Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||||
Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y Cadeirydd a oedd yn gadael, cyflwynodd y Cynghorydd Gladys Healey ei hadolygiad o’r flwyddyn 2023-24. Mynegodd ei diolch am gael y cyfle i gyflawni'r swydd a diolchodd i'w g?r a'i chonsort y Cynghorydd David Healey, ei Chaplan a'r swyddogion a oedd i gyd wedi ei chefnogi. Aeth ymlaen i amlygu llwyddiannau codi arian ar gyfer ei helusennau dewisedig ac roedd yn ddiolchgar am gefnogaeth yr Is-Gadeirydd a’i Gonsort yn ystod y flwyddyn heriol hon, a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer eu tymor yn y swydd. |
|||||||||||||||||||||
Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2024/25, a'r Cadeirydd i dderbyn Cadwyn y Swydd a Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Talodd y Cynghorydd Mike Peers deyrnged i'r Cadeirydd ymadawol am y ffordd yr oedd wedi cyflawni ei dyletswyddau trwy gydol ei blwyddyn yn y swydd. Wrth enwebu’r Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25, soniodd am ei hanes helaeth mewn llywodraeth leol a’i gyflawniadau personol, gan ddymuno llwyddiant iddo yn ei swydd newydd gyda chefnogaeth ei Gonsort Jeanne.
Wrth eilio’r cynnig, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts o blaid rhinweddau personol y Cynghorydd Hutchinson a manteisiodd ar y cyfle i ganmol y Cynghorydd Gladys Healey am ei blwyddyn lwyddiannus.
Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25. Mewn ymateb, diolchodd i'r Aelodau am yr anrhydedd a roddwyd iddo ac ar ôl talu teyrnged i'r Cynghorydd Gladys Healey am ei hymarweddiad yn ystod y flwyddyn, arweiniodd ddiolchiadau gan y Siambr.
Arwisgwyd y Cynghorydd Hutchinson gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd sy’n ymddeol, ac arwyddodd ei Ddatganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.
Cyflwynwyd Bathodyn y Cadeirydd oedd yn ymddeol i’r Cynghorydd Gladys Healey a chyflwynwyd anrheg i’w Chonosrt, y Cynghorydd David Healey.
Arwisgwyd Consort y Cadeirydd, Mrs Jeanne Hutchinson, gyda Chadwyn y Swydd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|||||||||||||||||||||
Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor ar Gyfer 2024/25, a'r Isgadeirydd i dderbyn Cadwyn y Swydd a Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Michelle Perfect y dylid ethol y Cynghorydd Mel Buckley yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25 a chanmolodd ei gwasanaeth mewn llywodraeth leol.
Wrth eilio’r cynnig, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts o blaid rhinweddau personol a phroffesiynol y Cynghorydd Buckley, gan ddymuno’n dda iddi yn y swydd.
Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Mel Buckley yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25. Ymatebodd y Cynghorydd Buckley trwy ddiolch am yr anrhydedd.
Arwisgwyd y Cynghorydd Buckley gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, ac arwyddodd ei Datganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr. Byddai Consort y Cynghorydd Buckley, Joe Stonely, yn cael ei arwisgo â Chadwyn y Swydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cynghorydd Mel Buckley yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|||||||||||||||||||||
Ethol Arweinydd y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson o blaid ei enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Ian Roberts fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25. Ategwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd Chris Dolphin a eiliodd y cynnig.
Eglurodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ei resymau dros fethu â chefnogi’r enwebiad a’i benderfyniad i ffurfio gr?p gwleidyddol newydd, gan alw ar y grwpiau eraill i gydweithio’n adeiladol.
Eiliwyd enwebiad y Cynghorydd Helen Brown ar gyfer y Cynghorydd Richard Jones fel Arweinydd y Cyngor gan y Cynghorydd Mike Peers.
Mewn perthynas ag enwebiadau pellach, cynigiodd y Cynghorydd Gillian Brockley y Cynghorydd Carolyn Preece ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Ibbotson.
Eiliwyd enwebiad y Cynghorydd David Coggins Cogan ar gyfer y Cynghorydd Andrew Parkhurst gan y Cynghorydd Carolyn Preece.
Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Gofynnodd y Cynghorwyr Coggins Cogan a Sean Bibby ill dau am bleidlais wedi'i chofnodi ar y pedwar enwebiad, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Richard Jones: Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Helen Brown, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Mike Peers, David Richardson, Dale Selvester, Jason Shallcross, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Andrew Parkhurst: Y Cynghorwyr: David Coggins Cogan ac Andrew Parkhurst
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Carolyn Preece: Y Cynghorwyr: Gillian Brockley, Alasdair Ibbotson, Carolyn Preece, Dan Rose a Sam Swash
Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol o blaid y Cynghorydd Ian Roberts: Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush, Linda Thomas ac Arnold Woolley.
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|||||||||||||||||||||
Arweinydd y Cyngor i Benodi'r Cabinet Pwrpas: Nodi Penodiad Aelodau’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Ian Roberts ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet. Eglurodd y byddai'n cymryd cyfrifoldeb am Hamdden nes bo’r sefyllfa bresennol wedi'i datrys. Aeth ymlaen i ddiolch i’r Cynghorydd Billy Mullin am ei flynyddoedd o wasanaeth ar y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet a’u portffolio a restrir isod.
|
|||||||||||||||||||||
Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau PDF 127 KB Pwrpas: Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd yn ymdrin â materion y mae angen penderfynu arnynt yn y Cyfarfod Blynyddol, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol. Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.
Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts argymhellion 1, 2 a 3 (yn amodol ar adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac enw a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd). Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Ted Palmer ac fe’i cymeradwywyd wedi cynnal pleidlais ar y mater.
(i) Penodi Pwyllgorau
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2024/25:
Pwyllgor Apeliadau Pwyllgor Newid Hinsawdd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Pwyllgor Cwynion Pwyllgor Apeliadau Cwynion Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau) Pwyllgor Trwyddedu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn: · Tai a Chymunedau · Adnoddau Corfforaethol · Addysg, Ieuenctid a Diwylliant · Yr Amgylchedd a’r Economi · Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Pwyllgor Cynllunio Pwyllgor Safonau
(ii) Pennu maint Pwyllgorau
PENDERFYNWYD:
Bod maint pob pwyllgor fel y nodir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad.
(iii) Cylch Gorchwyl Pwyllgorau
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor, fel y nodir yn y Cyfansoddiad, yn amodol ar adolygiad o'r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Ar y pwynt hwn, cafwyd gohiriad er mwyn ystyried newidiadau i’r cydbwysedd gwleidyddol yn sgil ffurfio'r gr?p gwleidyddol newydd. Ar ôl ailymgynnull, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) newid yn nhrefn yr eitemau gan y byddai penodi Cadeiryddion Pwyllgorau yn helpu i lywio Cydbwysedd Gwleidyddol, a rhannwyd dau opsiwn diwygiedig. O’i roi i bleidlais, cytunwyd â hyn.
(vi) Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff fel y nodir ym mharagraff 1.17, gan nodi bod cyfyngiadau o ran cymhwysedd. Er bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet, roedd gofyn i’r Cyngor benodi Cadeiryddion ar gyfer pump o’r Pwyllgorau.
Ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, eiliwyd yn briodol enwebiad y Cynghorydd Helen Brown ar gyfer y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ac enwebiad y Cynghorydd David Healey ar gyfer y Cynghorydd Geoff Collett.
Awgrymodd y Cynghorydd David Healey fod yr adolygiad o'r Cylch Gorchwyl yn rhoi mwy o ffocws i warchod natur trwy amrywiaeth.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.
Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Collett: Y Cynghorwyr: Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|||||||||||||||||||||
Item 8 - Updated Political Balance PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||
Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru PDF 110 KB Pwrpas: Ceisio cytundeb bod Cyngor Sir y Fflint y mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones y Siarter Rhianta Corfforaethol, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru yn cael eu tanategu gan rymuso, cydraddoldeb, dim gwahaniaethu, cyfranogiad, ac atebolrwydd ac amddiffyn. Gofynnwyd i’r aelodau ailddatgan eu cyfrifoldeb ar y cyd fel ‘rhieni corfforaethol’ drwy fabwysiadu’r Siarter, gydag ymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur llwyddiant sefydliadol ac ymrwymiad i’r Siarter.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Chris Bithell.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’; a
(b) Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol. |
|||||||||||||||||||||
Amserlen o Gyfarfodydd 2024/25 PDF 92 KB Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar Gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2024/25 yn dilyn ymgynghoriad. Roedd nifer o gonfensiynau wedi’u mabwysiadu er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng cyfarfodydd a bodloni dymuniadau’r Aelodau lle bo hynny’n bosibl. Byddai argymhelliad ychwanegol ar gyfer newid dyddiadau / amseroedd mewn amgylchiadau eithriadol yn ôl disgresiwn y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn helpu i adeiladu hyblygrwydd.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, gofynnodd y Cynghorydd Richard Lloyd i’r ymweliadau safle a drefnwyd ar gyfer 27 Awst a’r cyfarfod ar 28 Awst gael eu symud i 2 Medi a 4 Medi yn y drefn honno. Gofynnodd hefyd a fyddai modd dychwelyd at gynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio am 1pm ar ddyddiau le nad oedd cyfarfodydd wedi’u trefnu yn y boreau. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mike Peers.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones am gael symud cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 16 Ionawr a 13 Chwefror 2025 i'r diwrnodau canlynol (boreau Gwener) oherwydd bod cyfarfodydd eraill wedi’u trefnu ar gyfer y prynhawniau. Awgrymodd efallai y byddai Aelodau'r Pwyllgor hwnnw'n dymuno ystyried slotiau rheolaidd ar ddydd Gwener er mwyn osgoi gwrthdaro rhwng cyfarfodydd.
Siaradodd Aelodau eraill o blaid cael gwared ar y confensiwn i gynnal cyfarfodydd pwyllgor ar ddiwrnodau penodedig a fyddai'n caniatáu hyblygrwydd i'r dyddiadur.
Eglurodd y Prif Swyddog y newidiadau arfaethedig a fyddai'n cael eu symud ymlaen gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a'r tîm.
Ar y sail honno, cafodd y newidiadau eu rhoi i bleidlais a chawsant eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2024/25, yn amodol ar y newidiadau canlynol: · Dileu'r gofyniad i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnal ar ddiwrnodau penodedig. · Symud dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio ym mis Awst i'r wythnos ganlynol. · Newid amser cychwyn cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i 1pm pan nad oes cyfarfodydd wedi’u trefnu yn y boreau. · Symud dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym misoedd Ionawr a Chwefror 2025 i foreau Gwener.
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cael awdurdod dirprwyedig, ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor perthnasol, i ddiwygio'r Rhestr Cyfarfodydd mewn amgylchiadau eithriadol. |
|||||||||||||||||||||
Updated Schedule of Meetings 2024-25 PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd pum aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod. |