Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

52.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Wedi awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd i newid trefn y rhaglen fel bod eitem 9 ar y rhaglen, Ymateb y Cyngor i Heriau Newid Hinsawdd, yn cael ei dwyn ymlaen.   

 

53.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim

 

54.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Rhagfyr 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 10 Rhagfyr 2019.

 

Cynigiwyd y cofnodion i’w cymeradwyo gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

55.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Rhoddodd wybod y byddai eitem ar adroddiad yr Ombwdsman ar ymchwiliad yn erbyn Sir y Fflint i wasanaeth golchi ceir a oedd yn achosi niwsans statudol o s?n a chwistrelliad cemegol/d?r, yn cael ei chynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf 10 Mawrth.   Holodd y Cynghorydd Derek Butler a ellid rhoi ystyriaeth hefyd i wasanaeth golchi ceir ym Mrychdyn. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i roi adroddiad ar reoleiddio gwasanaethau golchi ceir yn Sir y Fflint, yng nghyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol. 

 

Cytunwyd y byddai’r eitemau canlynol a drefnwyd ar gyfer cyfarfod 10 Mawrth, yn cael eu gohirio tan ddyddiad hwyrach:

 

  • Trydaneiddio’r fflyd
  • Darparu profion MOT a Chyfleoedd Masnachol eraill

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

 

56.

Ymateb y Cyngor i'r Heriau mewn perthynas â Newid Hinsawdd pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ar ymateb y Cyngor i’r heriau mewn perthynas â newid hinsawdd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ar ymateb y Cyngor i heriau newid hinsawdd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol. Rhoddodd wybod y cytunwyd y byddai gweithdy i’r holl Aelodau’n digwydd 25 Chwefror, i ymgysylltu ag Aelodau ar heriau newid hinsawdd. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad ar gyfer cyfarfod y Cabinet 17 Rhagfyr, a atodwyd i’r adroddiad, yn nodi’r heriau i’r sector cyhoeddus yn gyffredinol, a Chyngor Sir y Fflint yn benodol, yn bodloni targed Llywodraeth Cymru o sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd David Evans ynghylch rôl Cynllunio wrth leihau allyriadau carbon, rhoddodd y Prif Swyddog sylw ar y Cynllun Datblygu Lleol a fyddai’n cynnwys cyfres o bolisïau, wedi’u dylunio i roi sylw i newid hinsawdd.

 

Gan gyfeirio at yr wybodaeth am fioamrywiaeth yn yr adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Kevin Hughes y safbwynt bod cynyddu gorchudd coed trefol o 14.5 i 18% erbyn 2033 yn uchelgeisiol, o ganlyniad i effaith clefyd coed ynn. Holodd y Cynghorydd Hughes a allai Sir y Fflint fabwysiadu polisi caffael lleol. Rhoddodd sylw hefyd ar yr angen am ymgyrch gyfathrebu a gwasg ragweithiol, i hyrwyddo dull y Cyngor tuag at newid hinsawdd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson sylw ar ddefnyddio camau gorfodi yn y sector preifat, i sicrhau bod allyriadau’n lleihau.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas sylw ar effaith newid hinsawdd ar draws pob maes gwasanaeth yn yr Awdurdod, a rhoddodd wybod am y gwaith corfforaethol sy’n cael ei wneud i ymateb i’r her.

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau pellach a godwyd gan Aelodau, yn ymwneud â pherygl o lifogydd, newid mewn economïau o amgylch ynni adnewyddadwy, lleihau’r defnydd o ddeunyddiau plastig, a gwaith ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill.

 

Anogodd y Cadeirydd yr Aelodau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o heriau newid hinsawdd gyda’u Cyngor Cymuned/Tref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kevin Hughes yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cindy Hinds.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a hyrwyddo cynnwys yr adroddiad Cabinet amgaeedig, er mwyn paratoi ar gyfer y Gweithdy i’r holl Aelodau 25 Chwefror 2020.

 

 

57.

Adolygu’r Polisi Torri Gwair a Blodau Gwyllt ar Leiniau Glas pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        I dderbyn argymhelliad ar gyfer y Cabinet i dderbyn y diwygiadau i’w gwneud i’r Safon Torri Gwair presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad yn ceisio argymhelliad ar gyfer y Cabinet i dderbyn y diwygiadau i’r Safon Torri Gwair bresennol. Rhoddodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod bod y Polisi Torri Gwair wedi’i ddiwygio yn Ionawr 2018, a bod copi wedi’i atodi i’r adroddiad. Trefnwyd y rhaglen torri gwair fel y disgrifiwyd yn y Polisi.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybod am y prif ystyriaethau’n ymwneud â’r polisi torri gwair a chasglu gwair, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at y rhaglen beilot o blannu blodau gwyllt a rheoli ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon am faterion yn ei Ward yn ymwneud â thorri gwair a gwasanaethau casglu/clirio a roddwyd i rai o’i breswylwyr.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Owen Thomas sylw ar faterion diogelwch o amgylch rhwystro beth a welir mewn cyffyrdd, troeon a ffyrdd gwledig.Cyfeiriodd hefyd at y materion yn codi o ran hyd y gwair, a dywedodd bod angen draenio ar dir sy’n hygyrch i’r cyhoedd, mannau gwyrdd a meysydd chwarae. 

 

Gan gyfeirio at gais blaenorol gan y Pwyllgor am wybodaeth am gasglu’r gwair a dorrir, derbyniodd y Cynghorydd David Evans yr eglurhad, fel y manylwyd yn yr adroddiad, y byddai’n rhy ddrud i’r Awdurdod roi’r gwasanaeth hwnnw.  Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn hapus y byddai goruchwylwyr yn cael y disgresiwn i ofyn am gael gwared ar wair a dorrir os oes angen.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Carolyn Thomas gydnabod y pryderon a godwyd, a dywedodd yr edrychir arnynt.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Paul Shotton y cynnig i Dorri Gwair y Gaeaf yn ystod Ionawr 2020 lle bo hynny’n briodol. Siaradodd hefyd o blaid mentrau plannu blodau gwyllt, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r gost o gasglu gwair yn ystod y gwaith torri gwair, ac yr argymhellir bod y Cabinet yn cymeradwyo’r polisi cyfredol; a 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen beilot o blannu blodau gwyllt a rheoli ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned hynny sydd wedi mynegi diddordeb mewn cefnogi’r fenter.

 

58.

Canlyniad Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor Craffu yn nodi adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar ganlyniad adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr arolwg newydd, yn ystod Ebrill a Mai 2019, o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Sir y Fflint gan Swyddfa Archwilio Cymru, i ystyried trefniadau cyfredol y Cyngor a pherfformiad yn erbyn y weledigaeth a nodir yn y Strategaeth Gwastraff Trefol. Rhoddodd wybod fod yr adroddiad yn rhoi manylion canfyddiadau’r adroddiad archwilio, a rhoddodd argymhellion ar gyfer darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. 

 

Cafodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio wahoddiad gan y Prif Swyddog i adrodd ynghylch y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Wrth ddod i gasgliad, rhoddodd wybod fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhoi gwybod bod y Cyngor yn dilyn gweledigaeth glir, yn parhau i fuddsoddi yn ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, a’i fod yn gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth i’w helpu i wneud y cyhoedd yn fodlon. Fe wnaeth argymhelliad i wella dealltwriaeth preswylwyr Sir y Fflint o ailgylchu adlewyrchu canlyniad o arolwg y cyhoedd gan y Cyngor ei hun, a ddigwyddodd ym Medi/Hydref 2019. Fe wnaeth arolwg Swyddfa Archwilio Cymru hefyd dynnu sylw at bryderon preswylwyr ynghylch oriau agor safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, ac wedi gofyn am oriau agor rheolaidd yn ystod y flwyddyn.Cynigiwyd bod yr oriau agor yn aros yr un fath drwy gydol y flwyddyn.  

 

Rhoddodd y Cynghorydd David Evans sylw ar ei brofiad ei hun o ddefnyddio safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, a mynegodd ychydig o bryderon o ran gweithrediad y safle. Croesawodd y newid yn yr amseroedd agor a chau, a fyddai’n sicrhau cysondeb drwy gydol y flwyddyn.

 

Canmolwyd y Prif Swyddog a’i dîm gan y Cadeirydd, am yr amrediad eang o ddeunyddiau gwastraff ac y gellir eu hailgylchu mewn safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

 

Fe longyfarchwyd y Prif Swyddog hefyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes am yr ymgyrch ailgylchu dros y Nadolig, gan ddweud ei bod wedi’i hyrwyddo’n dda drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ati. Rhoddodd y Cynghorydd Hughes sylw ar waredu asbestos, a oedd ond ar gael yn safleoedd Canolfannau Bwcle a Maes Glas, a mynegodd y farn y gallai hyn arwain at dipio gwastraff asbestos yn anghyfreithlon. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod angen trwydded amgylcheddol i gael gwared ar asbestos, a oedd ond ar gael mewn dau safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Sir y Fflint, ond y gellid adolygu hyn yn y dyfodol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ray Hughes gefnogi’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canlyniad archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr argymhellion o’r adroddiad i wella dealltwriaeth o amgylch ailgylchu a threfniadau gweithredol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir y Fflint, yn cael eu cefnogi.

 

59.

Effaith Cwmnïau Gwasanaethau ar Briffordd Gyhoeddus Gwaith Ffordd pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o ofynion statudol y Cyngor i reoli ac archwilio’r Rhwydwaith Priffyrdd yn ystod gwaith ffordd sy’n cael ei gyflawni gan Gwmnïau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydliadau eraill.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i roi trosolwg o ofynion statudol y Cyngor i reoli ac arolygu’r Rhwydwaith Priffyrdd, yn ystod gwaith ffyrdd a wneir gan Gyfleustodau Cyhoeddus a sefydliadau eraill.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybod fod y Cyngor yn hwyluso cyfarfodydd cydlynu chwarterol, gyda’r holl gwmnïau cyfleustodau a weithredodd yn y Sir. Pwrpas y cyfarfodydd oedd archwilio cyfleoedd i bob hyrwyddwr gwaith rannu cynlluniau tymor hir ar gyfer uwchraddiadau asedau a phrosiectau cynnal a chadw mawr, a hyrwyddo cyfleoedd i agor ffosydd, rhannu safleoedd ac archebu gofod ar ffyrdd yn strategol yn y tymor hir. Pob tro roedd cwmni cyfleustodau’n gwneud gwaith stryd ar y briffordd, roedd eu gwaith adfer dilynol yn cael ei sicrhau am gyfnod o 2 flynedd. Pe bai diffygion yn cael eu nodi yn ystod y 2 flynedd, roedd y cwmni’n gyfrifol am unrhyw waith adferol, yn dilyn y cyfnod hwn, byddai’r baich yn mynd ar y Cyngor. O dan adran 72 o’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, cafodd yr Awdurdod Priffyrdd rym i gynnal gwaith ymchwilio i weld a oedd cwmni cyfleustodau wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd arno mewn perthynas ag adfer y stryd ai peidio.  I sicrhau nad yw baich y costau adferol yn disgyn ar y Cyngor, mae Sir y Fflint yn arolygu canran llawer uwch nag sy’n ofynnol. Yn ogystal â’r archwiliad gweledol, yn Ebrill 2019, cyflwynodd y Cyngor raglen samplu craidd ar waith adfer a oedd wedi’i cwblhau.

 

Rhoddodd y Cyngor fwletin gwaith ffyrdd i bob rhanddeiliad bob wythnos, a oedd yn cynnwys manylion yr holl waith a drefnwyd ar gyfer yr wythnos ganlynol. Defnyddiodd y Cyngor y platfform mapio ‘Un Rhwydwaith’ a oedd yn rhoi manylion cyfoes ynghylch gwaith ffyrdd ar y rhwydwaith.

 

Canmolwyd y Prif Swyddog a’i dîm gan y Cadeirydd, am y gwaith a wnaed gan y Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd, mewn perthynas â gwaith cyfleustodau a wneir ar y Rhwydwaith Priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cydnabod y fframwaith statudol a’r dyletswyddau ar y Cyngor fel Awdurdod Priffyrdd, mewn perthynas â gwaith cyfleustodau a wnaed ar y Rhwydwaith Priffyrdd.  

 

 

 

60.

Gosod Croesfannau i Gerbydau ar y Briffordd Gyhoeddus pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Darparu manylion i’r Pwyllgor Craffu am y polisi a’r prosesau sy’n ofynnol i ostwng cyrbau priffyrdd er mwyn caniatáu mynediad i eiddo preifat.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi manylion y polisi a phrosesau sy’n ofynnol i ostwng palmentydd priffyrdd i ganiatáu mynediad i eiddo preifat. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybod fod y rhan fwyaf o eiddo yn y Sir â chroesfannau presennol a bod y Cyngor, fel Awdurdod Priffyrdd, yn gyfrifol am gynnal y cyfleuster. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cael ceisiadau’n rheolaidd am bwyntiau mynediad newydd neu ychwanegol, ac roedd polisi am osod Croesfannau newydd i Gerbydau wedi’i gymeradwyo’n flaenorol gan y Cabinet. Gallai preswylwyr ymgeisio i ostwng y palmant o flaen eu heidio a gosod mynedfa i gerbydau i’w heiddo, o’r rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, a fyddai’n cael ei hadeiladu i fanyldeb y cytunwyd arni ac ar gost yr ymgeisydd.  Roedd manylion y prosesau’n gysylltiedig â gosod croesfannau i gerbydau wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Cododd y Cynghorydd Sean Bibby nifer o bryderon o ran parcio ar y stryd y phalmentydd wedi’u gostwng. Mewn ymateb i’r Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd, cyfeiriodd at Adran 3 o’r Polisi’n cyfeirio at groesfannau i gerbydau a rhoddodd wybod fod pob cais yn cael ei ystyried yng nghyd-destun beth oedd yn fwyaf priodol ar gyfer y stryd.  

 

Holodd y Cynghorydd Chris Bithell pa weithdrefnau a oedd yn eu lle i sicrhau bod palmentydd is yn cael eu hawdurdodi a pha gamau a gymerir os nad yw hyn yn digwydd.  Rhoddodd y Prif Swyddog wybod, os bydd y Cyngor yn dod i wybod am waith heb awdurdod, yna gellid cymryd camau ôl-weithredol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd David Evans a'i eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y broses ar gyfer gosod croesfan i gerbydau ar y Rhwydwaith Priffyrdd yn cael ei nodi.

 

61.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.