Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, Parc Gwepra, Cei Connah, Sir y Fflint CH5 4HL

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Nodyn: Nodwch leoliad y cyfarfod 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Annibynnwyr Newydd enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Annibynnol newydd. 

 

Enwebwyd y Cynghorydd Ray Hughes gan y Cynghorydd Paul Shotton a'i eilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

Ni chafwyd eilydd ar gyfer enwebiad y Cynghorydd Haydn Bateman ar gyfer y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

Ni chafwyd enwebiadau pellach.

 

Ar ôl pleidlais, cytunwyd bod y Cynghorydd Ray Hughes yn cael ei benodi’n Gadeirydd.   Yna cafwyd gohiriad bychan.

 

Ar ôl dychwelyd i’r cyfarfod, eglurodd yr Hwylusydd bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd wedi egluro mai’r Cynghorydd Heesom oedd unig enwebiad y gr?p Annibynnol newydd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor.   Os na eiliwyd yr enwebiad, byddai'r Cynghorydd Hughes yn cael ei benodi'n Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig a byddai'r eitem yn cael ei hailystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

Gan na eiliwyd enwebiad y Cynghorydd Heesom, cytunodd y Pwyllgor y dylid penodi'r Cynghorydd Hughes fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Hughes y byddai newid yn y balans gwleidyddol ers y Cyfarfod Blynyddol yn golygu bod nifer y seddi Annibynnol Newydd ar y Pwyllgor yn gostwng i un ar ôl cyfarfod nesaf y Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Ray Hughes yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig a bod yr eitem yn cael ei hailystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Hughes weddill y cyfarfod)

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Sean Bibby y Cynghorydd David Evans fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Dunbar.   Ni chafwyd unrhyw enwebiad arall.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd David Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau                 yn unol a hynny

 

Cofnodion:

4.

Cofnodion pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod  ar 9 Ebrill 2019

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2019.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 58: Dyffryn Maes Glas – Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod y Cytundeb Rheoli wedi’i dderbyn gan y Bwrdd a byddai’n cael ei lofnodi.

 

Cofnod rhif 59:  Gorfodi Amgylcheddol – Nododd y Cynghorydd Haydn Bateman gwynion gan ddau o  gerddwyr c?n a oedd wedi derbyn rhybuddion cosb benodedig am adael eu c?n oddi ar eu tennyn ar y caeau chwarae ar y Rec yn yr Wyddgrug.   Er ei fod yn cytuno gyda’r polisi i wahardd c?n o gaeau chwaraeon wedi'u marcio, nid oedd arwyddion i nodi hyn ar y safle ac mae'r marciau ar y cae wedi gwisgo.   Awgrymodd yn yr amgylchiadau hyn, y gallai'r swyddogion roi cyngor yn lle cyflwyno rhybudd cosb.

 

 Nododd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod argymhelliad y Pwyllgor i wahardd c?n o gaeau chwarae / caeau chwaraeon - a gefnogwyd gan y Cabinet - wedi cydnabod yr angen i gydbwyso annog cerddwyr c?n cyfrifol ac ystyried diogelwch plant.   Dros gyfnod o naw mis, roedd y Cyngor wedi cymryd amser i addysgu aelodau’r cyhoedd, yn hytrach na chyflwyno cosb, i godi ymwybyddiaeth o’r polisi a gosod arwyddion ar y safleoedd.   Ar ôl disodli nifer o arwyddion oedd wedi’u difrodi, cedwir cofnod ffotograffig fel tystiolaeth bod arwyddion wedi’u gosod.   Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n ymchwilio’r mater a darparu copi o’r lluniau ar gyfer y safle hwn i'r Cynghorydd Bateman.   Eglurodd pe bai’r Pwyllgor yn dymuno ailystyried y polisi, gellir cynnwys eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Nododd y Cynghorydd Owen Thomas bod caeau chwaraeon mewn pentrefi gwledig yn aml heb eu marcio a gofyn eu bod yn ailystyried y polisi.   Eglurodd yr Hwylusydd bod yr eitem wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog a'r Cynghorydd Carolyn Thomas yr ymgynghorwyd â'r Cynghorau Tref a Chymuned yngl?n â'r polisi cyn ei weithredu.   Pe baent yn penderfynu gwahardd c?n o gaeau sy'n eiddo iddynt yn ddiweddarach, gallant wneud cais ysgrifenedig i'r Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Parc Gwepra

Pwrpas:        I dderbyn cyflwyniad llafar ar Barc Gwepra.

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol gyflwyniad ar y cyd gyda Steve Lewis (Ceidwad) a Helen Mrowiec (Arweinydd Tîm – Safleoedd) ar weithgareddau’r gorffennol a datblygiadau’r dyfodol i annog y defnydd cymunedol gorau o Barc Gwepra.   Roedd y fideo a’r cyflwyniad yn ymwneud â'r canlynol:

 

·         Parc Gwepra 2015-19

·         Gwelliannau 2016-17 i Lwybr Pren Gwepra

·         ‘Park Run’ Gwepra

·         Gr?p Rhiant a Phlentyn Plas Derw

·         Perllan addysgol Gwepra

·         Gardd berlysiau

·         Gwirfoddolwyr

·         Digwyddiadau gyda Chyfeillion Parc Gwepra

·         Budd-ddeiliaid

·         Gwaith cynefin

 

Yn ystod y cyflwyniad, amlygodd y swyddogion bwysigrwydd gwaith partneriaeth i gynorthwyo i gynnal a datblygu Parc Gwepra i reoli'r cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr.   Roedd mynediad, meysydd parcio ac ardaloedd chwarae ymysg y cynlluniau ar gyfer gwelliant yn y dyfodol.   Nodwyd na fyddai llwyddiant Parc Gwepra yn bosibl heb gyfraniadau gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol.

 

Wrth ganmol y cynnydd a wnaed ym Mharc Gwepra fel amgylchedd awyr agored naturiol poblogaidd, croesawodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cynlluniau ar gyfer gwelliannau pellach.   Roedd hefyd yn cydnabod y gwaith gwerthfawr a wnaed gan Geidwaid ar yr holl safleoedd ar draws Sir y Fflint.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y tîm am eu cyflawniadau a chymharu â Dyffryn Maes Glas a oedd hefyd yn amgylchedd naturiol.   Fodd bynnag, eglurodd bod y ddau safle’n cael eu rhedeg yn wahanol a bod yn rhaid talu i gael mynediad i rai ardaloedd yn Nyffryn Maes Glas.

 

Nododd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei bod yn bwysig nodi bod yr ystod o barciau ar draws Sir y Fflint yn darparu gofod awyr agored naturiol am ddim i deuluoedd eu mwynhau.   Roedd mynediad i Ddyffryn Maes Glas am ddim heblaw am yr ardal wedi’i hamgáu.

 

Yn ystod y drafodaeth, canmolodd sawl Aelod yr ymdrechion a wnaed i drawsnewid Parc Gwepra; gwaith y swyddogion i dderbyn cyllid grant, cyfraniadau gwirfoddolwyr a Chyfeillion Parc Gwepra.   Ategwyd at hyn gan y Cynghorydd Sean Bibby a nododd bod y parc yn rhan o Shotton ynghyd â Chei Connah.   Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at yr effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles.

 

Roedd y Cynghorydd Derek Butler hefyd yn cefnogi’r gwaith a nododd bod creu parc sglefyrddio yn fenter a groesawyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn llongyfarch yr holl rai sydd wedi cyfranogi at lwyddiannau rhagorol ym Mharc Gwledig Gwepra.

6.

Llwybr Beiciau'r Wyddgrug i Frychdyn pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ceisio argymhelliad i’r Cabinet ar gyfer cyflwyno cynigion am gyllid i adeiladu llwybr beiciau i gysylltu’r Wyddgrug a Brychdyn dan gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn ceisio argymhelliad i’r Cabinet i gyflwyno cynllun llwybr beicio'r Wyddgrug i Frychdyn ar gyfer cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.   Yn ystod yr ymgynghoriad statudol, roedd y llwybr cyswllt wedi’i nodi fel coridor strategol allweddol ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.   Roedd y cyllid a gafwyd yn 2018/19 wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu gwaith ar werthusiad o ddewisiadau llwybr a gwblhawyd yn awr, ac roedd dyluniad manwl y cynllun bron â’i orffen.

 

Roedd y cynllun yn rhan o Strategaeth Trafnidiaeth Integredig y Cyngor - a oedd yn ceisio hwyluso integreiddio'r holl ddulliau o deithio (cerdded, beicio, bws a rheilffordd) i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau hanfodol.   Byddai diweddariad ar y Strategaeth yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf.   Roedd cyhoeddiadau diweddar ar gyllid grant trafnidiaeth lleol LlC yn cynnwys £5.4m ar gyfer Sir y Fflint (un o’r setliadau uchaf yng Nghymru) i’w fuddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth lleol ynghyd â darparu buddion hir dymor a chyfleoedd cyflogaeth.

 

 Eglurodd y Rheolwr Cludiant mai nod y cynllun llwybr beicio oedd cysylltu cymunedau'r Wyddgrug, Bwcle, Penyffordd, Brychdyn, Saltney a Sandycroft wrth ddarparu cysylltiadau i orsafoedd rheilffordd presennol Bwcle a Phenyffordd i ddarparu mynediad cynaliadwy at brif safleoedd cyflogaeth.

 

Darparodd y Swyddog Polisi Priffyrdd drosolwg o’r llwybr beicio arfaethedig gan gynnwys y dewisiadau sydd ar gael a'r datrysiadau rheoli traffig lle bo'n briodol.   Roedd y llwybr hefyd yn darparu cyswllt da gyda Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a rheilffordd Wrecsam – Bidston.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y gwnaed cynnydd da i gwblhau llwybr beicio Saltney a oedd yn un o'r cysylltiadau ar y llwybr.   Byddai rhannu manylion y llwybr yn gymorth i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun arloesol i gysylltu cymunedau a darparu datrysiad cludiant cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Wrth drafod llwyddiant y Cyngor i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau o dan Deithio Llesol a Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau, canmolodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y swyddogion a nodi y gallai’r llwybr beicio fod yn gynllun blaenllaw ar gyfer y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid y cynllun a fyddai o fudd i’r nifer cynyddol o feicwyr.   Croesawodd y cysylltiadau gyda rheilffordd Wrecsam - Bidston a nododd bod y Prif Swyddog yn aelod o'r gr?p llywio hwnnw.   O ran cyllid, eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod y cyllid ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb wedi’i dderbyn a gellir defnyddio rhywfaint o'r cyllid eleni ar gyfer darnau o'r llwybr.   Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl cwblhau’r dyluniad manwl.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y ddau Brif Swyddog ar y cynnydd a wnaed hyd yma.   Tynnodd sylw at bwysigrwydd cysylltedd gyda phentrefi gwledig, er enghraifft Gorsedd i Bantasaph.   Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cyllid grant yn amodol ar feini prawf.   Wrth gydnabod anghenion cymunedau gwledig, eglurodd bod ffrydiau cyllid gwahanol yn cael eu harchwilio i ddarparu cysylltiadau bws i ardaloedd gwledig.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Joe Johnson a Bob Connah y dewisiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

Strategic Cycling Links between Mold and Broughton pdf icon PDF 2 MB

7.

Papur briffio ar Gyfyngiadau Cyflymder Gorfodol o 20mya yn Sir y Fflint. pdf icon PDF 55 KB

Pwrpas:        I’r pwyllgor dderbyn diweddariad.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bapur briffio ar derfynau cyflymder gorfodol o 20mya yn Sir y Fflint.   Roedd adroddiad a baratowyd mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor wedi’i ddisodli gan gyhoeddiad Gweinidogaethol diweddar yn nodi cefnogaeth bod 20mya yn derfyn diofyn mewn ardaloedd preswyl ar draws Cymru.   Disgwylir penderfyniad gan Brif Weinidog Cymru i nodi a fydd newid deddfwriaethol.

 

Amlinellodd y Rheolwr Cludiant – sy'n cynrychioli Gogledd Cymru ar weithgor gyda Llywodraeth Cymru i osod y polisi -  y cefndir a'r trefniadau presennol yn Sir y Fflint.   Cyfeiriodd at gynlluniau cyfannol sy’n cael eu gweithredu mewn rhai Siroedd mewn ymateb i bwysau lleol a’r trefniadau prawf sy’n cael eu gwerthuso mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.   Un o’r prif ystyriaethau oedd lefel adnoddau'r Heddlu i orfodi terfynau cyflymder; felly o dan y ddeddfwriaeth bresennol, roedd yn hanfodol bod cynigion terfynau cyflymder 20mya yn hunan-orfodi, naill ai drwy ymddygiad presennol gyrwyr neu drwy fesurau gostegu traffig pe bai’r terfyn presennol yn uwch na’r trothwy sy’n ofynnol.   Oherwydd costau cyflwyno mesurau gostegu traffig, roedd newid mewn deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru’n hanfodol i gyflawni’r dull mwyaf fforddiadwy o weithredu terfynau cyflymder gorfodol o 20mya.   Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl derbyn penderfyniad gan Brif Weinidog Cymru.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei safbwynt y dylai bod terfynau cyflymder 20mya cynghorol y tu allan i ysgolion yn Sir y Fflint yn orfodol nid cynghorol.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn cytuno â hyn gan gyfeirio hefyd at faterion parcio y tu allan i ysgolion sydd angen gorfodaeth gadarn.   Ar y pwynt hwn, siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am gyllid a gafwyd ar gyfer camera gorfodi symudol y gellir ei ddefnyddio i wella diogelwch y tu allan i ysgolion.   O ran terfynau cyflymder, nododd er bod rhai yn cefnogi terfynau gorfodol o 20mya, roedd eraill yn gwrthwynebu ar sail yr effaith ar lefelau llygredd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Joe Johnson, eglurodd y Rheolwr Cludiant bod terfynau cyflymder yn cael eu gosod yn unol â meini prawf llym ac mae'n rhaid iddynt fod yn destun ymgynghoriad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sean Bibby o blaid y terfynau cyflymder gorfodol o 20mya y tu allan i ysgolion, gan gydnabod nad yw'n fater syml, a chodi pryderon am gapasiti'r Heddlu i'w gorfodi.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Dolphin o blaid cyfyngu terfynau cyflymder ar ffyrdd ystadau.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol i'w ystyried a chynghori'r Aelodau am weithdy Ailgylchu Gwastraff ar 3 Mehefin.   Cytunwyd ar y newidiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.

 

·            Bod y cyfarfod nesaf yn cael ei symud i 9 Gorffennaf gydag eitem yn cynnwys Strategaeth Trafnidiaeth Integredig y Cyngor.

·           Diweddariad ar Ddyffryn Maes Glas yng nghyfarfod mis Hydref.

·           Ymweliad safle i Barc Adfer i’w gadarnhau ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd.

·           Diweddariad ar derfynau cyflymder 20mya i’w drefnu ar ôl derbyn y newyddion diweddaraf.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i longyfarch y Cynghorwyr Carolyn Thomas a Joe Johnson ar eu penodiadau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei nodi, fel y’i diwygiwyd, a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.