Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

41.

CYFLWYNIADAU

Pwrpas:        Dathlu ein llwyddiannau:

 

Yn y rownd derfynol:  Gwobr MJ 2018 – Menter Tai Cymdeithasol Orau – Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) – Tai ac Asedau

Yn y rownd derfynol: Gwobr Gwasanaeth APSE 2018 – Menter Tai, Adfywio neu Adeilad Newydd Orau – Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) – Tai ac Asedau

Yn y rownd derfynol:  Gwobr Gwasanaeth APSE 2018 – Menter Gweithio Mewn Partneriaeth Cyhoeddus/Preifat Orau – Creu lle i’w alw’n gartref: darparu beth sy’n bwysig - Gwasanaethau Cymdeithasol

Yn yr ail safle:  Heddlu Gogledd Cymru - Gwobrau Partneriaeth sy'n Canolbwyntio ar Broblem (POP) 2018 – Canolfan Help Cynnar

Enillydd: Gwobrau Anrhydeddau Gofal Cymdeithasol 2018 – Canlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygu staff – Cynnydd i ddarparwyr - Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) – Tai ac Asedau

Wedi cyrraedd rownd derfynol Municipal Journal Awards 2018 ar gyfer y categori Menter Tai Cymdeithasol, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus 2018 ar gyfer y categorïau Menter Tai, Adfywio ac Adeiladau Newydd Gorau a'r Fenter Gweithio mewn Partneriaeth Cyhoeddus/Preifat Gorau.

 

Mynychodd y swyddogion, Mel Evans, Denise Naylor a Dawn Kent gyda Dan Poole o Wates Residential i gydnabod cyraeddiadau rhaglen uchelgeisiol y Cyngor i geisio allu cyflawni 500 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy mawr eu hangen dros gyfnod o bum mlynedd mewn cydweithrediad â’i bartner datblygu, Wates Residential.

 

Yn rhinwedd ei rôl fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai, dyma'r Cynghorydd Attridge yn llongyfarch y tîm.   Croesawodd cydnabyddiaeth genedlaethol ar gyfer y fenter sydd hyd yma wedi darparu 144 o dai newydd sbon o ansawdd ledled y Sir i gwrdd ag anghenion y cymunedau lleol, adfywio ardaloedd a chynnig cyfleoedd cyflogaeth.

 

Cyngor Sir Y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru – Canolfan Cymorth Cynnar Sir y Fflint

Dod yn ail yng Ngwobrau Partneriaeth Sy'n Canolbwyntio Ar Broblem (POP) 2018 Heddlu Gogledd Cymru

 

Swyddogion y Cyngor, Craig McLeod, Ann Roberts a Jane Turvey yn bresennol gydag Anna Jones o Heddlu Gogledd Cymru i ddathlu’r gydnabyddiaeth o wasanaeth aml asiantaeth wrth ddarparu cefnogaeth gynnar werthfawr i deuluoedd mewn angen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol am ei balchder yng nghyraeddiadau'r tîm dan arweiniad Jane Turvey.   Ar ddiwedd Mawrth 2018, cyfanswm o 684 teuluoedd wedi eu cyfeirio at y Ganolfan Cymorth Cynnar i dderbyn cefnogaeth wrth ddelio ag effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol – Creu lle i’w alw’n gartref: Darparu’r hyn sy’n cyfrif

 Buddugol yng Ngwobrau Anrhydeddau Gofal Cymdeithasol 2018 - Canlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi mewn dysgu a datblygu staff - Cynnydd i Ddarparwyr; ac yn Fuddugol yng Ngwobrau Gwasanaeth Cymdeithas Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth Cyhoeddus 2018 - Menter Gweithio mewn Partneriaeth Cyhoeddus/Preifat Gorau, Dathlu cyflawniad ac arloesi eithriadol wrth ddarparu gwasanaeth Llywodraeth y DU.

 

Croesawyd swyddogion y Cyngor Dawn Holt, Nicki Kenealy, Matt Thomas a Lee Holman, ynghyd â Claire Roberts (Cartref Gofal Haulfryn), yn dilyn cydnabyddiaeth cenedlaethol y rhaglen uchelgeisiol hwn gan weithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal preswyl yn y sector breifat.

 

Wrth dynnu sylw at lwyddiant eithriadol y prosiect, dyma'r Cynghorydd Christine Jones yn diolch i Nicki Kenealy a’r tîm Contractau a Chomisiynu, ynghyd â’r holl bartneriaid sydd wedi cydweithio ar y cynllun i wella ansawdd bywyd i bobl h?n yn Sir y Fflint.  Dywedodd bod datblygu dull arloesol i ofal yn ganolog ar y person mewn cartrefi gofal preswyl yn gwneud gymaint o wahaniaeth.

42.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth nodi ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, cytunwyd y byddai cydymdeimlad mwyaf yn cael ei anfon at y Cynghorydd Owen Thomas a’i deulu ar ran y Cyngor.  Hefyd estynnwn ein dymuniadau gorau at y Cynghorydd David Cox wrth iddo wella o salwch.

43.

Cofnodion pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Medi 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle i gael ei gofnodi ei fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Ar gofnod rhif 36, y degfed paragraff i gael ei ddiwygio i adlewyrchu fod Aelodau yn cael copi o’r safonau gwaith sy'n berthnasol i swyddogion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at ddau gamgymeriad teipograffyddol ar gofnod rhif 36 a chofnod rhif 37.

 

Ar gofnod rhif 38 fe gytunodd y Prif Weithredwr i fynd ar ôl cais y Cynghorydd Peers am fwy o wybodaeth ar gyflog unigolyn yn cael ei gyflogi gan ysgol.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Attridge bod adroddiad ar ôl-ddyledion rhent yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Mentergarwch, yn ôl cais y Cynghorydd Peers.

 

Ar gofnod rhif 39, byddai’r Prif Weithredwr yn sicrhau bod ymateb i’r cais am ddata cymhariaeth gan yr Awdurdod Tân a’i ddosbarthu i’r holl Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

44.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar Eitem Agenda 10, datganodd y Cynghorwyr Ted Palmer a Martin White gysylltiad personol ar y Rhybudd o Gynnig cyntaf gan eu bod yn denantiaid Cyngor.

 

Yn ystod trafodaeth ar yr ail Rhybudd o Gynnig, datganodd nifer o Aelodau gysylltiad personol oherwydd eu cysylltiadau i fusnesau lleol wedi'u crybwyll yn y geiriad.  Cynghorodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd angen datganiad oni bai fod Aelodau yn meddwl fel arall, gan fod y Rhybudd o Gynnig ddim yn berthnasol yn arbennig i unrhyw fusnes penodol a bod y rheiny wedi'u nodi yn enghreifftiau posib o effeithiau Brexit.

45.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu cyn y cyfarfod.  Yn arbennig dyma’r Cadeirydd yn diolch i’r Cynghorydd Kevin Hughes am dynnu ei sylw at gyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd sydd wedi gwneud gwaith canmoladwy i gyn-filwyr dall.

 

Cymerodd y Prif Weithredwr y cyfle i ddiolch i'r Cadeirydd am gydnabod gwaith tîm y Cyngor wnaeth drefnu’r cynllun Llwglyd Dros Y Gwyliau cyntaf yn ystod yr haf.

 

Dyma'r Cynghorydd Richard Lloyd yn diolch i’r Cadeirydd ar ran Chloe-Ann Brooks ar gyfer ei hymweliad diweddar i Neuadd Y Sir er mwyn cydnabod ei gwobr.

46.

Deisebau

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ran y Cynghorydd Joe Johnson, cyflwynodd y Cynghorydd Ted Palmer ddeiseb ar ran preswylydd yn gofyn am lwybr ar ffordd gefn Ffordd Pen-y-Maes i Boot End oherwydd pryderon yngl?n â diogelwch.

 

Yn unol â’r broses arferol, byddai’r ddeiseb yn cael ei basio ymlaen i'r Prif Swyddog perthnasol i ymateb i’r prif gynigydd.  Cytunodd y swyddogion i ddatblygu proses i adrodd yn ôl i’r Cyngor ar ganlyniadau deisebau a gyflwynir bob blwyddyn.

 

Yn dilyn trafodaeth ar yr eitem, dyma’r Cynghorydd Carver yn codi pwynt gorchymyn o dan adran 4.10 o’r Cyfansoddiad, mewn perthynas â gohebiaeth ddiweddar yn y cyfryngau yngl?n ag Arweinydd y Cyngor, a ystyriodd i fod yn eitem busnes brys.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y mater eto heb gael ei ddatrys ac y byddai unrhyw drafodaeth ar y cam hwn yn gallu niweidio'r archwiliad allanol sydd heb ddod i ben eto.  Felly fe gynghorodd nad oedd yn eitem brys o ran busnes ac fe gytunodd y Cadeirydd.

47.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

48.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

49.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 2 2018/19, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar 17 Hydref 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

50.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 51 KB

Pwrpas:        Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig:

 

(i)         Cynllun Cyfnewid Rhentu - Y Cynghorydd Andy Dunbobbin

 

‘Hoffwn i’r Cyngor ystyried cyflwyno’r gwasanaeth sy’n adnabyddus fel Cyfnewid Rhentu sydd yn gynllun cenedlaethol yn cael ei fabwysiadu gan nifer gynyddol o landlordiaid cymdeithasol fel ffordd o gefnogi tenantiaid i allu gwella eu statws credyd.

 

Mae wedi dod i fy sylw bod tenantiaid y Cyngor sydd yn talu rhent ar amser ddim yn cael cydnabyddiaeth am hynny ar eu hadroddiad cyfeirnod credyd.  Credaf fod anghydraddoldeb yma gan fod y rheiny gyda morgais ar eu heiddo ac sy'n gwneud taliadau ar amser gyda thystiolaeth o hynny ar ei ffeil credyd.

 

Trwy gymryd rhan yn y gwasanaeth a gweithio gydag asiantaethau cyfeirnod credyd, byddai’r Cyngor yn gallu cynnig y cyfle i denantiaid i ddatblygu hanes credyd cadarnhaol,  yn ogystal â chael eu gwobrwyo am dalu eu rhent ar amser - Credaf hefyd ei fod yn golygu buddion sylweddol ar gyfer pethau fel gwneud cais am nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau ariannol cyfrifol a fforddiadwy, siopa ar-lein neu hyd yn oed helpu tenant sydd eisiau gwneud cais am forgais fel rhan o bontio i'r cam o brynu cartref eu hunain.

 

Dyma gynllun a fyddai’n helpu i gefnogi tenantiaid y Cyngor ac fel Cyngor blaengar, gofynnaf i chi ystyried a gweithredu’r cynllun?

 

Fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai, dyma'r Cynghorydd Attridge yn diolch i'r Cadeirydd Dunbobbin am ei Rybudd o Gynnig.  Dywedodd bod y mecanwaith ar gyfer landlordiaid tai cymdeithasol i gytuno i’r cynllun yn helpu tenantiaid i gael mynediad i gredyd fforddiadwy ac i gynnig buddion ariannol hirdymor.  Byddai’n annog tenantiaid i gadw at eu taliadau rhent a’u talu ar amser yn ogystal â chefnogi strategaethau’r Cyngor.  Gofynnodd bod y Cabinet yn ystyried adroddiad ar ddichonoldeb gweithredu'r cynllun yn Sir y Fflint gyda gwybodaeth ar sefydlu costau ac amserlenni.

 

Eiliwyd y Cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

Cynigodd y Cynghorydd Peers newid bychan i'r geiriad yn nhrydydd paragraff y Cynnig gan newid y gair ‘gwobrwyo’ i ‘cydnabod’ fel ei fod yn fwy eglur.  Mynegodd y Cynghorydd Dunbobbin ei fod yn fodlon gyda’r diwygiad.  Wrth fynd i’r bleidlais, pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig.

 

Meddai’r Prif Weithredwr ei fod ef a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i’ll dau yn croesawu’r cynllun mewn egwyddor a byddai adroddiad i’r Cabinet yn cael ei flaenoriaethu.

 

(ii)          Refferendwm Brexit – Y Cynghorydd Kevin Hughes

 

Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd pobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd trwy Refferendwm Brexit.  O’r pleidleisiau, pleidleisiodd 51.8% i adael gyda 48.11% yn pleidleisio i aros.Yn Sir y Fflint pleidleisiodd 56.4% i adael gyda 43.6% yn pleidleisio i aros.  Galwodd Llywodraeth San Steffan ar Erthygl 50 ar Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd gyda’r Prif Weinidog yn arwyddo llythyr ar 28 Mawrth 2017. Cafodd y llythyr ei anfon y diwrnod canlynol gan Lysgennad Prydeinig yr Undeb Ewropeaidd  at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk.   Ers hynny mae trafodaeth barhaus heb unrhyw arwydd o gytundeb y gellir cytuno arno yn y Senedd neu un  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

Item 10 - Brexit NoM pdf icon PDF 24 KB

Dogfennau ychwanegol:

51.

Cyflwyniad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint pdf icon PDF 3 MB

Pwrpas:        Galluogi swyddogion o’r Comisiwn i roi cyflwyniad am Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint ac ymateb i gwestiynau Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Theo Joloza (Prif Gomisiynydd), Matt Redmond (Dirprwy Brif Weithredwr) a Tom Jenkins (Swyddog Adolygu) o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a'u gwahodd nhw i roi cyflwyniad i Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint.   Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

 

·         Pwy ydym ni?

·         Diben ein cyflwyniad

·         Deddfwriaeth

·         Cwmpas yr Adolygiad

·         Meini prawf statudol

·         Polisi maint y Cyngor – diffiniedig - cymwysedig

·         Blociau adeiladu ward Etholiadol

·         Aelod sengl/Aml aelod

·         Yr hyn y byddwn yn ei ystyried

·         Meysydd Pryder

·         Yr hyn na fydd yn cael ei ystyried

·         Cynrychiolaethau effeithiol

·         Lle all y Cyngor helpu?

·         Amserlen

 

Newidiadau yn Llywodraeth Cymru (LlC) yn golygu bod dechrau’r rhaglen 10 mlynedd o adolygiadau gan y Comisiwn Ffiniau wedi cael ei ohirio tan Ionawr 2017. Angen adrodd ar yr argymhellion a wneir o’r adolygiad presennol o drefniadau etholiadau i LlC erbyn Gwanwyn 2021 er mwyn caniatáu digon o amser i'r newidiadau wardiau gael eu gweithredu cyn etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.  Dosbarthwyd copïau i’r Aelodau o’r ddogfen Polisi ac Arferion a ailgyhoeddwyd yn adlewyrchu’r rhaglen 5 mlynedd byrrach.

 

Nod yr adolygiad oedd cynnig patrwm o wardiau etholiadol ar gyfer ardal gyfan y cyngor ac nid lle'r oedd lefelau o anghydraddoldeb etholiadol yn unig, er bod rhai ardaloedd o bosib ddim angen unrhyw newidiadau.   Rhoddwyd eglurhad manwl ar y gwahanol elfennau i’r Comisiwn ei ystyried wrth greu'r trefniadau newydd.  O dan Bolisi Maint y Cyngor, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei roi yn y trydydd o bedwar categori o gyngor sydd wedi cael ei ddylunio i harmoneiddio’r nifer o boblogaeth fesul Aelod.  Ar ôl gweithredu’r cyfyngiadau hanfodol, adroddwyd bod yr adolygiad o Sir Y Fflint yn anelu am 63 Aelodau, gan nodi fod amrywiant bychan o bosib yn cael ei ystyried os yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth.  Er mai dewis y Comisiwn oedd ar gyfer wardiau Aelodau unigol, byddai ystyriaeth yn cael ei roi i gynrychiolaethau ar gyfer hyd at dri wardiau aelodau.  Enghreifftiau o gysylltiadau cymunedol wedi’u rhannu y gellir eu darparu ymysg tystiolaeth gefnogol.

 

Ardaloedd cymunedol a wardiau presennol wedi cael eu defnyddio fel blociau adeiladu ar gyfer pob ward etholiadol.   Mae’r Comisiwn wedi cael pwerau i wneud newidiadau i’r ffiniau hynny o ganlyniad i greu wardiau etholiadol, fodd bynnag byddai hynny ond yn cael ei ystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori drafft lle mae cynigion penodol yn cael eu cefnogi gan Aelodau lleol a’r cyngor tref/cymuned perthnasol.

 

Ar yr amserlen ar gyfer yr adolygiad roedd y Cyngor yn cael ei annog i ddefnyddio gwybodaeth leol i gyflwyno cynllun priodol ar gyfnod cynnar o fewn rheolau’r ddeddfwriaeth a pholisïau, i helpu’r Comisiwn i adnabod ateb priodol i drefniadau newydd.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr y tîm Comisiwn am y cyflwyniad a fyddai hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Sirol y noson honno.  Dyma fo'n atgoffa bod adolygiad o ffiniau ward cymunedol wedi cael ei gwblhau yn 2014 a bod yna bosibilrwydd i’w adolygu eto fel rhan o'r adolygiad hwn.   Wrth gydnabod y cymhlethdodau ynghlwm, fe siaradodd am yr angen i ddatblygu’r  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

Item 11 - Presentation slides pdf icon PDF 908 KB

Dogfennau ychwanegol:

52.

Canlyniad Adolygiad Etholaethau Seneddol pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cyngor am argymhellion terfynol adroddiad y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er gwybodaeth, sydd yn gosod yr argymhellion yng Nghomisiwn Ffiniau i Gymru ar yr Adolygiad o Etholaethau Seneddol yng Nghymru 2018.

 

Yr argymhelliad i nodi bod yr adroddiad wedi symud gan y Cynghorydd Butler a’i eilio yn briodol.  Wrth gymryd y bleidlais, derbyniwyd y bleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

53.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 cyn ei gyhoeddi erbyn y dyddiau cau.  Dyma adroddiad statudol yn rhoi trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn cyflawni’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

 

Dosbarthwyd sleidiau’r cyflwyniad fel papur cyfeirio a thrafodwyd y canlynol:

 

·         Adroddiad Perfformiad Blynyddol

·         Cynllun y Cyngor 2017-23

·         Fformat a chynnwys

·         Trosolwg Ar Berfformiad 2017/18

·         Trosolwg o’r Cynnydd

·         Uchafbwyntiau

·         Meysydd i’w gwella

·         Trosolwg ar Berfformiad – Cynllun y Cyngor

·         Trosolwg o’r Crynodeb

·         Y Camau Nesaf

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge bod y wybodaeth wedi cael ei rannu gydag Aelodau Trosolwg a Chraffu.  Symudodd yr argymhelliad yn yr adroddiad gyda’r Cynghorydd Butler yn eilio hynny.

 

Roedd y Cynghorydd Peers eisiau codi nifer o ymholiadau gyda Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol yn dilyn y cyfarfod.  Ar gynnydd yn erbyn risgiau, adroddwyd bod 69.6% o’r risgiau yn aros yr un fath yn ystod y cyfnod ac wedi’u nodi yn y Gofrestr Risg (Atodiad 2 o’r adroddiad).

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 i’w gyhoeddi.

Item 13 - Presentation slides pdf icon PDF 647 KB

Dogfennau ychwanegol:

54.

Bwrdd Uchelgais Economaidd a'r Ddogfen Gais pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Bod y Cyngor yn mabwysiadu Dogfen y Cynnig fel (1) y sail i strategaeth ranbarthol fwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) y cynnig rhanbarthol ar gyfer y rhaglenni a’r prosiectau blaenoriaeth y bydd cynnwys Bargen Dwf yn cael ei lunio ohonynt ar gam Cytundeb Penawdau’r Telerau gyda Llywodraethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ddatblygu cynnig Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn dilyn mabwysiadu’r cam cyntaf o Gytundeb Llywodraethu ym mis Mehefin.  Ar y cam hwn, roedd disgwyl i’r holl bartneriaid rhanbarthol i ardystio’r Ddogfen Gynnig (yn gosod rhaglenni a phrosiectau i'w hystyried i'w cynnwys yn y Fargen Twf) i roi mandad i'w arweinwyr priodol i'w cynnwys mewn Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn yr Hydref.

 

Mae datblygu’r strategaeth wedi cynnwys gwaith cymhleth ar draws y rhanbarth, gyda'r nod o gael mynediad i gronfeydd cyfalaf o'r ddwy Lywodraeth i elwa twf busnes a chyflogaeth.  Byddai’r ail Gytundeb Llywodraethu i'w gael yn ddiweddarach yn pennu’r risgiau a’r goblygiadau ariannol ar gyfer y bartneriaeth ar y cyd ac i bartneriaid unigol.

 

Fel Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd, fe dalodd y Cynghorydd Butler deyrnged i’r Prif Weithredwr a'r Arweinydd am eu rhan mewn cyflawni cytundeb rhanbarthol yn amserol.  Dywedodd bod strategaeth am dwf economaidd yn rhoi llais rhanbarthol i gynghorau i sicrhau fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cyflawni ei addewidion.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton bod cynnydd hyd yma o ganlyniad i gydweithio i ddatblygu Bargen Twf i gwrdd ag anghenion y rhanbarth.  Yn galw am gefnogaeth Aelodau fe ddywedodd am ddisgwyliadau busnesau lleol ar gyfer y Fargen Twf rhanbarthol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at drafodaeth yng nghyfarfod mis Mehefin yn nodi bod y Ddogfen Gynnig  yn cael ei rannu ym mis Medi a gweithdy posib i gyfeirio at nifer y materion heb eu casglu.  Cynigodd bod yr adroddiad yn cael ei ohirio i ganiatáu amser i ystyried y materion mewn manylder.  Cafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Heesom wnaeth siarad am oblygiadau yn ymwneud a'r Bargen Twf ar yr isadeiledd priffyrdd.

 

Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y ddogfen wedi cael ei ddarparu yn unol â’r amserlen a adroddwyd ar gyfer Medi/Hydref fel y gwelir yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf.  Eglurodd nad oedd ymrwymiadau ariannol neu gytundeb yn cael eu gwneud ar y cyfnod hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod yn cefnogi’r gohiriad oherwydd ei bryderon am fuddion teg ar draws y Sir a ddylai yn ei farn ef dderbyn sylw.  Dywedodd bod y Cynllun Glannau Dyfrdwy yn hysbysu’r bwrdd economaidd ac y dylai fod yn Gynllun Sir y Fflint.

 

Ar y bleidlais, cafodd y cynnig i ohirio'r adroddiad ei wrthod.

 

Wrth symud yr argymhellion yn yr adroddiad fe ddywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod y penderfyniad yn hanfodol er mwyn cyflawni cytundeb rhanbarthol i symud i’r cam nesaf o drafodaethau.  Cafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Attridge.

 

Wrth gymryd y bleidlais, derbyniwyd y bleidlais.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr i drefnu gweithdy mewnol er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau ymhen amser.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Ddogfen Gynnig fel (1) sail strategaeth rhanbarthol mwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) sail ranbarthol ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau blaenoriaeth y bydd cynnwys Bargen Dwf yn cael ei dynnu ohonynt yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r wasg ac un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.