Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Hydref 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2018.
Cywirdeb Yng nghofnod 50, gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis am gynnwys ei sylwadau hi ar y Rhybudd o Gynnig ynghylch Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, fel a ganlyn:“Nid oes gennym fandad gan drigolion Sir y Fflint i gefnogi galwadau am ail refferendwm.” Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom hefyd am gynnwys ei sylwadau yntau yngl?n â’r mater yn y cofnodion.
Ar dudalen 15, eitem 54, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod wedi siarad o blaid gohirio, ond mai’r pwynt a wnaeth oedd fod Cynllun Glannau Dyfrdwy’n sail ar gyfer gwaith y Bwrdd Twf Economaidd Rhanbarthol, ac y dylai fod yno gynllun ehangach ar gyfer Sir y Fflint – ond nid oedd unrhyw ddogfen felly’n bodoli. Gofynnodd am ddiwygio’r cofnod i adlewyrchu hynny.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog y cofnodid cysylltiad personol ar ran yr holl Aelodau ar gyfer eitem 10 – Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19. Esboniodd y câi’r Aelodau bleidleisio ar eu lwfansau gan fod y Cod Ymddygiad yn dweud mai cysylltiad personol oedd ganddynt ac nid cysylltiad sy’n rhagfarnu.
|
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi’i ddosbarthu cyn y cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-gadeirydd am fod yn bresennol mewn dau ddigwyddiad ar ei ran yn ddiweddar.
Ar ran Pwyllgor Cadluoedd Cei Connah a Shotton, diolchodd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r Cadeirydd a’i wraig am fod yn bresennol yng Ngwasanaeth Coffa Rhyfel Cei Connah a Shotton a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018. Dywedodd fod tyrfa dda wedi dod i’r digwyddiad, gan gynnwys plant o’r ysgolion lleol a sefydliadau eraill. Diolchodd i’r Cadeirydd hefyd am iddo fynd i Neuadd Ddinesig Cei Connah yn ddiweddarach i gyflwyno placiau a thaflenni i’r plant i gofio’r diwrnod.
Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o’r digwyddiadau coffa y cafodd ef a’i wraig wahoddiad iddynt, a dywedodd y buont yn deyrngedau teimladwy a phriodol i anrhydeddu’r aberth a wnaed gan gymaint yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Manteisiodd y Cynghorydd Mike Peers ar y cyfle i gyfeirio at arolygiad Estyn yn Ysgol Gynradd Mountain Lane ym Mwcle yn nhymor yr haf. Dywedodd fod y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wedi ysgrifennu at y Pennaeth a’r staff wedi i Estyn gyhoeddi’r adroddiad, i’w llongyfarch am eu llwyddiant. Dywedodd y Cynghorydd Peers fod y Corff Llywodraethu wedi gofyn iddo, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Llywodraethwyr, i fynegi eu diolchgarwch i’r Prif Swyddog am iddi gydnabod yn garedig yr adroddiad gan Estyn, ac am ei chefnogaeth. |
|
Deisebau Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Rhybudd o Gynnig Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Pwrpas: Rhoi gwybod am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb 2019/20 a chymeradwyo Cam 1 a Cham 2 cynigion y gyllideb.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yngl?n â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllideb 2019/20. Gwahoddwyd y Cyngor i gymeradwyo Cam 1 a Cham 2 o gynigion y gyllideb, a rhoi ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru ynglyn â’r Setliad Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol a oedd yn destun ymgynghoriad. Gofynnwyd hefyd i’r Aelodau yn unigol ac ar y cyd i gefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais dros gyllid tecach i lywodraeth leol ac i Sir y Fflint.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cam 1 o’r gyllideb yn ymdrin â Chyllid Corfforaethol a Cham 2 â’r Portffolios Gwasanaeth. Byddai Cam 3 yn dilyn, i ymdrin ag atebion cenedlaethol a gosod cyllideb gyffredinol gytbwys.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol:
· Rhagolygon y gyllideb yn lleol a sefyllfa ariannol y Cyngor
· Cam 1 – Cyllid Corfforaethol o Cam 1 – atebion ar gyfer y gyllideb gorfforaethol · Cam 2 – Portffolios Gwasanaethau o Cam 2 - crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio · Sefyllfa’r gyllideb genedlaethol a Cham 3 o osod y gyllideb o crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru o Cyllid cenedlaethol yn erbyn Treth y Cyngor o Dadansoddi Treth y Cyngor o cydbwyso incwm y Grant Cynnal Refeniw a Threth y Cyngor o ymateb o sesiynau’r gweithlu o #CefnogiEinCais – byrdwn yr ymgyrch o #CefnogiEinCais – negeseuon o gefnogaeth o #CefnogiEinCais – Treth y Cyngor o #CefnogiEinCais – dadl gyhoeddus o #EinDydd – 20 Tachwedd 2018 o camau nesaf a therfynau amser.
Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddogion am eu gwaith caled ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod angen cytuno ar Gamau 1 a 2 o’r gyllideb, a’i fod yn gobeithio y byddai’r Aelodau’n cefnogi’n unfrydol y cynigion, a fu drwy’r drefn Trosolwg a Chraffu. Cyfeiriodd at yr arbedion effeithlonrwydd a gynigiwyd yng Nghamau 1 a 2 a fyddai’n cyfrannu at ‘dalu’r diffyg’, a dywedodd fod y cyfnod o lymder wedi gorfodi’r Cyngor i ddefnyddio mwy o’i gronfeydd wrth gefn wrth weithredu ei strategaeth i amddiffyn gwasanaethau.Er bod y gyllideb yn cynnwys cynnydd dangosol o 4.5% yn Nhreth y Cyngor, a gostyngiad arall o £250,000 mewn costau uwch-reolwyr, roedd yno ddiffyg sylweddol ar ôl i’w dalu.
Soniodd y Cynghorydd Shotton am y newid o ran rhoi’r gorau i ddefnyddio cyllid cenedlaethol i gynnal gwasanaethau llywodraeth leol a defnyddio incwm Treth y Cyngor yn ei le, a ph’un a oedd hynny’n bolisi bwriadol ai peidio, dyna oedd y sefyllfa mewn gwirionedd yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd fod hyn yn peri cryn bryder, a dywedodd nad oedd yr Awdurdod yn dymuno bod mewn sefyllfa lle’r oedd cynyddu ... view the full Cofnodion text for item 63. |
|
presentation slides PDF 538 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Blynyddol Drafft 2019/20 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 84 KB Pwrpas: I alluogi’r Cyngor i ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft 2019/20 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad er mwyn galluogi’r Cyngor i ystyried Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20. Rhoes wybodaeth yn gefndir i’r adroddiad gan esbonio fod yr atodiad yn nodi penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2019/20.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y materion pennaf i’w hystyried fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan ddweud “er mwyn osgoi erydiad pellach mewn perthynas ag enillion cyfartalog” fod y Panel wedi penderfynu codi cyflog sylfaenol pob Cynghorydd i £13,868 (cynnydd o 1.97%) a oedd yn gyfwerth â £268. Roedd y Panel hefyd wedi penderfynu “[nad oedd] cyflogau arweinwyr ac aelodau o’r weithrediaeth wedi cynyddu ers sawl blwyddyn (ac eithrio'r cynnydd i'r elfen sylfaenol)” ac o’r farn “bod cyfrifoldeb gweithredol sylweddol ar ysgwyddau deiliaid y swyddi hyn, ac nad ydynt wedi'u talu'n dda iawn o gymharu â nifer o swyddogion sector cyhoeddus eraill”. Roedd y Panel yn argymell codiad o £800 i bob un (gan gynnwys y codiad o £268 yn y cyflog sylfaenol).
Dywedodd y Prif Swyddog fod y Panel hefyd wedi cynnig rhan newidiadau yng nghyfraddau cyflogau penaethiaid dinesig a dirprwyon (sef yr hyn a dalwyd i Gadeirydd y Cyngor a’r Is-gadeirydd). Talwyd y rhain ar gyfradd symudol yn y gorffennol, ond roedd y Panel wedi cael gwared â’r elfen o ‘ddewis’ a phenderfynu y dylai pob pennaeth dinesig bellach gael cyflog dinesig o £22,568 (yr un fath â chadeiryddion Pwyllgorau a £500 yn fwy na’r cyflog presennol, ar ben y cynnydd o £268 yn y cyflog sylfaenol). Byddai’n rhaid i’r dirprwy bennaeth dinesig gael cyflog Band 5 o £17,568 (cynnydd o £1,000). Serch hynny, gallai pob Cyngor ddewis peidio â rhoi cyflog dinesig ar gyfer y naill swydd na’r llall.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog ar benderfyniadau 6 a 7 yn adroddiad drafft y Panel, a oedd a wnelont â darparu cymorth digonol, drwy Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob awdurdod, fel y gallai aelodau etholedig gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dywedodd fod hynny’n cynnwys darparu ffôn, cyfrif e-bost a mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer gwybodaeth briodol, heb i’r aelodau unigol orfod talu amdanynt. Soniodd y Prif Swyddog am egwyddor y Panel na ddylai ymgeisio am swydd etholedig fod yn ddibynnol ar sefyllfa ariannol yr unigolyn, ac na ddylai Aelodau fod ‘ar eu colled’ o ganlyniad i’r costau angenrheidiol ar gyfer cyflawni dyletswyddau cyhoeddus.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at benderfyniadau 1 a 2 yn adroddiad drafft y Panel, a’r codiadau a gynigiwyd yn y cyflog sylfaenol a chyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig. Soniodd am y sefyllfa ariannol genedlaethol a’r cyfnod o lymder oedd yn dal i fynd yn ei flaen, gan ddweud nad oedd o’r farn y gellid cyfiawnhau’r codiadau a gynigiwyd, a’u bod yn amhriodol ar hyn o bryd. Cynigiodd y Cynghorydd Shotton fod y Cyngor yn ymateb i’r Panel gan wrthod y cynigion i godi’r cyflog sylfaenol a’r cyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig a nodwyd ym mhenderfyniadau 1 a 2 yn adroddiad drafft y Panel.
Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom o blaid cynnig ... view the full Cofnodion text for item 64. |
|
Ailbenodi Aelod Annibynnol o’r Bwyllgor Safonau. PDF 74 KB Pwrpas: Ystyried penodi Aelod Annibynnol i’r Bwyllgor Safonau am ail dymor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar Benodi Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am ail dymor. Rhoes wybodaeth yn gefndir i’r adroddiad, gan ddweud y byddai cyfnod Mr Ken Molyneux fel aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Safonau yn dod i ben fis Rhagfyr 2018. Roedd Mr. Molyneux yn gymwys i’w ail-benodi am dymor arall ac wedi dweud y byddai’n fodlon ymgymryd â’r swydd pe câi ei benodi eto. Dywedodd y Prif Swyddog pe byddai’r Aelodau’n penderfynu peidio ag ail-benodi Mr. Molyneux, yna byddai’n rhaid i’r Cyngor gynnull Panel Penodiadau a hysbysebu’r swydd yn y wasg leol am bris.
Cynigiwyd cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef ail-benodi Mr. Ken Molyneux i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd. Eiliwyd y cynnig hwnnw ac fe’i cymeradwywyd wedi pleidlais.
PENDERFYNWYD:
Ail-benodi Mr. Ken Molyneux i’r Pwyllgor Safonau am bedair blynedd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |