor Sir benodi’r lleiafswm statudol o un aelod lleyg.
Ar ôl hysbysebu’r swydd, cynhaliwyd cyfweliadau ar 8 Mai ac argymhellwyd y dylid penodi Sally Ellis. Atodwyd disgrifiad o Sally Ellis fel atodiad i’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn cytuno i benodi’r ymgeisydd a ffafrir, Sally Ellis fel aelod lleyg i’r Pwyllgor Archwilio, gan wasanaethu am dymor o 5 mlynedd. |
|||||||||||||||||||
Amserlen o Gyfarfodydd PDF 75 KB Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18.
Ym mis Mawrth 2016 gofynnwyd i Gynghorwyr am eu dewis o ran amseroedd dechrau cyfarfodydd gyda’r mwyafrif yn ffafrio’r dydd. Fodd bynnag, cydnabuwyd y dylai’r Cyngor newydd wneud ei benderfyniad ei hun o ran pa bryd y dylid cynnal cyfarfodydd ac argymhellwyd y dylid cael arolwg pellach. Fodd bynnag, o safbwynt cynllunio busnes, roedd angen i’r Cyngor allu cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyfan felly roedd yr amserlen ddrafft yn dangos cyfarfodydd bore a phnawn i’w hystyried ger bron Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18 am y tro; a
(b) Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal arolwg o ddewis yr Aelodau o ran pryd y dylid cynnal cyfarfodydd. Bydd hyn ar ôl toriad mis Awst gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad yn dadansoddi'r canlyniadau i Bwyllgor y Cyfansoddiad ym mis Hydref. |
|||||||||||||||||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dechreuodd y cyfarfod am 11.00am a daeth i ben am 1.05pm. |