Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Janet Axworthy, Sean Bibby a Hilary McGuill gysylltiad personol ar yr Isafswm Darpariaeth Refeniw (eitem 8 ar yr agenda) fel aelodau bwrdd NEW Homes.
Datganodd y Cynghorwyr Dennis Hutchinson ac Andy Williams gysylltiad personol ar Gyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2021/22 (eitem 4 ar yr agenda) fel darparwyr trafnidiaeth ar gyfer y Cyngor.
Datganodd y Cynghorydd Martin White gysylltiad personol ar Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (eitem 6 ar yr agenda) fel tenant t? Cyngor.
Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol ar y Datganiad Polisi Cyflog ar gyfer 2021/22 (eitem 9 ar yr agenda) oherwydd cysylltiad agos iawn â phobl a gyflogwyd gan y Cyngor: Y Cynghorwyr Bernie Attridge, Chris Bithell, Andy Dunbobbin, Billy Mullin, Hilary McGuill, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Kevin Rush, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ralph Bach, Ian Smith, Carolyn Thomas ac Andy Williams. |
|
Deisebau Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 - Y cam cau olaf PDF 79 KB I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22 ar argymhelliad y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn argymhellion y Cabinet i'r Cyngor bennu Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor sy’n gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22.
Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw gyflwyniad yn trafod y materion allweddol canlynol:
· gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys · gofyniad cyllideb ychwanegol 2021/22 · Datrysiadau cyllideb 2020/21 · Treth y Cyngor · cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol · risgiau agored · Cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a heb eu clustnodi · barn broffesiynol a sylwadau i gloi · edrych ymlaen a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
Yn dilyn proses ymgynghori helaeth ar y gyllideb, roedd yr holl faterion a oedd yn weddill wedi'u cau gan y Cabinet ym mis Ionawr. Ar ôl cael ei gefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, argymhellion y Cabinet oedd cydbwyso'r gyllideb yn seiliedig ar y gofyniad isafswm cyllideb heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog ac eithrio cyflogeion â chyflogau o dan £24k. Roedd y Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Rhagfyr yn gynnydd ariannol o £7.392m (3.7%) uwchlaw swm 2020/21 ac roedd ymateb ffurfiol y Cyngor yn nodi barn gyfunol y Cabinet ac Aelodau etholedig. Roedd y dull doeth a chytbwys o ymdrin â'r gyllideb wedi bod yn llwyddiannus wrth ddiogelu gwasanaethau, ond roedd graddfa’r sefyllfa argyfwng wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol a fyddai'n parhau hyd at 2021/22.
Roedd y cynnydd blynyddol o 3.95% yn Nhreth y Cyngor yn dilyn y gyfarwyddeb glir a osodwyd gan y Cyngor i gynnal lefel fforddiadwy o dan 5%. Roedd hyn yn cynnwys 3.45% ar gyfer cyllidebau'r Cyngor a 0.5% fel cyfraniadau i gyrff rhanbarthol gan gynnwys Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Manylwyd ar braeseptau ychwanegol ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau (cynnydd blynyddol o 5.14%) a'r rhai ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned unigol yn yr adroddiad.
Cynigwyd yr argymhellion ar gyfer y Cabinet a'r Cyngor gan Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts, a ddiolchodd i'r Prif Weithredwr a'r swyddogion am eu gwaith drwy gydol y broses o bennu'r gyllideb. Er ei fod yn cydnabod effaith cynnydd lleol yn Nhreth y Cyngor, croesawodd ddiogelu gwasanaethau'r Cyngor a buddsoddi mewn blaenoriaethau fel ysgolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Siaradodd hefyd am nifer o risgiau agored fel Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir lle'r oedd y Cyngor wedi gwneud darpariaeth ychwanegol yn y gyllideb sylfaenol a galwodd ar Lywodraeth Cymru am gyllid wrth gefn a oedd yn cael ei gadw’n genedlaethol.
Fel yr Aelod Cabinet dros Gyllid, eiliodd y Cynghorydd Glyn Banks y cynnig a chyfeiriodd at ymateb y Cyngor i'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys y galw a wnaed dro ar ôl tro am adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol.
Cydnabu'r Cynghorydd Peers yr heriau o ran cau'r bwlch yn y gyllideb a diogelu gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cododd bryderon am effaith y sefyllfa argyfwng a dywedodd fod angen adolygiad o wariant, gyda chostau cynyddol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir yn ... view the full Cofnodion text for item 60. |
|
Item 4 - Budget presentation slides PDF 388 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22 PDF 99 KB Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2021-22 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw yr adroddiad i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2021/22 fel rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Gofynnwyd i'r Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.
Fel y soniwyd yn yr eitem flaenorol, tri praesept ar wahân oedd lefel gyffredinol taliadau Treth y Cyngor yn erbyn pob eiddo. Roedd y cynnydd o 3.95% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau o ran fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid llywodraeth ganolog a'r Grant Cynnal Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac yn cynnal graddfa a chymhlethdod y galw am wasanaethau. Roedd y cyfanswm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir o £90,678,757; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru o £19,868,694; a phraesept gyfunol o £3,110,430 ar draws 34 Cyngor Tref a Chymuned.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a'u heilio gan y Cynghorydd Glyn Banks a ganmolodd swyddogion yn y Tîm Refeniw am eu gwaith.
Manteisiodd y Cynghorydd Banks ar y cyfle i ddiolch i drigolion am dalu eu Treth y Cyngor ac ailadroddodd y cymorth sydd ar gael i'r rhai a oedd yn cael trafferth talu.
Estynnodd y Cadeirydd ei diolch hefyd i'r Tîm Refeniw am eu cefnogaeth i breswylwyr a busnesau drwy gydol y sefyllfa argyfwng. Cymeradwywyd hyn gan y Prif Weithredwr a gydnabu rôl y Timau Refeniw a Budd-daliadau yn ystod y cyfnod.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Peers, rhoddodd y Rheolwr Refeniw eglurhad ar yr eithriadau a gymhwyswyd i anheddau gwag hirdymor a byddai'n darparu ymateb ar wahân ar swm treth y cyngor a gynhyrchir o gynllun premiymau Treth y Cyngor.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Treth y Cyngor 2021-22 yn cael ei gosod fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
(b) Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â darparu disgownt yn lefel taliadau Treth y Cyngor 2021/22 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Hefyd, lle nad yw eithriadau'n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 50% uwchlaw cyfradd safonol Treth y Cyngor ar gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor; a
(c) Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi nad ydynt wedi eu talu. |
|
Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) PDF 73 KB Cyflwyno, Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22, Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gymeradwyo cyllideb Refeniw a Chyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2021/22, y Cynllun Busnes HRA a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 blynedd fel y cymeradwywyd gan y Cabinet. Rhoddodd y Prif Swyddog a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) gyflwyniad yn cwmpasu:
· Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru (LlC) · Codiad Rhent Arfaethedig 2021/22; · Llywodraeth Cymru - Cytundeb Rhentu Ehangach · Taliadau gwasanaeth · Incwm arall · Cynnig Buddsoddi i Arbed · Pwysau ac Arbedion Effeithlonrwydd Arfaethedig · Cronfeydd Wrth Gefn · Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 · Buddsoddiad Cyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai · Rhaglen Gyfalaf · Datblygu Safonau Ansawdd Tai diwygiedig Cymru (SATC) · Rhaglen Gyfalaf 2021/22<0} · Arian Cyfalaf HRA 2021/22
Roedd y cynnydd arfaethedig mewn rhenti yn bodloni gofynion Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru i ystyried fforddiadwyedd a gwerth am arian i denantiaid. Byddai'r cynnydd graddol gohiriedig tuag at adennill costau llawn taliadau gwasanaeth yn helpu i ddiogelu tenantiaid yn ystod y sefyllfa argyfwng ac i ganiatáu gwaith pellach i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel. Dangosodd diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf fod 447 o eiddo wedi'u darparu hyd yma drwy'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) a 148 o unedau eraill y tu allan i SHARP gan greu capasiti ychwanegol yn y farchnad dai yn Sir y Fflint.
Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Dave Hughes a oedd yn canmol y modd y darperir gwasanaethau tai er gwaethaf heriau'r sefyllfa argyfwng. Dywedodd mai'r cynnydd arfaethedig mewn rhenti oedd yr isaf a osodwyd gan y Cyngor ers pum mlynedd ac y byddai'r Rhaglen Gyfalaf uchelgeisiol yn sicrhau buddsoddiad parhaus yn rhaglen adeiladu tai'r Cyngor.
Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Ian Dunbar a dalodd deyrnged i waith y Prif Swyddog a'i dîm, a chefnogaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau, yr oedd yn Gadeirydd arno.
Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell yr adroddiad ac yn benodol, darparu 595 o unedau tai a chynnal lefelau SATC i ddiwallu anghenion pobl leol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad ar effaith yr adolygiad o safleoedd garejys.
Hefyd yn siarad o blaid, roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn croesawu gwariant cyfalaf a gweithio mewn partneriaeth ar lety i'r digartref.
Ymatebodd y Prif Swyddog i gwestiwn y Cynghorydd Mike Peers ar y dull o ymdrin â cham nesaf cynlluniau tai SHARP. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth am y gyllideb atgyweirio a chynnal a chadw ac ailfuddsoddi yn y Rhaglen Gyfalaf gan gynnwys symiau gohiriedig.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Bod argymhellion y Cabinet ar 16 Chwefror 2021 yn cael eu cymeradwyo:
(a) Bod y Cyngor yn cefnogi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 fel a nodir yn yr atodiadau gyda’r adroddiad;
(b) Bod y Cyngor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 0.68% (a hyd at £2);
(c) Bod y Cyngor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnydd o £0.20 yr wythnos ... view the full Cofnodion text for item 62. |
|
Item 6 - HRA presentation slides PDF 513 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2021/22 PDF 122 KB Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Rheoli ddrafft y Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'w chymeradwyo, fel yr argymhellwyd gan y Cabinet. Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r Strategaeth ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Archwilio a'r Cabinet.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Glyn Banks a'i eilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021/22. |
|
Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2021/22 PDF 85 KB I cymeradwyo’r polisi ar Isafswm Darpariaeth Refeniw. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo'r polisi blynyddol ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion yn ddarbodus. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw newidiadau i'r argymhellion a wnaed gan y Cabinet.
Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Banks a’u heilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor:-
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2021/22 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
· Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2021/22 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd;
(b) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai:-
· Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrif Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2021/22 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled; a
(c) Cymeradwyo fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-
· Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.
· Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes.Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, ac ni ellir defnyddio’r rhain ddim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled.Bydd yr ad-daliad cyfalaf/derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad. |
|
Datganiad Polisïau Tâl ar Gyfer 2020/21 PDF 90 KB Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r nawfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y Datganiad ar Bolisïau Tâl blynyddol ar gyfer 2021/22 gan grynhoi’r ymagwedd bresennol tuag at gyflog a thâl mewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd yn rhwymedigaeth statudol i gyhoeddi’r Datganiad ar Bolisïau Tâl bob blwyddyn cyn dyddiad cau penodol.
Wrth grynhoi'r prif newidiadau, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol at argymhelliad 2 yn yr adroddiad a dywedodd ei fod yn disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i Lywodraeth y DU dynnu’r Rheoliadau Cap Ymadael y Sector Cyhoeddus yn ôl.
Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Billy Mullin i'r swyddogion am yr adroddiad.
Awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid diwygio'r adran ar Honorariwm i gydnabod cyflogeion a oedd wedi'u secondio i rolau eraill yn ystod y sefyllfa argyfwng.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod trefniadau o'r fath yn cael eu gwneud.
Fel yr awgrymwyd gan y Prif Weithredwr, cynigiodd y Cynghorydd Peers y dylid ychwanegu'r geiriad 'mewn amgylchiadau eithriadol eraill' at y polisi i adlewyrchu hyn.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Mullin, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Carver. Cafodd yr argymhellion eu rhoi i'r bleidlais a'u cynnal. <0}
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2021/22 yn cael ei gymeradwyo:
(b) Bod y Cyngor Sir yn nodi'r sefyllfa genedlaethol ar y Rheoliadau Cap Ymadael a newidiadau posibl i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) a allai olygu newidiadau i Ddatganiadau Disgresiwn ar Bolisïau Tâl a Phensiynau 2021;
(c) Bod y Cyngor Sir yn dirprwyo awdurdod i'r Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol i ddiweddaru Datganiad ar Bolisïau Tâl 2021/22 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol fel ei fod yn parhau'n gywir ac yn gyfredol; a
(d) Bod y polisi'n cynnwys y geiriad 'mewn amgylchiadau eithriadol eraill' i adlewyrchu sefyllfaoedd lle gall taliadau Honorariwm fod yn berthnasol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Rhybudd o Gynnig Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |