Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

73.

Cofnodion pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Tachwedd 2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y dylid newid y gair 'which' am y gair 'who' ar waelod tudalen 5 y cofnodion Saesneg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Phillips yngl?n â rhoi pleidlais i rai 16/17 oed, dywedodd y Prif Weithredwr bod yn rhaid i’r cynnig fynd trwy proses Trosolwg a Chraffu yn Llywodraeth Cymru ac na fyddai’r Bil yn cael ei ddeddfu cyn mis Medi/Hydref 2020.

74.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

75.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei negeseuon, a oedd wedi cael eu cylchredeg o flaen llaw i’r cyfarfod, tynnodd y Cadeirydd sylw at nifer o ddigwyddiadau, gan sôn yn arbennig am ymweliad John a Roma Gray o Glwb Pêl-droed Nomadiaid Cei Connah, a Gwobrau Balchder Sir y Fflint a oedd wedi cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

76.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn gyfle I Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward.  Unwaith y byddant wedi dod I law, caiff deisebau eu pasio I’r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

77.

Cyflwyniad y lluoedd arfog

Pwrpas:        Dathlu cyflawniadau diweddar trwy ein Cyfamod Lluoedd Arfog a chyflwyniad y Wobr Aur am y Cynllun Cydnabod Gweithwyr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebiadau eitem a thalodd deyrnged i bawb a oedd wedi bod yn gysylltiedig â chyflawniadau a ddathlwyd trwy Gyfamod y Lluoedd Arfog.  Roedd y tîm wedi llwyddo i ennill Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Gweithwyr gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Gwahoddwyd Mike Dodd, a oedd yn gweithio i’r Cyngor fel Swyddog Datblygu Menter Gymdeithasol, i annerch Aelodau am yr amser a dreuliodd yn y Lluoedd Arfog a phwysigrwydd y Cyfamod i gyn-filwyr. 

 

            I ddilyn cafwyd cyflwyniad am y prosiect “Talacre Ddoe a Heddiw" a helpodd bobl leol, ymwelwyr a phlant ysgol i weld sut le oedd Talacre yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

            Diolchodd yr Arglwydd Barry Jones i swyddogion am y cyflwyniad a oedd yn gredyd i'r gwaith a wnaethpwyd gan y Cyngor, a thalodd deyrnged i Mike Dodd am ei ymgysylltiad o safbwynt cyn-filwr.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin hefyd i bawb a gymerodd ran ac am y gefnogaeth a ddarparwyd iddo fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog yn y Cyngor.

 

            Mynegodd y Cynghorwyr Banks, Roberts, Butler a Legg eu gwerthfawrogiad i Gynghorydd Dunbobbin a’r tîm o swyddogion mewnol ac allanol, a’r plant ysgol am gymryd rhan mewn hanes lleol.

78.

Diweddariad ar Gyllideb 2020/21 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Cymeradwy’r pwysau ariannol a’r arbedion effeithiolrwydd hyd yma yn dilyn adborth gan y Pwyllgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 a oedd yn nodi’r canlynol:

 

·         y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf ar gyfer 2020/21;

·         y gwaith hyd yma i ddatblygu a chytuno ar ddatrysiadau lleol i lenwi’r ‘bwlch’ a ragwelir yn y gyllideb ofynnol ar gyfer 2020/21 o fewn y rhagolwg;

·         y trefniadau ar gyfer Cyllideb Llywodraeth Cymru a Setliad Dros Dro Llywodraethau Lleol a'r disgwyliadau mewn perthynas â hynny - disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi gyda’i gilydd ar 16 Rhagfyr;

·         yr opsiynau lleol sy’n weddill i gyflawni cyllideb gytbwys gyfreithiol ar gyfer 2020/21 ochr yn ochr â’r Setliad; a

·         yr amserlen i gwblhau’r gyllideb erbyn Mawrth 2020.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, roedd dau gyfarfod ymgynghori olaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael eu cynnal ac roedd atodiad wedi’i ddiweddaru a’i ddarparu i’r Aelodau a oedd yn cynnwys ymatebion pob un o’r chwech Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd pob Pwyllgor wedi derbyn crynodeb o’r pwysau o ran costau yn ôl portffolios gwasanaeth. Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw beth gwahanol i’r argymhellionyn cael ei gyflwyno i Aelodau yn dilyn cyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn darparu’r rhagolwg ariannol diweddaraf a oedd wedi cael ei adolygu i gymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn pwysau gan gynnwys rhagolwg gwreiddiol mis Ebrill a phwysau newydd a oedd yn anhysbys neu heb gael eu deall a'u cyfrifo'n iawn cyn hynny. O ganlyniad i’r newidiadau, tyfodd y bwlch yn y gyllideb i £16.355m ym mis Rhagfyr, sef cynnydd o £0.181m.

 

Roedd yr atebion a oedd ar gael i alluogi’r Cyngor i gydbwyso cyllideb 2020/21 wedi’u dosbarthu fel a ganlyn:

 

·         Cyllid Cenedlaethol;

·         Cynlluniau Busnes Portffolios a Chyllid Corfforaethol;

·         Trethi ac Incwm Lleol; a

·         Newid Sefydliadol.

 

Wrth roi sylwadau am ddyfarniad cyflog blynyddol athrawon, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y Cyngor yn disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn talu’r dyfarniad cyflog yn llawn yn 2020/21.  Ar sail hynny, roedd modd tynnu £0.726m o’r rhagolwg gan roi ffigwr adolygedig o £15.629m. Byddai cadarnhad yn cael ei geisio gan LlC yngl?n â'u cynlluniau ar gyfer dyfarniadau cyflog blynyddol rhwng nawr a’r camau olaf o osod y gyllideb.

 

Darparodd fanylion llawn arbedion ac incwm o gynlluniau busnes portffolios, arbedion cyllid corfforaethol, treth ac incwm lleol a newid sefydliadol.

 

Byddai cyfuniad o arbedion ac incwm portffolios cyllid corfforaethol, incwm sy’n deillio o lefel ddangosol o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, a’r ‘difidend’ o adolygiad actiwaraidd Cronfa Bensiynau Clwyd a grynhoir yn yr adroddiad, yn cynhyrchu cyfraniad sylweddol o £8.164m at y gyllideb.

 

Yr unig opsiynau lleol sydd ar ôl i’w hadolygu er mwyn adeiladu ar y cyfraniad, yn ddibynnol ar ganlyniad cyllideb LlC oedd (1) adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwyr Cronfa Bensiynau Clwyd mewn cysylltiad ag Actiwari'r Gronfa; (2) rhannu pwysau costau ysgolion gyda’r ysgolion eu hunain; (3) set gyfyngedig o ddarpariaethau cyllid corfforaethol eraill megis arenillion rhagweledig o Dreth y Cyngor a chyfraddau adfer Gostyngiad Person Sengl; (4) gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer codi ffioedd comisiynu darparwyr gofal cymdeithasol wrth i drafodaethau blynyddol  ...  view the full Cofnodion text for item 78.

79.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19 i roi sicrwydd i’r Cyngor bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Heesom.

 

             Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu.

80.

Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Cael cytundeb Aelodau i’r newidiadau a wnaed o fewn Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth ac adroddiad y Cynllun Ymateb i Dwyll a ysgrifennwyd er lles gweithwyr, Aelodau, y cyhoedd, sefydliadau a busnesau sy’n delio gyda'r Cyngor a ddisgwylir i weithredu ag uniondeb hefyd.

 

            Amlinellodd y Strategaeth ymrwymiad y Cyngor i atal a chanfod twyll a’i bolisi ‘dim goddefgarwch’ tuag at weithredoedd twyll a llygredigaeth tebyg.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Heesom gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hardcastle.

 

            Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid cymeradwyo'r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth ddiwygiedig; ac

 

(b)       Y dylid cymeradwyo’r Cynllun Ymateb i Dwyll diwygiedig.

81.

Polisi Rhannu Pryderon pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Gofyn am gymeradwyaeth Aelodau i’r newidiadau a wnaed i Bolisi Rhannu Pryderon y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad y Polisi Rhannu Pryderon a oedd yn esbonio sut mae'r Polisi yn galluogi gweithwyr, Aelodau ac unigolion trydydd parti (partneriaid, ymgynghorwyr, gwirfoddolwyr, cyflenwyr, contractwyr, gan gynnwys eu gweithwyr) y Cyngor i godi pryderon sydd ganddynt, a rhoddodd sicrwydd ynghylch cyfrinachedd a diogelu.

 

            Roedd yn nodi’r weithdrefn i’w dilyn wrth godi pryder a sut y byddai’r Cyngor yn ymateb. Rhoddodd y polisi enghreifftiau o’r mathau o bryderon y gellid eu codi.

 

            Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi, gydag un newid sef cynnwys Aelodau lleol fel ‘person a ragnodir’ i adrodd pryder. Darperir hyfforddiant yn y Flwyddyn Newydd mewn perthynas â hynny.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin y gellid cynnal yr hyfforddiant cyn cyfarfodydd sydd wedi’u trefnu ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a fyddai’n helpu i godi lefelau presenoldeb. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad nad oedd yr Heddlu yn ‘berson a ragnodir' a chadarnhawyd hynny. Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Polisi Rhannu Pryderon yn un eang ac mae’n bosibl y byddai mater yn codi a fyddai’n gorfod cael ei adrodd wrth yr Heddlu. Fodd bynnag, yn gyntaf byddai’n briodol codi’r materion hynny gyda’r bobl a enwir yn y polisi gan fod materion posibl y byddai angen mynd i’r afael â nhw yn y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

 

 Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Polisi Rhannu Pryderon fel y’i diwygiwyd.

82.

RHYBUDD O GYNNIG pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhyuddion o Gynnig: cafwyd un erbyn y dyddiad cau.

 

Yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, mae angen cyfyngu ar destun Rhybuddion

Cynnig. Ystyriwyd bod yr Hysbysiad o Gynnig sydd ynghlwm yn anwleidyddol

ac felly'n dderbyniol gan y Swyddogion Statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn dechrau’r eitem, gofynnodd y Cynghorydd Attridge am eglurhad o’r rheolau yngl?n â dadleuon yn y cyfnod cyn yr etholiad. Dywedodd bod Hysbysiad o Gynnig wedi cael ei gyflwyno gan ei blaid ychydig fisoedd yn gynharach ond roedd wedi cael ei oedi oherwydd natur y pwnc sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r ffaith ei fod o natur wleidyddol yng nghanol ymgyrch etholiad genedlaethol. Gofynnodd a oedd yr un rheolau’n berthnasol i Lywodraeth Cymru gan eu bod wedi dadlau ynghylch BIPBC ar sawl achlysur yn ddiweddar. Dywedodd hefyd yr ymddengys bod Cynghorau eraill yng Nghymru yn dadlau ar faterion gwleidyddol.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr bod y cyngor a roddwyd i Aelodau yn gadarn a bod cyfyngiadau cyfreithiol sy’n benodol i lywodraeth leol yn rhan annatod o ddeddfwriaeth llywodraeth leol.  Roedd Llywodraeth Cymru yn lywodraeth sydd ar waith ac sydd â gwahanol set o gyfyngiadau a chaniateir iddo ddal ymlaen â’i fusnes arferol. Nid oedd yr Hysbysiad o Gynnig y cyfeiriwyd ato yn cael ei gynnwys gan ei fod yn cyffwrdd ar feysydd a oedd yn ymrwymiadau maniffesto o bwys yn y GIG. 

 

Ychwanegodd ei fod wedi codi y byddai rhannu arferion da yn llesol yng Nghymru gan fod pobl yn gwneud gwahanol ddyfarniadau ond yn y pen draw, roedd y cyngor a roddir i Aelodau yn cael ei roi er mwyn eu hamddiffyn.   Roedd trafodaethau ar y gweill gyda BIPBC i ofyn iddyn nhw fynychu cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ym mis Ionawr ac roedd hyn wedi’i sbarduno oherwydd yr oedi yn y dadlau yngl?n â’r Hysbysiad o Gynnig, am y rhesymau a esboniwyd eisoes.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Heesom i’r Prif Weithredwr am y cyngor a diolchodd i'r swyddogion am y ffordd yr oeddent wedi rheoli’r etholiad aeaf.

 

Siaradodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin o blaid ei Hysbysiad o Gynnig, sef:

 

“Bod y Cyngor hwn yn penderfynu:

 

Ei gwneud yn ofynnol i hysbysebu o flaen llaw bob arddangosiad tân gwyllt cyhoeddus yn Sir y Fflint, gan alluogi trigolion i gymryd camau i ragofalu am eu hanifeiliaid a phobl ddiamddiffyn.

 

Hyrwyddo’n weithredol ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn. Cynnwys y camau y gellir eu cymryd i leihau risgiau.

 

Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i’w hannog i ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddynt i liniaru unrhyw effeithiau negyddol y gall cynnal arddangosiadau tân gwyllt ei gael ar anifeiliaid a phobl ddiamddiffyn.

 

Annog arddangosiadau lleol i ddefnyddio tân gwyllt tawel ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus, “Ban the Bang”.

 

            Dywedodd bod yr Hysbysiad o Gynnig yn dod ar y cyd â’r RSPCA a’u hymgyrch genedlaethol. Bu cynnydd o dros 12% mewn galwadau o gwmpas Noson Tân Gwyllt a chredwyd y byddai tynhau cyfyngiadau ar werthiant tân gwyllt yn y cyfnod yn arwain at 5 Tachwedd yn helpu yn fawr. Dim ond yn ystod yr wythnos cyn Noson Tân Gwyllt y caiff tân gwyllt ei werthu yn Seland Newydd.

 

            Hoffai weld gostyngiad yn lefel uchaf y s?n o 120 desibel i 90 desibel  ...  view the full Cofnodion text for item 82.

83.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

84.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

85.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol ac roedd deunaw o aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.