Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

CYFLWYNIADAU

Carfan Pêl-droed Ysgolion Cynradd Sir y Fflint

Enillwyr Adain y Gogledd Tom Yeoman (pencampwyr Gogledd Cymru), rownd derfynol Tarian Tom Yeoman (Pencampwyr Cymru) a tharian Phil Staley.

 

Gareth Thomas, Rheolwr Logisteg Strydwedd

I gydnabod ei lwyddiant fel Rheolwr Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy. Enillwyr Pencampwyr Cynghrair Cymru (ennill dyrchafiad i Gynghrair Cymru), Tlws Cymdeithas Pêl-droed Cymru a Chwpan Cookson.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i) Carfan Pêl-droed Ysgolion Cynradd Sir y Fflint

 

Estynnodd y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr groeso i Andrew Jones (Rheolwr a Phennaeth Ysgol Derwenfa yng Nghoed-llai) ac Ian Price, Jamie Davies a Reagen Nicholas (Hyfforddwr/Athro a dau gapten tîm) o Ysgol Gynradd Ewloe Green. Cawsant eu llongyfarch ar eu cyflawniad ffantastig yn ennill tair cystadleuaeth mewn blwyddyn: Adain y Gogledd Tom Yeoman (pencampwyr Gogledd Cymru), Rownd Derfynol Genedlaethol Tarian Tom Yeoman (Pencampwyr Cymru) a Tharian Phil Staley. Nodwyd mai Ysgolion Glannau Dyfrdwy/Sir y Fflint oedd yn dal y record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn rowndiau terfynol cenedlaethol Tarian Tom Yeoman, ar ôl ennill 16 gwaith ers cystadlu yn y gystadleuaeth.                    

 

Fel yr Aelod Cabinet Addysg, talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i Ysgolion Cynradd Sir y Fflint a chyfraniadau athrawon a rhieni o ran helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu llwyddiant.

 

Ar ran pawb yn y Gymdeithas Bêl-droed, dywedodd Mr Jones ei bod yn anrhydedd gofyn iddo fynychu mewn cydnabyddiaeth o waith caled pawb oedd yn gysylltiedig.

 

(ii) Gareth Thomas, Rheolwr Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy

 

Croesawyd swyddogion Cyngor Sir y Fflint, Gareth Thomas (Rheolwr Logisteg, Strydlun) ac Alun Winstanley (Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid) - Rheolwr a Rheolwr Cynorthwyol Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy – er mwyn cydnabod llwyddiant y clwb fel enillwyr Pencampwriaeth Cynghrair Cymru (ennill dyrchafiad i Gynghrair Cymru), Tlws Cymdeithas Pêl-droed Cymru a Chwpan Cookson. Enillodd Gareth hefyd dair gwobr ‘Rheolwr y Mis’ yn ogystal â chael ei wobrwyo’n ‘Reolwr y Tymor’ gan gylchgrawn Y Clwb Pêl Droed a’r Gynghrair.             

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Roberts gyflawniadau’r clwb yn ystod y tymor.                      

 

Wrth ddymuno’n dda i’r clwb yn y tymor newydd, dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod yn bleser mawr ganddo enwebu Gareth ac Alun oherwydd eu hymroddiad a’u hymrwymiad i’r clwb. Talwyd teyrnged yn yr un modd gan y Cynghorydd Owen Thomas a’r Cynghorydd Hutchinson.

 

Mewn ymateb, mynegodd Gareth ei ddiolch am y gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod.

15.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 24 Ebrill a 1 Mai 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Ebrill a 1 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo a llofnodi’r cofnodion gan y Cadeirydd fel cofnodion cywir.

16.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori'r Aelodau yn unol â hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gyngor y Prif Swyddog (Llywodraethu), datganodd y canlynol gysylltiad personol mewn perthynas â Chymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd (Eitem Agenda 14) fel aelodau o Gronfa Bensiwn Clwyd:

 

Y Cynghorwyr: Haydn Bateman, Marion Bateman, Sian Braun, Helen Brown, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Mared Eastwood, Gladys Healey, Dave Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Dave Mackie, Ian Roberts ac Ian Smith.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr holl Aelodau sy’n bresennol ar gyfer Eitem Agenda 15 ‘Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar gyfer 2018/19’.

17.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau’r Cadeirydd wedi’i gylchredeg cyn y cyfarfod. Soniodd y Cadeirydd yn arbennig am achlysur codi Lluman yr Awyrlu Brenhinol yn Neuadd y Sir i ddathlu ei ganmlwyddiant, a fynychwyd gan nifer fawr o bobl.

18.

Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

19.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

20.

Cwestiynau

Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

21.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 1 2018/19, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar 13 Mehefin 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

22.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 40 KB

Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd dau Rybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Hinds:

 

(i)         Cilfachau Parcio y tu allan i Fyngalos Pensiynwyr

 

‘Dylai’r holl gilfachau parcio y tu allan i fyngalos pensiynwyr ar draws Sir y Fflint fod ar eu cyfer nhw a cherbydau argyfwng yn unig. Dylid bod modd gorfodi hyn.’

 

I gefnogi ei Chynnig, siaradodd y Cynghorydd Hinds am ba mor bwysig ydyw i gilfachau parcio o’r fath fod ar gael i breswylwyr, eu gofalwyr ac yn bwysicaf oll, y gwasanaethau argyfwng a all fod angen mynediad brys. Yr oedd wedi derbyn sawl gwrthwynebiad i bobl eraill sy’n defnyddio’r cilfachau parcio, ynghyd â rhieni’n rhwystro mynediad yn ystod adegau ysgol.

 

Fel y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai, roedd y Cynghorydd Attridge yn deall yr angen am ryw fodd o reoli hyn ond siaradodd am y materion ehangach nad ydynt ond yn ymwneud â byngalos pensiynwyr. Cyfeiriodd at y rhaglen o waith amgylcheddol ar draws y Sir a oedd yn cynnwys creu darpariaeth barcio newydd, ac awgrymodd y gallai hyn ymgorffori adolygiad o gyfyngiadau parcio presennol yn yr ardaloedd dan sylw ynghyd â chanfod yn lle y gellid cyflwyno cardiau parcio ar gyfer preswylwyr, pe bai hynny’n cael ei gefnogi. Roedd yn cydnabod efallai na fyddai hyn yn mynd i’r afael â phryderon cyfredol y Cynghorydd Hinds, ond awgrymodd y gallai swyddogion ganfod y lleoliadau sy’n flaenoriaeth o ran bod mannau parcio’n cael eu camddefnyddio, a mynd ati i ddatblygu polisi cardiau parcio ar gyfer preswylwyr, fyddai’n cynnwys ymgynghori effeithiol â defnyddwyr a effeithir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hinds ei bod yn fodlon gyda’r diwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.                 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr, pe cefnogir hyn, y byddai swyddogion yn ymdrechu i flaenoriaethu’r mathau o lety a amlygwyd gan y Cynghorydd Hinds o fewn yr adolygiad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas o blaid y diwygiad, gan gynnwys yr ardaloedd fyddai’n cael eu blaenoriaethu, yn amodol ar yr adnoddau a’r cyllid sydd ar gael.

 

Roedd y Cynghorydd Heesom, David Williams ac Owen Thomas yn siarad o blaid y diwygiad hefyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carver p’un a fyddai’r adolygiad yn berthnasol i fyngalos sy’n eiddo i’r Cyngor yn unig, a nododd bod llety weithiau’n cael ei ddyrannu i breswylwyr sydd o dan oedran pensiwn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers am sicrwydd y byddai’r adolygiad yn cynnwys cynlluniau a oedd wedi’u nodi’n flaenorol ar draws Sir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylai’r adolygiad ystyried gwahanol anghenion preswylwyr sy’n defnyddio’r math hwn o lety, ynghyd â nifer cerbydau bob aelwyd.

 

Eglurodd y Cynghorydd Attridge y byddai’r adolygiad yn berthnasol i lety gwarchod ac y byddai’n cael ei gynnal ar wahân i’r adolygiad Strydlun. Nododd y Cynghorydd Hinds ei bod yn cytuno.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a godwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Strydlun a Chludiant) bod polisi ar gyfer cynlluniau parcio i breswylwyr wedi’i gyflwyno, oedd yn cynnwys proses fanwl ac ymgynghori helaeth. Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Chris Dolphin, dywedodd, tra bod rhestr o ardaloedd wedi’u blaenoriaethu, nid oedd cynllun wedi’i weithredu eto  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Cynllun y Cyngor 2018-19 pdf icon PDF 68 KB

Cefnogi Cynllun y Cyngor 2018-23 gan gydnabod yr uchelgeisiau yn y flwyddyn a’r amcanion i’w cyflawni.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Mullin yr argymhellion yn yr adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o Gynllun y Cyngor 2017-23 yr oedd ei strwythur a’i gynnwys wedi’i adnewyddu ar gyfer 2018-19. Diolchodd i’r Aelodau am eu mewnbwn yn y gweithdy diweddar ac yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Weithredwr y dylid cyhoeddi’r Cynllun yn flynyddol ac roedd y cynnwys yn destun adolygiad treigl. Tynnodd sylw at yr atodiadau gan gynnwys yr ymatebion i ymgynghoriad yr Aelodau a chadarnhaodd bod y Cabinet wedi argymell cymeradwyo’r Cynllun.

 

Gwnaeth y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu gyflwyniad oedd yn cwmpasu’r canlynol:

 

·         Sut mae’r Cynllun yn cael ei ddwyn ynghyd

·         Dewis y blaenoriaethau o fewn y flwyddyn

·         Cynnwys newydd: materion cenedlaethol

·         Ymgynghori ag aelodau

·         Manteision cynllunio            

·         Cynllun y Cyngor 2018/19 ar gyfer eleni

·         Defnyddio’r Cynllun

·         Y camau nesaf

 

Yn ystod y cyflwyniad, atgoffwyd pawb am rôl Trosolwg a Chraffu mewn monitro cynnydd, ynghyd â’r Pwyllgor Archwilio mewn monitro risgiau strategol. Byddai’r nifer isel o faterion arwyddocaol parhaus o ran tanberfformiad yn 2017/18 yn destun monitro pellach drwy gynlluniau gweithredu a gytunwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, er gwaethaf ceisiadau blaenorol, nid oedd y diwygiadau wedi’u hamlygu yn Rhan 2 o’r Cynllun a rhoddodd enghreifftiau o newidiadau i fesuriadau a thargedau lle dylid fod wedi rhoi eglurhad, yr oedd yn cytuno i’w rhannu’n llawn ar ôl y cyfarfod. I alluogi’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol o ran cyhoeddi’r Cynllun, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid newid yr argymhelliad i fabwysiadu Cynllun y Cyngor fel yr oedd, yn amodol ar adolygiad parhaus o dargedau ar gyfer gwella.

 

Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn awgrymu newidiadau i eiriad dau o’r effeithiau o dan y flaenoriaeth ‘Twf ac Adfywio’r Sector Busnes’ y dywedodd na ellid ei gynnwys ar yr adeg hon. O ran cyflawni ymrwymiadau drwy’r Fargen Twf Economaidd Ranbarthol (Eitem 2), cytunodd y Prif Weithredwr y dylid dileu’r ail frawddeg. O ran datblygu’r strategaeth gludiant ranbarthol a lleol (Eitem 7), cytunwyd y dylid diwygio’r pwynt bwled cyntaf i ddarllen ‘Cynnig y dylid cynnwys isadeiledd cludiant yng nghynnig y Fargen Twf Economaidd Ranbarthol’ i adlewyrchu’r nod hwn o fewn y flwyddyn.                                 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai’r newidiadau sydd wedi’u tracio yn Rhan 1 o’r Cynllun adlewyrchu eglurhad o ran pam y cafodd nodau eu dileu. Mewn ymateb i ymholiadau, darparodd y Prif Weithredwr eglurhad o’r derminoleg yn y ddogfen. O ran y flaenoriaeth ‘Cartrefi Modern, Effeithlon ac sydd wedi’u Haddasu’, tra bo’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn cydnabod y cais i adfer y nod o ddarparu cymaint â phosib o gartrefi fforddiadwy drwy’r broses gynllunio, amlygodd mai ychydig iawn o reolaeth oedd gan y Cyngor a ran dylanwadu ar berfformiad. Fel y cyfryw, awgrymodd y dylid cynnwys yr amcan fel trydydd pwynt bwled o dan ‘bydd cyflawniad yn cael ei fesur drwy’, ond heb darged gosodedig. Cytunodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Bithell y dylid mesur y cynlluniau’n unigol gan nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

Item 11 - Council Plan presentation pdf icon PDF 359 KB

Dogfennau ychwanegol:

24.

Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Cytundeb Llywodraethu pdf icon PDF 67 KB

Nodi cynnydd ar ddatblygiad Cais Bargen Twf a mabwysiadu’r Cytundeb Llywodraethu cam cyntaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar ddatblygu Cais Bargen Twf Gogledd Cymru i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau anweithredol o fewn Cytundeb Llywodraethu (GA1) yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o’r trefniadau gweithredol yn gynharach yn y dydd.

 

Rhoddwyd eglurhad o’r ddau faes penderfynu yr oedd eu hangen i gymeradwyo cam cyntaf y Cytundeb Llywodraethu fel y gellid diweddaru’r Cyfansoddiad yn gyfatebol. Nod Cais y Bargen Twf oedd bod o fudd i economi’r rhanbarth a byddai’r Strategaeth Twf yn galluogi ymagwedd unedig i gael mynediad i geisiadau am gyllid, fel y Gronfa Ffyniant. Fel y gofynnwyd yn y gweithdy diweddar i Aelodau, rhannwyd gwybodaeth ar fodel Llywodraethu diwygiedig y cydbwyllgor rhanbarthol statudol a gylchredwyd yn lle’r atodiad i’r adroddiad. Roedd hwn yn egluro proses benderfynu neu gyfrifoldebau ymgynghorol bob partner. Tra bo’r GA1 yn nodi sut y byddai’r pwyllgor yn gweithredu yn y cyfnod interim, byddai ail ran y Cytundeb yn cynnwys rhagor o fanylion am yr ymrwymiadau a byddai’n destun ymgynghoriad yn 2019.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai cyflawniadau o ran Cais y Fargen Twf yn cryfhau’r achos dros well cydweithio ar lefel ranbarthol, yr ystyriwyd ei fod yn ddewis tebygol yn lle diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd mai’r tri maes a nodwyd ar gyfer eu gwella drwy weithio ar lefel ranbarthol yng Ngogledd Cymru oedd yr economi, iechyd a gofal cymdeithasol a diogelwch cymunedol.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth ar gynnwys y GA1, gan egluro mai penderfyniad y Cyngor oedd cytuno ar drefniadau ar gyfer Trosolwg a Chraffu. Amlinellodd y pedwar mesur diogelu fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac atgoffodd bawb y byddai’r ddogfen gynnig yn cael ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Medi.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, roedd y Cynghorydd Butler yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan rai Aelodau ond amlygodd bwysigrwydd y Fargen a chadw rheolaeth leol dros faterion Llywodraethu penodol.              

 

Cododd y Cynghorydd Peers sawl pwynt o ran y modd yr oedd y ddogfen wedi’i chyflwyno y cytunodd y Prif Swyddog fynd i’r afael â hwy wrth gwblhau’r GA1 ar ôl derbyn sylwadau pob cyngor. Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad o sawl maes o fewn y GA1 gan gynnwys cyfraniadau gan y chwe chyngor a chytunodd i ailgylchredeg y Strategaeth Twf i’r Aelodau. O ran yr awgrym i gynnwys ‘lle’n bosibl’ mewn perthynas ag ymrwymo digon o adnoddau i gyflenwi’r Fargen Twf, amlygodd y swyddogion bwysigrwydd pob cyngor yn anrhydeddu ei ran o’r ymrwymiadau fel rhan o’r cytundeb.

 

Tra bo’r Cynghorydd Heesom yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol drwy’r Fargen Twf, nododd unwaith eto ei bryderon ynghylch graddau’r manteision.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid yr ymagwedd ranbarthol ond cwestiynodd y manteision ar gyfer y Sir gyfan. Cyfeiriodd at yr amcanion a nodwyd yn y GA1 a dywedodd y dylai’r eitemau sydd o fudd uniongyrchol i Sir y Fflint fod wedi cael eu dwyn i sylw’r Cyngor yn gynharach er mwyn egluro i’r Aelodau beth yr oedd gofyn iddynt ei gytuno. Holodd am  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

Enc. 3 - Revised Governance Map circulated at the meeting pdf icon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

25.

Cynllun gostyngiadau Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal pdf icon PDF 92 KB

Ystyried rhoi cynllun gostyngiadau ar waith i rai sy’n gadael gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad ar y cynigion i ddarparu gostyngiad o hyd at 100% o dalu Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal sydd rhwng 18 a 25 mlwydd oed sy’n preswylio yn Sir y Fflint.

 

Fel yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd y Cynghorydd Christine Jones yn croesawu’r cynigion i helpu pobl ifanc yn y cyfnod o newid i fod yn oedolion ac i fyw’n annibynnol.

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw mai cost amcangyfrifiedig ariannu’r cynllun fyddai tua £14K y flwyddyn ac y byddai hyd at ddeg unigolyn yn Sir y Fflint yn gymwys i gael gostyngiad, gan gynnwys rhai sy’n gadael gofal sy’n preswylio yn Sir y Fflint ond a fu dan ofal cyngor arall yn flaenorol. Os cefnogir hyn gan Aelodau, gofynnid i’r Cabinet fabwysiadu’r cynllun newydd i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2018.

 

Fel Cadeirydd y Fforwm Gwasanaethau Plant, roedd y Cynghorydd Bithell yn croesawu’r cynigion.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Carver, eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai’r polisi ar gyfer y cynllun yn ystyried gwahanol amgylchiadau a threfniadau byw.        

 

Wrth gefnogi’r cynigion, siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch yr angen am gefnogaeth barhaus i rai sy’n gadael gofal ar ôl iddynt droi’n 18 oed. Dywedodd y Prif Swyddog (Y Gwasanaethau Cymdeithasol) bod cymorth ar gael i rai sy’n gadael gofal hyd at yr adeg y maent yn 25 oed, yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn. Cyfeiriodd at gynlluniau i gryfhau ymhellach y cymorth i rai sy’n gadael gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn darparu adborth i’r Cabinet ar y posibilrwydd o gyflwyno cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i rai sy’n gadael gofal; a

 

(b)       Bod y Cyngor yn cefnogi datblygiad cynllun Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor ar gyfer rhai sy’n Gadael Gofal, yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol y Cabinet, gyda’r nod o ddarparu gostyngiadau o hyd at 100% i bawb sy’n gadael gofal hyd at 25 mlwydd oed.

26.

Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Clwyd pdf icon PDF 70 KB

I gytuno y bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymeradwyo ei Gyfrifon Blynyddol ei hun ar ôl archwiliad allanol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Llywodraethu) yr adroddiad i alluogi Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, fel y corff mwy priodol, i gymeradwyo datganiad cyfrifon terfynol Cronfa Bensiwn Clwyd, yn hytrach na’r Cyngor Llawn. Byddai’r ymagwedd hon, a gefnogwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn dal i gynnwys ystyriaeth o’r cyfrifon terfynol gan y Pwyllgor Archwilio.

 

Ar ran Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd, cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dave Hughes, ei gefnogaeth ar gyfer yr ymagwedd hon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod datganiad cyfrifon terfynol Cronfa Bensiwn Clwyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio ac yn cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd.

27.

Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 71 KB

I’r Cyngor gymeradwyo’r rhestr o gydnabyddiaethau ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2018/19 ar gyfer eu cyhoeddi, gan fod yr holl benodiadau wedi eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar gyfer 2018/19 i’w chymeradwyo’n ffurfiol, yn amodol ar ddau ddiwygiad o dan adran 14 ac atodlen 1.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar y ddau ddiwygiad, bod y Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar gyfer 2018/19 oedd wedi’i chwblhau yn cael ei chymeradwyo ar gyfer ei chyhoeddi; a

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enw’r aelod etholedig terfynol i’r rhestr ar ôl ei benodi.

28.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.