Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

100.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol â’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2022/23 (eitem 11 ar yr agenda) gan fod ganddynt gysylltiad agos â phobl a gyflogir gan y Cyngor:

 

Y Cynghorwyr Chris Bithell, Hilary McGuill, Ian Smith, Carolyn Thomas,

Ted Palmer, Neville Phillips, Kevin Rush, Dave Hughes, Paul Shotton, Ian Dunbar, Ralph Small a Bernie Attridge.

101.

Cofnodion pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Dunbar eu bod yn gofnod cywir ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Chris Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

102.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthywd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ei gyhoeddiadau wedi cael eu hanfon dros e-bost i bob Aelod, a rhoddodd drosolwg cryno o’r ymrwymiadau y bu iddo eu cyflawni ers y cyfarfod diwethaf. 

 

Yna anfonodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau i bobl Wcráin gan obeithio y gellid cyrraedd ateb heddychlon. 

 

Diolchodd hefyd i’w gyd Gynghorwyr na fyddant sefyll yn Etholiad mis Mai am eu gwasanaeth dros y blynyddoedd ar y Cyngor.

103.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd deisebau. 

104.

Strategaeth Newid Hinsawdd pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Ennill cytundeb ac ymrwymiad i’r Strategaeth Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.

 

Wrth gyflwyno’r Strategaeth Newid Hinsawdd, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, gan alw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Bu i'r Cabinet benderfynu ym mis Rhagfyr 2019 y byddent yn canfod adnoddau i benodi Rheolwr Rhaglen i ddatblygu’r Strategaeth Newid Hinsawdd, a fyddai’n gosod nodau a chamau gweithredu allweddol ar gyfer creu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y canlynol:-

 

  • Cyd-destun
  • Cyflawniadau hyd yma
  • Datblygiad y Strategaeth - llinell sylfaen
  • Effeithiau Pandemig Covid-19
  • Datblygiad y Strategaeth - Ymgysylltu
  • Bwriad y Strategaeth oedd cael Cyngor di-garbon net erbyn 2030.
  • Strategaeth Newid Hinsawdd
  • Cynllun Gweithredu Di-garbon Net - ymddygiad
  • Llinell Amser hyd at 2030

 

Talodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) deyrnged i Reolwr y Rhaglen a oedd, ar ôl ymuno â’r Cyngor ym mis Mehefin 2021, wedi gwneud llawer iawn o waith gyda gweithgor yr Aelodau i’w gwneud yn bosib cyflwyno’r Strategaeth heddiw.  Roedd y gwaith a wnaed eisoes i leihau ôl troed carbon y Cyngor dros yr 8 mlynedd diwethaf wedi’i gynnwys yn y Strategaeth.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Reolwr y Rhaglen am ei chyfraniad hyd yma i Strategaeth y Cyngor ac i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).  Talodd deyrnged hefyd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas, a fu’n rhan bwysig o ddatblygu nifer o’r mentrau.   Diolchodd i drigolion Sir y Fflint am wneud y newidiadau bychain yn eu hymddygiad, fel defnyddio cludiant cyhoeddus ac ailgylchu cymaint ag y gallent, sy’n gwneud gwahaniaeth.  Roedd mwyafrif y trigolion wedi ymateb i’r her, a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth.  Gan gyfeirio at alwad LlC i Sectorau Cyhoeddus fod yn garbon niwtral, eglurodd bod y Cabinet wedi gwneud amrywiaeth o benderfyniadau i alluogi’r Cyngor i gyrraedd y nod erbyn 2030.  Roedd gan blant ddiddordeb brwd mewn carbon niwtraliaeth a materion lleihau carbon, a theimlodd y dylid ystyried, ar ôl i’r Cyngor newydd ddechrau, creu Panel Ymgynghorol Plant a Myfyrwyr i drafod y materion hyn.  Cynigiodd yr argymhelliad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sean Bibby fel Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd, gan dalu teyrnged i’r gwaith a wnaed gan Reolwr y Rhaglen a’r Prif Swyddog ar lunio’r Strategaeth.  Wrth eilio’r argymhelliad, diolchodd i’w gyd Aelodau ar Fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd am eu heriau a’u cyfraniadau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones am y goblygiadau o ran cost, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen ei bod yn anodd darparu gwybodaeth ariannol gan fod rhaid ymchwilio ymhellach i’r prosiectau.  Bydd achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob maes sy’n gofyn am fuddsoddiad, gyda dealltwriaeth glir o’r goblygiadau ariannol fydd ynghlwm.    Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ei bod yn rhy gynnar i ragweld hyn ar hyn o bryd, ond sicrhaodd y Cynghorydd Jones y byddai achosion busnes buddsoddi yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor.   Nid oedd costau’r technolegau  ...  view the full Cofnodion text for item 104.

Item 6 - Climate Change presentation slides pdf icon PDF 665 KB

Dogfennau ychwanegol:

105.

Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Derbyn Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) drosolwg o’r gwaith a wnaed yn 2017 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddod i ddeall sut yr oedd cynghorwyr etholedig yn adlewyrchu demograffeg yr ardaloedd roeddent yn eu cynrychioli.  Mabwysiadwyd hwn gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf 2021.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y gweithdai ble trafodwyd hyn, gyda’r Aelodau’n cefnogi’r cynllun gweithredu arfaethedig.  Roedd arferion da eisoes yn bodoli o fewn grwpiau gwleidyddol a’r pleidiau cenedlaethol i hybu a chynyddu amrywiaeth.  Y nod oedd cydnabod nad yw rhai rhannau o’n poblogaeth yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar y Cyngor, ac edrych ar y rhesymau am hyn a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau. Gallai hyn arwain at amrediad mwy amrywiol o ymgeiswyr ar y papurau pleidleisio, a fyddai’n cynnig mwy o ddewis i’r etholwyr.

 

Roedd y cynllun gweithredu wedi’i rannu’n 11 o ffrydiau gwaith, gyda phob un â’r nod o godi ymwybyddiaeth o rôl cynghorydd, y manteision a’r broses o sefyll mewn etholiad.  Rhoddwyd sicrwydd hefyd y byddai hyfforddiant a chymorth yn cael eu darparu ar ôl i’r cynghorwyr gael eu hethol.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y proffilio ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, gan roi gwybodaeth am y datganiad i’r wasg a phroffiliau cynghorwyr benywaidd i annog mwy o ferched i sefyll mewn etholiad.

 

            Arweiniodd adborth o’r gweithdai a gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd at i sawl Aelod nodi y byddai hyn wedi bod yn fuddiol pan oeddent hwy’n sefyll mewn etholiad.  Darparwyd trosolwg o’r camau a gymerwyd a’r gwaith y mae angen ei wneud i gynhyrchu'r lefel hon o newid, gydag awgrymiadau cadarnhaol yn codi o’r gweithdai, megis proffilio cynghorwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.  Rhwystr arall oedd cael amser o’r gwaith i fynd i gyfarfodydd, ac roedd trafodaethau’n cael eu cynnal â chyflogwyr i fynd i’r afael â hyn a chynnig gwell dealltwriaeth o’r rôl.   Awgrymwyd hefyd y dylid cwtogi’r pecyn gwybodaeth a roddir i Aelodau adeg cyfrif yr etholiad, gan roi mwy o wybodaeth wedyn yn y sesiynau cynefino.

 

            Byddai’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn cynnal sesiynau briffio ymwybyddiaeth o etholiadau ar-lein cyn bo hir i ateb cwestiynau, darparu gwybodaeth a sicrhau bod y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth yn llwyddo.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Tony Sharps mai cyfrifoldeb y pleidiau gwleidyddol oedd darparu ymgeiswyr ar gyfer etholiadau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey pe byddai’r cymorth a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei ddarparu, y byddai’n fuddiol iawn i Aelodau newydd ac y dylid ei ddatblygu ymhellach.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Neville Phillips ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynllun gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

 

106.

Addewid Ymgyrchoedd Teg CLlLC pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I godi ymwybyddiaeth o ymgyrch CLlLC i hyrwyddo ymgyrchoedd etholiadol cadarnhaol yn seiliedig ar y materion / ffeithiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y ffaith fod natur dadleuon gwleidyddol yn mynd yn fwy bras, gyda’r enghreifftiau mwyaf eithafol yn arwain at ymosodiadau angheuol ar Aelodau Seneddol, gyda cham-drin corfforol, cam-drin eiddo a cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol i’w gweld ar bob lefel o’r llywodraeth.   Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon sy’n gwaethygu, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi bod yn hyrwyddo Addewid Ymgyrchoedd Teg, sy’n nodi “y bydd ymgeiswyr yn ymgyrchu ar sail materion a pholisïau yn hytrach na phersonoliaethau eu gwrthwynebwyr gwleidyddol”.   Roedd Sir y Fflint yn gofyn i’w Aelodau ymrwymo i’r Addewid Ymgyrchoedd Teg ac os cefnogwyd hyn, byddai’r Prif Swyddog a’r Prif Weithredwr yn gofyn i ymgeiswyr newydd ymrwymo i’r Addewid Ymgyrchoedd Teg.

 

Wrth alw am gefnogaeth yr holl Aelodau, ac fel Arweinydd y Cyngor, cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion ac annog pob Arweinydd Gr?p i wneud yr addewid ar ran eu grwpiau.  Cadarnhaodd mai ef oedd un o’r llofnodwyr gwreiddiol pan gyflwynwyd hyn ger bron Pwyllgor Gwaith CLlLC, gyda holl Arweinwyr y Cynghorau yn llofnodi’r Addewid.  Er nad oedd ganddo broblem gyda dadleuon cyhoeddus cadarn am faterion perthnasol, dywedodd na ddylai hyn gynnwys ymosod ar bersonoliaethau na chamdriniaeth, a oedd yn diraddio’r holl broses ddemocrataidd.  Wrth gyfeirio at effaith camdriniaeth o’r fath, roedd yn cefnogi’r addewid ymgyrchu yn gyfan gwbl ar ei ran ei hun a’r blaid Lafur.

 

Eiliodd y Cynghorydd Mike Peers y cynnig.  Er y gofynnwyd i Arweinwyr y Grwpiau wneud yr addewid ar ran eu grwpiau, dywedodd mai penderfyniad Aelodau grwpiau unigol oedd ymrwymo i ymgyrchu teg a phleidleisio fel y mynnant, ac nid ei le ef oedd gwneud addewid ar eu rhan.  Gan gyfeirio at Adran 1.03 yr adroddiad, dywedodd fod Aelodau sy’n gwasanaethu ac yn sefyll i gael eu hail-ethol wedi’u rhwymo i’r Cod Ymddygiad statudol y bu iddynt ei lofnodi wrth ddechrau yn y swydd.    Cytunodd â’r sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd, ac roedd hefyd wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau difrifol ac yn gobeithio y byddai eleni’n wahanol.   Dywedodd fod yr Addewid Ymgyrchoedd Teg yn ein hatgoffa sut y dylai Aelodau ymddwyn yn ystod cyfnod yr etholiad, a bod adran 1.04 yn cynnwys dolen at wybodaeth am y safonau disgwyliedig a bod y Cod Ymddygiad yn dal i fod yn gymwys.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr argymhellion, gan gydnabod agweddau cadarnhaol y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’r rhai nad oeddent mor gadarnhaol.

 

Ymrwymodd y Cynghorydd Clive Carver i'w addewid ei hun, er na fyddai’n sefyll i gael ei ail-ethol. 

 

Cytunodd y Cynghorydd Tony Sharps â sylwadau’r Arweinydd, gan ddweud fod ei gr?p ef yn cefnogi’r Addewid yn unfrydol. 

 

            Yn ystod y drafodaeth, gofynnodd y Cynghorydd Ian Roberts am bleidlais wedi’i chofnodi, a dangosodd y nifer gofynnol o Aelodau eu cefnogaeth.    Ar ôl rhoi’r mater i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion yn unfrydol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Y byddai pob Cynghorydd sy’n ceisio cael eu hail-ethol yn gwneud Addewid Ymgyrchoedd Teg, ac

 

(b)          Y byddai cais yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 106.

107.

Cynllun Deisebau Drafft pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Galluogi'r Cyngor i ystyried a chymeradwyo'r Cynllun Deisebau Drafft.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i’r Cyngor gymeradwyo cynllun drafft i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol i alluogi aelodau’r cyhoedd i gyflwyno deisebau ar-lein.  Ar ôl cael ei ddiwygio a’i gymeradwyo gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, roedd cymeradwyaeth yr Aelodau’n cael ei geisio i gyhoeddi’r cynllun ar wefan y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meini prawf arfaethedig ar gyfer derbyn deisebau a gyflwynir naill ai ar lein neu drwy Aelodau lleol fel rhan o’r broses bresennol.  Byddai canlyniadau pob deiseb a dderbynnir yn parhau i gael eu hadrodd i’r Cyngor bob blwyddyn.

 

Fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, bu i’r Cynghorwyr Neville Phillips a Michelle Perfect gynnig ac eilio’r argymhelliad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at bwysigrwydd cyflwyno deisebau ar faterion cynllunio o fewn y cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod cyn penderfynu ar y cais.  Er mwyn gwneud hyn yn glir, cynigiodd y dylid cynnwys y geiriau ‘yn ystod y cyfnod ymgynghori’ ar ddiwedd adran 8(2).  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r broses yn caniatáu adrodd ar ddeisebau a ddaw i law ac a dderbynnir ar ôl y cyfnod ymgynghori fel rhan o’r ‘sylwadau hwyr’ a ystyrir ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio.  Er ei fod yn cytuno â’r dull hwn, dywedodd y Cynghorydd Peers y dylid annog unigolion i gyflwyno ymatebion i geisiadau cynllunio o fewn y cyfnod ymgynghori statudol pan fo hynny’n bosib.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylwadau ar yr angen i ddiffinio'r cyfnod ar gyfer casglu, derbyn ac ymateb i ddeisebau.  Yn dilyn canllawiau gan y Prif Swyddog, cynigiodd y dylid ymestyn y cyfyngiad o 21 diwrnod ar gyfer casglu llofnodion i 30 diwrnod, ac y dylid nodi terfyn amser pellach o 30 diwrnod ar gyfer derbyn a phenderfynu ar y ddeiseb.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau, eglurwyd bod rhaid i ddechreuwr deiseb (yr hyrwyddwr) roi eu henw a chod post yn Sir y Fflint.  Ar y mater o fformat deisebau, dywedodd y Prif Swyddog y gellid darparu templed ar gyfer deiseb ar lein, ond nad oedd hynny’n atal unigolion rhag creu eu deiseb eu hunain.

 

O ystyried y diwygiadau arfaethedig, cynigiodd y Cynghorydd Derek Butler y dylid cyfeirio’r cynllun yn ôl at Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er ystyriaeth a chyfraniadau pellach.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog, er mwyn i’r Cyngor fodloni’r gofynion deddfwriaethol o fewn y terfyn amser, y dylid mabwysiadu’r cynllun drafft gan ymgorffori’r diwygiadau arfaethedig, ac y dylai Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd adolygu’r ddogfen yn nhymor newydd y Cyngor i ganfod a oedd angen gwneud unrhyw newidiadau pellach.

 

Derbyniwyd y tri diwygiad gan gynigydd ac eilydd yr argymhellion, sef y Cynghorwyr Neville Phillips a Michelle Perfect, ac o’u rhoi i bleidlais, cawsant eu cymeradwyo, gan lunio rhan o’r cynnig gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Cyngor yn cymeradwyo cynnwys y cynllun deisebau yn y Cyfansoddiad, yn amodol ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 107.

108.

Penodi Aelodau Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ailbenodi Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a rhoi’r newyddion diweddaraf am gynnydd o ran penodi aelod lleyg ychwanegol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod angen i’r Cyngor gynyddu nifer yr aelodau lleyg ar ei Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Y rheswm am hyn oedd sicrhau bod aelodau lleyg yn llunio traean o’r Pwyllgor.   Darparwyd trosolwg o’r broses recriwtio a dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. 

 

Gan fod cyfnod un o'r aelodau lleyg presennol yn y swydd ar fin dod i ben ym mis Mai 2022, cynigiwyd ymestyn eu cyfnod hwy am 12 mis i ganiatáu ar gyfer y broses recriwtio bresennol ac er mwyn i’r Cyngor newydd gael ystyried a ddylid ailbenodi’r unigolyn hwnnw i’r swydd am gyfnod pellach.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Dolphin a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Y byddai’r Cyngor yn nodi’r diweddariad i’r broses recriwtio bresennol; ac

 

(b)          Y byddai’r Cyngor yn ailbenodi’r Aelod Lleyg am 12 mis arall.

109.

Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2022/23 pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r nawfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, adroddodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) mai dyma’r 10fed Datganiad Polisi Tâl Blynyddol, gan fyfyrio ar y trefniadau presennol o ran tâl.  Rhoddwyd gwybodaeth am y polisïau ar gyfer 2021/22 mewn nifer o feysydd allweddol, a oedd yn debyg i’r adroddiadau blynyddol blaenorol.  Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r egwyddorion ond yn lle’r canllawiau a’r newidiadau diweddaraf i ddeddfwriaeth LlC, roedd sawl adran wedi cael eu hychwanegu, eu diweddau neu eu tynnu, ac amlinellwyd y rhain.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Clive Carver yr argymhellion, a eiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collet.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Y byddai’r Cyngor Sir yn cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl drafft atodol ar gyfer 2022/23; ac

 

(b)          Y byddai’r Cyngor Sir yn dirprwyo awdurdod i'r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol, ddiweddaru Datganiad Polisi Tâl 2022/23 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.

110.

Cwestinynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

111.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

112.

Rhybudd O Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

113.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 14.00 a daeth i ben am 16.45)

 

 

 

 

Y Cadeirydd