Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Moved from 16/07/19 

Eitemau
Rhif eitem

10.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Annibynnol Newydd a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Patrick Heesom yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Annibynnol Newydd.  Hysbyswyd yr Aelodau fod y Gr?p wedi penodi’r Cynghorydd Patrick Heesom ar gyfer y rôl.

 

O hyn ymlaen fe gadeiriodd y Cynghorydd Heesom weddill y cyfarfod. Cymerodd y cyfle i dalu teyrnged i’r Cynghorydd Ray Hughes fel y cyn Gadeirydd.

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

12.

Cofnodion pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Mai 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2019.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod 7: Papur gwybodaeth ar gyfyngiadau cyflymder gorfodol o 20mya yn Sir y Fflint – dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) er bod swyddogion yn gweithio ar gynlluniau posib fod Llywodraeth Cymru eto i benderfynu ar newid yn y ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

13.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Cafwyd cyflwyniad byr gan y Prif Swyddogion ar y gwasanaethau o fewn eu portffolios er mwyn helpu’r Pwyllgor i feddwl am eitemau i’w cynnwys ar yr agenda yn y dyfodol.

 

Awgrymwyd y pynciau canlynol:

 

·         Rheoli Adeiladu – yn cynnwys effaith newidiadau yn y farchnad archwilio adeiladau ac edrych ar gyfleoedd pellach i gyflawni gwasanaethau i gynghorau eraill

·         Systemau draenio cynaliadwy

·         Gwasanaeth Cefn Gwlad

·         Cynllunio Gwastraff a Mwynau – yn cynnwys darparu gwasanaethau allanol ar draws y rhanbarth

·         Cysylltedd Digidol

·          Thema ‘Cyngor Gwyrdd’ yng Nghynllun y Cyngor i gynnwys gwasanaethau ynni, paneli solar, golau stryd a phlastig

·         Ymateb y Cyngor i’r agenda Newid Hinsawdd

·         Menter/Adfywio Canol y Dref – yn cynnwys proses Ardal Gwella  Busnes i’w drefnu ar gyfer dechrau 2020

·         Parciau Batris – helpu i addysgu cymunedau ar yr effeithiau

·         Fflyd trydaneiddio

·         Darparu mynwentydd a’r strategaeth

·         Adolygu gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf

·         Gwasanaethau Masnachol

·         Caniatáu gwastraff a llif data

·         Canolfan Gyswllt

·         Parcio ceir – costau, gorfodaeth a gwneud y mwyaf o incwm drwy drwsio peiriannau diffygiol yn brydlon

·         Polisi codi tâl/mynegeio

·         Safonau gwasanaeth

·         Gorfodaeth

·         Polisi torri gwair a pherfformiad (yn cynnwys ail-ddosbarthu’r safonau y cytunwyd arnynt) – yn cynnwys rheoli blodau gwyllt

·         Effaith gwaith ffyrdd gan gwmnïau cyfleusterau

·         Polisi cwrb isel ac arferion

·         Biniau gwastraff gardd – maint, costau a’r posibilrwydd i ddarparu ail fin am ddim

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog (Cynllunio a'r Amgylchedd) i roi fersiwn diweddar i’r Aelodau o’r ddogfen drafft ‘Pwy ‘di Pwy’ ar ôl ei orffen yn derfynol. Awgrymodd y Cynghorydd Evans i’r ddogfen derfynol gynnwys mwy o rifau cyswllt defnyddiol os yw’r ddogfen yn mynd i fod ar gael i’r cyhoedd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn ddogfen dros dro nes bod y gwasanaethau hynny yn cael eu hymgorffori yn y Ganolfan Gyswllt. Tynnodd sylw at bwynt y Cynghorydd Hughes am rannu rhifau ffôn symudol gwaith y swyddogion.

 

Meddai’r Cynghorydd Bibby y byddai dogfen debyg gyda manylion cyswllt portffolios eraill yn ddefnyddiol.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Dolphin a Hardcastle am argaeledd swyddogion ac amseroedd ymateb. Eglurodd y Prif Swyddogion am fanteision rhif canolog y Ganolfan Gyswllt (701234) ar gyfer cofnodi galwadau a chymryd camau dilynol. Roedd opsiynau yn cael eu hystyried i leihau’r amser disgwyl i’ch galwad gael ei ateb, a byddai casgliad o wahanol dimau mewn un Canolfan Gyswllt corfforaethol yn Ewloe yn golygu gwell cymhwysedd.   Cafodd aelodau lleol eu hatgoffa i adael i’w Cydlynwyr Ardal wybod am unrhyw achosion penodol ar y manylion cyswllt â rannwyd eisoes.

 

Dangosodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddogion am eu cyflwyniadau manwl a gofynnodd iddyn nhw ddiolch i’r tîm Strydwedd am eu gwaith yn helpu cymunedau yn ystod y tywydd garw yn ddiweddar.  Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas hynny.

 

Yn ystod trafodaeth ar y pynciau a awgrymwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am yr angen i wasanaethau torri gwair i gael ei wneud gan nifer o dimau oherwydd yr amrywiaeth o offer sydd ei angen.  Ar finiau  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Adolygiad o Safonau Strydwedd pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Ceisio argymhelliad gan y pwyllgor ar gyfer y safonau gweithredol Strydwedd a Chludiant a fydd yn cael eu hadrodd yn eu cylch fel rhan o’r cynllun chwarterol ar gyfer perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn gofyn am argymhelliad i’r Cabinet fabwysiadu’r safonau gwasanaeth Strydwedd a gafodd eu diweddaru ar ôl eu hadolygu. Perfformiad yn erbyn safonau – o dan y thema Cyngor Diogel a Glân yng Nghynllun y Cyngor 2019 – yn cael eu hadrodd fel rhan o broses monitro perfformiad newydd.

 

Yn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Bibby, fe gytunodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd i ddarparu eglurhad bellach ar y cemegau a ganiateir i’w defnyddio ar gyfer cael gwared ar graffiti.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Connah i gael gwared ar rai o’r safonau. Cafodd ei hysbysu y byddai ymatebion i reoli pla yn parhau i gael eu monitro a bod biniau gwastraff/bocsys ailgylchu newydd yn cael eu casglu o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff T?.

 

Roedd gan y Cynghorydd Dolphin bryderon am gasgliadau bin heb eu casglu fwy nag unwaith, weithiau yn golygu ffordd gyfan. Yn ymateb i’r cwestiynau fe eglurodd y Prif Swyddog fod Goruchwylwyr Strydwedd ar gais yn gallu ymweld â Chynghorau Tref a Chymuned. Rhannodd ei rwystredigaethau am yr oedi gyda’r gwaith ar y goleuadau stryd gan Scottish Power a oedd allan o ddwylo’r Cyngor.

 

Yn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Evans fe eglurodd y Prif Swyddog y broses o gael gwared ar wrthrychau miniog oddi ar dir sy’n eiddo’r Cyngor a’r targedau ar gyfer glanhau strydoedd fel y cytunwyd gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd hefyd am yr uchafswm amser sydd ei angen i brosesu ceisiadau i gael cefnogaeth gyda chasglu biniau a’r gweithdrefn 3-cam a gytunwyd arno i ddelio gydag achosion o wastraff sy’n cael ei osod ar dop neu wrth ochr biniau.

 

Yn ôl cais y Cynghorydd Hardcastle cafwyd eglurhad manwl o’r broses tipio anghyfreithlon gan y Prif Swyddog gan adrodd nad oedd cynnydd yn y nifer o achosion.

 

Dyma’r Cynghorydd Chris Bithell yn annog Aelodau i godi ymwybyddiaeth o dîm Rheoli Pla y Cyngor oedd yn darparu gwasanaeth effeithiol i breswylwyr. Pan ofynnodd y Cynghorydd Gay am y meini prawf eithriedig ar gyfer y newidiadau hyn fe gytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i ddosbarthu’r manylion.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu’r safonau gwasanaeth Strydwedd yn Atodiad 1 o’r adroddiad, gan gynnwys yr ychwanegiadau a’r agweddau i’w dileu a gynigir i’r rhestr ddiwygiedig o ganlyniad i’r newidiadau yn y portffolio.

15.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.