Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter on 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019.
Cywirdeb
Tudalen 15, eitem 90 - Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint. Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell i’r cofnodion gael eu diwygio i gofnodi diolch i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am eu gwaith caled, ar y cyd ag Aelodau, i gyflawni cyfaddawd a chanlyniad cytunedig mewn perthynas â’r cynigion a gyflwynwyd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad uchod, fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.
|
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd David Healey gysylltiad personol yn eitem agenda 9b, Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2019/20 - 2021/22 gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun. Datganodd y Cynghorydd Gladys Healey hefyd gysylltiad personol yn eitem 9b gan ei bod hithau’n llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer Aelodau a oedd yn llywodraethwyr ysgol mewn perthynas â’r ysgolion y cyfeiriwyd atynt o dan eitem agenda 9b – Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2019/20 – 2021/22.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Gyhoeddiadau’r Cadeirydd wedi ei gylchredeg i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Kevin Hughes ddarparu adborth i Aelodau ar yr ymweliad gan unigolion o Hosbis T? Gobaith â Neuadd y Sir. Diolchodd y Cynghorydd Hughes i’r Cadeirydd a’i wraig am gynnal y digwyddiad a siaradodd am y gwaith caled a’r hyn a gyflawnwyd gan unigolion a fu’n ysbrydoledig wrth godi arian ar gyfer Hosbis T? Gobaith drwy ddigwyddiadau a chynlluniau noddedig. Cymerodd y Cynghorydd Hughes y cyfle i wahodd y Cadeirydd a’i gydweddog, yr Is-gadeirydd a’i chydweddog, a’r holl Aelodau, i ymweld â T? Gobaith i weld y gofal a’r cymorth ymroddedig a ddarperir.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-gadeirydd am fynychu Gwledd Arglwydd Faer Caer ar ei ran yn ddiweddar.
|
|
DEISEBAU Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeisebau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Pwrpas: Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim erbyn y dyddiad cau.
|
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.9.4(A): doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim erbyn y dyddiad cau.
|
|
RHYBUDD O GYNNIG Pwrpas: Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim erbyn y dyddiad cau.
|
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 PDF 84 KB Pwrpas: Derbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i gau’r gyllideb flynyddol ar gyfer 2019/20 yn dilyn trafodaeth y Cyngor ar 29 Ionawr a’r gwaith adolygu pellach ar ddewisiadau cyllid corfforaethol ymhellach a’r risgiau a gymerwyd yn yr interim. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 er mwyn derbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i gau’r gyllideb flynyddol ar gyfer 2019/20 yn dilyn trafodaeth y Cyngor ar 29 Ionawr a’r gwaith adolygu pellach ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a’r risgiau a gymerwyd yn yr interim. Roedd adroddiad y Cyngor o’r 29 Ionawr 2019, a oedd yn cynnwys adroddiad y Cabinet o 22 Ionawr 2019 wedi eu hatodi i’r adroddiad.
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y ddirprwyaeth i’r Senedd a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, i geisio gwelliant i’r Setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019/20, ynghyd â’r cais a wnaed gan Aelodau yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Ionawr i swyddogion adolygu meysydd penodol o gyllid corfforaethol a dod yn ôl gyda rhagor o gyngor technegol a barn broffesiynol. Dywedodd mai’r meysydd penodol oedd:
Gofynnwyd am eglurhad pellach hefyd o’r posibiliadau o ran gohirio dyledion o dan Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at weithdy briffio’r gyllideb ar gyfer yr holl Aelodau a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, er mwyn cael trafodaeth fanwl am gyllid corfforaethol. Dywedodd bod rhagor o gyngor technegol a barn broffesiynol yn cael eu darparu mewn cyfres o nodiadau cyngor technegol a restrwyd fel papurau cefndir i’r adroddiad, ac roeddynt ar gael ar gais.
Cyflwynodd y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog (Llywodraethu), y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw, gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd allweddol a ganlyn:
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai dyletswydd y Cyngor ar y cyd yw gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys. Cyfeiriodd at bwysigrwydd cadw at ddyddiadau cau ac eglurodd, o ran preswylwyr a oedd yn talu eu Treth Gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, eu bod yn gorfod cael rhybudd o bythefnos ymlaen llaw o gynnydd mewn taliadau, ac felly byddai angen cymeradwyo cyllideb y Cyngor cyn diwedd mis Chwefror er mwyn gallu cynnig y cyfleuster talu hwn mewn da bryd. Cyfeiriodd at y broses o osod y gyllideb a’r cyngor technegol a phroffesiynol a ddarparwyd i arwain Aelodau.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn union cyn y Cyngor Sir, wedi argymell penderfyniad i’r Cyngor Sir ac wedi gofyn am gael dosbarthu manylion ... view the full Cofnodion text for item 9a |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN GYFALAF CRONFA'R CYNGOR 2019/20 - 2021/22 PDF 67 KB Pwrpas: I gymeradwyo cynlluniau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen Gyfalaf dros gyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad i gymeradwyo cynlluniau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen Gyfalaf dros gyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22.
Rhoddodd y Prif Swyddog y wybodaeth gefndirol a chyflwynodd y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, o ran datblygu rhaglen gyfalaf 2019/20 a 2021/22. Cyfeiriodd at y diffyg o £8.216m yn Nhabl 1 – cyllid a amcangyfrifir 2018/19 – 2020/19, y diffyg o £1.428m yn Nhabl 2 – cyllid a amcangyfrifir 2018/19 – 2020/21, a’r swm cyllid o £26.740m yr amcangyfrifir y bydd ar gael 2019/20 – 2021/22.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at Raglen Gyfalaf Gyffredinol 2019/20 - 2021/22 a dyraniadau asedau statudol/rheoleiddiol ac a gedwir 2019/20 - 2021/22. Adroddodd ynghylch dyraniadau arfaethedig 2019/20 a 2021/22 fel y manylwyd yn Nhabl 4, cynlluniau buddsoddi arfaethedig 2019/20 - 2021/22 fel y manylwyd yn Nhabl 5, a’r rhaglen gyfalaf gryno (a gyllidir yn gyffredinol) 2019/20 - 2021/22 fel y manylwyd yn Nhabl 6 o’r adroddiad a oedd yn dangos diffyg presennol o £0.374m.
Gan gyfeirio at grantiau penodol a benthyca, adroddodd y Prif Swyddog ar raglen Band B Ysgolion yr 21 Ganrif, ynghyd â benthyciadau’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) i gartrefi NEWYDD ar gyfer tai fforddiadwy. Rhoddwyd manylion y cynlluniau a gyllidwyd yn benodol ar gyfer 2019/20 – 2021/22 yn Nhabl 7 yn yr adroddiad. Adroddodd hefyd am gyfanswm cryno Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2019/20 – 2021/22 a dywedodd bod manylion cyfanswm y cynigion ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf i’w gweld yn Nhabl 9. I gloi, soniodd y Prif Swyddog am gynlluniau posibl i’r dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Awgrymodd y Cynghorydd Patrick Heesom y dylid rhoi ystyriaeth i werthu Theatr Clwyd er mwyn rhyddhau cyllid i gynorthwyo’r arbedion yn y gyllideb ar gyfer yr Awdurdod. Eglurodd y Prif Weithredwr bod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei gwneud ar hyn o bryd i ystyried model amgen yn y dyfodol a allai leihau’r cymhorthdal ymhellach. Dywedodd na allai theatrau taleithiol weithredu heb ryw fath o gymhorthdal cyhoeddus: yr opsiynau oedd cynnal y ‘status quo’, model amgen a oedd yn fwy cost effeithiol, neu gau yn y pendraw.
Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ar y Rhaglen Gyfalaf y dywedodd ei fod yn barhad o’r rhaglen dreigl 3 blynedd, gyda chyfanswm buddsoddiad ar gyfer isadeiledd yn y sir o £49m. Aeth ymlaen i ddweud bod cyfanswm y buddsoddiadau cyfalaf ac isadeiledd, gan gynnwys y HRA, yn tua £83m yn y 3 blynedd nesaf. Siaradodd y Cynghorydd Shotton am y buddsoddiad sylweddol o £3.7m mewn gwelliannau priffyrdd yn y 3 blynedd nesaf a diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas am lobïo LlC yn barhaus er mwyn cyflawni rhagor o gyllid ar gyfer hyn. Siaradodd hefyd am y buddsoddiad mewn TG mewn ysgolion i ddarparu gwelliannau yr oedd eu mawr angen o ran cysylltedd, parhad ymrwymiad i gyllido cwblhau cynlluniau gwaith yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, Ysgol Glan Aber ac Ysgol Uwchradd Cei Connah, ynghyd â gwelliannau ... view the full Cofnodion text for item 9b |
|
Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22 PDF 72 KB Pwrpas: Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod 3 blynedd 2019/20 – 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2019/20 - 2021/22 a oedd wedi’i diweddaru i’w chymeradwyo, ynghyd ag ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22. Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac adroddodd y cafodd y Strategaeth ei hystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2019/20 – 2021/22;
(b) Bod y Cyngor yn cymeradwyo:-
|
|
Pwrpas: Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, Cynllun Busnes HRA a’r grynodeb o Gynllun Busnes 30 mlynedd yr HRA. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ar gyfer cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, Cynllun Busnes HRA a’r grynodeb o Gynllun Busnes 30 mlynedd yr HRA.
Adroddodd y Prif Swyddog ar renti, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a dywedodd bod y Gweinidog wedi cytuno y byddai’r ymgodiad blynyddol yn cael ei osod ar 2.4%. Eglurodd, yn achos bod rhent wythnosol cyfartalog landlord cymdeithasol yn is na’i Fand Rhent Targed a bod angen iddo fod o fewn y Band Rhent Targed o dan y Polisi Rhent, yna’r uchafswm y gallent godi rhent wythnosol tenant unigol oedd 2.4% a £2. Byddai’r penderfyniad yn berthnasol am flwyddyn yn unig (2019-20) wrth ddisgwyl canlyniad yr adolygiad o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy.
Dywedodd y Prif Swyddog hefyd bod y Cynllun Busnes a’r papurau cysylltiedig wedi cael eu cyflwyno hefyd i’r Ffederasiwn Tenantiaid a fu’n gadarnhaol iawn o ran cefnogi’r rhaglen, ac yn benodol o ran y gwaith cyfalaf a’r cynllun busnes. Aeth ymlaen i ddweud fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 wedi mynegi eu cefnogaeth hefyd i’r Cynllun Busnes a’r gyllideb HRA, y cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (ynghyd â hyd at £2), cynnydd mewn rhent garej o £1 yr wythnos, ynghyd â chynnydd mewn rhent llain garej o £0.20 yr wythnos, a’r Rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2019/20.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r gyllideb a Chynllun Busnes HRA ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, fel y nodwyd yn yr adroddiad;
(b) Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (ynghyd â hyd at £2);
(c) Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent garej o £1 yr wythnos a chynnydd yn rhent llain garej o £0.20 yr wythnos; a
(d) Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2019/20 fel y nodwyd yn atodiad C o’r adroddiad.
|
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Darpariaeth Isafswm Refeniw 2019/20 PDF 78 KB Pwrpas: Cymeradwyo polisi’r Cyngor ar gyfer Darpariaeth Isafswm Refeniw (ad-dalu dyled) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi’r Cyngor ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (ad-dalu dyledion) ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd bod y Cyngor ar hyn o bryd yn defnyddio’r dull blwydd-dal ar gyfer gwariant cronfa’r cyngor a dywedodd y gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo parhad o bolisi’r llynedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa’r Cyngor (CF)
(b) Cymeradwyo’r canlynol i’r Cyngor Sir ar gyfer dyled Cyfrif Refeniw Tai (HRA)
(c) Cymeradwyo’r MRP ar fenthyciadau gan y Cyngor ar gyfer Cartrefi NEWYDD er mwyn adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn:
|
|
Arferion a Rhaglenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22 PDF 93 KB Pwrpas: Cymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 a Thrysorlys 2019/20 – 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20, ar y cyd â Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22, ac Arferion ac Atodlenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth gefndirol a dywedodd bod y Pwyllgor Archwilio wedi cymeradwyo’r Strategaeth, y Polisi, Arferion ac Atodlenni, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2019. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cabinet hefyd wedi ystyried adroddiad manwl ar osod Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20 a gynhwysir yn atodiad A i’r adroddiad, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn union cyn cyfarfod y Cyngor Sir a’i fod wedi ei argymell i’w gymeradwyo gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22, ac Arferion ac Atodlenni Rheoli Trysorlys 2019/20 – 2021/22.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 5.20 p.m.)
|