Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

21.

Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 pdf icon PDF 82 KB

Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhannau o Bortffolio Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar gynigion cyllideb cam 2 ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhan o’r Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi ar gyfer 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at weithdy a gynhaliwyd ar 11 Hydref, a roddodd gyfle i Aelodau i ddeall cyllideb portffolio yn fwy manwl a'r risgiau a lefelau gwydnwch meysydd gwasanaeth. Adroddodd y Prif Swyddog ar bwysau portffolio, buddsoddiadau, a chynllunio arbedion effeithlonrwydd busnes Portffolio fel y nodir yn yr adroddiad mewn perthynas â Strydwedd a Chludiant. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton i leihad mewn incwm o ailgylchu gwastraff. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr incwm o wastraff ailgylchu, a phlastig, cerdyn a phapur er enghraifft, wedi gostwng yn sylweddol oherwydd colli marchnadoedd rhyngwladol a chyfeiriwyd at fentrau sydd yn cymryd lle i gynnal y farchnad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio plastig yn lle Bitumen i atgyweirio arwynebedd ffyrdd a ceudyllau, dywedodd Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant bod trafodaethau yn digwydd gyda chwmni lleol mewn perthynas â hyn, a bwriedir bod sampl o ddeunydd yn cael ei ddarparu ar gyfer ei dreialu yn y dyfodol agos. Byddai aelodau yn cael eu gwahodd i ymweld â'r cwmni i edrych ar y cynnyrch a phan fydd gwybodaeth pellach ar gael, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu ar y canfyddiadau.

 

Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o ymholiadau. Cyfeiriodd at incwm o waith allanol (Gweithdy Fflyd) a gofnodwyd fel £0.010m yn yr adroddiad, ac ar dudalen 3 y datganiad gwytnwch nodwyd £10.00. Hefyd gofynnodd am gadarnhad a oedd y casgliadau sbwriel bob 3 wythnos yn rhan o’r cynigion ar y pryd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr arbedion o £30k yn 2015/16 yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth yng ngorsaf bws yr Wyddgrug, a dywedodd ei fod yn ymddangos bod arian yn cael ei wario ar gyllid grant. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y grant gorsaf bysiau gan Lywodraeth Cymru a bod y £30k a gyfeiriwyd ato yn arbedion refeniw yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth bychan yng ngorsaf bws yr Wyddgrug. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch gwasanaeth casglu sbwriel bob 3 wythnos, ond dywedodd oherwydd y setliad cyllideb diweddaraf a’r gostyngiadau pellach mewn cyllid nad oedd yn bosib ei anwybyddu fel dull arbed cyllid posibl ar hyn o bryd.   Dywedodd y byddai newid y gwasanaeth casglu gwastraff bob 3 wythnos yn gallu gwneud arbedion o £800k.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas ynghylch gwastraff ochr, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r broblem o wastraff ochr a oedd yn cael ei adael i’w casglu.  Dywedodd bod 1,400 o lythyrau rhybuddio wedi’u hanfon at breswylwyr a busnesau a dywedodd mai dim ond 30-40 o achosion oedd wedi symud i’r ail gam o roi rhybudd. Dywedodd y Prif Swyddog gan oedd unrhyw Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi’u rhoi a dywedodd mai’r nod oedd ymgysylltu ac annog pobl i  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Adolygu Archwiliad a Lefel Ymyrraeth Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio ac Ymateb i’r Polisi pdf icon PDF 94 KB

Adolygu’r polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu’r Polisi uchod yn unol â’r canllawiau cenedlaethol diwygiedig yn dilyn gweithredu’r cod ymarfer newydd ym mis Hydref 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a rhoddodd sylw ar gydnabyddiaeth yn y cyhoeddiad cyllideb diweddar o bwysigrwydd y rhwydwaith priffyrdd a darparu twf cynaliadwy ac economaidd a dywedodd y byddai cyllid 3 blynedd ar gael i ailwynebu ffyrdd. Roedd y Prif Swyddog wedi gwahodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i roi trosolwg o’r prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers sylw at ddyletswydd statudol y Cyngor fel ‘Awdurdod y Briffyrdd’ i gynnal priffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu gan gynnwys strwythurau priffyrdd o fewn y Sir, a’r posibilrwydd i hawliau godi yn erbyn y Sir gan ddefnyddwyr priffyrdd oherwydd anaf bersonol neu golled yn codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau oherwydd nad yw dyletswyddau wedi’u cadw atynt. Dywedodd bod rhaid i ddiogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth a nid ‘dosbarth’ y ceudyllau. Gofynnodd os oedd yr Awdurdod yn cyfeirio at ei adroddiadau archwilio wrth ddelio â hawliau sy’n codi o ddigwyddiadau neu ddamweiniau a oedd wedi digwydd ar y rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, ac a oeddynt ar gael i’r Aelodau eu gweld.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers i'r polisi arfaethedig i archwiliadau diogelwch priffyrdd a meysydd parcio, meini prawf ymyriadau ac amseroedd ymateb a oedd wedi'u hatodi yn yr adroddiad. Dywedodd bod y meini prawf adnabod diffygion a mynegodd bryderon bod y categori lle byddai diffygion yn ddibynnol ar ddehongliad. Dywedodd bod angen darparu mwy o fanylion ar y categori coch.

 

Mynegodd y Cynghorydd Peers bryderon ynghylch amseroedd ymateb ac i roi adborth ar faterion a godwyd gan Aelodau a phreswylwyr mewn perthynas â  diffygion, a rhoddodd enghraifft o ddiffyg a oedd wedi’i riportio am geudwll ar ei Ward. Tynnodd sylw at amser ymateb a nodwyd yn y polisi arfaethedig. Ymatebodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i’r ymholiadau a godwyd gan y Cynghorydd Peers, ac eglurodd bod yr asesiadau risg yn cael eu cyflawni gan y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn unol â’r cod ymarfer. Cytunodd i ddarparu cofnodion ar sail pob achos i Cynghorydd Peers. Gofynnodd Cynghorydd Peers bod y Cydlynydd Ardal Strydwedd yn darparu diweddariadau rheolaidd i’r Aelodau ar gyflwr y ffyrdd, llwybrau cerdded a meysydd parcio yn eu Wardiau.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os dylid rhoi ystyriaeth at ddefnydd o drôn i gynorthwyo Cydlynwyr Ardal Strydwedd i gyflawni eu harchwiliadau diogelwch neu i atgyweirio ceudyllau. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod cyfarpar electronig yn cael ei ddefnyddio yn barod i gynorthwyo archwiliadau diogelwch a chytunodd i edrych ar y defnydd posibl o drôn.

 

Gan gyfeirio at archwiliadau o strwythurau a waliau cynnal, soniodd y Cynghorydd David Evans ar y broblem o reiliau wedi’u torri a gofynnodd os oedd hyn yn cael ei gynnwys yn yr archwiliadau. Hefyd dywedodd nad oedd unrhyw amserlenni wedi’u nodi yn y polisi arfaethedig ar gyfer atgyweirio neu amnewid unrhyw ddiffygion a nodwyd yn ystod yr archwiliad o’r strwythurau a’r waliau. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y meini prawf  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:  Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.   

 

Ceisiodd yr Hwylusydd safbwyntiau’r Pwyllgor ar gynnal cyfarfod ychwanegol ym mis Rhagfyr oherwydd y nifer o eitemau a oedd i’w hystyried yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd. Cytunodd yr Aelodau i gynnal cyfarfod ychwanegol ar 11 Rhagfyr i ddechrau am 9am.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a  

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. 

24.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

            PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).  

25.

Adroddiad Gwybodaeth – y wybodaeth ddiweddaraf ar Barc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas

Pwrpas:  Derbyn adroddiad ar gynnydd.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) adroddiad i ddarparu diweddariad ar y sefyllfa cyfredol o Barc Treftadaeth Maes Dyffryn Glas. Rhoddodd gwybodaeth gefndir ac atgyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, a chynnydd ar yr argymhellion Archwiliad Mewnol Sir y Fflint fel y nodwyd yn atodiad i’r adroddiad. Rhoddodd wahoddiad i Reolwr Yr Amgylchedd a Mynediad i roi diweddariad ar weithrediadau safle.

 

                        Soniodd  Rheolwr Yr Amgylchedd a Mynediad am weithgareddau addysgiadol a gyflawnwyd gan 12 ysgol yn ystod tymor yr Haf, a dywedwyd bod mwy na 100 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal y tymor hwn. Rhoddodd sylw i gynnydd yn y nifer o ymwelwyr a diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol, ac eglurodd bod y gwelliant o gyflwyniad cyffredinol a safonau cynnal a chadw wedi arwain at Faes Dyffryn Glas i gael Gwobr Greenflag, a chael safon ymwelwyr aur gan Croeso Cymru. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad at waith gwella ac atgyweirio, ac arwyddion newydd a oedd wedi'u cyflawni a'u gosod ar lwybrau cerdded, llwybrau coetir, llwybrau blaenoriaeth a stepiau.   Dywedodd bod arolwg defnyddwyr o gynnig Chwarae o fewn y safle wedi’i gwblhau yn ystod yr Haf, a bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi yn ystod yr Hydref. Hefyd roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal â’r Tîm Teithio Llesol i drafod y posibilrwydd o lwybr aml-ddefnydd drwy’r Dyffryn. Roedd Sustrans hefyd yn cyflawni astudiaeth ddichonoldeb o lwybrau posibl. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.